Eitem Rhaglen

Covid-19 - Effaith Ariannol ar y Cyngor

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi effaith ariannol amcangyfrifedig y pandemig Covid-19 ar gyllid y Cyngor Sir yn 2020/21, ynghyd â'i oblygiadau tymor hwy ar gyfer sefyllfa ariannol y Cyngor.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio - Cyllid fod pandemig Covid-19 wedi creu ansicrwydd sylweddol yng nghyllideb 2020/21 a hefyd yn yr arian y câi llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau ac amcangyfrifon a gallai’r canlyniad terfynol newid o'r asesiad effaith cychwynnol hwn. Byddai’r adroddiad yn bwydo i mewn i Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a gâi ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2020 a byddai’n nodi'r strategaeth ariannol ar gyfer cyllideb refeniw 2021/22. Byddai’r sefyllfa ariannol hefyd yn dylanwadu ar weithgareddau a dull cynllunio adferiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn nodi'r meysydd lle ‘roedd effaith ariannol argyfwng Covid-19 yn debygol o gael ei deimlo fwyaf ac yn ceisio rhoi amcangyfrif o raddfa'r broblem. I grynhoi –

 

           Paratoi ar gyfer y Pandemig - roedd risg pandemig byd-eang wedi bod ar gofrestr risg y Cyngor ac roedd yn un o'r materion oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynnal cronfeydd ariannol digonol (£7.06m mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol ar 31 Mawrth, 2020). Dangosai Adran 2 yr adroddiad sut roedd penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â chynnal cronfeydd ariannol, rheoli trysorlys a Threth y Cyngor (trwy anfon biliau allan wrth i’r cyfyngiadau symud ddechrau a, thrwy hynny, sicrhau llif incwm gan y rhai a allai dalu) wedi helpu llif arian o ddydd i ddydd y Cyngor a’i gwneud yn bosib iddo  dalu costau ychwanegol yr argyfwng.

           Gwariant Tymor Byr i ymdrin â'r Pandemig - roedd adran 3 yr adroddiad yn nodi'r meysydd lle'r oedd y Cyngor wedi ysgwyddo costau ychwanegol wrth ddelio ag argyfwng y pandemig. Roedd mwyafrif helaeth y costau hyn wedi’u talu gan Lywodraeth Cymru, oedd wedi sicrhau bod cyfanswm o £120m ar gael i Gynghorau Cymru i dalu'r gwariant ychwanegol. Hyd yma, roedd Cyngor Ynys Môn wedi hawlio £858k am gostau yr aethpwyd iddynt ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mai. Câi cais arall am fis Mehefin ei gyflwyno ym mis Gorffennaf oedd yn debygol o fod yn fwy na hawliad mis Mai o £526k

           Colli incwm o Ffïoedd a Thaliadau - roedd y Cyngor yn cynhyrchu dros £5m mewn incwm yn flynyddol o ffioedd a thaliadau am wasanaethau a ddarparwyd. Lle tynnwyd gwasanaethau yn ôl - Canolfannau Hamdden, prydau ysgol, meysydd parcio, clybiau gofal ysgolion, llyfrgelloedd, Oriel Ynys Môn - collwyd yr incwm a fyddai, fel arfer, wedi’i gynhyrchu. Efallai y byddai incwm rhai gwasanaethau - Cynllunio, Rheoli Adeiladu, Cofrestryddion, Ailgylchu a Chasglu Gwastraff Swmpus, Taliadau Tir a gwaith stryd Priffyrdd - nad oeddynt wedi bod yn gweithredu, wedi’u gohirio er y gellid derbyn yr incwm pan fyddid yn llacio’r cyfyngiadau symud. Roedd yn anodd amcangyfrif y golled incwm yn gywir gan ei bod yn dibynnu ar nifer y defnyddwyr gwasanaeth a ffactorau tymhorol ond, yn seiliedig ar ffigurau 2019/20, yr amcangyfrif oedd y gallai'r Cyngor fod wedi colli £1.23m mewn incwm am y cyfnod Ebrill i Fehefin, 2020 (£950k wedi'i golli'n barhaol a £280k o bosibl wedi’i golli). Gan fynd â'r cyfrifiadau ymhellach, trwy ddefnyddio'r wybodaeth oedd wedi’i chasglu yn ystod 2019/20 a'r rhagdybiaethau a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad am allu pob gwasanaeth i gynhyrchu incwm yng ngoleuni mesurau pellhau cymdeithasol a gallu unigolion i wario wrth i'r effaith economaidd ddod i rym, gallai'r golled bosibl i incwm y Cyngor hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol ddod i gyfanswm o £3.426m. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y byddai colli incwm yn cael effaith sylweddol ar hyfywedd ariannol cynghorau ac wedi cyhoeddi £78m ychwanegol mewn cymorth cyllido, y câi dwy ran o dair ohono ei ddefnyddio i ddigolledu cynghorau am golli incwm, er nad oedd cadarnhad hyd yma ar sut y câi’r incwm hwn ei ddosbarthu.

           Arbedion Gwariant yn ystod y cyfyngiadau symud - wrth i'r gwasanaethau gau, cafwyd rhai arbedion gwariant oherwydd na ddefnyddiwyd adeiladau ac, felly, arbedwyd ar ynni. Nid oedd yn ofynnol i weithredwyr bysiau ysgol ac arlwywyr ysgolion ddarparu gwasanaethau ac roedd y gost weinyddu yn is gan fod staff yn gweithio o gartref. Roedd yr arbedion yn lleihau'n gyflym unwaith y câi’r cyfyngiadau symud eu llacio ac adeiladau eu defnyddio eto, hyd yn oed ryw gymaint, h.y. roedd yn rhaid eu goleuo, eu cynhesu a'u glanhau o hyd. £370k oedd cyfanswm yr arbedion gwariant amcangyfrifedig am y cyfnod Ebrill i Fehefin 2020 (cyfeiriai Tabl 3 yr adroddiad at hyn). Amcangyfrifwyd y byddai’r arbedion cyfun ar draws yr holl benawdau yn Nhabl 3 yn £71k ym mis Gorffennaf, 66k ym mis Awst a £7k ym mis Medi a chyn lleied â phosibl wedi hynny, gan ragdybio y byddai holl wasanaethau'r Cyngor yn gweithredu i ryw raddau o fis Hydref 2020 ymlaen.

           Costau Cynllun Lleihau Trethi Cyngor (y Cynllun Lleihau Trethi) - cyllideb y Cyngor ar gyfer talu cost y Cynllun Lleihau Trethi am 2020/21 oedd £6.016m gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi £5.037m yn Asesiad Gwariant Safonol y Cyngor oedd wedyn yn bwydo drwodd i'w Grant Cymorth Refeniw. Wrth i'r sefyllfa economaidd waethygu a diweithdra gynyddu, byddai nifer hawlwyr y Cynllun Lleihau Trethi yn cynyddu. Hyd at ddiwedd mis Mai, roedd amcangyfrif y gost wedi cynyddu £148k i £ 6.19m a’r disgwyl oedd iddo barhau i godi pan ddeuai’r cynllun ffyrlo i ben. Roedd yn anodd amcangyfrif sut y byddai’r llwyth achosion yn cynyddu dros y misoedd nesaf, ond byddai amcangyfrif ceidwadol o 10% yn cynyddu cost y cynllun £600k. Roedd trafodaethau rhwng y cynghorau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau ynghylch a fyddai Llywodraeth Cymru yn ariannu rhan neu'r cyfan o'r costau ychwanegol hyn.

           Casglu Trethi Cyngor - cyfanswm y debyd ar gyfer Treth y Cyngor ar gyfer 100% o'r sylfaen dreth oedd £42.1m gyda £10.9m ychwanegol yn cael ei gasglu mewn praeseptau ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru a chynghorau cymuned, gan wneud cyfanswm i'w gasglu o £53m llai £6.1m trwy'r Cynllun Lleihau gan roi swm net i'w gasglu o £46.9m. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu peidio â chodi premiwm cartrefi gwag am chwe mis cyntaf y flwyddyn a hefyd ymestyn yr eithriadau ar gyfer eiddo gwag a fyddai’n lleihau'r debyd £191k ar amcan. Rhagwelwyd y byddai’r sefyllfa economaidd yn ei gwneud yn anoddach casglu Treth y Cyngor. Roedd trethdalwyr wedi cael gohirio’r rhandaliad cyntaf rhwng misoedd Ebrill a Mehefin ac roedd hyn, ynghyd â’r ffaith nad oedd unrhyw gamau adfer wedi cychwyn, eisoes wedi arwain at gasglu 1.5% yn llai o incwm ym mis Mai, 2020 o’i gymharu â mis Mai, 2019. Roedd pob 1% dan y gyfradd casglu arferol yn lleihau'r incwm oddeutu £400k.

           Pwysau ar Gyllidebau Gwasanaeth - ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2019/20 roedd Gwasanaethau Plant ac Oedolion yn parhau i brofi pwysau cyllidebol ac roeddent wedi gorwario. Rhoddwyd £1.3m ychwanegol yng nghyllideb y Gwasanaethau Oedolion i dalu am y diffyg o £1.085m ar y gyllideb gwasanaeth. Roedd y feirws wedi cael effaith ar y boblogaeth oedrannus yn arbennig, gyda nifer uwch o farwolaethau yn y grŵp hwn. Nid oedd yn eglur ar hyn o bryd sut byddai’r pandemig yn cael effaith ar nifer y cleientiaid yn y dyfodol a'r gwasanaeth y byddai ei angen arnynt/ yn ofynnol ar eu cyfer. Roedd yn debygol o gael effaith ar gostau yn y dyfodol ond nid oedd yn eglur i ba raddau y byddai hyn. Yn seiliedig ar ddarparu'r gwasanaeth cyfredol a'r llwyth achosion, roedd yn debygol y byddai’r gwasanaethau ar gyfer y gyllideb oedrannus yn gorwario £250k ond y gwneid iawn am hyn gydag arbediad o £100k ar amcan mewn costau staffio, gan arwain at orwariant, ar amcan, o £150k. Yn ogystal, roedd y pandemig wedi arwain at ohirio'r broses aildendro am y Gwasanaeth Byw â Chymorth, gan olygu na chyflawnid yr arbedion a gynlluniwyd, ac roedd ansicrwydd a oedd grant Pwysau’r Gaeaf Llywodraeth Cymru, gwerth £300k, ar gael, o gofio'r cyllid ychwanegol sylweddol yr oedd eisoes wedi'i roi i ymdrin â'r pandemig. At hynny, gallai bod costau ychwanegol yn sgil codiad cyflog uwch nag a gyllidebwyd ar ei gyfer i staff nad oedd yn athrawon ac roedd angen buddsoddi'n ychwanegol mewn adnoddau TG oedd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r newid i weithio o gartref yn ystod y pandemig. Byddai’n rhaid ariannu diffyg cyffredinol y gyllideb, beth bynnag a fyddai hyn, o ystyried popeth, o falans Cronfa Gyffredinol y Cyngor o £7m ac, er bod hyn yn bosibl, byddai’n glastwreiddio sefyllfa ariannol y Cyngor yn ddifrifol wrth iddo symud i mewn i 2021/22 .

          Cyllideb 2021/22 a Thu Draw i hynny - roedd y pandemig wedi gohirio proses gosod cyllideb y Cyngor a fyddai, fel arfer, wedi dechrau ym mis Mehefin a mis Gorffennaf ac ‘roedd, hefyd, wedi creu cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch setliad llywodraeth leol a gallu'r Cyngor i gynyddu Treth y Cyngor. Wrth dderbyn mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru (3.8%) yn 2020/21, y gobaith oedd bod cyni wedi dod i ben ac y byddai setliadau yn y dyfodol o leiaf yn talu chwyddiant prisiau a chyflogau. Efallai y byddai angen newid y dybiaeth honno ond, hyd yma, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi arwydd o setliadau ariannol y dyfodol. Roedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2019 yn rhagdybio cynnydd yn Nhreth y Cyngor o tua 5% yn 2021/22 a 2022/23 er mwyn ariannu gwasanaethau ar eu lefel gyfredol. Byddai’n rhaid ystyried effaith economaidd y pandemig ar Ynys Môn i sefydlu a fydd angen newid y rhagdybiaeth gynllunio hon. Câi Cynllun Ariannol cyfredol ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2020.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad gan ddiolch i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y dadansoddiad clir a chynhwysfawr.

 

Wrth fyfyrio ar y penderfyniad a wnaed ym mis Mawrth, 2019 i godi Treth y Cyngor yn sylweddol yn hytrach na defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i ariannu cynnydd gostyngedig yn y Dreth Gyngor yn 2019/20, roedd yr Aelod Portffolio - Cyllid o'r farn ei bod wedi bod yn ddoeth, yn wyneb digwyddiadau a'r alwad nawr ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor i'w helpu drwy'r argyfwng presennol. Er bod awdurdodau lleol yn cael eu beirniadu’n aml am gadw’r hyn oedd yn ymddangos fel symiau sylweddol wrth gefn, tynnodd sylw at y ffaith y câi cronfeydd wrth gefn o'r fath eu cadw’n benodol i helpu cynghorau i ymdrin â digwyddiadau annisgwyl fel y pandemig cyfredol. Nid oedd modd gorbwysleisio pwysigrwydd bod â mynediad at gronfeydd wrth gefn ar hyn o bryd gan ei fod wedi galluogi'r Cyngor i gwrdd â'r heriau ariannol uniongyrchol a gyflwynwyd gan y coronafirws.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

Dogfennau ategol: