Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2019/2020

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â paragraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2019/20.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr uchafbwyntiau o ran y cynnydd a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol, fel a ganlyn:-

 

·      Mae datblygu unedau busnes yn parhau ar yr ynys. Mae’r unedau newydd yn Llangefni wedi eu llenwi’n barod ac mae nifer helaeth o ymholiadau yn parhau am rai newydd yng Nghaergybi.

·      Cynllun Adfer Gogledd Môn – yn dilyn penderfyniad Rehau i gau’r ffatri yn Amlwch, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gefnogi’r ardal drwy gytuno ar Gynllun Adfer Economaidd Gogledd Môn – derbyniwyd £495,000 gan yr NDA ar gyfer y gwaith hwn;

·      Rhaglen Ynys Ynni – wedi parhau i gefnogi’r Rhaglen Ynys Ynni i gefnogi datblygiadau economaidd wedi eu seilio ar greu ynni;

·      Bid Twf Gogledd Cymru – llofnododd y ddwy Lywodraeth gytundeb ‘Penawdau’r Telerau’ er mwyn symud Bid Twf Gogledd Cymru i’r cam nesaf;

·      Arfor – cynllun grantiau ar gyfer busnesau i ddatblygu a defnyddio’r iaith Gymraeg;

·      Cyflenwi ac adeiladu Tai – daethpwyd â 104 o dai gwag yn ôl i ddefnydd fel aelwydydd. Datblygwyd tai ar 6 safle ar draws yr ynys;

·      Llawr y Dref – cwblhawyd y cynllun adnewyddu;

·      Trac ac Adtrac – mae’r cynllun wedi gweithio’n llwyddiannus â chriw o bobl ifanc;

·      Hamdden – uwchraddio’r ystafell ffitrwydd ym Mhlas Arthur a derbyniwyd grant i ariannu cae 3G bychan ar safle David Hughes, Porthaethwy;

·      Neuadd y Farchnad, Caergybi – agorwyd y Neuadd yn dilyn gwaith atgyweirio sylweddol ar ôl i’r adeilad fod yn wag am flynyddoedd. Mae’r Llyfrgell wedi ymgartrefu yn yr adeilad newydd;

·      Parc Adfer - wedi agor ym mis Rhagfyr, yng Nglannau Dyfrdwy, fel canolfan ailgylchu sy’n gwasanaethu 5 o awdurdodau yng Ngogledd Cymru. Bydd y datblygiad hwn yn cynhyrchu trydan o’r gwastraff;

·      Rhesymoli defnydd ynni’r Cyngor;

·      Cynlluniau Atal Llifogydd - yn Llansadwrn, Pentraeth a Biwmares;

·      Rhieni Maeth – gwelwyd cynnydd yn niferoedd rhieni maeth yn ystod y flwyddyn;

·      Canolfannau Gofal – cabannau gofal plant yn Ysgol Morswyn, Caergybi ac Ysgol Pencarnisiog;

·      Denu Talent – roedd y cynllun yn llwyddiannus unwaith eto eleni gyda 9 o bobl ifanc yn manteisio ar gyfleoedd o dan y cynllun;

·      Cynllunio Lle – mewn cydweithrediad â Medrwn Môn.

·      Ymgysylltu â phobl ifanc – gwahoddwyd ysgolion i ymweld â’r Cyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth am wasanaethau’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ymateb yr Awdurdod i’r pandemig Covid-19 a dywedodd ei bod yn dymuno diolch i’r Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ynghyd â holl staff y Cyngor, am eu gwaith wrth warchod pobl fregus yn ein cymunedau a chefnogi’r rhai sydd mewn angen. Dywedodd ei bod yn dymuno diolch am y gwaith partneriaeth gyda sefydliadau trydydd sector i ddarparu cymorth cymunedol i drigolion yr ynys. Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ei fod yn dymuno diolch i’r Arweinydd am ei gwaith mewn perthynas â’r pandemig, gan nodi iddi fynychu cyfarfodydd mewnol dyddiol, cyfarfodydd rhanbarthol a chyfarfodydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dywedodd hefyd y bu’r Arweinydd yn gweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru pan gafwyd achosion o Covid-19 yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cyngor ofyn cwestiynau i’r Arweinydd ar gynnwys yr Adroddiad Blynyddol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fod pobl ifanc yr ynys angen cefnogaeth. Nid oes lle chwarae yn ardal Dwyran erbyn hyn gan fod yr ysgol wedi cau o ganlyniad i’r rhaglen moderneiddio ysgolion a’i bod yn fwriad adeiladu ar y tir, sydd ar orlifdir. Ymatebodd yr Arweinydd drwy ddweud fod lle chwarae yn Nwyran ond y bu’n rhaid ei gau gan nad oedd yn cydymffurfio â’r safonau angenrheidiol. Awgrymodd fod angen i’r gymuned leol sefydlu pwyllgor i ddenu grantiau er mwyn creu lle chwarae yn Nwyran, fel a wnaed gan nifer o gymunedau eraill ar yr ynys.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Arweinydd y Cyngor a nodi ei gynnwys.

 

Dogfennau ategol: