Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol - Cynllun Archwilio Drafft 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad Archwilio Allanol yn ymgorffori'r Cynllun Archwilio arfaethedig ar gyfer blwyddyn archwilio 2019/20, i'r Pwyllgor ei ystyried. Nodai’r Cynllun y gwaith y bwriadwyd ei wneud mewn perthynas â'r archwiliad ariannol a materion yn ymwneud ag ef, ynghyd ag amlinelliad o'r rhaglen archwilio perfformiad ac amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith archwilio allanol yn yr Awdurdod, ac adrodd arno. Ynghlwm wrth y Cynllun drafft roedd dau lythyr atodol - un dyddiedig Ebrill, 2020 oedd yn amlinellu materion posib o ran y cyfrifon a'r broses archwilio ariannol a'r amserlen o ganlyniad i argyfwng Covid 19 a'r llall, dyddiedig Mehefin, 2020, a roddai’r sefyllfa ddiweddaraf o ran rhaglen waith archwilio perfformiad ar gyfer 2020/21 a’r amserlen yn sgil Covid-19.

 

Cyfeiriodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio at –

 

           Asesu'r risgiau archwilio ariannol fel y'u nodwyd yn Arddangosyn 1 y Cynllun drafft ac eglurodd fod y risgiau a amlinellwyd ynddo yn gyffredin i bob corff cyhoeddus a gâi ei archwilio. Ar adeg ysgrifennu’r Cynllun drafft, roedd y Cynllun yn rhagweld y gallai argyfwng cenedlaethol Covid-19 arwain at oedi sylweddol wrth baratoi a chyhoeddi cyfrifon a dyna pam iddo gael ei gynnwys fel risg. Roedd y sefyllfa wedi dod yn gliriach yn y cyfnod ers hynny, gyda'r Awdurdod yn llwyddo i gwblhau'r cyfrifon drafft mewn pryd. Roedd yr archwiliad ariannol bellach yn ei drydedd wythnos ac yn mynd rhagddo gan olygu na wireddwyd y risg o ran oedi cyn cyhoeddi'r cyfrifon drafft yn achos Ynys Môn. O ran meysydd eraill y rhoes archwilio sylw iddynt, byddai’r archwilwyr yn adolygu effaith dyfarniad McCloud mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth a wnaed ar gyfer rhwymedigaethau pensiwn.

           Y rhaglen waith archwilio perfformiad a chadarnhau y câi'r archwiliad a gynlluniwyd dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a ganolbwyntiai ar y themaatalei ohirio gydag adolygiad o drefniadau adfer lleol a rhanbarthol yn cymryd ei le. Roedd Archwilio Allanol hefyd yn bwriadu trafod gyda'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth a oedd y darn gwaith ar gynllunio a chyflawni arbedion yn un yr oedd yn credu a fyddai o fudd i'r Cyngor neu a fyddai’n fwy cynhyrchiol cyfeirio'r sylw i gyfeiriad arall. Roedd yr adroddiad ar asesu cynaliadwyedd ariannol y Cyngor bellach wedi'i gwblhau a châi ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Medi. Er bod amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers comisiynu'r adroddiad, roedd yn cynnwys egwyddorion cyffredinol pwysig ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd ariannol yr awdurdod lleol.

 

Wrth dderbyn yr adroddiad, nododd y Pwyllgor yr anghysondeb rhwng y ffigur £427k yng nghyfrifon drafft 2019/20 ar gyfer ffioedd oedd yn daladwy i Swyddfa Archwilio Cymru a'r ffigur gwirioneddol o £362k yng Nghynllun Archwilio drafft yr Archwiliad Allanol a gofyn am eglurhad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y byddai'n holi Mr Alan Hughes am yr amrywiant ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.

 

Penderfynwyd nodi a derbyn Cynllun Archwilio Drafft yr Archwiliad Allanol am flwyddyn archwilio 2019/20.

 

CAM YCHWANEGOL - Bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn adrodd yn ôl er mwyn egluro'r anghysondeb rhwng y ffigur ar gyfer ffioedd archwilio a ddangosir yng nghyfrifon 2019/20 a'r ffigur a ddangosir yn y Cynllun Archwilio drafft.                                    

 

Dogfennau ategol: