Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Archwiliad o'r Trefniadau Atal ac Ymyrryd yn Gynnar i Sicrhau bod Plant yn Ddiogel ac yn cael Cefnogaeth - CSYM

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yr Archwiliad Allanol ar ganfyddiadau ei archwiliad o'r graddau y mae'r Cyngor yn gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth lunio trefniadau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Adroddodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ei bod yn statudol ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio cyrff cyhoeddus i asesu i ba raddau y maent wedi gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu eu hamcanion llesiant a chymryd camau i'w cyflawni. Mae'r adroddiad uchod yn nodi canfyddiadau'r Archwiliad Allanol o'i archwiliad o drefniadau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth, cam y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ei gymryd i gyflawni ei amcanion lles. Er mwyn gweithredu'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried y "pum ffordd o weithio" fel y'u diffinnir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru, Yr Hanfodion sy'n ymwneud â diogelu'r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor; gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu; ystyried integreiddio amcanion llesiant y corff cyhoeddus â'i amcanion eraill neu amcanion cyrff cyhoeddus eraill; gweithredu ar y cyd ag unrhyw unigolyn arall neu wahanol rannau o'r corff ei hun a chynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant gan sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu’r ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu yn ei holl amrywiaeth.

 

Canfu’r adroddiad fod

 

           Y Cyngor wedi ystyried a chymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth ddatblygu trefniadau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth, ond mae cyfleoedd i ymgorffori ymhellach y pum ffordd o weithio.

           Mae'r Cyngor wedi ceisio cynllunio’r gwasanaethau gyda'r nod o annog unigolion i ymgysylltu â gwasanaethau'n gynnar er mwyn lleihau'r galw tymor hir a'r angen am lefelau uwch o ymyrraeth, ond nid yw'n glir a yw'r cyllid yn gynaliadwy yn y tymor hir.

           Mae'r Cyngor wedi ceisio deall y ffactorau sy'n effeithio ar blant ond mae angen iddo barhau i ddadansoddi data ymhellach er mwyn deall gwraidd y broblem a llywio ei weithgareddau ataliol.

           Mae'r Cyngor wedi ystyried sut mae’r cam wedi cyfrannu at ei amcanion llesiant ond gall gwybodaeth ehangach am y diffiniad o integreiddio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol helpu i sicrhau manteision gweithredol.

           Mae'r Cyngor wedi cymryd camau i gydweithredu â phartneriaid ac adlewyrchu anghenion a dymuniadau cymunedau lleol, ond gallai wella'r ffordd y mae'n adolygu effeithiolrwydd y cydweithredu.

           Mae'r Cyngor wedi cynnwys rhanddeiliaid wrth lunio'r gwasanaeth ond mae angen iddo adolygu effeithiolrwydd ei ddull gweithredu er mwyn nodi arfer da a gweld a oes gwersi i'w dysgu.

 

Ymhelaethodd Mr Alan Hughes ar y cryfderau a nodwyd o dan bob un o'r prif ganfyddiadau uchod ynghyd â'r cyfleoedd i wella. Ar ôl i'r gwaith maes ddod i ben, cyflwynwyd canfyddiadau'r Archwiliad Allanol i Swyddogion y Cyngor mewn gweithdy ym mis Hydref, 2019 lle dechreuodd y Cyngor ystyried ei ymateb i'r canfyddiadau. O ganlyniad i drafodaethau yn y gweithdy a myfyrio ymhellach ar y canfyddiadau, mae'r Cyngor wedi datblygu cyfres o gamau gweithredu o dan y pum ffordd o themâu gwaith a nodir yn y tabl yn Rhan 2 o'r adroddiad.

 

Derbyniodd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn darparu asesiad cadarnhaol yn gyffredinol o waith y Cyngor wrth gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy i drefniadau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth a nododd fod y Cyngor wedi cymryd camau breision o fewn Gwasanaethau Plant yn gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro ei fod yn croesawu'r adroddiad a'r cyfleoedd i wella. 

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad yr Archwiliad Allanol ar ei archwiliad o drefniadau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth ac i nodi cynnwys.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: