Eitem Rhaglen

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig

Ystyried ceisiadau am Ganiatâd Arbennig.

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod 29 aelod y Cyngor Sir wedi gwneud cais ar y cyd am ganiatâd arbennig mewn perthynas â’r hyn a ystyriant yn ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Chyfansoddiad y Cyngor Sir yn nodi os yw aelod yn methu â mynychu cyfarfod perthnasol o’r Cyngor am gyfnod di-dor o 6 mis, yna mae’r “rheol 6 mis” yn weithredol; h.y. mae’r aelod yn peidio â bod yn aelod etholedig a bydd isetholiad yn cael ei sbarduno. Nodwyd y gellir osgoi anghymhwyso aelod os yw’n gofyn i’r Cyngor llawn gymeradwyo’r absenoldeb cyn i’r cyfnod o 6 mis ddod i ben.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) nad yw’r Cyngor wedi gallu cynnal “busnes fel arfer” oherwydd y pandemig Coronafeirws (Covid-19). Cyfeiriodd at Ddeddf Coronafeirws 2020 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cymru) 2020, sy’n lleihau’r rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol ac yn caniatáu i aelodau fynychu cyfarfodydd o bell. Nodwyd bod y Cyngor wedi adolygu ei amserlen Bwyllgorau a bod llai o gyfarfodydd ffurfiol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd nac yn y cyfnod cyn y Coronafeirws ac felly mae llai o gyfleoedd i aelodau fedru cydymffurfio â gofynion y “rheol 6 mis”.

 

Nodwyd y cyflwynir adroddiad i gyfarfod llawn y Cyngor ar 8 Medi 2020, yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo fod y pandemig Coronafeirws yn rheswm i holl gynghorwyr CSYM beidio â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd, a bod pob aelod yn cael eu gwarchod yn yr ystyr na fydd eu diffyg presenoldeb, oherwydd yr achosion o Coronafeirws, yn arwain at eu hanghymhwyso’n awtomatig am gyfnod pellach o chwe mis o’r dyddiad y daw cyfnod chwe mis gwreiddiol pob aelod unigol i ben.

 

Cyfeiriwyd at Reoliad 10 Deddf Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 sy’n nodi, at ddibenion cyfrifo’r chwe mis, y dylid diystyru’r cyfnod rhwng y diwrnod y daeth y Rheoliadau i rym (22 Ebrill 2020), a dyddiad cyfarfod y gwahoddir yr aelod i fod yn bresennol ynddo yn ei rôl fel aelod etholedig. Nodwyd bod y cloc yn stopio am y tro am y cyfnod rhwng 22 Ebrill a’r cyfarfod cyntaf y gwahoddir aelod i fod yn bresennol ynddo; fodd bynnag, nid yw’n cychwyn o’r newydd.

 

  Cyflwynodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y Canllawiau

  (Atodiad 4) i sylw’r Panel.

 

Rhoddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) gyfarwyddyd i’r Panel ynghylch diddordebau personol a diddordebau sy’n rhagfarnu, fel y cyfeirir atynt yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau (Atodiad 1). Dim ond os ystyriant fod aelodau â diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn unol â’r ystyr yn y Côd y dylent wedyn ystyried rhoi caniatâd arbennig.

 

Pe byddai angen caniatâd arbennig (oherwydd i’r Panel ddod i’r canlyniad fod gan yr aelodau ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu), cynghorodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y Panel i gyfeirio at y seiliau statudol ar gyfer rhoi caniatâd arbennig (y seiliau a gynhwysir yn Atodiad 2, ac mae’r aelodau etholedig wedi nodi’r seiliau perthnasol yn eu cais yn Atodiad 3). Os yw sail yn berthnasol, gall y Panel roi caniatâd arbennig. Dywedodd y byddai caniatâd arbennig yn caniatáu i aelodau gymryd rhan yn y mater er i ddiddordeb sy’n rhagfarnu gael ei nodi.

 

Gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch a ddylent ystyried rhoi caniatâd arbennig ar gyfer un cyfarfod, am 6 mis pellach, neu am weddill tymor y Cyngor hwn, hyd at fis Mai 2022?

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai ymestyn y cyfnod i ddiwedd y Cyngor presennol yn defnyddio llai o adnoddau ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd, a bod mesurau diogelu digonol ar waith, gan y byddai’n rhaid i unrhyw gais i roi estyniad pellach i’r “rheol 6 mis” gael ei ystyried gan y Cyngor llawn, mewn cyfarfod cyhoeddus.

 

Ystyriodd aelodau’r Panel y mater mewn sesiwn breifat. Ar ôl cynnal trafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Panel Caniatâd Arbennig wedi dod i’r casgliad fod gan 29 aelod y Cyngor, yn eu barn hwy, ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y busnes hwnnw, ac y byddai’r Panel yn rhoi’r caniatâd arbennig y gofynnir amdano.

  PENDERFYNWYD:-

 

·         Rhoi caniatâd arbennig i holl aelodau’r Cyngor Sir (a enwir isod) mewn perthynas â’r diddordebau hynny y cyfeirir atynt yn y cais a gynhwysir yn Atodiad 3 yr adroddiad:- 

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, Richard A Dew, John Griffith,

                      Richard Griffiths, Glyn Haynes, Kenneth P Hughes,

                      Trefor Lloyd Hughes, MBE, Vaughan Hughes, Llinos Medi Huws,

Aled Morris Jones, Carwyn Jones, Eric W Jones, Richard O Jones, Gwilym O Jones, Robert Ll Jones, R Meirion Jones, Alun Mummery, Bryan Owen, Robert G Parry, OBE, FRAgS, Dylan Rees, Alun Roberts, Dafydd Roberts, J Arwel Roberts, Margaret M Roberts, Nicola Roberts, Peter S Rogers, Dafydd R Thomas, Ieuan Williams, Robyn W Williams.

 

·        Bod y caniatâd arbennig yn cael ei roi hyd at ddiwedd y Cyngor presennol ym mis Mai 2022.

 

·           Bod yr aelodau’n datgan eu diddordeb sy’n rhagfarnu a hefyd y ffaith iddynt dderbyn caniatâd arbennig gan Banel y Pwyllgor Safonau ym mhob cyfarfod perthnasol pan gynhelir trafodaeth a/neu bleidlais yn ymwneud â’r diddordeb personol sy’n rhagfarnu a nodwyd yn y cais.

 

                 Gweithredu:

 

  • Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at y 29 aelod o Gyngor Sir Ynys Môn yn cadarnhau fod caniatâd wedi cael ei roi iddynt i gyd gyda’i gilydd yn caniatáu i bob aelod ysgrifennu, siarad a phleidleisio ar bob mater ynghylch y “rheol 6 mis”.

·        Y Swyddog Monitro i adrodd i’r Pwyllgor Safonau ar y defnydd a wnaed o’r caniatâd arbennig.

Dogfennau ategol: