Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

7.2 – FPL/2019/223 - Pen-Wal Bach,  Pen Lon, Niwbwrch.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Jt1YBUAZ/fpl2019223?language=cy

 

 

Cofnodion:

7.1  19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod asiant yr ymgeisydd, y bore hwnnw, wedi cynnig darn o dir yn Mountain View, Caergybi i breswylwyr lleol barcio eu cerbydau ac i ymateb hefyd i bryderon priffyrdd yn yr ardal. Mae’r ymgeisydd a’r Awdurdod Priffyrdd wedi cytuno i ohirio’r cais er mwyn caniatáu trafodaethau pellach ar y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a roddwyd yn y cyfarfod.

 

7.2  FPL/2019/223 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i fod yn faes gwersylla pebyll tymhorol ar dir ger Pen-Wal Bach, Pen Lon, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Adroddwyd y derbyniwyd llythyr yn gwrthwynebu’r cais gan Mr Richard Wyn Owen ar ran cymuned Pen Lon. Darllenwyd y llythyr yn y cyfarfod fel a ganlyn:-

 

‘Mae cymuned Pen Lon yn gwrthwynebu’n gryf y cais cynllunio uchod i newid defnydd y cae amaethyddol presennol i fod yn faes gwersylla. Mae’r Adran Gynllunio wedi derbyn dros 30 o lythyrau yn gwrthwynebu’r cynnig a derbyniwyd deiseb yn gwrthwynebu’r cais cynllunio hefyd gyda 46 o enwau arni. Mae Pen Lon yn bentrefan gwledig tawel sy’n adnabyddus am ei dawelwch. Mae safle’r cais wedi’i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Llynedd, defnyddiodd perchnogion y tir y tir ar gyfer pebyll dan y rheol cynllunio dros dro 28 diwrnod. Methodd yr ymgeiswyr â chydymffurfio â’r rheol dros dro 28 diwrnod, gan ddefnyddio’r tir am dros 60 diwrnod. Roedd y sŵn o’r safle’n anhygoel a gellid clywed cerddoriaeth uchel, gweiddi a phobl yn yfed yn dod o’r safle rhwng 2 a 3 o’r gloch y bore. Roedd y traffig ychwanegol a gynhyrchwyd gan y maes pebyll y llynedd ar y lôn gul, ddi-ddosbarth gan y maes pebyll yn anhygoel. Mae’r cais cynllunio a gyflwynwyd yn datgan y bydd ceir yn cael mynediad i’r safle o’r briffordd ac yn gadael ar y lôn ddi-ddosbarth sydd union gyferbyn â’r eiddo o’r enw ‘Rushmead’. Mae lleoliad y safle hwn yn golygu y bydd pobl yn ddibynnol ar geir preifat i deithio gan nad oes cludiant cyhoeddus yn yr ardal. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar fwynderau’r eiddo hwn gan y bydd llif cyson o draffig yn gadael y safle, ynghyd â goleuadau prif lampau ceir yn y nos.

 

Yn ddamcaniaethol, fel enghraifft, os bydd 30 o wersyllwyr ar y safle ar unrhyw adeg, bydd hyn yn cynhyrchu hyd at 90 o deithiau mewn cerbydau bob dydd ar y lôn gul, ddi-ddosbarth, o ganlyniad i wneud nifer o deithiau bob dydd i’r siopau / y traeth / atyniadau lleol a theithiau gyda’r nos i gael pryd nos / mynd i fwytai yn yr ardal. Mae hyn wrth dybio na fydd y cerbydau’n dechrau defnyddio’r allanfa fel llwybr mynediad / mynedfa yn hytrach na’r fynedfa a awgrymir o briffordd yr A4080. Mae’r cynnig yn golygu lledu’r fynedfa bresennol i gerbydau sy’n gadael y safle a chael gwared â 68 metr o wrychoedd sydd eisoes yn bodoli i greu llain welededd. Bydd hyn yn golygu cael gwared â gwrych sy’n sgrinio’r safle’n naturiol. Wedi hynny byddai’r safle’n hynod o weladwy ac o fewn tua 30m i brif ddrychiadau eiddo preswyl cyfagos a byddai’r llygredd sŵn hyd yn oed yn waeth nag yr oedd dan y rheol dros dro a rhaid i mi bwysleisio fod y sŵn yn annioddefol gyda’r gwrych yn ei le. Mae Polisi Cynllunio PCYFF2 yn datgan y dylid gwrthod unrhyw gais a fyddai’n cael effaith andwyol ar fwynderau eiddo preswyl cyfagos.

 

Mae safle’r cais mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac yn enwog am ei harddwch a’i dawelwch. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith negyddol ar yr AHNE a byddai sŵn a gynhyrchir ar y safle’n cael effaith ar dawelwch naturiol yr ardal. Byddai cael gwared â 68m o wrychoedd sydd eisoes yn bodoli yn agor y safle a byddai’n andwyol i’r AHNE.

 

Nid yw’r safle hwn yn un o ansawdd uchel gan na chyfeirir at faint o bebyll a osodir ar y safle ac ni ddarparwyd unrhyw osodiad gyda’r cais cynllunio. Llynedd, roedd y safle’n edrych fel golygfa o ŵyl Glastonbury, gyda phebyll o bob maint, siâp a lliw wedi eu gwasgaru ar hap ymhobman. Ni chyfeirir at unrhyw gynigion tirlunio nac at unrhyw fath o driniaeth i derfynau safle’r cais. Pe byddai’r cais hwn yn cael ei ganiatáu, beth fyddai’n eu hatal rhag defnyddio gweddill y cae ar gyfer gwersylla? Hoffwn dynnu sylw at y ffaith fod o leiaf 6 o gyfleusterau ar gyfer carafanau/pebyll o fewn radiws o filltir i safle’r cais. Mae un safle carafanau, a elwir yn ‘Marram Grass’, drws nesaf i’r safle hwn felly pam fod angen 7fed safle pebyll?

 

Roedd safle’r cais ar werth rhai blynyddoedd yn ôl; fodd bynnag, ni chafodd ei werthu gan na lwyddwyd i sicrhau’r pris yr oeddent yn dymuno ei gael amdano. Mae’r ymgeisydd yn ceisio cael caniatâd cynllunio yn fwriadol i wneud elw ariannol wrth werthu’r eiddo a’r tir. Mae dau feddiannydd lleol yn Pen Lon yn ymwybodol fod rhiant yr ymgeisydd wedi dweud ‘mae’n ddiwerth fel tir amaethyddol, ond unwaith y caf ganiatâd cynllunio bydd o werth ffortiwn’. Rydym yn cymell y pwyllgor cynllunio i ddilyn argymhelliad y swyddogion a gwrthod y cais cynllunio. Byddai safle pebyll ar y safle hwn yn dinistrio cymuned Pen Lon, byddai’n cael effaith negyddol ar ein lles. Mae’r cais cynllunio’n groes i nifer o bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a bydd yn cael effaith ar yr AHNE. Rydym yn ofni y byddai caniatáu / cymeradwyo datblygiad posib o’r fath yn annog ehangu’r safle yn y dyfodol neu’n annog cynnig llawer mwy am “barc tebyg i Haven”, gan ddinistrio’r ardal yn llwyr. Gallai hyn hefyd agor y drysau i geisiadau eraill yn yr ardal yn y dyfodol a chreu cynsail. Rydym yn annog y pwyllgor i ddarllen yr holl lythyrau ac e-byst gan bobl leol yn gwrthwynebu’r cais gan ei fod yn bwysig iawn i ddyfodol yr ardal.’

 

Derbyniwyd llythyr gan yr ymgeiswyr, Mr Terry Usher a Mrs Jane Usher, yn cefnogi eu cais. Darllenwyd y llythyr i’r Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

‘Symudom i ymuno â’n teulu yn Niwbwrch, wedi i fy mam gael ei gadael ar ei phen ei hun yma ar ôl marwolaeth fy nhad. Mae’r eiddo wedi bod yn y teulu am bron i 100 mlynedd, ac felly byddem wedi bod yn drist iawn o orfod ei werthu. Fodd bynnag, roedd rhaid i ni sicrhau y byddem yn gallu cynnal ein hunain yn ariannol, ac roedd y syniad o redeg safle gwersylla bychan i’n helpu i gyflawni hynny yn syniad a oedd yn ein cyffroi’n fawr. Mae gan y ddau ohonom swyddi rhan amser. Rydw i’n Gynorthwyydd Gofal Plant ym Meithrinfa Prifysgol Bangor ac mae fy ngŵr yn yrrwr danfon nwyddau groser i gartrefi.

 

Ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil, rydym wir wedi ceisio sicrhau y gallwn lynu at y canllawiau a nodir ym Mholisïau TWR 3 a TWR 5; dim gormod o ardaloedd llawr caled, defnyddio adeiladau presennol, defnydd gwyliau yn unig, ac ati. Fel datblygiad ar gyfer pebyll yn unig, rydym yn teimlo ein bod yn cwrdd yn llawn â phob un o’r gofynion hyn. Cawsom arolwg ecolegol a ddaeth i’r casgliad mai ychydig iawn o effaith fyddai’r math o ddatblygiad yr ydym yn bwriadu ei wneud yn ei gael ar yr amgylchedd.

Lle bynnag yr oedd yn bosib, rydym wedi ceisio lleihau’r effaith y gallai’r newid defnydd ei gael ar eiddo cyfagos, drwy symud lleoliad y cae gwersylla o’r lleoliad arfaethedig gwreiddiol, fel nad yw’n union gerllaw Pen Lon bellach, gan greu rhyw fath o ‘glustog’ rhwng y cae gwersylla a Phen Lon. Rydym eisiau bod yn gymdogion da, a byddem yn gweithredu’n gyflym i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau gyda’n cymdogion, pe byddai unrhyw rai’n codi.

Gan fod y datblygiad arfaethedig ar gyfer pebyll yn unig nid oes unrhyw gynlluniau i osod pwyntiau cysylltu â chyflenwad trydan, a byddai hyn yn amlwg yn fwy cyfeillgar o safbwynt ecolegol ac amgylcheddol.

Roedd yr adborth a gawsom y tymor diwethaf yn dangos fod pobl wir yn hoffi’r ffaith fod y safle ar gyfer pebyll yn unig. Rydym yn hapus iawn felly o gael hyn fel ein pwynt gwerthu unigryw, gan fod cymaint o safleoedd eraill yn rhoi blaenoriaeth i garafanau teithio a chartrefi modur. Rydym yn hapus i barhau gyda’r trefniant â ffermwyr lleol i ddefnyddio’r tir fel tir pori yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd y safle ar gau. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol a’r economi ehangach. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn hyrwyddo’r ardal ac yn cefnogi atyniadau ymwelwyr eraill.

Mae Cynghorydd lleol a rhai aelodau o Gyngor Cymuned Rhosyr yn cefnogi’r datblygiad arfaethedig. Rydym wedi cael llythyrau o gefnogaeth gan amryw o fusnesau lleol a deiseb yn cefnogi’r cais gan nifer fawr o bobl leol. Rhoddwyd y rhain i gyd i’r Cynghorydd lleol ond gellir darparu manylion i chi os oes angen.

Rydym wedi dod i’r casgliad ei bod yn anorfod fod bwriadau pobl yn cael eu camddehongli mewn cymuned fechan fel ein cymuned ni ac yn sicr rydym wedi clywed rhai dehongliadau creadigol iawn o’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud. Gallwn eich sicrhau mai ein unig fwriad yw gwneud yr hyn a nodir yn ein cais cynllunio, sef safle gwersylla sylfaenol, tymhorol ar gyfer pebyll yn unig, wedi’i reoli gennym ni ac yn eiddo i ni. Yn gyffredinol, teimlwn y byddai’r datblygiad arfaethedig yn ased i Niwbwrch a’r ardal o gwmpas, ac yn ei ddangos mewn goleuni cadarnhaol iawn ac yn cynhyrchu canlyniadau da ar y cyfan ar gyfer ystod eang o bobl a’r ardal.’

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, fel Aelod Lleol, ei fod yn llwyr gefnogi’r cais gan mai unig ddymuniad yr ymgeisydd yw cael safle ar gyfer pebyll yn unig ac y byddai’n ased i’r ardal a bod busnesau lleol yn cefnogi’r cais. Cyfeiriodd at y sylwadau yn y llythyr yn erbyn y datblygiad yn datgan y byddai’n rhaid i bobl sy’n defnyddio’r safle gwersylla ddefnyddio eu ceir i deithio o amgylch yr ardal. Dywedodd y Cynghorydd Rogers fod pobl yn mwynhau cerdded ac nad ydynt yn ddibynnol ar eu ceir. Ychwanegodd fod yr ymgeisydd wedi newid manylion y cynlluniau wedi i gyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ym mis Chwefror 2020 ar ôl i’r cais gael ei wrthwynebu. Ar ôl newid y cynlluniau, dim ond 3 gwrthwynebiad a dderbyniwyd ac nid oedd yr un o’r ymgyngoreion statudol yn gwrthwynebu’r datblygiad. Dywedodd y Cynghorydd Rogers y dylid cefnogi’r ymgeiswyr gan fod aelodau eu teulu wedi bod yn aelodau gweithgar o gymuned Niwbwrch dros y blynyddoedd.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn ymwneud â newid defnydd tir i fod yn safle gwersylla i’w ddefnyddio ar gyfer pebyll yn unig rhwng y Pasg a mis Hydref yn ystod unrhyw flwyddyn galendr. Roedd y cynlluniau diwygiedig a gyflwynwyd yn cynnig system un ffordd, gyda cherbydau’n cael mynediad i’r safle drwy fynedfa bresennol i gerbydau ar yr A4080, ac yn cael mynediad i’r cae amaethyddol drwy dir sydd dan reolaeth yr ymgeisydd. Byddent wedyn yn gadael y safle gan ddefnyddio’r lôn i’r gorllewin. Nodwyd nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu’r cynnig i greu system un ffordd, pe gosodwyd amodau ar y caniatâd.  Fodd bynnag, dywedodd yr ystyrir bod y cynnig yn annerbyniol oherwydd nid ystyrir ei fod o ansawdd uchel yn nhermau’r hyn a ddisgwylir dan bolisïau cynllunio perthnasol, gan y byddai’n cael effaith annerbyniol ar yr AHNE, mwynderau preswyl ac ar sail cynaliadwyedd, fel y nodir yn yr adroddiad. Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen ei fod yn Aelod Lleol a bod gwrthwynebwyr i’r cais wedi cysylltu ag o. Dywedodd y Cynghorydd Owen y byddai’n atal ei bleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei wrthod gan nad oedd yn bodloni meini prawf cynllunio. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffiths gan y byddai’n cael effaith ar yr AHNE a mwynderau preswylwyr gerllaw.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dogfennau ategol: