Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 – VAR/2020/14 - Neuadd, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6rguUAB/var202014?language=cy

 

10.2 – 18C223M/VAR – Caerau, Llanfairynghornwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzHJ6EAN/18c223mvar?language=cy

 

10.3 – VAR/2020/15 – Tithe Barn, Henblas, Bodorgan

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6snOUAR/var202015?language=cy

 

10.4 –VAR/2020/28 - Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffCLUAZ/var202028?language=cy

 

Cofnodion:

10.1  VAR/2020/14 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau wedi’u Cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2019/9 (Newid yr adeilad allanol i annedd) er mwyn newid deunydd y to o baneli metel i lechi yn Neuadd, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gwneir y cais dan Adran 73 mewn perthynas â newid y deunydd to a gymeradwywyd o fetel i lechi naturiol. Ystyrir fod y newid hwn yn dderbyniol ac y bydd yn welliant cyffredinol i’r cynllun a gymeradwywyd. Fodd bynnag, ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, caniateir trosi adeiladau traddodiadol i’w defnyddio fel eiddo preswyl dim ond os oes tystiolaeth na fyddai’n bosib defnyddio’r adeilad ar gyfer cyflogaeth a’i fod yn darparu uned fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Mae’r cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli i drosi’r adeilad allan yn annedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwy ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  18C223M/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) (manylion draenio) a (06) (manylion man pasio) o ganiatâd cynllunio rhif 18C223C (newid adeiladau allanol yn 8 bwthyn gwyliau) er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar ôl dechrau datblygiad yn Caerau, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, y sefyllfa wrth gefn yw bod digon o amser ar ôl i weithredu’r caniatâd ac mae ymgyngoreion perthnasol yn ystyried bod y manylion a gyflwynwyd yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig

 

10.3  VAR/2020/15 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (03) (bydd y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 36C49H (Newid defnydd ysgubor yn annedd, addasu ac ymestyn yr hen fwthyn diffaith a’i newid yn garej ynghyd â gosod tanc septig) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Tithe Barn, Henblas, Bodorgan.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, y sefyllfa wrth gefn yw bod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer safle’r cais i newid ysgubor yn annedd ac i wneud addasiadau i’r bwthyn diffaith a’i droi’n garej. Nid ystyrir fod y cynlluniau diwygiedig yn llai ffafriol na’r rhai a gymeradwywyd yn barod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.4  VAR/2020/28 – Cais dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (05) (manylion deunyddiau) (06) (manylion ffensys a waliau) (07) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o ganiatâd cynllunio 46C410H ar dir ger Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn groes i Bolisi TAI 5 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, y sefyllfa wrth gefn yw bod caniatâd cynllunio ar gyfer annedd marchnad agored yn bodoli’n barod ar safle’r cais. Mae’r manylion a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio’n dderbyniol a newidiwyd yr amodau i adlewyrchu’r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Ll Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dogfennau ategol: