Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Cofnodion:

11.1  HHP/2020/82 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu, codi anecs ynghyd ag estyniad i’r cwrtil yn Erw Goch, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol ac yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Ar ôl datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Eric W Jones y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio - Amgylchedd Adeiledig a Naturiol, y bydd yr estyniad arfaethedig i’r eiddo’n darparu anecs ar ran gogleddol a dwyreiniol yr annedd bresennol ac yn golygu ymestyn y cwrtil presennol i’r cae cyfagos y mae’r ymgeiswyr yn berchen arno. Er mwyn lliniaru effaith colli gwrych, bydd rhaid i’r datblygwr gyflwyno cynllun plannu ac wedyn rheoli’r gwrych newydd fydd yn sgrinio i leihau unrhyw effaith weledol ac yn darparu buddion bioamrywiaeth. Cyflwynwyd cynllun rheoli traffig gyda’r cais sy’n cadarnhau y trefnir bod nwyddau’n cael eu danfon i’r safle rhwng 9.00am a 3.00pm er mwyn osgoi amseroedd pan fo plant yn cyrraedd a gadael yr ysgol gynradd gyfagos. Y bwriad yw i’r ymgeiswyr symud i fyw i’r anecs arfaethedig ac y byddai eu merch a’i theulu’n symud i’r brif annedd. Mae gan wyres yr ymgeisydd anghenion arbennig ac mae’r ymgeiswyr yn cynorthwyo i ddarparu gofal bob dydd iddi ac yn cynorthwyo rhieni’r plentyn. Mae dyluniad a lleoliad y datblygiad yn dderbyniol dan bolisïau cynllunio ac mae’n debyg o ran maint i’r eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y Cyngor Cymuned lleol yn cefnogi’r cais a chynigiodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  OP/2019/17 – Cais amlinellol ar gyfer codi 30 annedd yn cynnwys manylion llawn y gosodiad a’r fynedfa yn Tre Angharad, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion ym mharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Darllenwyd llythyr gan asiant yr ymgeisydd yn cefnogi’r cais, fel a ganlyn:-

 

‘Mae’r cynnig yma yn gais amlinellol ar gyfer codi 30 annedd ynghyd â manylion y fynedfa i’r safle sydd wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Bodedern ac yn rhan o ddyfarniad tai T33 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd chwech o’r anheddau arfaethedig yn gartrefi fforddiadwy ac mae’r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau eu bod yn diwallu’r angen a nodwyd. Yn ogystal â’r angen cyffredinol am dai fforddiadwy, trefnodd Hwylusydd Tai Gwledig y Cyngor ddigwyddiad ym Modedern ar 29 Ionawr 2020 fel rhan o arolwg o’r angen am dai fforddiadwy yn y pentref. Galwodd nifer o drigolion lleol yn y digwyddiad ac fe wnaethant gadarnhau bod galw sylweddol am dai fforddiadwy a hefyd tai marchnad agored yn y pentref. Byddai’r datblygiad hwn yn mynd yn bell tuag at ddiwallu’r angen a nodwyd.

 

Dyluniwyd y safle’n ofalus i ddarparu cartrefi o ansawdd da gyda gerddi preifat a hefyd ardal ddigonol i gynnwys plannu coed a gwrychoedd ychwanegol a man chwarae o fewn y safle. Mae’r cynigion yn cynnwys cysylltiadau da i gerddwyr, gan gynnwys croesfannau i gerddwyr i sicrhau mynediad diogel i’r pentref. Mae’r safle mewn lleoliad da i gysylltu â’r prif amwynderau yn y pentref gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, parciau hamdden, y siop, Swyddfa’r Post, yr eglwys, y dafarn a busnesau lleol eraill. Mae safleoedd bws hefyd o fewn pellter cerdded i’r safle. Bydd y safle’n ddeniadol i bobl leol ac mae llawer wedi datgan diddordeb yn barod gan fod y safle mor gyfleus ar gyfer yr ysgolion a mwynderau eraill. Mae cefnogaeth leol i’r datblygiad yn cael ei amlygu gan y ffaith mai nifer isel iawn sydd wedi mynegi pryder ynglŷn â’r cais. Nid yw’r Cyngor Cymuned lleol wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r cais chwaith.

 

Bydd y datblygiad yn darparu cymysgedd o dai gan gynnwys cartrefi i deuluoedd a byngalos. Ystyrir bod y datblygiad yn cwrdd â chanllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar fywyd ar ôl y pandemig sy’n ein hannog i ddarparu lleoedd a datblygiadau o ansawdd uchel. Y bwriad yw creu lleoedd a chartrefi lle mae pobl eisiau byw a gweithio yn eu cymuned a chael ansawdd bywyd da. Yn yr achos hwn, mae’r cyfleusterau cyfagos yn sicrhau y gall trigolion wneud y mwyaf o’r cyfleusterau fydd ar eu stepen drws heb orfod teithio mewn car yn ddyddiol ar gyfer teithiau hanfodol megis mynd i’r ysgol, siopau lleol ac ar gyfer hamdden.’

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais amlinellol yw hwn am 30 annedd, sy’n cynnwys 6 tŷ fforddiadwy, ynghyd â manylion llawn y gosodiad a’r fynedfa. Mae safle’r cais oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac yn ffurfio rhan o’r dyraniad tai T33, sef tir a ddyrannwyd fel safle tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig i fynd i’r afael â phryderon preswylwyr lleol, a oedd yn cynnwys diwygio gosodiad y safle i sicrhau fod yr anheddau’n cydymffurfio â’r pellteroedd sy’n ofynnol dan y polisïau cynllunio. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r cynnig. Ychwanegodd fod yr argymhelliad o ganiatáu yn ddibynnol ar wneud cytundeb cyfreithiol Adran 106 bod 6 o’r anheddau ar y safle’n rhai fforddiadwy, bod darn o dir yn cael ei ddynodi fel ardal chwarae a bod cyfraniad o £12,557 yn cael ei wneud tuag at y ddarpariaeth addysg.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffiths y codwyd pryderon yn lleol ynghylch diogelwch disgyblion yr ysgol uwchradd sydd gyferbyn â’r safle arfaethedig. Gofynnodd y Cynghorydd Griffiths a yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi ystyried y cynnydd mewn traffig drwy bentref Bodedern a bod cerbydau yn gyrru gormod ger y safle. Ychwanegodd fod siop y pentref wedi’i lleoli yn agos at y safle, a ger tro cul yn y ffordd sydd eisoes yn creu problemau traffig. Dywedodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu (Priffyrdd) y cyflwynwyd Cynllun Rheoli Traffig gyda’r cais sy’n datgan na fydd effaith andwyol ar draffig drwy’r pentref.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn cynnig fod y cais yn cael ei gymeradwyo, gan y rhoddir cytundeb cyfreithiol Adran 106 ar y cais arfaethedig. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffiths.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106 fel y rhestrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.3  FPL/2020/73 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys anecs, estyniad i’r cwrtil ynghyd â chreu mynedfa amaethyddol newydd yn Parciau, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeiswyr yn gweithio yn y Gwasanaeth Cynllunio. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofyniad dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Gan iddi ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol y penderfynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mai 2020 i gymeradwyo cais i addasu ac ymestyn yr eiddo i gynnwys anecs, ynghyd ag ymestyn y cwrtil. Mae’r cais hwn yn ceisio sicrhau caniatâd i newid y dyluniad a’r gosodiad a gymeradwywyd ar gyfer yr estyniad, yn ogystal â chynyddu ardal estynedig y cwrtil a darparu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae y bydd y cwrtil yn cael ei ymestyn iddo. Mae’r fynedfa newydd yn cynnig dyluniad addas fydd yn fodd mwy diogel o gael mynediad i’r cae, a’i adael, o gymharu â’r hyn sydd yno eisoes. Mae’r dyluniad diwygiedig yn cynnwys darparu balconi ar ddrychiad blaen yr estyniad yn ogystal â darparu drysau sy’n plygu ar ei gilydd yn lle ffenestri ar ddau lawr y rhan o’r estyniad sy’n ymwthio allan, lle bwriedir rhoi’r balconi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: