Eitem Rhaglen

Craffu ar Ymateb y Cyngor i'r Argyfwng Covid-19 (Gan gynnwys yr Effaith Ariannol)

·        Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

 

·        Cyflwyno adroddiad ar lafar gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtni Cyllid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Prif Weithredwr yn amlinellu ymateb y Cyngor hyd yma i'r pandemig Covid-19 yn unol â'i gyfrifoldebau o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posib 2004 mewn perthynas â pharatoi ar gyfer argyfwng a chydlynu ymateb ar lefel leol.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad trwy bwysleisio bod yr ymateb i'r pandemig yn dal i fynd rhagddo ac y gall y sefyllfa, ac ymateb y Cyngor iddi, newid yn gyflym iawn. Mae'n dal i fod yn gyfnod ansicr a heriol i bawb. Er bod y Cyngor wedi bod yn canolbwyntio'n bennaf ar ymateb i'r argyfwng Covid-19, yn ystod yr wythnosau diwethaf mae wedi bod yn gweithredu dull deuol er mwyn cynllunio ar gyfer yr adferiad ac ailagor gwasanaethau'n raddol, gan gofio bod y sefyllfa'n parhau i fod yn fregus a bod y normal newydd cryn bellter i ffwrdd.  Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y cydweithredu ardderchog a welwyd yn Ynys Môn rhwng staff yr holl wasanaethau, aelodau etholedig a phartneriaid y Cyngor yn y gymuned a hefyd yn ehangach ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, a phwysleisiodd bwysigrwydd parhau i weithio fel tîm os am reoli a goresgyn y feirws Covid 19. Dywedodd ymhellach, at ddibenion craffu, fod yr adroddiad a gyflwynir heddiw yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:

 

-           effeithiolrwydd y strwythurau a'r trefniadau llywodraethu a'r prosesau mewnol ar gyfer rheoli'r argyfwng;

-           llwyddiant y trefniadau ar gyfer diogelu unigolion bregus (plant, pobl ifanc ac oedolion);

-           effaith y pandemig ar sefyllfa ariannol y Cyngor a'r mesurau lliniaru a sefydlwyd ar gyfer y tymor byr a'r tymor canol;

-           nodi gwersi a ddysgwyd er mwyn eu defnyddio i lywio ymateb y Cyngor i'r cyfnod adfer ar gyfer y normal newydd;

-           cynorthwyo gyda'r gwaith paratoi ar gyfer unrhyw ymchwydd dilynol

 

Wrth arwain y Pwyllgor trwy'r adroddiad yn fanylach, cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weithredwr  at yr agweddau canlynol a chadarnhaodd fod holl flaenoriaethau a phenderfyniadau'r Cyngor trwy gydol y cyfnod wedi cael eu gyrru gan ystyriaethau diogelwch - sef diogelwch staff a'r gymuned; parhad busnes - yn enwedig gwasanaethau rheng flaen; a gwaith newydd - llawer ohono'n waith annisgwyl ond lle bu'n rhaid i'r Cyngor ymateb ac addasu ar unwaith.

 

           Trefniadau Llywodraethu - rhoddwyd trefniadau llywodraethu ar gyfer cynlluniau argyfwng ar waith yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol er mwyn arwain yr ymateb i'r pandemig. Ar lefel leol sefydlodd y Cyngor Dîm Rheoli Ymateb i'r Argyfwng (TRhYA) i arwain ymateb yr Awdurdod Lleol i Covid 19, a oedd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth. Ar y cychwyn ‘roedd y TRhYA yn cyfarfod yn ddyddiol er mwyn cydlynu ymateb y Cyngor i'r pandemig. ‘Roedd elfen o sicrwydd wedi ei adeiladu i mewn i’r ymateb yar ffurf Adroddiadau Sefyllfa dyddiol a oedd yn cael eu paratoi er mwyn crynhoi'r materion a'r risgiau allweddol, a hynny fel y gellid llywio ac uwchgyfeirio materion yr oedd  angen rhoi sylw iddynt. Roedd ffrydiau gwaith y TRhYA yn canolbwyntio ar y gymuned, Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), cynllunio ar gyfer ymchwydd a marwolaethau ychwanegol. Mae'r strwythurau a'r prosesau a sefydlwyd ar ddechrau'r argyfwng wedi darparu sylfaen gadarn ar gyfer sicrhau diogelwch a pharhad busnes ac wedi helpu i lywio cynlluniau, adnoddau ac angen lleol ac wedi galluogi'r Cyngor i gefnogi busnesau a chymunedau. Mae'r TRhYA yn parhau i gwrdd ond yn llai aml, sef yn wythnosol ar hyn o bryd.

           Cyfathrebu ac Ymgysylltu ag Aelodau - mae'r Prif Weithredwr a'r Dirprwy Brif Weithredwr wedi bod yn diweddaru Arweinyddion Grŵp yn gyson ac yn rheolaidd. Mae hyn wedi cynnwys diweddariadau dyddiol  ar gyfer yr holl Aelodau Etholedig a staff, sesiynau briffio rheolaidd i Aelodau ac adrodd yn ffurfiol i gyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith ym  Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Mae gwefan y Cyngor hefyd wedi bod yn cael ei diweddaru’n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymateb lleol i’r pandemig a materion yn ymwneud â gwasanaethau. Defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol yn helaeth i gyfathrebu negeseuon a chyhoeddiadau allweddol gyda'r nod o ddarparu gwybodaeth gywir a dibynadwy.

           Meysydd Risg Allweddol - crëwyd cofrestr risg benodol ar gyfer yr argyfwng o'r cychwyn cyntaf ac fe’i hadolygwyd a’i diweddarwyd bob wythnos. Mae'r risgiau allweddol wedi'u blaenoriaethu o ran amser ac ymdrech ac mae'r rhain wedi cynnwys cartrefi gofal, olrhain cyswllt a phrofion, cyfarpar diogelu  personol, delio ag achosion, cefnogi teuluoedd bregus, yr effaith ar gyllid y Cyngor a'r effaith ar weithlu'r Cyngor.

 

           Wrth dynnu sylw at feysydd risg penodol i graffu arnynt fel y nodir isod ac a ddogfennwyd yn fanwl yn yr adroddiad, esboniodd y Dirprwy Brif Weithredwr yr heriau a wynebwyd, sut ymatebodd y Cyngor a'r canlyniad a gyflawnwyd ym mhob achos-

 

           Darparu PPE i Staff y Cyngor

           Sicrhau lles preswylwyr a staff cartrefi gofal y Cyngor

           Yr effaith ar gyllidebau'r Cyngor (gan gynnwys talu arian grant)

           Adleoli staff y Cyngor

           Galluogi gweithio o bell yn ddiogel a'r dyfodol

           Diogelu unigolion bregus a materion llesiant ehangach y tu hwnt i gyfrifoldebau diogelu statudol

           Rheoli Profi, Olrhain a Diogelu ar lefel leol

           Gwersi a ddysgwyd a'r ffordd ymlaen - cynhaliwyd ymarfer myfyrio a dysgu cychwynnol ddiwedd mis Mehefin, 2020 ar ffurf dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleon a Bygythiadau a gwblhawyd yn unigol gan aelodau o'r tîm rheoli mewn meysydd gwasanaeth ac a goladwyd ynghyd mewn un cyflwyniad gan y Pennaeth. Gwasanaeth / Cyfarwyddwr. Yn dilyn adolygiad ac ystyriaeth bellach, cytunodd y Tîm Arweinyddiaeth Strategol ar y materion a oedd yn sefyll allan o safbwynt corfforaethol o ran cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau ac mae'r rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Arweinydd y rhan a chwaraeodd hi  wrth gydgsylltu â chyfathrebu'n rheolaidd â rhanddeiliaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a chyfeiriodd yn benodol at rôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Talodd deyrnged i staff y Cyngor yr oedd llawer ohonynt wedi gweithio oriau hir iawn dros gyfnod o amser fel rhan o'r ymateb brys mewn amgylchiadau anodd a heriol. ;Roedd yn cytuno ei bod yn bwysig dysgu o'r ymateb lleol i Covid 19 wrth baratoi a chynllunio ar gyfer yr adferiad a'r normal nesaf.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, drosolwg i'r Pwyllgor o sefyllfa ariannol y Cyngor gan gadarnhau bod y Panel wedi cael dadansoddiad manwl o'r sefyllfa mewn cyfarfod ar 3 Medi lle eglurwyd bod yr effaith ariannol tymor byr o ddelio â Covid 19 (lle rhagwelwyd y gallai'r Cyngor fod â gorwariant o £3m yn 2020/21) wedi'i liniaru gan benderfyniad ym mis Mawrth, 2020 i fenthyg £10m gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i sicrhau bod gan y Cyngor lif digonol o arian parod wrth fynd i mewn i'r argyfwng; trwy i Lywodraeth Cymru ryddhau Grant Cymorth Refeniw yn gynnar a thrwy benderfyniad i anfon biliau Treth Gyngor 2020/21 a oedd yn  sicrhau llif o incwm Treth Gyngor gan y rheini sy'n talu eu Treth Gyngor yn llawn neu drwy ddebyd uniongyrchol. Fel oedd y sefyllfa ym mis Mai, 2020, roedd incwm o gasglu’r dreth gyngor 1.5% yn is nag ar gyfer yr un cyfnod y llynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ad-dalu'r Cyngor am y taliadau grant cymorth busnes y mae wedi'u gwneud (tua 1,500 o geisiadau gydag oddeutu £22m wedi'i ddosbarthu). Ar y llaw arall, er bod y Cyngor wedi gorfod ysgwyddo costau ychwanegol wrth ddelio â'r pandemig, mae mwyafrif y costau hynny bellach wedi'u had-dalu gan   Lywodraeth Cymru. Mae'r incwm a gollwyd - amcangyfrifir ei fod yn £774k - ar draws ystod o wasanaethau o ganlyniad i gau cyfleusterau fel canolfannau hamdden hefyd wedi'i ad-dalu i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru gan fod y Cyngor wedi gallu hawlio £725k ganddi. Mae'r sefyllfa tymor hwy yn parhau i fod yn ansicr a disgwylir y bydd  gwasanaethau a'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn dod o dan bwysau wrth i'r cynllun ffyrlo  ddod i ben ac wrth i lefelau diweithdra godi yn ôl pob tebyg. Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Dafydd Roberts am y diweddariad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, wrth gytuno â'r amlinelliad bras o sefyllfa ariannol y Cyngor uchod, fod y senario waethaf wedi'i hosgoi am y tro ond bod heriau'n parhau a bod yn rhaid i'r Cyngor fod yn barod ar eu cyfer yn ystod cyfnodau'r hydref a'r gaeaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, wrth iddo gytuno a'r sylwadau hynny, ei fod o'r farn mai'r risg fwyaf fyddai effaith bosib y pandemig ar y dirwedd ariannu ehangach yn y tymor hir, ac o gofio lefel y gefnogaeth a ddarparwyd eisoes gan Lywodraethau'r DU a Chymru, p'un a fydd lefelau gwariant cyhoeddus yn y dyfodol yn ddigonol i  awdurdodau lleol fedru darparu gwasanaethau'n effeithiol. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd ynghylch effaith y pandemig ar gyllideb 2020/21 a'r camau lliniaru a roddwyd ar waith i ddylanwadu'n gadarnhaol, gan gydnabod hefyd y bydd y pandemig yn debygol o gael effaith ar sefyllfa ariannol tymor canol y Cyngor.

 

Roedd consensws yn y Pwyllgor Sgriwtini ynghylch proffesiynoldeb ac  ymrwymiad Swyddogion y Cyngor wrth ddelio â'r pandemig a chanmolodd hefyd ymateb y sefydliad o ran y gefnogaeth a roddwyd i fusnesau a chymunedau, y negeseuon clir a'r gwaith o ddehongli ac egluro llu o reoliadau. Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion a ganlyn –

 

           Cydnabu'r Pwyllgor fod y pandemig wedi newid arferion gwaith gan olygu bod angen symud yn gyflym ac yn sylweddol i weithio o bell a bod hynny wedi creu cyfleoedd a heriau. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod gweithlu'r Cyngor yn cael ei gefnogi o ran eu hiechyd meddwl a'u llesiant ac y bydd hyblygrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o arfer yn y gweithle y tu hwnt i'r pandemig. Rhoddodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sicrwydd ynghylch y cynlluniau ymarferol sydd ar waith i sicrhau iechyd, diogelwch a lles staff y tu hwnt i'r gwasanaethau cwnsela ac iechyd galwedigaethol cyfredol. Cyfeiriodd fel enghraifft at Learning Pool a'r ystod o fodiwlau ynddo, y cylchlythyr wythnosol sy'n  diweddaru staff ar faterion perthnasol ac sy'n cynnwys syniadau ar gyfer cadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, ynghyd â'r dangosfwrdd i helpu staff gofal cymdeithasol gadw i fyny gyda hyfforddiant. Yn ogystal, cynghorwyd rheolwyr i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'u timau. Cydnabu’r Prif Weithredwr bwysigrwydd gweithio ystwyth a hyblyg wrth ymateb i’r sefyllfa argyfwng a chadarnhaodd y byddai’r Cyngor, wrth fynd i’r afael â’r normal newydd, yn edrych ar wahanol ffyrdd o weithio. Roedd y Pwyllgor yn gytûn y dylid rhoi blaenoriaeth i les gweithwyr a chymunedau yn ei flaenraglen waith.

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr achosion o Covid 19 yn ffatri prosesu cig  Two Sisters yn Llangefni a gofynnodd a oedd gwersi wedi'u dysgu o ddelio â'r achosion hynny, ac a fyddai modd manteisio ar y  gwersi a ddysgwyd pe bai digwyddiad tebyg yn y dyfodol. Eglurodd y Prif Weithredwr fod cyflymder yr ymateb a'r uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol ar gyfer rheoli'r achosion yn llwyddiannus ac y bu cyswllt rheolaidd â Llywodraeth Cymru drwy gydol y digwyddiad. O ganlyniad i'r profiad a gafwyd, mae'r strwythurau a'r prosesau priodol bellach wedi eu sefydlu pe bai'n rhaid i'r Cyngor ymateb i ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol. Amlygodd y Dirprwy Brif Weithredwr bwysigrwydd rhannu gwybodaeth mewn ffordd glir a chyson a dywedodd bod rhannu negeseuon ar  lafar yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ledaenu gwybodaeth.

           Cydnabu'r Pwyllgor yr her o sicrhau lles preswylwyr a staff cartrefi gofal y Cyngor yn yr argyfwng a holodd pa wersi a ddysgwyd yn sgil y feirws yn torri allan yn un o gartrefi gofal y Cyngor yn gynnar yn y cyfnod clo. Eglurodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion fod sicrhau bod gwelyau wedi eu neilltuo ac ar gael i gleifion Covid (coch) a chleifion eraill (gwyrdd) er mwyn atal trosglwyddiad ehangach o fewn y cartref gofal a sicrhau y defnyddiwyd PPE trwy'r cartref wedi bod yn gamau gweithredol y gwelwyd eu bod yn effeithiol. O gofio  anghenion penodol unigolion â dementia a'r anawsterau penodol wrth ynysu'r unigolion hynny, roedd y staff yn eistedd gyda nhw i roi cysur a thawelwch meddwl. Gan gydnabod hefyd bwysigrwydd lles emosiynol a seicolegol preswylwyr wrth gadw mewn cysylltiad â theuluoedd a ffrindiau, prynodd a dosbarthodd y Cyngor iPads i bob cartref gofal a reolir yn fewnol i hwyluso cyswllt personol ac ymgynghoriadau rhithwir.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor, wrth nodi'r wybodaeth hon, at bwysigrwydd cynnal profion a gofynnodd sut y gellid hwyluso mynediad hawdd i Borth y DU ar gyfer cartrefi gofal a sicrhau bod canlyniadau profion yn cael eu dychwelyd yn gyflym. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod llythyr i’r perwyl hwn wedi’i anfon ar 10 Medi at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Meddygol y GIG ar y cyd, ac awgrymodd y byddai llythyr pellach gan y Pwyllgor Sgriwtini i atgyfnerthu'r neges hon o gymorth mawr. Dywedodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion fod cyfarfodydd wythnosol o grŵp llywio rhanbarthol BIPBC a swyddogion awdurdodau lleol wedi bod yn allweddol o ran sicrhau trefn ar gyfer profi ond y gellid gwneud mwy i gryfhau system Porth y DU. Roedd y Pwyllgor yn gytûn y dylid anfon llythyr pellach ar ran y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i ailbwysleisio’r neges hon. 

 

           Cydnabu'r Pwyllgor effaith y pandemig ar yr economi a'r sector busnes ac yng ngoleuni'r ffaith y bydd y cynllun ffyrlo’n dod i ben,  ceisiodd eglurhad ar y camau a gymerwyd gan y Cyngor i gefnogi busnesau lleol, hyrwyddo'r economi leol a chryfhau canol trefi. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 at y £22m a ddosbarthwyd i fusnesau lleol fel rhan o becyn cymorth Llywodraeth Cymru ac amlinellodd y sail gwerth ardrethol y dyrannwyd yr arian hwn arni, gyda chymorth ychwanegol yn cael ei roi i fusnesau bach. Disgwylir i ddiwedd y cynllun ffyrlo arwain at gynnydd mewn diweithdra a disgwylir y byddai hynny, yn ei dro, yn golygu y byddai cynnydd tebygol yn nifer y ceisiadau i'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Ni roddwyd unrhyw un o staff y Cyngor ar y cynllun ffyrlo, gan fod y cynllun wedi ei fwriadu'n bennaf i amddiffyn swyddi mewn busnesau na allent fasnachu yn hytrach na staff awdurdodau lleol y telir amdanynt gan arian cyhoeddus, ac eithrio staff awdurdodau lleol sy'n cael eu hariannu'n llawn o'r incwm masnachol a gynhyrchir. Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cyngor wedi datblygu Cynllun Adferiad Economaidd drafft ac mai un o'i brif ystyriaethau yw sut a ble i flaenoriaethu adnoddau fel eu bod yn cael yr effaith fwyaf posib, yn enwedig gan fod llawer o'r penderfyniadau sy'n hollbwysig i fusnesau yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU fel rhan o raglenni adferiad economaidd mawr.

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at reoli'r Strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu (POD) ar lefel leol a holodd am y cydweithio cychwynnol â Chyngor Ceredigion. Nododd y Pwyllgor ymhellach nad yw'r system ond yn effeithiol os yw unigolion yn cydymffurfio â chanllawiau hunanynysu, a gofynnodd pa mor effeithiol oedd y camau gorfodi ac unrhyw fesurau ychwanegol y gellir eu cymryd yn hyn o beth. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor, ar sail profiad cynllun peilot yng Ngheredigion, wedi sefydlu a threialu ei broses Olrhain Cyswllt ei hun ac fe’i defnyddiwyd i lywio datblygiad model rhanbarthol. Ers hynny, sefydlwyd Gwasanaeth Olrhain Cyswllt Gogledd Cymru, gyda  Chyngor Sir y Fflint fel y prif gyflogwr, ac mae ganddo dimau olrhain cyswllt sydd wedi eu halinio â phob un o awdurdodau Gogledd Cymru i ddarparu gwasanaeth olrhain cyswllt rhanbarthol, yn ogystal â gwasanaeth lleol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, er bod y strategaeth POD yn cynnwys Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor, yr Heddlu ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio ar y cyd, mae’n dibynnu'n bennaf ar bobl yn cymryd cyfrifoldeb personol am hunanynysu pan fydd gofyn iddynt wneud hynny; nid yw'r capasiti,yr adnoddau na'r arbenigedd ar gael i blismona a gorfodi'r cynllun mewn modd cynhwysfawr. O ystyried ei bwysigrwydd ar gyfer rheoli Covid-19 yn effeithiol, cytunodd y Pwyllgor y dylid ymgorffori’r drefn Profi, Olrhain a Diogelu fel maes blaenoriaeth ar gyfer monitro; ymhellach, dylid cyfeirio at bryderon y Pwyllgor ynghylch digonolrwydd adnoddau i gefnogi gorfodaeth effeithiol yn y llythyr y cytunwyd i'w anfon at Lywodraeth Cymru.

           Holodd y Pwyllgor am ddiogelwch ysgolion a staff ysgolion. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sicrwydd bod pob cam wedi'i gymryd i sicrhau bod ysgolion yn ddiogel rhag Covid gan gadarnhau bod ysgolion wedi cael asesiadau risg trylwyr a chynhwysfawr. Mae'r cydweithrediad rhwng yr AALl a Phenaethiaid Ysgol yn dda a chynhelir cyfarfodydd rheolaidd i rannu profiadau, gwybodaeth ac ymarfer. Ategwyd hyn gan Mr Keith Roberts, cynrychiolydd addysg yr Eglwys Gatholig ar y Pwyllgor a ddywedodd ei fod yn credu bod y trefniadau presennol yn gweithio’n effeithiol a bod gwybodaeth reolaidd yn cael ei darparu gan yr AALl i ddiweddaru'r ysgolion.

           Cydnabu'r Pwyllgor ymrwymiad staff y Cyngor mewn amgylchiadau anodd a nododd y byddai rhai gwasanaethau wedi bod dan fwy o bwysau nag eraill; gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod y Cyngor wedi gallu ymateb i geisiadau am gefnogaeth trwy drosglwyddo staff i feysydd gwasanaeth lle'r oedd yr angen mwyaf. Eglurodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod yr Awdurdod, yn gynnar yn 2020, yn un o’r ychydig yng Nghymru a oedd wedi mabwysiadau polisi, gyda chytundeb yr undebau llafur, sy'n caniatáu ar gyfer adleoli staff mewn argyfwng. Roedd y polisi yn golygu bod modd cysylltu â staff i wneud gwaith amgen yn ystod yr argyfwng a chwblhawyd 800 o ffurflenni gan staff yn nodi eu parodrwydd i gynorthwyo trwy gael eu hadleoli i swyddi eraill; fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau fel Iechyd yr Amgylchedd er enghraifft yn cynnwys swyddi arbenigol sy'n gofyn am arbenigedd a chymwysterau penodol ac felly nid ydynt yn hawdd eu llenwi. Er bod Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu'r Awdurdod yn ceisio asesu a phenderfynu ar anghenion gweithlu i’r dyfodol, ni allai ragweld pandemig; fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn ceisio gwerthuso'r gwersi a ddysgwyd o'r profiad o ddelio â'r pandemig o safbwynt Adnoddau Dynol er mwyn cynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol. Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr Awdurdod, yn ogystal â datblygu cynlluniau adfer economaidd, cyrchfan, gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol, hefyd yn edrych ar adferiad y sefydliad o safbwynt gweithio'n wahanol a gweithio'n fwy thematig ar draws y sefydliad, gan roi mwy o gyfleoedd i staff ennill profiad mewn meysydd eraill a datblygu sgiliau trosglwyddadwy gyda'r bwriad o ddod yn sefydliad mwy addasol, hyblyg ac ymatebol

           Nododd y Pwyllgor ôl-effeithiau tebygol y pandemig a'r cyfyngiadau clo ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc a cheisiodd  sicrwydd ynghylch capasiti'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i ddelio â’r galw ychwanegol. Wrth gydnabod y pwynt a wnaed, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'n well mynd i'r afael â'r mater trwy strwythurau rhanbarthol efallai.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad ac wedi trafodaeth lawn ynghylch y  materion a godwyd ynddo, PENDERFYNODD y Pwyllgor -

 

           Nodi ymateb y Cyngor i'r pandemig hyd yn hyn a chymeradwyo ymrwymiad Swyddogion a staff yn eu hymateb i'r argyfwng

           Nodi'r gwersi a ddysgwyd a'r arferion da a ddatblygwyd yn benodol wrth reoli'r achosion yn y ffatri Two Sisters ac wrth atal trosglwyddiad y feirws yn ehangach yn y gymuned a hefyd wrth ymateb i Coronafeirws mewn un cartref gofal sy'n eiddo i'r Cyngor.

           Bod llythyr yn cael ei anfon at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Meddygol y GIG gan Gadeirydd y Pwyllgor hwn i bwysleisio pryderon y Pwyllgor am y canlynol-

           Mynediad at brofion ac yn benodol yr angen i sicrhau bod gan gartrefi gofal fynediad hawdd i Borth y DU a bod canlyniadau profion yn cael eu dychwelyd mewn modd amserol

           Sicrhau y cydymffurfir â chanllawiau a'r angen felly i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gefnogi gorfodaeth effeithiol o dan y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

           Cydnabod y gall yr argyfwng Covid-19 a chyfyngiadau cysylltiedig y cyfnod clo arwain at alwadau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a nodi y bydd mater capasiti o fewn y gwasanaeth yn  cael ei godi ac yn cael sylw trwy strwythurau rhanbarthol

           Bod lles gweithwyr a chymunedau'r Cyngor, ynghyd â monitro effeithiolrwydd y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn cael eu cynnwys fel meysydd blaenoriaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor yn ystod 2020/21 a thu hwnt.

           Argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod y Byrddau Rhaglen yn cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd i'r ddau bwyllgor sgriwtini ar gynllunio’r adferiad a chyflawni ar gyfer y normal nesaf.

Dogfennau ategol: