Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/20

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2019/20 i'r Pwyllgor ei ystyried. Mae cyhoeddi’r adroddiad yn ofyniad statudol a’i bwrpas yw hybu ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf o ran darparu Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Cyngor Sir Ynys Môn yn ogystal ag amlinellu blaenoriaethau gwella.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem drwy gyfeirio at y sianeli democrataidd y byddai'r Adroddiad Blynyddol yn cael eu hadrodd drwyddynt gan arwain at ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth y Cyngor Llawn cyn 31 Hydref 2020 a gwahoddodd Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro i gyflwyno'r adroddiad.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod llawer o'r clod am yr adroddiad ac am weithgarwch y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 yn ddyledus i Mr Alwyn Rhys Jones a arweiniodd y gwaith a grybwyllwyd yn yr adroddiad fel Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ac sydd ers hynny wedi'i benodi i rôl y Cyfarwyddwr Statudol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Paratowyd yr adroddiad o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac felly mae'n dilyn fformat rhagnodedig gyda pherfformiad wedi'i gofnodi o dan chwe Safon Ansawdd ar gyfer canlyniadau llesiant gyda thystiolaeth ategol o gynnydd a chyflawniad o dan bob safon. Mae'r adroddiad yn cynnwys llawer o wybodaeth ac mae  wedi'i nodi mewn ffordd mor hygyrch a chyfeillgar â phosibl i ddarllenwyr ac mae'n rhoi cipolwg i ddefnyddwyr gwasanaeth, aelodau etholedig, partneriaid y Cyngor, rheoleiddwyr a'r cyhoedd ar gynnydd a’r hyn a gyflawnwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Mae rhai o'r prif bwyntiau’n cynnwys –

 

           Sefydlu prosiect ar y cyd â Voices from Care Cymru sy'n datblygu grŵp cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ar Ynys Môn. Bydd y grŵp yn cefnogi Cyngor Ynys Môn i ddatblygu ei Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal ac yn darparu llwyfan sy'n helpu i feithrin perthynas rhwng plant sy'n derbyn gofal, pobl ifanc a'u rhieni corfforaethol yn Ynys Môn.

           Gwaith yng Ngwasanaethau Oedolion ar ddatblygu gwasanaeth Cyswllt Cymunedol Môn mewn cydweithrediad â Medrwn Môn fel y corff gwirfoddol cyffredinol.

           Mwy o bwyslais yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar wrando ar lais defnyddwyr gwasanaethau fel sail ar gyfer datblygu a llunio gwasanaethau.

 

Diolchodd yr Arweinydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol i Mr Alwyn Jones am arwain y Gwasanaeth fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2019/20 ac i Mr Fôn Roberts, ei olynydd, am gymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro. Tynnodd sylw at swyddogaethau niferus Gwasanaethau Cymdeithasol fel yr adlewyrchir gan yr adroddiad blynyddol a chyfeiriodd at y ffaith eu bod yn cyrraedd bywydau llawer o bobl o ran darparu cymorth a chefnogaeth ar adegau pan fyddant yn agored i niwed ac wrth ymateb i amrywiaeth o anghenion gofal, lles a diogelu.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad fel un a oedd yn rhoi trosolwg cadarnhaol o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn yn ystod 2019/20. Wrth drafod yr adroddiad yn fanylach cododd y Pwyllgor y materion canlynol –

 

           Y ffordd y mae'r adroddiad wedi'i osod allan a ph’un ai a yw adroddiadau cyfunol ar Wasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant o dan bob Safon Ansawdd yn gwneud yr adroddiad yn anos ei ddilyn nag adroddiadau ar wahân ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant. Wrth gydnabod y pwynt eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod y fformat yn adlewyrchu gofynion y Ddeddf a hefyd, ei fod yn adlewyrchiad o'r ffaith bod Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant wedi'u halinio'n agos gan fod y ddau yn gweithio gydag unigolion ac yn gwneud hynny ar sail statudol. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yr adroddiad yn hawdd ei ddarllen a'i ddeall ac mae’r Gwasanaeth yn fodlon ystyried trin y ddau wasanaeth ar wahân yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

           Cydnabu'r Pwyllgor y gwaith a wnaed o dan y Rhaglen Llunio Lleoedd ar Ynys Môn ond cydnabu y bydd y gwaith o weithredu cynlluniau gweithredu a luniwyd eisoes wedi'i ohirio ac mae'n ddigon posibl bod blaenoriaethau ac amcanion ym mhob maes wedi newid o ganlyniad i'r pandemig. Holodd y Pwyllgor am y strategaeth ar gyfer bwrw ymlaen â'r rhaglen o dan yr amgylchiadau presennol. Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig bod y gwaith o gynllunio rhaglen Llunio Lleoedd yn parhau a llongyfarchodd y cymunedau hynny a oedd wedi llwyddo i sefydlu strwythurau cynghrair. Cadarnhaodd fod ymgynghori wedi digwydd gyda chymunedau a bod blaenoriaethau dilynol wedi'u sefydlu yn ôl yn 2017;   bydd yn rhaid ailedrych ar y rhain yn awr yn sgil y newidiadau a achoswyd gan y pandemig a bydd angen dod o hyd i ffyrdd eraill o ail-ymgysylltu â chymunedau er mwyn datblygu'r gwaith cynllunio mewn partneriaeth â Medrwn Môn. Cadarnhaodd yr Arweinydd ymhellach fod y mater wedi'i godi mewn cyfarfod o'r Grŵp Llywio Cymunedau a gynhaliwyd yn ystod yr argyfwng gan ystyried y sefyllfa o ran ffurfio cynghreiriau, y banc gwirfoddolwyr a oedd wedi cynnig eu hunain, y gwasanaeth plant sy'n derbyn gofal a ddarperir gan Medrwn Môn a natur y cymorth a roddir i gymunedau.

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at y pwysau cyllidebol ar Wasanaethau Oedolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf am nifer o resymau gan gynnwys y cynnydd yn y galw. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd fod gan y Gwasanaeth gynllun sy'n ddigon cadarn i allu mynd i'r afael â'r galw, yn enwedig i ddarparu blaenoriaeth allweddol y gwasanaeth o hybu byw'n annibynnol a thrwy hynny wneud y defnydd gorau o adnoddau. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod y Gwasanaeth, wrth asesu'r sefyllfa ariannol, yn edrych ar ffyrdd o wneud pethau'n wahanol gan gynnwys ail-gyflunio a/neu drawsnewid gwasanaethau. Mae hefyd yn ceisio rhagweld ym mha feysydd y mae'r pwysau’n debygol o fod ar eu mwyaf yn y dyfodol, gan fod yn ymwybodol y gallai effaith Covid o bosibl olygu bod unigolion a theuluoedd â phroblemau cyflogaeth neu dlodi na fyddent fel arfer yn gofyn am gymorth yn cael eu dwyn i sylw’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r Gwasanaeth yn parhau i edrych ar ffyrdd o hybu annibyniaeth. Mae disgwyl y gallai profiad Covid 19 fod wedi dylanwadu ar ddewisiadau hefyd o ran mathau o ofal, a fyddai’n golygu bod mwy o bobl am aros yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na symud i gartrefi gofal preswyl. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro at strategaethau Cymunedol ac Ataliol y Gwasanaeth sy'n anelu at sicrhau y gall unigolion aros yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi eu hunain. Gall byw'n annibynnol hefyd olygu annibyniaeth ariannol i unigolion a'r rhyddid i ddewis sut y maent yn derbyn gofal a chymorth sy'n gweddu orau i'w hanghenion.

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at lawer o wasanaethau oedd wedi'u gohirio neu rai y rhoddwyd y gorau i’w gweithredu yn ystod y pandemig gan gynnwys Hyb Mencap Môn yn Llangefni sy'n darparu adnodd cymunedol i unigolion ag anableddau dysgu. Holodd y Pwyllgor am y camau a gymerwyd i gefnogi pobl ag anabledd dysgu tra nad oedd darpariaeth yn y Ganolfan. Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sicrwydd bod yr unigolion hynny wedi cael cymorth gartref yn unol â'u hanghenion. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn ymwybodol iawn o'r pwysau ar ofalwyr anffurfiol ac mae wedi rhoi cymorth iddynt lle bo angen, gan gynnwys agor dwy ganolfan gofal dydd gyda rhagofalon i sicrhau bod yr anghenion anabledd dysgu mwyaf difrifol yn cael eu diwallu yn ystod y cyfnod hwn.

           Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch diogelwch yn ystod y pandemig gyda'r risg y gallai problemau o fewn teuluoedd gael eu cuddio, ac na roddir sylw iddynt. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y Gwasanaeth wedi canfod unrhyw batrwm o ran problemau a oedd yn dod i'r amlwg wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi’n raddol. Wrth ddweud ei bod yn rhy fuan, mae'n debyg, i weld unrhyw dueddiadau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod atgyfeiriadau wedi dechrau cynyddu gan fod ysgolion bellach wedi ailagor ond nad oeddent yn ôl i lefelau cyn-Covid. Ychwanegodd fod teuluoedd na fyddent wedi cysylltu fel arfer â'r Gwasanaeth wedi bod yn gofyn am gyngor ynglŷn â bocsys bwyd ac ati.

           Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd nad oedd y pandemig wedi peryglu'r cynnydd sylweddol a wnaed yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac y gellid cynnal momentwm y gwelliant. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod gan y Gwasanaeth brosesau monitro cadarn ar waith i nodi a gweithredu ar unrhyw fethiant mewn perfformiad yn ogystal â threfniadau i gefnogi staff gan gynnwys buddsoddi arian i recriwtio cymorth gweinyddol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Mae cyfarfodydd y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ailddechrau a chynhelir sesiynau briffio rheolaidd gyda'r Arweinydd sydd hefyd yn Aelod Portffolio a gyda'r Prif Weithredwr.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r sefyllfa o ran arolygu ffurfiol a gofynnodd a oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn disgwyl arolygiad arall fel hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod Llythyr Adolygu Perfformiad AGC ar gyfer Ynys Môn ar gyfer 2019/20 wedi'i gyhoeddi a bod y neges yn gadarnhaol, gan nodi cryfderau yn y Gwasanaethau i Blant ac Oedolion a chydnabod y cynnydd parhaus a wnaed yn y ddau wasanaeth. Erbyn hyn mae gan AGC raglen flynyddol o arolygu thematig lle mae'n canolbwyntio ar thema benodol ar gyfer adolygu ac adrodd.  Mae cyfarfodydd gyda AGC wedi parhau’n rhithiol yn ystod y cyfnod argyfwng.

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at gam-drin domestig fel problem sy’n aml yn gudd oherwydd bod ar ddioddefwyr ofn dod ymlaen ac am eu bod yn dda am guddio'r gamdriniaeth; holodd y Pwyllgor a yw'r Gwasanaeth yn fodlon ei fod yn gwneud digon i unigolion sy'n cael eu cam-drin yn y cartref ac a roddir digon o gyhoeddusrwydd i ffyrdd o helpu a chefnogi. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro at yr elusen Safe Lives, elusen ledled y DU sy'n ceisio rhoi terfyn ar gam-drin domestig. Mae'r Gwasanaeth yn cydweithio â’r elusen hon yn ogystal â’r  gwaith ar gam-drin domestig y mae'n ei wneud mewn cydweithrediad â Gorwel, y Gwasanaeth Dysgu a gyda Heddlu Gogledd Cymru. Nod y Prosiect Un Drws Ffrynt yw gwella'r broses o nodi anghenion teulu unigol pan gaiff atgyfeiriadau eu derbyn am gam-drin domestig o fewn Gwasanaeth Plant a Theuluoedd. Mae'r Gwasanaeth yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth am ffynonellau cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig ac yn ystod y pandemig dosbarthwyd taflenni i siopau lleol i dynnu sylw at y broblem ac i hybu ymwybyddiaeth o gyfnod a allai fod wedi bod yn arbennig o anodd i ddioddefwyr.  Mae cam-drin domestig yn fater i bawb ac mae mwy y gellir ei wneud bob amser i wella ymwybyddiaeth. Rhoddodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol wybod i'r Pwyllgor am waith gyda Medrwn Môn i roi mynediad i wirfoddolwyr i'r Gronfa Ddysgu i'w helpu i nodi arwyddion o gam-drin a hefyd gyda Gorwel i godi ymwybyddiaeth o gam-drin pobl hŷn, maes na roddir cymaint o gyhoeddusrwydd iddo.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a chynnal trafodaeth lawn ar y materion perthnasol, penderfynodd y Pwyllgor –

 

           Dderbyn Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2019/20 ar y sail ei fod yn fodlon bod yr adroddiad 

 

           Adlewyrchu sefyllfa bresennol y Cyngor o safbwynt y modd y mae’n cyflawni ei Wasanaethau Cymdeithasol;

           Yn adlewyrchiad cywir o’i flaenoriaethau gwella o safbwynt y         Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ar gyfer y flwyddyn i ddod; ac

           Yn adlewyrchu atebolrwydd a chyfrifoldebau’r Cyngor o ran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

           Argymell yr Adroddiad Blynyddol drafft i'r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei gymeradwyo.

Dogfennau ategol: