Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

 

 

Cofnodion:

7.1 19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol. Yn y cyfarfod ar 8 Ionawr, 2020 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais cyn dod i benderfyniad ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 22 Ionawr, 2020.

 

Adroddwyd fod Cadnant Planning, asiant yr ymgeisydd, wedi anfon llythyr. Darllenwyd y llythyr yn ystod y cyfarfod fel a ganlyn:-

 

‘Mae’r datblygiad arfaethedig ar gyfer codi tri deg chwech o dai, gan gynnwys pedwar tŷ fforddiadwy, ar safle a ddynodwyd ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLLC). Mae dynodiad yn y CDLLC ar gyfer 56 o dai ar y safle mewn gwirionedd. Mae gofynion Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), gofynion mannau agored, yr angen am dirlunio strategol a gwelliannau biomrywiaeth, ynghyd â siâp afreolaidd y safle, yn golygu fod nifer y tai a gynigir wedi cael ei ostwng ac mae’n is na’r nifer a ragwelwyd yn y CDLLC. Wedi dweud hynny, mae’r safle’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r cyflenwad o dai yn ogystal â lleddfu pryderon am effaith traffig yn sylweddol.

 

Bu trafodaethau helaeth gyda swyddogion ac ymgyngoreion allanol i sicrhau fod holl agweddau’r datblygiad hwn yn dderbyniol. Fodd bynnag, hyd yn ddiweddar bu anghytundeb llwyr ynghylch effaith traffig. Mae eich adroddiad ysgrifenedig yn argymell gwrthod y cais fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd ar y sail y “byddai’r datblygiad arfaethedig yn ychwanegu at yr oedi a’r tagfeydd sydd eisoes yn bodoli ar ran ogleddol Ffordd Porthdafarch rhwng cyffordd Tan yr Efail a Ffordd Kingsland, fyddai’n andwyol i lif rhydd cerbydau a diogelwch ffyrdd yn y lleoliad hwn.” Fodd bynnag, mae trafodaethau wedi parhau gyda’r ymgeisydd ac mae’n barod i weithio gyda’r Cyngor i geisio datrys y problemau presennol ynghylch diogelwch ffyrdd ac ymddengys fod gennym ddatrysiad sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr yn awr.

 

Byddai’r Cyngor wedi cynnal asesiad o ba mor debygol yw’r safle o gael ei gyflawni, capasiti’r rhwydwaith ffyrdd a materion ynghylch diogelwch ffyrdd cyn ei ddynodi yn y CDLLC ac ni chodwyd unrhyw bryderon bryd hynny. Cydnabyddir hyn yn yr adroddiad i’r pwyllgor cynllunio - yn amlwg penderfynwyd fod modd cyflawni’r safle pan gafodd ei gynnwys yn y CDLLC a chadarnhawyd y sefyllfa honno gan yr Archwiliad Cyhoeddus. Bryd hynny, fel yn awr, ni fyddai unrhyw ffordd arall o gael mynediad i’r safle heblaw am ar hyd Ffordd Kingsland a Ffordd Porthdafarch.

 

Ein barn ni, a barn yr Ymgynghorwyr Trafnidiaeth arbenigol yw y byddai’r datblygiad yn dderbyniol heb unrhyw fesurau lliniaru. Daw asesiad trafnidiaeth y Cyngor ei hun i’r casgliad na fyddai disgwyl i’r cynnydd a ragwelir mewn traffig o’r datblygiad arfaethedig greu problem diogelwch ffyrdd difrifol. Fodd bynnag, mae’r ymgeisydd wedi cytuno i ariannu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a rhai mesurau gwella i geisio gwella’r sefyllfa bresennol.

 

Mae’r problemau diogelwch ffyrdd presennol yn codi oherwydd bod cerbydau yn mynd ar ben y palmant i adael i gerbydau eraill basio. Fe wnaeth eich Swyddog Priffyrdd gydnabod bod rhaid i’r Cyngor geisio datrys y broblem hon beth bynnag, hyd yn oed heb y datblygiad arfaethedig.  Mae’r cais hwn yn gyfle i’r Cyngor sicrhau rhywfaint o gymorth i ddatrys y broblem honno a deallaf fod yr argymhelliad diwygiedig a gyflwynir i chi heddiw yn caniatáu yn awr i’r datblygwr a’r Cyngor symud ymlaen â’r cynigion i leddfu pryderon presennol. Bydd y datblygwr yn ariannu’r broses hon.

 

Mae’r ffaith y dylai’r datblygiad fod yn dderbyniol yn cael ei wneud yn glir yn y gwaith y comisiynodd y Cyngor yr ymgynghorwyr Ove Arup ei wneud ac yn y sylwadau manwl a wnaed gan SCP Transport Consultants. Mae’r gwaith hwn yn cadarnhau nad oes unrhyw giwiau neu oedi sylweddol ar hyd Ffordd Porthdafarch ar hyn o bryd ac na fu unrhyw ddamweiniau yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf.

 

Dangoswyd na fyddai effaith y datblygiad yn golygu mwy nag 1 cerbyd ychwanegol bob 4 munud yn ystod awr brysuraf y dydd. Mae’r cyfan o’r uchod wedi cael ei gytuno gan Ove Arup, a gafodd gyfarwyddyd gan y Cyngor i baratoi Asesiad Trafnidiaeth annibynnol i adolygu Asesiad Trafnidiaeth yr ymgeisydd. Nid yw’r un o’r ddau ymgynghorydd priffyrdd yn ystyried fod unrhyw broblem briffyrdd gyffredinol yn gysylltiedig â’r datblygiad arfaethedig.

 

Ar sail hyn, nid ydym yn ystyried y byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi unrhyw oedi neu dagfeydd sylweddol ar ben gogleddol Ffordd Porthdafarch rhwng croesffordd Tan yr Efail a Ffordd Kingsland nac yn creu pryderon o ran diogelwch ffyrdd yn y lleoliad hwn. Credwn fod y casgliadau uchod yn dangos yn glir na fydd y datblygiad arfaethedig yn achosi unrhyw niwed sylweddol i’r rhwydwaith priffyrdd ac y dylid cymeradwyo’r caniatâd cynllunio yn awr.

 

Rydym wedi bod yn agored i drafod mesurau lliniaru amgen gyda swyddogion drwy gydol y cais ac ymddengys yn awr fod eich Swyddog Priffyrdd yn cytuno fod datrysiad derbyniol wedi cael ei ganfod yn dilyn ymgynghori. Os bydd yr un datrysiad yn dderbyniol i chi fel pwyllgor, yna gellir cymeradwyo’r cais heddiw yn unol â’r argymhelliad diwygiedig.”

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais amlinellol sy’n cynnwys manylion llawn am y fynedfa i’r safle a dyluniad y safle. Mae safle’r cais yn safle dynodedig (T11) o fewn ffin anheddiad Caergybi. Comisiynwyd Asesiad Trafnidiaeth i fesur capasiti’r rhwydwaith priffyrdd ger y safle. Cynhaliwyd asesiadau i fesur yr effaith ar fwynderau a rhoddwyd sylw iddynt drwy leihau nifer yr anheddau ar y safle a chynyddu’r pellter rhwng bob annedd. Nododd y bydd y datblygiad yn cynnwys 4 tŷ fforddiadwy ynghyd ag ardal chwarae; bydd angen cyfraniad o £73,500 tuag at addysg fel rhan o’r datblygiad, yn unol â pholisïau perthnasol. 

Adroddodd y swyddog, yn dilyn yr Asesiad Trafnidiaeth a gomisiynwyd, fod yr Adran Briffyrdd yn argymell gwrthod y cais fel y nodir yn yr adroddiad. Mae’r ymgeisydd wedi ceisio datrys y pryderon ynghylch priffyrdd ac wedi cynnig cyfrannu tuag at gost Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn yr ardal i wahardd parcio ar rannau o Ffordd Porthdafarch i ganiatáu i’r traffig lifo’n rhwyddach. Fodd bynnag, nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon y byddai hyn yn bodloni’r broses ymgynghori i sicrhau’r cyfyngiadau parcio. Mae’r Adran Briffyrdd wedi parhau i ymgynghori â’r datblygwr ac yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio gohiriwyd y cais gan fod yr ymgeiswyr wedi cynnig darn o dir yn Mountain View, Caergybi fel maes parcio ar gyfer preswylwyr lleol. Fodd bynnag, nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon y byddai hynny’n dderbyniol i ymateb i bryderon am briffyrdd yn yr ardal. Yn y cyfamser, mae’r ymgeiswyr wedi cynnig system un ffordd ac maent o’r farn y byddai’n ymateb i’r problemau traffig yn yr ardal (dangoswyd map o’r system un ffordd ar y sgrin i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion). Erbyn hyn, mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi ymateb i nodi eu bod yn fodlon mewn egwyddor â’r cynnig am system un ffordd i fynd i’r afael â phryderon priffyrdd ac erbyn hyn maent yn argymell caniatau’r cais, gan osod amod Grampian i sicrhau na fydd unrhyw waith datblygu’n cychwyn ar y safle cyn i Orchymyn Rheoleiddio Traffig gael ei gwblhau a bod system un ffordd a llwybr cyhoeddus ger y safle’n cael eu rhoi mewn lle. Os cymeradwyir y cais bydd cytundeb Adran 106 yn cael ei roi ar y caniatâd mewn perthynas ag elfen o dai fforddiadwy ar y safle a chyfraniad at addysg ac y bydd unrhyw gostau a geir mewn perthynas â’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael eu hariannu gan y datblygwr. Felly, yr argymhelliad yw caniatau’r cais gyda’r amodau a nodir uchod.

Dywedodd y Cynghorydd Trefor Ll Hughes MBE, aelod lleol, y byddai’r datblygiad hwn yng Nghae Rhos yn cael effaith andwyol ar y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal. Mae hwn yn gais sylweddol a mynegwyd nifer o bryderon yn lleol mewn perthynas â’r rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal. Dywedodd fod ffyrdd gerllaw’r safle arfaethedig yn gul a bod ceir yn cael eu parcio tu allan i eiddo pobl. Nododd fod llawer iawn o draffig yn defnyddio Ffordd Porthdafarch a bod pobl leol yn cerdded ar y palmentydd yn yr ardal hon; mae uned fwyd tecawê McDonalds wedi’i lleoli ar draws y ffordd i fynedfa Ffordd Porthdafarch. Dywedodd nad yw’r adroddiad yn nodi bod safle carafanau yn Valley of the Rocks ac mae’r cerbydau hyn yn defnyddio Ffordd Porthdafarch i gael mynediad i’r safle carafanau.

Pwysleisiodd y Cynghorydd Hughes fod y rhwydwaith priffyrdd yn annigonol i gynnal datblygiad pellach yn yr ardal; gofynnodd a fyddai’r darn o dir a gynigiwyd gan yr ymgeiswyr yn Mountain View yn cael ei gynnwys yn y cais. Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod bysiau’n gorfod mynd ar ben y palmant i basio ceir sydd wedi parcio ar Ffordd Porthdafarch ac roedd o’r farn y byddai hynny’n parhau petai system un ffordd yn cael ei rhoi ar waith. Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod y cais yn cael ei wrthod.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, aelod lleol, fod traffig sylweddol yn defnyddio Ffordd Porthdafarch, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Dywedodd fod angen dybryd am dai yng Nghaergybi ond fod problemau traffig yn yr ardal hon. Dywedodd y byddai angen defnyddio’r darn o dir yn Mountain View fel maes parcio,  wedi’i ei oleuo’n ddigonol, ar gyfer preswylwyr yr ardal petai’r cais yn cael ei gymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei bod yn amlwg yn ystod yr ymweliad safle fod hwn yn lle dymunol i fyw ond y byddai’r cynnydd mewn traffig yn yr ardal yn cael effaith niweidiol ar breswylwyr lleol ac y byddai Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael effaith ar breswylwyr hefyd. Dywedodd na allai gefnogi cais o’r fath a fyddai’n cael effaith niweidiol ar fwynderau preswylwyr lleol a phobl fyddai’n byw yn y datblygiad newydd. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i wrthod y cais.

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith y bydd y system un ffordd arfaethedig yn cael effaith ar nifer o breswylwyr yn yr ardal, yn enwedig ar hyd y rhwydwaith priffyrdd o uned tecawê McDonalds ac ar hyd Ffordd Porthdafarch. Dywedodd y gallai’r problemau effeithio ar Ffordd Kingsland hefyd pe byddai system un ffordd yn cael ei gweithredu. Gofynnodd y Cynghorydd Griffith a gynhelir ymgynghoriad â thrigolion lleol ynghylch y system un ffordd arfaethedig. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gosod amodau ar unrhyw ganiatâd ac un o’r amodau yw amod Grampian fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y system un ffordd arfaethedig fel rhan o’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Byddai unrhyw wrthwynebiad yn cael ei ystyried, ond byddai methu â sicrhau Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn golygu na fyddai modd i’r cais symud yn ei flaen yn unol â’r amodau arfaethedig, a byddai’n rhaid iddo gael ei ailystyried gan yr Awdurdod Cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen y byddai’n cefnogi’r cais gyda’r amodau a amlinellwyd gan y Swyddogion yn y cyfarfod. Cynigodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y map a ddangoswyd yn y Pwyllgor hwn yn dangos y system draffig un ffordd arfaethedig yn yr ardal ac roedd o’r farn y byddai’n fwy buddiol i’r preswylwyr lleol fedru parcio’n ddiogel ar y ffordd. Gofynnodd a oedd yr Awdurdod Priffyrdd yn dymuno gwneud sylwadau ynghylch y system un ffordd arfaethedig. Dywedodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu (Priffyrdd) fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi bod yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon am y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal. Nododd y byddai’r system un ffordd yn dderbyniol a nododd fod system un ffordd ar Stryd Arthur yn barod ac felly ni fyddai’n cael ei effeithio gan y datblygiad hwn. Ychwanegodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu (Priffyrdd) fod pryderon ynghylch ceir yn mynd ar ben y palmant i basio ceir sydd wedi parcio ar Ffordd Porthdafarch a bod hyn yn annerbyniol i bobl sy’n cerdded ar y palmant; byddai system un ffordd yn lleddfu’r broblem o bacio dwbl a phroblemau diogelwch y ffordd. Dywedodd y Swyddog fod yr Awdurdod Priffyrdd yn argymell yn awr fod y cais yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ynghylch y system un ffordd ar y briffordd, ac y dylid rhoi’r system honno mewn lle cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad ar y safle.

Eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig i gymeradwyo’r cais.

Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad diwygiedig y Swyddog, yn amodol ar:-   

·           roi hawl dirprwyedig i swyddogion Cynllunio osod amodau cynllunio addas:-

·        amod Grampian mewn perthynas â gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig cyn i unrhyw waith datblygu gychwyn ar y safle; 

·        bod cytundeb cyfreithiol Adran 106 yn cael ei weithredu er mwyn sicrhau tai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad a chyfraniad at addysg, a bod y datblygwr yn ariannu cost y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.

 

Dogfennau ategol: