Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Refeniw – Chwarter 1, 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2020/21

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Chwarter 1 2020/21 wedi bod yn gyfnod hynod heriol i'r Cyngor, dinasyddion yr Ynys a'i busnesau gan ei fod yn cyd-ddigwydd â dyfodiad y pandemig Coronafeirws, gan olygu bod cynlluniau wedi eu rhoi ar stop am y tro yn ystod y cyfnod oherwydd canolbwyntio ar ddelio â'r sefyllfa argyfwng. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn llwyddo i gadw ei ben uwchben y dŵr yn ariannol a hynny, i raddau helaeth, oherwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu £232m hyd yma i gwrdd â chostau ychwanegol a gafodd Cynghorau yng Nghymru wrth ddelio â'r pandemig. Mae'r sefyllfa ariannol a ragwelir ar gyfer 2020/21 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa'r Dreth Gyngor bron yn sefyllfa cyllideb gytbwys gyda gorwariant bach o £0.027m, sef 0.02% o gyllideb net y Cyngor. Fodd bynnag, dylid nodi ei bod yn anodd, ar y gorau, rhagweld beth fydd y sefyllfa derfynol  erbyn diwedd y flwyddyn ar ddiwedd Chwarter 1 gan y gall y sefyllfa newid yn sylweddol wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Ar gyfer 2020/21 mae ceisio rhagweld y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn hyd yn oed yn anos oherwydd ei bod yn dal yn aneglur pryd y bydd rhai o wasanaethau'r Cyngor yn dychwelyd i'w trefn arferol a beth fydd y costau ychwanegol o ddarparu'r gwasanaethau hynny mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o ymlediad y feirws. Mae'r pwyntiau i'w nodi yn cynnwys y canlynol –

 

           Gan fod mwyafrif yr ysgolion wedi bod ar gau am bob wythnos heblaw am un yn nhymor yr haf, maent wedi cael llai o gostau nag  arfer; bydd unrhyw danwariant yn sgil hynny’n cynyddu balansau’r ysgolion gan nad yw'r Cyngor yn bwriadu crafangu'n ôl ddim o'r tanwariant hwnnw.

           Gorwariwyd £716k ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion am y cyfnod a rhagwelir gorwariant o £195k ar gyfer y flwyddyn gyfan. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, wrth dynnu sylw at y ffaith nad yw hyn yn cynnwys y grant pwysau’r gaeaf posib oherwydd nad yw'r Cyngor wedi cael cynnig o grant ar gyfer pwysau'r gaeaf hyd yma, fod yr ansicrwydd hwn yn achos pryder ac yn rhwystro gwneud cynlluniau ac anogodd Lywodraeth Cymru i ymgorffori Cyllid Pwysau'r Gaeaf o fewn y setliad cyffredinol i’r Cyngor bob blwyddyn er mwyn rhoi i'r Cyngor yr eglurder sydd ei angen arno i barhau i ddarparu gwasanaethau y mae'r cyllid yn helpu i'w cefnogi.

           'Roedd tanwariant o £292k yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y cyfnod a rhagwelir y bydd tanwariant o £1.382k ar ddiwedd y flwyddyn. Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi gweld gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i'r gwasanaeth a gostyngiad bach yn nifer y plant sy'n dod i ofal yr Awdurdod Lleol.

           ‘Roedd gorwariant o £32k ar y Gwasanaeth Gwastraff yn y cyfnod a rhagwelir y bydd y sefyllfa alldro ar ddiwedd y flwyddyn yn orwariant o £10k, sy’n cynnwys gorwariannau a thanwariannau digolledol mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth. Un ffactor yw'r gostyngiad ym mhris deunydd ailgylchadwy gan fod y cyflenwad yn fwy na'r galw

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid sylw arbennig at nifer gynyddol y perchnogion ail gartrefi sy'n ailddynodi eu heiddo fel busnesau, a bod hynny’n achos pryder penodol ar hyn o bryd oherwydd y goblygiadau i incwm y Cyngor (Mae'r adroddiad yn cyfeirio at erydiad parhaus y sylfaen dreth wrth i nifer sylweddol o eiddo hunanarlwyo symud i'r gofrestr trethi busnes). Mae  perchnogion ail gartref sy'n medru dangos i Asiantaeth y Swyddfa Brisio fod eu heiddo ar gael i'w osod am 140 diwrnod y flwyddyn ac yn cael ei osod am 70 diwrnod yn gallu cofrestru i dalu trethi busnes yn lle'r Dreth Gyngor (sy'n cynnwys premiwm ail gartref) ac fel busnesau bach gallant hefyd fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Gwaethygir y broblem gan y ffaith y gellir ôl-ddyddio'r cofrestriad sawl blwyddyn gan olygu bod yn rhaid i'r Cyngor, yn ogystal â cholli incwm, ad-dalu perchnogion ail gartrefi am y dreth gyngor a dalwyd ganddynt. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod siroedd arfordirol fel Ynys Môn lle mae nifer uchel o ail gartrefi yn cael eu heffeithio’n arbennig a galwodd ar Lywodraeth Cymru i newid y gyfraith i atal hyn rhag digwydd ac i sicrhau bod angen caniatâd cynllunio i droi eiddo preswyl yn llety gwyliau fel sy'n ofynnol ar gyfer unrhyw newid defnydd arall.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod elfen o ansicrwydd yn y ffigyrau ar gyfer Chwarter 1 yn y flwyddyn beth bynnag ond mae'r ansicrwydd hwnnw'n fwy eleni oherwydd y pandemig. Mewn blwyddyn arferol mae ffigyrau'n newid wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen ac wrth i'r sefyllfa ariannol esblygu ond mae'r ansicrwydd presennol ynghylch cyfnod clo arall o bosib, cyflymder yr adferiad a chymorth gan y Llywodraeth ynghyd â phwysau'r gaeaf yn golygu bod y ffigyrau yn yr adroddiad yn sicr o newid. Mae'r sefyllfa ariannol yn well na'r hyn a adroddwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Gorffennaf gan fod Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â chostau ychwanegol a gafodd y Cyngor a'r incwm a gollwyd. Hyd yma, gwnaed 3 hawliad mewn perthynas ag argyfwng Covid 19 i Lywodraeth Cymru oherwydd gwariant ychwanegol a gafwyd yn ystod Chwarter 1. Ar gyfer dibenion adrodd ar Chwarter 1, defnyddiwyd ffigwr o £725k i bwrpas rhagweld ffigyrau o ran colli incwm oherwydd bod y swm hwn wedi ei gadarnhau gan  Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ryddhau i gwrdd ag incwm a gollir yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol ond nid yw hyn wedi'i gymryd i ystyriaeth yn y rhagolwg. Bydd derbyn yr arian ychwanegol hwn yn gwella sefyllfa ariannol rhai gwasanaethau o gymharu â'r rhagolwg.

 

Rhagwelir y bydd y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn dod o dan bwysau wrth i'r cynllun cymorth swyddi ddod i ben ac wrth i'r gyfradd ddiweithdra godi - mae trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch a fydd yn ariannu awdurdodau lleol ar gyfer y baich ychwanegol o gwrdd â mwy o hawliadau. Mae Covid-19 hefyd yn effeithio ar gasglu'r Dreth Gyngor a chynyddwyd y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg i adlewyrchu'r effaith hon; ym mis Awst, 2020, roedd y gyfradd gasglu i lawr 1.67% o'i chymharu â'r un cyfnod y llynedd sy'n cyfateb i oddeutu £750k. Er bod y sefyllfa ariannol wedi gwella dros yr wythnosau diwethaf mae'r rhagolygon yn parhau i fod yn ansicr gyda risgiau penodol o gwmpas cyfnod y gaeaf sy'n gyfnod heriol pan all y galw ar wasanaethau gynyddu, gan olygu mwy o gostau i'r  Cyngor o ganlyniad.

 

Codwyd y materion canlynol wrth i'r Pwyllgor Gwaith  drafod yr adroddiad -

 

           Er bod y Pwyllgor Gwaith yn ddiolchgar am y cymorth a ddarparwyd  gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau yng Nghymru hyd yma, roedd cwestiynau am ba mor bell y gallai fynd oherwydd bydd yr ardaloedd cyngor hynny sydd o dan gyfyngiadau llymach ar hyn o bryd angen mwy o gymorth. Nodwyd bod hyfywedd ariannol cynghorau yn dibynnu ar barhau i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â phwysau gwario parhaus a cholli incwm. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y sefyllfa'n dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys yr angen cynyddol yn sgil cyfyngiadau lleol llymach yn yr ardaloedd lle maent mewn grym; maint y cymorth i gartrefi preswyl a nyrsio preifat sy'n rhan o'r gyllideb gymorth a hyd a difrifoldeb y cyfyngiadau cloi dros y misoedd nesaf a fydd yn effeithio ar incwm y cyngor. Os bydd yr incwm a gollir gan y cynghorau yn cyrraedd y £78m a welwyd yn Chwarter 1 yn y chwarteri dilynol, byddai hynny'n cymryd rhan fawr o'r pecyn cymorth diweddaraf o £260m. Ar ben hynny, mae'r costau ychwanegol parhaus o gydymffurfio â rheolau Covid-19 a'r galw ar y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor sy'n golygu nad yw'r pecyn yn debygol o fod yn ddigon i gwrdd â phopeth a allai ddigwydd; ond heb gymorth o'r fath bydd cynghorau'n eu cael eu hunain mewn sefyllfa anodd iawn.

           Pryder ynghylch colli incwm ac am ba hyd y gall y Cyngor gynnal lefelau incwm is. Cyfeiriwyd yn benodol at atal ffioedd parcio dros gyfnod yr argyfwng a gofynnwyd hefyd a oedd cau canolfannau hamdden y Cyngor wedi arwaint at unrhyw gynnydd yn nifer y bobl a ddaeth â'u tanysgrifiadau debyd uniongyrchol i ben. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 na chasglwyd taliadau debyd uniongyrchol cwsmeriaiaid y canolfannau hamdden yn ystod misoedd cychwynnol Covid-19 pan gaewyd y canolfannau ond eu bod wedi ailddechrau ers hynny. Fodd bynnag, oherwydd llai o gapasiti a chyfyngiadau Covid, mae'r hyn y gellir ei gynnig yn y canolfannau hamdden yn gyfyngedig a gallai hynny arwain at rai pobl yn ailfeddwl ynghylch parhau i dalu eu tanysgrifiad; ar ben hynny mae argyfwng Covid 19 wedi rhwystro'r ymgyrch i gynyddu lefelau incwm y canolfannau hamdden y buddsoddwyd yn y canolfannau  fel rhan ohoni.  Bydd Llywodraeth Cymru yn cwrdd â'r diffyg yn yr incwm o ganlyniad i'r gwahaniaeth rhwng y niferoedd sy'n mynychu eleni a'r nifer a fynychodd y llynedd - ond ni fydd yn cwrdd â'r golled incwm bosib. O ran ffioedd parcio, bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu  incwm a gollwyd oherwydd bod llai o ymwelwyr mewn trefi ond efallai na fydd yn ad-dalu incwm a gollwyd o ganlyniad i benderfyniad a wnaed yn lleol gan y Cyngor i gynnig parcio am ddim, er bod y modd y mae'r incwm a gollwyd yn cael ei rannu rhwng y ddau yn destun trafodaeth. Mae incwm parcio yn £500k y flwyddyn i'r Cyngor ac fel arall bydd yn rhaid ei adennill trwy'r Dreth Gyngor. Roedd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo o'r farn y gallai fod yn rhaid i'r Cyngor ailddechrau codi tâl parcio ym mis Hydref a chynnig parcio am ddim o bosib dros gyfnod y Nadolig yn ei le.

           Roedd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn cytuno bod nifer y perchnogion ail gartrefi sy'n symud o dalu'r dreth gyngor i dalu trethi busnes yn fater y mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw iddo. Nodir hefyd y gall perchnogion ail gartref sydd wedi ailgofrestru eu heiddo fel busnesau hawlio grant cymorth busnes ac ymhellach, fod nifer gynyddol o ail gartrefi ar stadau preswyl ac yn aml yn cael eu gosod fel unedau gwyliau sy'n cael effaith niweidiol ar fwynderau'r gymuned o’u cwmpas. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, ers cyflwyno'r premiwm Treth Gyngor, fod llif graddol o ail gartrefi wedi trosglwyddo i'r gofrestr trethi busnes a'i bod wedi dod yn amlwg bod nifer gynyddol o bobl yn prynu ail gartrefi fel buddsoddiadau ac yn eu gosod i gael incwm a dyna pam mae cartrefi o'r fath yn dod i'r amlwg ar stadau preswyl. Dim ond os ydynt wedi cael eu cadarnhau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio fel eiddo sy’n cwrdd â’r meini prawf y gellir ailgofrestru ail gartrefi fel busnesau - ar hyn o bryd mae 30 o gartrefi o'r fath yn aros am benderfyniad a gellir ôl-ddyddio cofrestriad. Mewn perthynas â grantiau cymorth busnes, mae'r  Cyngor yn disgwyl am wybodaeth ategol ychwanegol fel sy'n ofynnol o dan y cynllun mewn perthynas â 70 o geisiadau am grant gan berchenogion ail gartrefi;  nid yw'r wybodaeth hon wedi dod i law eto a thynnir sylw Asiantaeth y Swyddfa Brisio at y ceisiadau hyn.  Mae'r diffyg gwybodaeth i ddilysu'r ceisiadau yn yr achosion hyn hefyd yn codi mater ehangach, sef bod angen monitro’n barhaus yr ail gartrefi hynny sydd wedi'u cofrestru fel busnesau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gwrdd â'r meini prawf ar gyfer cael eu prisio i dalu trethi busnes.

 

Er ei fod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cael ei lobïo o'r blaen ynghylch trosglwyddo ail gartrefi i'r gofrestr trethi busnes, roedd y Pwyllgor Gwaith yn gytûn y dylai'r Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid a'r Swyddog Adran 151 ysgrifennu llythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi am ailystyried y mater a newid y gyfraith i'w atal rhag digwydd.

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad Ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2020/21 gan nodi hefyd fod y sefyllfa yma’n ddibynnol ar gymorth parhaus Llywodraeth Cymru i gyllido’r golled ariannol a’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i Coronafeirws.

           Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad;

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad;

           Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithiolrwydd 2020/21 yn Atodiad D yr adroddiad;

           Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2020/21 yn Atodiadau DD, E ac F yr adroddiad;

           Bod llythyr ar y cyd yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru gan y Deilydd Portffolio Cyllid a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 i amlygu pryder parhaus ynghylch nifer gynyddol yr ail gartrefi sy’n cael eu hailddynodi’n fusnesau ac effaith hynny ar incwm y Cyngor, yn arbennig dan yr amgylchiadau heriol presennol, ac annog Llywodraeth Cymru i ystyried diwygio’r gyfraith i atal hyn rhag digwydd.

 

Dogfennau ategol: