Eitem Rhaglen

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2021/22 – 2023/24

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori'r Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) am y cyfnod 2021/22 i 2023/24 . Mae'r Cynllun yn nodi anghenion tebygol y Cyngor o ran yr adnoddau y bydd raid wrthynt ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf ac yn manylu ar sut mae'r Cyngor yn bwriadu cydbwyso'r gofyn am  adnoddau â'r cyllid sydd ar gael.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y Cynllun wedi'i gwblhau yn ystod cyfnod o ansicrwydd ynghylch economi'r DU yn dilyn ymlaen o'r pandemig byd-eang a'r trafodaethau sy'n parhau ynghylch Brexit; bu rhoi’r Cynllun at ei gilydd o dan yr amgylchiadau hyn yn dasg heriol. Mae ystod o ffactorau yn debygol o effeithio ar y rhagdybiaethau a wnaed yn y Cynllun wrth i argyfwng Covid-19 barhau, gan gynnwys dod â'r cynllun cymorth swyddi i ben a chynnydd disgwyliedig mewn diweithdra a fydd yn cael effaith ar yr economi leol gyda goblygiadau ar gyfer refeniw treth y Cyngor a cheisiadau am arian dan y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyllid ychwanegol i gynorthwyo'r Cyngor i ymateb yn lleol i'r pandemig, ni fu unrhyw arwyddion hyd yma ynglŷn â'r setliad i lywodraeth leol ar gyfer 2021/22. Yn seiliedig ar y llynedd, disgwylir cael gwybodaeth am y setliad dangosol ym mis Rhagfyr / Ionawr ond gall y ffigyrau fod wedi newid  erbyn i'r setliad terfynol gael ei gyhoeddi. Er gwaethaf yr holl ansicrwydd, bydd yn ofynnol i'r Cyngor baratoi cyllideb gytbwys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai pwrpas y Cynllun Ariannol Tymor Canol yw ceisio rhagweld  costau darparu gwasanaethau yn ystod y tair blynedd nesaf yn erbyn amcangyfrif o'r adnoddau fydd ar gael, ynghyd â llywio cwrs i bontio'r bwlch cyllidebol ar gyfer pob un o'r tair blynedd. Er y gellir rhagweld y costau gan gymryd i ystyriaeth newidiadau sy'n hysbys a thrwy wneud rhagdybiaethau diwygiedig am y prif ffactorau sy'n effeithio ar gyllideb refeniw'r Cyngor gan gynnwys costau tâl, chwyddiant, pensiynau a'r galw, nid oes unrhyw wybodaeth hyd yma ynglŷn â lefel y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol am 2021/22. Y gobaith oedd bod y setliad gwell i lywodraeth leol ar gyfer 2020/21 yn drobwynt lle byddai awdurdodau lleol yn dechrau cael eu hariannu i'r lefel sydd ei hangen arnynt i ddarparu gwasanaethau yn effeithiol ond mae argyfwng Covid 19 wedi bwrw amheuaeth ar y canlyniad hwn. Mae adran 5 yr adroddiad yn nodi'r pwysau cyllidebol cenedlaethol a lleol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu a sut y bwriedir cynnwys y rhain yn y CATC. Mae Tabl 3 yr adroddiad yn dangos y gyllideb ddigyfnewid a ragwelir ar gyfer pob un o'r tair blynedd rhwng 2021/22 a 2023/24. Mae'r amcangyfrif (cost parhau i ddarparu gwasanaethau i'r un lefel ac yn yr un modd ag yn 2020/21) yn gynnydd arian parod o 8.6% dros y cyfnod o 3 blynedd (ond heb gynnwys costau sy'n gysylltiedig â Covid-19) . Ariennir y gyllideb ddigyfnewid dybiedig gan y Cyllid Allanol Cyfun a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru (sy'n cynnwys y Grant Cymorth Refeniw a chyllid cyfun NNDR) ac o'r Dreth Gyngor leol. Mae Tabl 4 yr adroddiad yn dangos effaith gwahanol newidiadau yn y Cyllid Allanol Cyfun ar gyllid y Cyngor a lefel y Dreth Gyngor y byddai'n rhaid ei gosod yn unol â hynny. Byddai gostyngiad o 1% yn y Cyllid Allanol Cyfun yn golygu y byddai angen cynnydd o 3% yn y Dreth Gyngor er mwyn sicrhau bod lefel y cyllid mewn termau arian parod yn aros o leiaf ar lefel 2020/21 tra byddai gostyngiad o 2% yn golygu codiad o 6% yn y Dreth Gyngor. Ar gyfer 2021/22, byddai angen cynnydd o 3% yn y Cyllid Allanol Cyfun a 9% yn y Dreth Gyngor er mwyn ariannu'r cynnydd o £6.059m yn y Gyllideb Ddigyfnewid.

 

Gan ei bod yn annhebygol iawn y bydd cynnydd o 3% yn y Cyllid Allanol Cyfun, byddai angen cynnydd o fwy na 10% yn y Dreth Gyngor i ariannu'r gyllideb ddigyfnewid o £148.2m yn 2021/22. Felly mae angen gwneud arbedion yn 2021/22 er mwyn cydbwyso'r gyllideb. O ystyried bod yr ffyrdd traddodiadol o sicrhau arbedion effeithlonrwydd bellach wedi'u dihysbyddu, bydd yn rhaid i'r toriadau cyllidebol ddod o newidiadau yn y ffordd y mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau a gostyngiad yn y gwasanaethau a ddarperir. Bydd ceisio darparu'r  gwasanaethau a roddir ar hyn o bryd gyda gostyngiadau sylweddol yn y cyllid yn arwain at orwario cyllidebau'n  barhaus, gostyngiadau pellach yn lefel y balansau cyffredinol a risg sylweddol i hyfywedd ariannol y Cyngor. Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd er mwyn i'r Cyngor allu darparu cyllideb gytbwys, sy'n adlewyrchiad gwirioneddol o gost rhedeg y gwasanaethau y mae'n eu darparu.

 

Wrth gytuno bod y rhagolygon yn heriol iawn amlygodd y Pwyllgor Gwaith y canlynol -

 

           Y rôl hollbwysig y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi'i chwarae wrth ymateb i argyfwng Covid-19 a chadw gwasanaethau hanfodol i fynd trwy gydol y cyfnod a chefnogi'r rhai mwyaf bregus yn ein  cymunedau. I gydnabod hynny dylid dyfarnu setliad cyllido teg iddynt fel y gallant gwrdd â'r pwysau a'r galw ar wasanaethau yn iawn, ac i  helpu i gefnogi adferiad economaidd.

           Nad yw lefel yr arbedion y mae awdurdodau lleol wedi gorfod eu gwneud dros sawl blwyddyn - £24.616m gan Gyngor Sir Ynys Môn yn y cyfnod rhwng 2013/14 a 2020 / 21- yn gynaliadwy.

           Pe bai'r Cyngor yn cael ei ariannu'n briodol yn unol ag angen, ni fyddai trethdalwyr lleol - y bydd Covid-19 yn effeithio'n economaidd ar lawer ohonynt - yn gorfod cwrdd â'r diffyg blynyddol yng nghyllideb y Cyngor trwy godiadau mawr yn y Dreth Gyngor.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys Cynllun Ariannol Tymor Canol 2020/21 - 2023/24 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau a wneir yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: