Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i 'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad blynyddol drafft y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2019/20 . Mae cyhoeddi'r adroddiad yn ofyniad statudol a'i bwrpas yw hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am berfformiad a chynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf o ran darparu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn, yn ogystal ag amlinellu blaenoriaethau ar gyfer gwella.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Mr Alwyn Jones, y cyn- Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a fu’n cyflawni’r  swydd am y rhan fwyaf o'r cyfnod a gwmpesir gan yr Adroddiad Blynyddol, am arwain ar y gwaith y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef. Diolchodd hefyd i Mr Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol am drosglwyddiad llyfn a chyfeiriodd at ehangder y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl pan fyddant mewn angen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod yr adroddiad yn darparu tystiolaeth helaeth ac eang o waith a gweithgareddau'r Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn 2019/20 wrth ddarparu gwasanaethau i bobl Ynys Môn. Lluniwyd yr Adroddiad Blynyddol ar ffurf a benodir gan ofynion adrodd sydd wedi eu cynnwys mewn canllawiau statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn hwylus ac yn hawdd ei ddeall. Yn unol â'r gofynion hefyd, mae'r adroddiad yn dogfennu perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol am y flwyddyn o dan y chwe safon ansawdd y mae disgwyl i awdurdodau lleol eu cyflawni o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gan gynnwys y camau a gymerwyd i gyflawni'r safonau ansawdd. O ran amgylchiadau lleol, tynnodd y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at nifer o fentrau newydd a gynhaliwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ynys Môn yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys mewn cydweithrediad gyda'r Elusen Achub Bywydau mewn perthynas â cham-drin domestig a chyda Voices from Care Cymru mewn perthynas â sefydlu grŵp cyfranogi misol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Mae datblygu mecanweithiau i wrando'n well ar lais defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn ffocws penodol yn ystod 2019/20.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn dilyn trafodaeth gynhyrchiol ar yr Adroddiad Blynyddol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 22 Medi, fod y Pwyllgor wedi penderfynu derbyn yr Adroddiad Blynyddol drafft gan ei fod yn fodlon bod yr adroddiad yn cyfleu sefyllfa bresennol y Cyngor o ran darparu Gwasanaethau Cymdeithasol; ei fod yn adlewyrchu'n gywir y blaenoriaethau gwella ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn adlewyrchu atebolrwydd a chyfrifoldeb y Cyngor mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'i fod yn hapus i argymell yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i'r Rheolwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a'r staff am eu hymdrechion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae’r adroddiad yn tystio iddynt.

 

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol drafft y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol ac argymell yr adroddiad i’r Cyngor Llawn.

Dogfennau ategol: