Eitem Rhaglen

Ymateb y Cyngor i'r Argyfwng Covid-19

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i’r pandemig Covid-19 hyd yn hyn, yn unol â’i gyfrifoldebau dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posib 2004, o ran paratoi ar gyfer argyfwng a chydlynu’r ymateb ar lefel leol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ymateb i’r pandemig yn parhau ac y bydd pawb yn wynebu cyfnod ansicr a heriol. Er bod y Cyngor wedi canolbwyntio’n bennaf ar ymateb i’r argyfwng Covid-19, yn ystod yr wythnosau diwethaf bu’n cynllunio rhaglen adfer ac yn gwneud cynlluniau i ailagor gwasanaethau cyhoeddus yn raddol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y gwaith ardderchog a wnaed gan staff, aelodau etholedig a sefydliadau partner yn y cymunedau.

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad manwl mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i’r pandemig a gwaith ar y cyd â’r trydydd sector. Cyfeiriodd yn benodol at:-

·           Trefniadau Llywodraethu - rhoddwyd trefniadau llywodraethu ar gyfer y cynlluniau argyfwng ar waith yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol i arwain yr ymateb i’r pandemig. Ar lefel ranbarthol, mae hyn wedi’i arwain a’i gydlynu gan y Fforwm Gwytnwch Lleol (lle mae’r sector cyhoeddus yn cydweithio) trwy’r Grŵp Cydlynu Strategol (GCS). Mae’r Cyngor wedi cyfrannu’n llawn at waith is-grwpiau thematig penodol sy’n adrodd i’r GCS ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Marwolaethau ychwanegol, y Cyfryngau a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE).

·           Meysydd Risg Allweddol – crëwyd cofrestr risg benodol o’r cychwyn cyntaf ac mae’n cael ei hadolygu a’i diweddaru bob wythnos. Mae’r risgiau allweddol wedi’u blaenoriaethu o ran amser ac ymdrech ac roedd y risgiau hyn yn cynnwys cartrefi gofal, profi ac olrhain cysylltiadau, cyfarpar diogelu personol, delio ag achosion, cefnogi teuluoedd bregus, yr effaith ar sefyllfa ariannol y Cyngor a’r effaith ar weithlu’r Cyngor.

·           Allbynnau'r Llif Gwaith Cymunedol (gan gynnwys mewnbwn Medrwn Môn a Menter Môn)

 

Mae’r holl wasanaethau o fewn y Cyngor Sir wedi gweithio’n dda gyda’i gilydd er mwyn bodloni anghenion preswylwyr Ynys Môn yn ystod y pandemig, ac mae anghenion preswylwyr wedi amrywio’n sylweddol drwy gydol y pandemig. Mae’r cydweithio rhwng meysydd gwasanaeth allweddol wedi bod yn rhagorol yn ystod y cyfnod hwn, ac mae hyn wedi cynnwys darpariaeth gwasanaeth creadigol a gwahanol iawn. Yn Ynys Môn, sefydlwyd partneriaeth i ddarparu cymorth i bobl fregus yn ein cymunedau yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig.

 

Sefydlodd y Cyngor linell ffôn ymateb brys benodol a oedd ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Roedd gwybodaeth, cyngor a chymorth yn y cymunedau lleol ar gael drwy Bwynt Mynediad Sengl yn y gymuned a hwyluswyd gan Medrwn Môn a gyda chefnogaeth y Cydlynwyr Asedau Lleol (asiantiaid cymunedol sy’n cysylltu unigolion ag asedau a gwasanaethau cymunedol). Yn ystod y cyfnod clo, sefydlwyd dau fanc bwyd dros dro ar yr Ynys, un yn Llangefni a’r llall ym Mhorthaethwy trwy’r llif gwaith bwyd a oedd yn cynnwys y Gwasanaethau Tai, Banc Bwyd Ynys Môn a’r CAB. Roedd y banciau bwyd ychwanegol hyn yn gweithio ar y cyd â’r banciau bwyd sydd eisoes wedi hen sefydlu ac sy’n gweithredu yng Nghaergybi ac Amlwch. Yn ystod y cyfnod clo, a hyd at 28 Gorffennaf, dosbarthwyd 742 o becynnau bwyd o’r 4 banc bwyd sy’n gweithredu ar yr ynys. Sefydlodd Menter Môn, ar y cyd â bwyty Dylan’s y prosiect Neges a oedd yn dosbarthu pecynnau bwyd i unigolion yn ystod y cyfnod. Hefyd, mae Medrwn Môn yn rhedeg Rhaglen Un Pwynt Mynediad a Phresgripsiynu Cymdeithasol o’r enw Linc Cymunedol Môn a ddefnyddiwyd i gydlynu elfen cefnogaeth gymunedol yr ymateb.

 

Gellir gweld canlyniad y gwaith partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Medrwn Môn yn adran 5.1.3 yr adroddiad.

 

 

·           Cydweithio o ran Profi a’r Strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu (TTP)

 

Cydnabu’r Cyngor fod ganddo rôl allweddol i’w chwarae o ran gweithgaredd haen leol yn unol â’r Canllawiau Cenedlaethol. Adolygodd yr Awdurdod y Strategaeth a chysylltodd ag Awdurdodau Lleol eraill, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu prosiect peilot Olrhain Cysylltiadau ar yr Ynys i lywio datblygiad y drefn Profi, Olrhain a Diogelu Rhanbarthol. Mae tîm cyflogedig bellach wedi’i sefydlu i sicrhau bod y broses Olrhain Cysylltiadau yn cael ei gweithredu’n effeithiol tan fis Mawrth 2021. Nodwyd fod yr achosion o’r haint yn ffatri ddofednod 2 Sisters yn Llangefni wedi cael eu rheoli’n effeithiol ac nid ymledodd i’r gymuned.

 

·           Gwersi a Ddysgwyd a’r Ffordd Ymlaen

 

Wrth ddelio ag unrhyw argyfwng a sicrhau bod y Cyngor yn datblygu ymhellach, mae angen pwyso a mesur ynghyd â dysgu a chasglu gwybodaeth allweddol i lywio cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Cynhaliwyd ymarfer myfyrio a dysgu cychwynnol ddiwedd mis Mehefin 2020. Roedd hwn ar ffurf dadansoddiad SWOT (cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau) a gwblhawyd gan bob aelod o’r tîm rheoli yn eu meysydd gwasanaeth ac a gasglwyd ynghyd mewn un ddogfen gan y Penaethiaid Gwasanaeth/Cyfarwyddwyr.

 

Croesawodd y Cadeirydd Brif Swyddog Medrwn Môn i’r cyfarfod a gofynnwyd iddi gyflwyno sylwadau ar y gwaith a wnaed ar y cyd â’r Awdurdod yn ystod y pandemig.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn fod y gwaith partneriaeth rhagorol â’r Awdurdod dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn fanteisiol o ran y gwaith a wnaethpwyd yn ystod y cyfnod ansicr yn sgil y pandemig Covid-19. Amlinellodd y gwaith ar y cyd mewn perthynas â Chynllunio Lle, Cysylltiadau Cymunedol a’r Cynllun Tro Da mewn cymunedau lleol a’r gwaith partneriaeth â Menter Môn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·           Gofynnwyd a oedd y Cyngor wedi blaenoriaethu a rheoli ei adnoddau’n effeithiol mewn ymateb i’r argyfwng. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod angen i’r Awdurdod roi sylw i’r ymateb i’r argyfwng ac i barhau i allu darparu gwasanaethau hanfodol i drigolion yr Ynys. Nododd fod sicrhau cyfarpar diogelu personol i staff yr awdurdod a gwirfoddolwyr oedd yn cynorthwyo’r Cyngor yn holl bwysig ar gychwyn y pandemig. Bu’r Cyngor hefyd yn gweithio â busnesau lleol i sicrhau fod cyflenwadau hanfodol ar gael i gynorthwyo’r trydydd sector gyda’u gwaith mewn cymunedau lleol. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi sefydlu ei raglen Tracio ac Olrhain ei hun sydd erbyn hyn yn gweithredu ar lefel genedlaethol. Roedd o’r farn fod y Cyngor wedi blaenoriaethu a rheoli ei adnoddau’n effeithiol;

·           Gofynnwyd a fyddai’r Cyngor wedi ymateb yn wahanol i gynorthwyo cymunedau lleol a busnesau yn ystod yr argyfwng. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod cyfathrebu ar lefel genedlaethol yn bwysig ynghyd â dysgu gwersi gan yr awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig monitro’r data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i herio’r data cenedlaethol ac i herio data hwyr;

·           Cyfeiriwyd at densiynau cymunedol o ran twristiaid yn ymweld â’r Ynys. Gofynnwyd beth oedd y trefniadau cydweithio â’r Heddlu i liniaru’r tensiynau cymunedol hyn. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod proses 3 haen ar gyfer ymateb i’r argyfwng. Mae’r Heddlu’n cadeirio’r Grŵp Ymateb a gwnaethpwyd gwaith ar lefel ranbarthol gan y grŵp.  Rhannwyd gwybodaeth am waith yr heddlu ar yr Ynys drwy’r orsaf Heddlu lleol yn Llangefni ac mae Adran Gwarchod y Cyhoedd hefyd yn gweithio’n agos â’r heddlu wrth ymweld â busnesau ar yr Ynys i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheolau’r pandemig ar eu safleoedd;

·           Nodwyd fod y bwrdd iechyd lleol dan bwysau i sicrhau bod digon o welyau ar gael i ddelio â’r pandemig ar gychwyn y pandemig. Dywedwyd fod nifer o bobl wedi cael eu rhyddhau o ysbytai lleol a’u hanfon i gartrefi gofal heb roi prawf am y firws iddynt yn ystod mis Mawrth ac Ebrill. Dywedodd Arweinydd y cyngor fod pryderon ynghylch pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbytai wedi cael eu codi yng Ngrŵp Arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a bu pwysau gwleidyddol i newid y polisi fel bob pobl yn cael eu profi cyn cael eu rhyddhau o’r ysbyty a’u symud i gartrefi preswyl a chartrefi gofal. Nododd fod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi trefniadau ar waith i gwrdd â rheolwyr cartrefi preswyl a chartrefi gofal yn rheolaidd a sefydlwyd tîm i gynorthwyo cartrefi i gynnal profion addas a rheolaidd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod cartrefi’n darparu data yn wythnosol ar gychwyn y pandemig er mwyn adnabod achosion lle’r oedd pobl yn cael eu symud o’r ysbytai i gartrefi;

·           Gofynnwyd pa brosesau sydd mewn lle i ddiogelu’r bobl fwyaf bregus ar yr Ynys nad oeddent wedi manteisio ar y banciau bwyd a help i gasglu presgripsiynau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro nad oedd pawb a oedd wedi derbyn llythyrau gwarchod yn bobl a oedd wedi derbyn cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y gorffennol a bod angen rhoi trefniadau mewn lle, gyda chymorth Medrwn Môn, i gysylltu â phob person ar yr Ynys a oedd wedi derbyn llythyr gwarchod er mwyn canfod beth oedd eu hanghenion. Nodwyd hefyd y byddai’r cynllun arbed swyddi (cynllun ffyrlo) yn dod i ben ym mis Hydref a bod posibilrwydd y byddai mwy o bobl angen gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor yn sgil hynny. Dywedodd y Prif Weithredwr fod oddeutu 29% o boblogaeth Ynys Môn wedi cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo’r llywodraeth a bod pryder dybryd ynghylch beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi’r bobl hyn pan ddaw’r cynllun i ben. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod pryder y bydd pobl o bosib yn wynebu amddifadedd ac y byddai teuluoedd cyfan, gan gynnwys plant, yn wynebu’r sefyllfa honno, ac nid unigolion yn unig. Gall yr Awdurdod gefnogi’r bobl hyn drwy ei wasanaethau ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yw sefydlu cynllun arall i gefnogi pobl sydd wedi bod ar y cynllun ffyrlo neu i fuddsoddi mewn cynlluniau eraill;

·           Gofynnwyd cwestiynau ynghylch cadernid y Cyngor wrth gynllunio ar gyfer yr Adferiad. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod trefniadau wedi eu gwneud yn ystod yr haf i baratoi Cynlluniau Adfer ond mae wedi dod i’r amlwg yn ystod y bythefnos ddiwethaf fod ail don o’r pandemig yn debygol. Ychwanegodd fod drafft aeddfed o’r Cynllun Adfer Economaidd a Chynllun Adfer Twristiaeth wedi cael eu llunio. Ar hyn o bryd, mae’r gwaith yn canolbwyntio ar yr argyfwng a busnes arferol.

 

Roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i Swyddogion y Cyngor am y modd yr oeddent wedi delio â’r pandemig ac i ganmol ymateb y sefydliad o ran y gefnogaeth a roddwyd i fusnesau a chymunedau. Roedd y Pwyllgor yn dymuno diolch i Arweinydd y Cyngor hefyd am ei gwaith caled.

PENDERFYNWYD:-

·           Cytuno ar ei flaenoriaethau ar gyfer craffu ar feysydd o ymateb y Cyngor i’r argyfwng yn ystod 2020/21 a thu hwnt;

·           Argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod y Byrddau Rhaglen yn cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd i’r ddau bwyllgor sgriwtini ar gynllunio ar gyfer yr adferiad a pharatoi ar gyfer y normal newydd.

 

 

Dogfennau ategol: