Eitem Rhaglen

Strategaeth Ataliol Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (dros dro) a oedd yn rhoi trosolwg o’r Strategaeth Ataliol ac Ymyrraeth Gynnar Gorfforaethol a’r amserlen ar gyfer ei gweithredu.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai diben y strategaeth yw cynorthwyo pobl i gael ansawdd bywyd gwell. Diffinnir gweithredu Ataliol fel mabwysiadu dulliau sy’n ychwanegu at ymwneud defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau i sicrhau gwell canlyniadau a chyfrannu’n sylweddol at wneud y defnydd gorau posib o arian ac asedau eraill. Mae gweithredu fel hyn yn helpu i ddileu dyblygu a gwastraff, gan leihau’n sylweddol galw o’r system yn y tymor hwy. Mae’n hanfodol parhau i ddatblygu cysylltiadau cryfach tu fewn i’r Cyngor a gyda phartneriaid, cymunedau a phreswylwyr er mwyn canfod ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaethau er mwyn mynd i’r afael ag anghenion lleol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Datblygu (Gwasanaethau Tai) fod gan Atal ac Ymyrraeth Gynnar rôl hanfodol i’w chwarae wrth leihau’r galw ar ddarpariaeth statudol, rheng flaen, a thrwy hynny leihau costau a sicrhau fod pob dinesydd, gan gynnwys rhai o’r dinasyddion mwyaf bregus, yn derbyn ymyraethau amserol i ddiwallu eu hanghenion amrywiol. Bydd y Strategaeth yn canolbwyntio ar ddull gweithredu ar draws yr Awdurdod, fel yr amlinellir yn y Cynllun Gweithredu, a bydd yn cael ei weithredu ochr yn ochr â Chynllun Corfforaethol y Cyngor er mwyn cyflawni’r 3 nod craidd corfforaethol fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod angen dull corfforaethol a pherchnogaeth o’r Strategaeth Ataliol, sy’n cynnwys cyllid ac amser staff ar draws holl adrannau’r Cyngor, os am gyflawni’r Strategaeth Ataliol ac Ymyrraeth Gynnar yn llawn. Bydd ymrwymiad ariannol yn cael ei nodi yn ystod y 18 mis i ddwy flynedd nesaf wrth i’r anghenion a blaenoriaethau ddod yn amlycach.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, codwyd y cwestiynau a ganlyn gan y Pwyllgor:-

 

           Gofynnwyd am eglurhad ynghylch oblygiadau ariannol y Strategaeth Ataliol ac Ymyrraeth Gynnar Gorfforaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 na fydd Llywodraeth Cymru’n darparu arian ychwanegol ond mai pwrpas y Strategaeth yw arbed pwysau ariannol pellach ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd angen rhoi rhaglen buddsoddi i arbed mewn lle i gychwyn y broses fydd yn creu arbedion yn yr hirdymor ac efallai na ddaw buddion y Strategaeth i’r amlwg am nifer o flynyddoedd;

           Cyfeiriwyd at y dulliau seiliedig ar asedau a sefydlwyd yn ardal Seiriol ac sydd wedi llwyddo i feithrin hunanddibyniaeth a gwytnwch yn hytrach na dibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus eraill. Gofynnwyd a fyddai modd rhoi enghreifftiau i’r Pwyllgor. Dywedodd y Pennaeth Tai fod grŵp gweithredol ar waith yn ardal Seiriol sy’n cynnwys y cynllunTro Da’ i gasglu presgripsiynau, siopa ac ymateb i anghenion eraill pobl fregus yn yr ardal;

           Gofynnwyd pa risgiau posib sy’n gysylltiedig â’r Strategaeth. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y ddibyniaeth ar grantiau yn risg mewn perthynas â’r Strategaeth hon a bod pryderon ynghylch ariannu cynllun o’r fath yn y dyfodol. Fodd bynnag, nododd fod modd cael cymorth drwy bartneriaeth allanol gyda chynllun fel hwn, yn arbennig gan y trydydd sector. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Dros Dro) fod y profiad a gafwyd yn ystod y chwe mis diwethaf o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 wedi amlygu’r gwytnwch sy’n bodoli mewn cymunedau lleol o ran cefnogi pobl sydd angen cymorth. Roedd yn ystyried bod angen cryfhau’r gwaith a wnaed ar lefel gorfforaethol gyda’r trydydd sector a thrwy hynny ehangu’r gwasanaethau a ddarperir;

           Cyfeiriwyd at gymorth iechyd meddwl dan y cynllun I CAN i wella iechyd a llesiant pobl ar draws Gogledd Cymru sydd â phroblemau iechyd meddwl ac a arweinir gan bobl sydd â phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl. Gofynnwyd pa mor llwyddiannus yw’r prosiect hwn, o ystyried y cynnydd yn nifer y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn arbennig yn ystod y pandemig. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Dros Dro) fod adolygiad o’r prosiect yn cael ei gynnal ar hyn o bryd a nododd y gallai gyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod y Strategaeth Ataliol ac Ymyrraeth Gynnar Gorfforaethol yn cael ei chymeradwyo.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: