Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Trawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer 2019/20 i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad, y mae gofyn statudol ar yr Awdurdod ei gyhoeddi, yn darparu adolygiad o’r canlynol:-

 

           cynnydd yr Awdurdod yn erbyn ei Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20, fel yr amlinellir dan y 3 amcan blaenoriaeth (fel y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.3 yr adroddiad);

           ei berfformiad cyffredinol, gan gynnwys perfformiad a seilir ar ddangosyddion cenedlaethol (mesurau atebolrwydd cyhoeddus – PAM) a DPA lleol.

 

Amlygodd Arweinydd y Cyngor nifer o gyflawniadau o dan y 3 amcan allweddol wrth gydnabod hefyd y gellir gwneud cynnydd pellach mewn perthynas â pherfformiad mewn rhai meysydd. Cyfeiriodd at rai o gyflawniadau’r Cyngor, megis adnewyddu Llawr y Dref er mwyn darparu cartrefi cyfforddus ynghyd ag agor dau fflat hyfforddi ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal. Cyfeiriodd yr Arweinydd at nifer o gyflawniadau eraill hefyd, fel y’u nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Rheoli Perfformiad fod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol wedi cael ei wella a’i gryfhau drwy gynnwys astudiaethau achos yn y ddogfen sy’n darparu tystiolaeth ac yn rhoi sicrwydd ynghylch yr effaith y mae’r gwaith dydd i ddydd yn ei gael ar unigolion penodol a chymunedau yn gyffredinol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y pwyntiau canlynol:-

 

           Cyfeiriwyd at yr heriau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn sgil y pandemig Covid-19. Gofynnwyd i ba raddau mae’r pandemig wedi effeithio ar berfformiad y Cyngor ac a oes angen i’r Cyngor newid ei flaenoriaethau a’i arferion gwaith ar gyfer 2020/21. Dywedodd Arweinydd y Cyngor na fu modd gorffen gwaith cynnal a chadw ar dai cymdeithasol o fewn yr amserlen ofynnol ac y bu oedi o ran gosod eiddo oherwydd cyfyngiadau mynediad o ganlyniad i’r pandemig.

           Gofynnwyd am y cyfleoedd swyddi posib yn deillio o Fargen Dwf Gogledd Cymru. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y cyflwynwyd sesiwn friffio i Aelodau Etholedig ynghylch materion llywodraethiant yn ymwneud â’r Bwrdd Uchelgais yn ddiweddar. Os deuir i gytundeb erbyn diwedd y flwyddyn hon, bydd modd i gynllun Morlais symud yn ei flaen gan mai hwn yw’r prosiect mwyaf aeddfed yn y fargen dwf. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y cyflwynir adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ynghylch Cytundeb Llywodraethiant 2 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Nododd y bydd nifer o swyddi’n deillio o brosiectau bid twf pan fyddant yn weithredol. Bydd angen rhoi strategaeth gaffael mewn lle mewn perthynas â’r strategaeth ariannol i sicrhau fod y gadwyn gyflenwi’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig;

           Roedd Aelodau o’r farn fod angen dynodi gogledd yr ynys yn Barth Menter er mwyn gallu denu grantiau i gynyddu cyflogaeth yn yr ardal. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod gwaith wedi cael ei wneud i ddenu swyddi i ogledd yr ynys. Defnyddiwyd arian grant gan yr NDA i ddarparu grantiau i fusnesau bach yn yr ardal a bydd cais grant arall am ragor o arian yn cael ei gyflwyno i’r NDA y flwyddyn nesaf. Bydd uchafswm y grant ar gyfer pob busnes yn cael ei godi i £7,500. Yn ddiweddar, mae Cyngor Tref Amlwch wedi trafod dynodi ardal Amlwch yn Barth Menter ac mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi gogledd yr ynys wedi i ansicrwydd godi’n ddiweddar ynghylch cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal yn y dyfodol. Dywedodd yr Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr fod dynodi Amlwch yn Barth Menter yn flaenoriaeth gan y bydd yn caniatáu i safleoedd yn yr ardal gael eu datblygu, ond mae angen i Lywodraeth Cymru roi cymorth ariannol i’r ardal er mwyn datblygu prosiectau posib yn yr ardal;

           Gofynnwyd am effaith ariannol y pandemig ar yr Awdurdod ac a fydd Llywodraeth Cymru’n digolledu’r Cyngor am yr arian a gollwyd. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Llywodraeth Cymru wedi darparu arian i wneud yn iawn am golledion mewn rhai meysydd, megis incwm meysydd parcio a chanolfannau hamdden. Bydd pobl yn colli eu swyddi oherwydd y pandemig yn cael effaith ar y Cyngor gan y byddant yn ei chael yn anodd talu’r Dreth Gyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cais am £800k wedi cael ei gyflwyno am incwm a gollwyd yn Chwarter 1 a bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r cais. Ni chyflwynwyd y cais am Chwarter 2 eto ond rhagwelir y bydd y swm yn is nag yn Chwarter 1 gan fod gwasanaethau’r Cyngor wedi ailagor ac yn cynhyrchu incwm;

           Cyfeiriwyd at y broses o lunio cynllun adfer i fynd i’r afael ag adferiad economaidd yn dilyn Covid-19 ac y bydd gwaith partneriaeth yn hanfodol yn y cyswllt hwn. Gofynnwyd a fyddai’r Awdurdod yn gallu rhoi cefnogaeth strategol i Gynghorau Tref er budd cymunedau ar draws Ynys Môn. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod bwriad i ailgychwyn cynnal y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn rhannu gwybodaeth a phryderon gyda chymunedau lleol.

 

Penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid cyhoeddi fersiwn terfynol o’r Adroddiad Perfformiad 2019/20 erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd mis Hydref a bod swyddogion yn cwblhau hyn mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio fel y gellir ei gyhoeddi fel rhan o bapurau’r Cyngor.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: