Eitem Rhaglen

Cytundeb Llywodraethu 2 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Ms Alwen Williams a Mr Hedd Vaughan Evans - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd) i'r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Bwrdd wedi ymrwymo i gyflawni'r Cytundeb Bargen Derfynol gyda Llywodraethau'r DU a Chymru cyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Nododd yr ystyrir bod y Bwrdd bellach wedi cyrraedd carreg filltir a bod cynllun clir i'r prosiectau sydd wedi'u cynnwys yn y Fargen Twf. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd wedi mabwysiadu Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru yn 2016. Yn seiliedig ar y Strategaeth Gweledigaeth Twf, paratowyd a chytunwyd ar Fargen Twf ym mis Hydref 2018 gan yr holl bartneriaid, gan weithio gyda Llywodraeth y DU a Chymru a'r sector preifat.  Ym mis Tachwedd 2019 cytunodd y Bwrdd a Llywodraethau'r DU a Chymru ar y Penawdau  Telerau, gyda Chytundeb Bargen Derfynol i'w gwblhau yn 2020. Mynegodd ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn rhan o'r Bwrdd a bod strwythur llywodraethu cryf a gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn hanfodol ar gyfer  cyrraedd y garreg filltir o fod yn barod i arwyddo'r  Cytundeb Terfynol. 

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cais Twf yn cynnwys nifer o ymyriadau datblygu economaidd strategol ac y gall gweithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ddenu'r buddsoddiad hwn; heb y Bwrdd Uchelgais a'r Cais Twf ni fyddai'r adnoddau yn cyrraedd Gogledd Cymru. Mae'r Cais Twf yn cynnig lefel o weithgaredd a buddsoddiadau gan y sector cyhoeddus i gefnogi'r economi na welwyd ers y cyfnod llymder. Mae'r adroddiad ar y Cynllun Busnes yn cydymffurfio'n llawn â disgwyliadau a gofynion Llywodraethau'r DU a Chymru ac mae'n cynnwys mewnbwn gan y sectorau preifat a chyhoeddus. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach y bydd y Cais Twf yn cynorthwyo'r sectorau gwerth uchel i ffynnu ac yn mynd i'r afael â rhwystrau strwythurol, hirdymor i dwf economaidd. Fodd bynnag, mae'r Bwrdd yn gwbl ymwybodol y bydd angen cymryd ystod o gamau yn y tymor byr i hwyluso adferiad a bod aliniad rhwng y mesurau tymor byr hynny a'r Fargen Twf yn allweddol. Rhagwelir y bydd y Cais Twf yn denu 4,000 o gyfleoedd cyflogaeth newydd ac yn cynhyrchu rhwng £2 biliwn a £2.4 biliwn GVA y flwyddyn ac yn denu buddsoddiadau posib o dros £1biliwn.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach fod y budd uniongyrchol a ragwelir ar gyfer Ynys Môn fel a ganlyn: -

 

  • Buddsoddiad uniongyrchol mewn prosiectau cyfalaf ar Ynys Môn gan gynnwys Porth Caergybi, Morlais a datblygiad MSParc
  • Cyfleon cadwyn gyflenwi a chyfleon gwaith i gwmnïau lleol o brosiectau cyfalaf mawr fel Morlais, Porth Caergybi a buddsoddiadau rhanbarthol eraill;
  • Gwell cysylltedd digidol ar gyfer busnesau, trigolion ac ymwelwyr a phrofion 5G yn MSParc;
  • Mynediad at gyfleusterau, offer, cefnogaeth ac ymchwil arbenigol newydd ar gyfer busnesau bwyd a diod;
  • Mynediad at ymchwil a chymorth arloesol ynghylch technegau ffermio cynaliadwy ar gyfer busnesau ffermio Ynys Môn trwy safle Grŵp Llandrillo Menai yng Nglynllifon;
  • Cyfleoen ar gyfer mentrau ynni adnewyddadwy yn sgil prosiectau Mynediad Clyfar i Ynni, buddsoddiad mewn Canolfan Ragoriaeth Carbon Isel yn MSParc;
  • Prosiectau arddangos sy'n cynnwys cynhyrchu hydrogen o ffynonellau ynni carbon isel;
  • Cyfleon posib i safleoedd strategol gael eu datblygu fel rhan o'r rhaglen Tir ac Eiddo tymor hir;
  • Gwell sgiliau trwy fiotechnoleg, canolfan ragoriaeth carbon isel, twristiaeth a'r economi wledig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog  Adran 151 y bydd y Cais Twf yn cael effaith ar gyllideb y Cyngor. Bydd costau staffio i gefnogi'r prosiectau yn y Fargen Twf am gyfnod o 15 mlynedd. Mae 6 awdurdod lleol Gogledd Cymru a’r sefydliadau partner h.y. 2 Brifysgol a 2 Goleg wedi cytuno ar y cyllid gyda phob awdurdod lleol yn cyfrannu £50k i ddechrau yn ychwanegol at y £40k a gyfrannwyd at y Bwrdd - felly bydd pob awdurdod lleol yn cyfrannu £90k. Bydd y cyfraniadau hyn yn cael eu hadolygu'n flynyddol i gymryd i ystyriaeth unrhyw gynnydd mewn costau tâl a phensiynau. Nododd y disgwylir y bydd y prosiectau’n cael eu hariannu yn ystod 6 i 7 mlynedd gyntaf y prosiect ond ni fydd y cyllid yn cael ei roi i Ogledd Cymru gan Lywodraethau’r DU a Chymru o dan batrwm gwariant gan y Bwrdd ond yn hytrach trwy daliadau dros y cyfnod o 15 mlynedd. Felly, bydd angen i'r Bwrdd fenthyca arian i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Twf a bydd angen defnyddio'r cyllid gan y llywodraethau i ad-dalu'r strategaeth fenthyca. Derbynnir y bydd angen talu llog ar unrhyw fenthyciad  a bydd y costau llog cyffredinol sy'n disgyn ar y 6 awdurdod yn cael eu rhannu ar sail poblogaeth, gydag Ynys Môn yn cyfrannu tua 10% at y gost flynyddol. Bydd hyn yn cyfateb i £47k - £ 67k y flwyddyn i'r Awdurdod hwn ond nodwyd mai amcangyfrif o'r costau yw'r rhain a bod risgiau posib gan y bydd yn dibynnu ar ragolygon gwariant y Fargen Twf a faint o fenthyca fydd ei angen pan fydd prosiectau'n datblygu. Y gyfradd llog a fodelwyd oedd 2.2% ond gall y gyfradd llog wirioneddol newid yn dibynnu ar y math o fenthyca a wneir, amseriad y benthyca a'r hinsawdd economaidd ar y pryd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r  Swyddog Adran 151 ymhellach y bydd angen talu trethi busnes ar eiddo ardrethol a fydd yn deillio o rai o'r prosiectau ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor y bydd 50% o'r trethi busnes ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei drosglwyddo yn ôl i'r Bwrdd fel cyfraniad tuag at y costau benthyca ychwanegol. Dywedodd ymhellach y bydd y Fargen Twf yn nodi'r adnoddau y bydd pob prosiect yn eu derbyn a bydd angen monitro'r prosiectau hyn i sicrhau nad ydyn nhw'n gorwario gan nad oes adnoddau ychwanegol ar gael.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro bod angen Cytundeb Llywodraethu 2 (CLl2) a bod copi o'r CLl2 drafft  ynghlwm wrth Atodiad 4 ynghyd â chrynodeb yn Atodiad 3 yr adroddiad. Dyluniwyd y CLl2 i reoleiddio'r bartneriaeth rhwng 6 Chyngor Lleol Gogledd Cymru a'r 4 Coleg trwy gydol cyfnod y Fargen Twf. Nododd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn  a gynhelir ar 8 Rhagfyr, 2020 a bydd yr argymhellion fel maent wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd at y cwestiynau Sgriwtini yn rhannau 4 a 5  yr adroddiad ynghylch sut y bydd y bartneriaeth yn cael ei rheoleiddio ar ôl i'r Fargen Twf gael ei llofnodi. Bydd y Bwrdd yn ymgymryd â phrosesau craffu a monitro a bydd yr aelodaeth yn cynnwys Arweinyddion 6 Chyngor Gogledd Cymru ac mae gan bob un ohonynt bleidlais. Bydd y 4 Coleg hefyd yn aelodau o'r Bwrdd ond ni fydd ganddynt bleidlais gan fod y Bwrdd yn gyd-bwyllgor statudol. Bydd Arweinydd o bob un o'r 6 Chyngor yn cael ei phenodi / benodi'n Gadeirydd yn flynyddol ond ni fydd ganddynt bleidlais fwrw. Os bydd anghytundeb am unrhyw eitem ar raglen y Bwrdd, bydd cyfnod cnoi cil i ailystyried, ac fe ailgyflwynir yr eitem i’r Bwrdd i'w hystyried ymhellach. Os na all y Bwrdd ddod i gytundeb bydd y cynnig yn disgyn. Oherwydd y model cyd-bwyllgor statudol y cytunwyd arno gan y partïon, bydd y rhaglenni, yr adroddiadau a'r cofnodion yn cael eu cyhoeddi ac ar gael ar wefan y Cyngor. Cyfeiriodd ymhellach at y model Awdurdod cynnal sydd wedi'i ddewis gan y patrïon ac mai Cyngor Gwynedd sydd wedi'i benodi i'r perwyl.  Bydd Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd yn cynghori'r Bwrdd a'i staff. Bydd gwasanaethau AD, Archwilio a TGCh hefyd yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd. Bydd y Bwrdd yn gweithredu o dan Reolau Sefydlog a Rheolau Caffael Cyngor Gwynedd. Mae unrhyw newidiadau sylweddol i'r Cynllun Busnes Cyffredinol, ynghyd ag unrhyw newidiadau sylweddol i'r CLl2, materion cyllidebol ac unrhyw bartneriaid sy'n ceisio gadael y Bwrdd oll yn faterion a gedwir yn ôl ac y bydd angen i'r Cyngor llawn eu hystyried a'u cymeradwyo. Bydd yr  aelodau etholedig sydd ar y Bwrdd yn dilyn eu Côd Ymddygiad eu hunain, fel sy’n wir hefyd am y  Swyddogion sy’n gweithio i’r Bwrdd. Bydd cynrychiolwyr y Colegau yn destun darpariaethau Polisi Gwrthdaro gan nad oes ganddynt  Gôd Ymddygiad. Bydd cofnodion o benderfyniadau’n cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi a chyflwynir adroddiad chwarterol i bob partner a fydd yn adrodd ar gynnydd prosiectau unigol gan gynnwys eu perfformiad ariannol. Cyfeiriodd at sut y byddai Sgriwtini'n gweithio ar y Bwrdd fel y nodir yn nhrydydd atodiad yr adroddiad.  

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn:-

 

·           Cyfeiriwyd at y risgiau posib o orwario mewn prosiectau. Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y prosiectau economaidd yn y Fargen Twf yn cael eu rheoli os oes gorwariant mewn prosiect penodol. Ymatebodd yr Arweinydd fod hyn wedi'i godi fel risg yn y Bwrdd a bod mesurau lliniaru wedi'u rhoi ar waith. Dywedodd nad oedd rhai o'r prosiectau yn y Fargen Twf wedi aeddfedu’n llawn eto a’u bod yn dal i ddatblygu syniadau, ond os yw prosiectau eraill yn fwy aeddfed byddent yn cael eu blaenoriaethu. Mae yna hefyd ffynonellau cyllido eraill ar gyfer prosiectau ynni yn ogystal â'r Fargen Twf. Nododd y bydd yr awdurdod cynnal yn monitro'r cyllidebau. Dywedodd Ms Alwen Williams (y Bwrdd) mai rôl y Swyddogion yn y Bwrdd fydd rheoli'r prosiectau yn y Fargen Twf i'r safonau uchaf posib. Nododd fod posibilrwydd o fewn rhai o'r prosiectau i greu buddsoddiadau refeniw y gellir eu hailfuddsoddi yn y rhanbarth.

·           Holwyd sut y bydd y Bwrdd yn addasu i'r pandemig covid-19 ac yn ystod y cyfnod adfer a Brexit. Dywedodd yr Arweinydd mai'r Bid Twf yw prif ffocws y Bwrdd ond maent wedi gallu casglu tystiolaeth ar effaith y pandemig yn y rhanbarth yn ogystal â chymryd ffactorau sy'n gysylltiedig â Brexit i ystyriaeth. Mynegodd ei bod wedi bod yn bwysig bod Swyddogion y Bwrdd wedi gallu parhau â'u gwaith dydd i ddydd ar y Cais Twf;

·           Cyfeiriodd aelod at natur strategol y Bwrdd a mynegodd y farn y byddai wedi disgwyl bod angen cynrychiolydd Undeb Llafur i fod yn rhan o'r Bwrdd. Ymatebodd yr Arweinydd bod angen i'r mater gael ei ystyried gan y Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor gymeradwyo'r penderfyniadau drafft fel y'u geiriwyd yn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

 

 

Dogfennau ategol: