Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Rhan 9: Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Ms Bethan Jones Edwards - Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol (Cyngor Sir Ddinbych).

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod raid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gynhyrchu a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei waith yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a bod raid ei gyflwyno hefyd i Lywodraeth Cymru. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithio â'u partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd angen gofal a chymorth, ynghyd â gofalwyr a phlant. Mae'n gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gydweithio â'r awdurdodau lleol, a darparu gwybodaeth iddynt, at ddibenion eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn: -

 

·           Gofynnwyd i ba raddau y mae'r trefniant cyllideb gyfun yn ddigon cadarn ar gyfer darparu Cartrefi Gofal ledled y rhanbarth, ac a yw'n cael ei reoli'n effeithiol. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol fod Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod  cyllideb gyfun yn ofynnol o ran Cartrefi Gofal. Nodwyd bod trefniant trafodaethol wedi ei roi ar waith ledled y rhanbarth ar gyfer cyllidebau cyfun ac wedi'i lofnodi gan y sefydliadau partneriaeth. Amlygodd yr Arweinydd fod risg sylweddol fel rhan o'r gyllideb gyfun ranbarthol mewn perthynas â'r mater hwn ond mae mesurau wedi'u rhoi ar waith, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran cyllidebau cyfun ac maent yn diogelu'r Awdurdod a'r rhanbarth yn ei gyfanrwydd;

·                           Gofynnwyd i ba raddau y mae gwaith y bartneriaeth yn cyfrannu'n llwyddiannus at gyflawni egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar yr Ynys. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol at 4 prosiect ar Ynys Môn sydd wedi gweld cynnydd sylweddol h.y. Teuluoedd Gwydn (oherwydd y pandemig rhoddwyd arian i gymunedau lleol i ddarparu gweithgareddau i blant a theuluoedd); Prosiectau Timau Adnoddau Cymunedol  (Gwasanaethau Oedolion’) - sefydlwyd cynllun fesul cam  o fewn y cymunedau lleol i gydlynu’r gwasanaethau sy'n cynorthjwyo unigolion,  ac yn enwedig pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty; Anableddau Dysgu (mae gwaith mapio wedi'i wneud ar yr Ynys mewn perthynas â chyfleusterau gofal dydd ar gyfer anableddau dysgu); Iechyd Meddwl (cynhelir trafodaethau ar hyn o bryd gyda sefydliadau partner ynghylch y cyllid 'I Can' a sut y gellir ei roi ar waith yn ehangach i gefnogi materion iechyd meddwl yn yr Ynys);

·      Holwyd sut y mae aelodaeth y Bwrdd wedi newid ers cyflwyno'r Canllawiau Statudol Rhan 9 diwygiedig ym mis Ionawr 2019, a beth fu'r gwerth ychwanegol yn sgil hynny'n rhanbarthol ac yn lleol. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol y daeth y canllawiau i rym ym mis Ionawr 2019 yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y canllawiau drafft a bod aelodaeth ychwanegol ar y Bwrdd wedi cynnwys cynrychiolwyr o blith  Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a chynrychiolwyr Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Addysg  awdurdodau lleol. Nododd fod trafodaethau yn digwydd i gynnwys dau gynrychiolydd o’r Gwasanaeth Gofalwyr ar y Bwrdd yn lleol. Mynegodd yr Arweinydd ei bod yn heriol bod aelodaeth Byrddau o'r fath mor fawr a bod angen adolygu’r aelodaeth.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cadarnhau bod y Pwyllgor wedi cymryd i ystyriaeth y gwaith y mae'n ofynnol i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud;

·      Bod y Pwyllgor yn nodi'r gwaith a'r cynnydd yn 2019/20 ar y meysydd gwaith sy'n cael eu symud ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: