Eitem Rhaglen

Sylfaen y Dreth Gyngor 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chyfrifo'r sylfaen dreth ar gyfer 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y cyfrifiadau wedi'u gwneud yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Anheddau Treth Gyngor (CT1 v.1.0) 2021/22 yn seiliedig ar nifer yr eiddo mewn amrywiol fandiau ar y rhestr brisio ar 31 Hydref, 2020 a'u bod wedi eu crynhoi gan yr Awdurdod o dan Adran 22b(7) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae'r cyfrifiadau'n cymryd i ystyriaeth ostyngiadau, eithriadau a phremiymau ynghyd â newidiadau i'r rhestr brisio sy'n debygol yn ystod 2021/22. Cyfanswm y sylfaen a gynigiwyd ar gyfer 2021/22 at ddibenion gosod treth yw 31,548.20. Mae hyn yn cymharu â 31,532.53 ar gyfer 2020/21 ac mae'n gynnydd o 0.05%.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod dwy elfen i'r cyfrifiadau, sef Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer cyfrifo'r Grant Cymorth Refeniw sy'n cynnwys yr holl eiddo Treth Gyngor safonol ond nad yw'n cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau a gostyngiadau a roddwyd gan rai awdurdodau mewn perthynas â Dosbarthiadau A, B ac C. Cyfrifir bod y ffigwr hwn yn 30,880.22 sy'n ostyngiad o 0.15% ar ffigwr y flwyddyn flaenorol, sef  30,927.17 ac mae'r wybodaeth hon wedi'i hanfon at Lywodraeth Cymru. Yn ail, roedd cyfanswm y gostyngiad cyfwerth â band D a ddefnyddir at ddibenion gosod treth wedi'i addasu gan ddarpariaeth ar gyfer treth gyngor na fydd yn cael ei thalu, sy'n parhau i fod yn 1.5%, ac mae hefyd yn cynnwys lwfans ar gyfer eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Cyfrifir bod y ffigwr fel y crybwyllir uchod yn 31,548.20 ac er ei fod wedi aros yn weddol sefydlog o 2020/21 mae'n gallu amrywio yn ystod y flwyddyn wrth i eiddo gael eu trosglwyddo o'r rhestr Dreth Gyngor ddomestig i'r rhestr cyfraddau busnes a hefyd wrth i anheddau gael eu prynu fel ail gartrefi lle codir premiwm ar eu cyfer. Mae nifer yr eiddo ar y rhestr Dreth Gyngor safonol wedi gostwng oherwydd cynnydd yn nifer yr ail gartrefi ac yn nifer yr eiddo gwag ac mae'r pandemig wedi cael effaith eleni ar allu pobl i osod, adnewyddu neu werthu eiddo sydd yn wag. Bydd adroddiad ar bremiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr, 2020.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2021/22, sef 30,880.22 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad).

           Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2021/22 (Rhan E5 o Atodiad A yn yr adroddiad).

           Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrifo fel Sylfaen y Dreth am 2021/22 fydd 31,548.20 ac fel y nodir yn nhabl 3 am y rhannau hynny o’r ardal a restrir ynddo.

  

Dogfennau ategol: