Eitem Rhaglen

Cynllun Peilot Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Anableddau Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion

 

Cofnodion:

Oherwydd bod gan yr Arweinydd ymrwymiad arall, y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-Gadeirydd, a gadeiriodd y cyfarfod am yr eitem hon a'r eitem ddilynol.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo ymrwymo i gynllun peilot ar gyfer cronfa gyfun gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer y gyllideb byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu sy'n byw yn Ynys Môn.

 

Amlinellwyd y cefndir gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion, gan nodi bod y Cyngor yn bartner allweddol yn Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Di-dor i Bobl ag Anableddau Dysgu - y Gogledd. Bydd cymeradwyo'r cynllun peilot arfaethedig yn golygu y gall y Cyngor wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni mesurau perfformiad allweddol yn llwyddiannus ar gyfer Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu Gogledd Cymru, sef rhaglen y mae'r Strategaeth Anabledd Dysgu yn sylfaen iddi. Mae cronfeydd cyfun yn weithdrefn i sicrhau mwy o integreiddio o ran cymorth iechyd a gofal cymdeithasol ac ystyrir ei bod yn arbennig o effeithiol ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth. Mae'r weithdrefn gyfredol ar gyfer sicrhau cyllid iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i oedolion ag anableddau dysgu yn cynnwys dwy broses nad ydynt wedi'u halinio'n dda â'i gilydd. Y rhesymeg dros dreialu cronfa gyfun yw profi a gwerthuso a yw integreiddio'r prosesau hyn yn arwain at wasanaethau a chanlyniadau o ansawdd gwell i unigolion tra hefyd yn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd darpariaeth gwasanaeth.

 

O ran goblygiadau gweithredol y cynllun peilot arfaethedig, dywedodd y Swyddog y byddai cytundeb statudol Adran 33 yn cefnogi'r gronfa gyfun, ac y byddai'r cyfryw gytundeb yn amlinellu cyfrifoldebau ar y cyd, strwythurau rheoli, mesurau sicrhau perfformiad a sicrhau ansawdd, strwythurau llywodraethu ariannol a llywodraethu prosiectau. Bydd cam cyntaf y cynllun peilot yn cyfuno ymrwymiadau ariannol presennol y ddwy asiantaeth ar gyfer gwasanaethau byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu sy'n byw yn Ynys Môn - 36 achos ar hyn o bryd. Cyfanswm y gwariant cyfredol ar gyfer BIPBC a'r Cyngor yw £3,166,201.87 - sef £1,346,723.81 i Iechyd a £1,819478.06 i'r Cyngor. Bydd Rhaglen Trawsnewid Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd yn gwneud  cyfraniad ariannol i'r gronfa gyfun unwaith y bydd y cynllun peilot yn weithredol er mwyn cynorthwyo i gyflawni yn y cyfnod cychwynnol. Er na fydd y goblygiadau ariannol i'r Cyngor a BIPBC yn cynyddu o ganlyniad i'r cynllun peilot, efallai y bydd raid cyfrannu at godiadau yn y maes byw â chymorth blynyddol a'r maes anghenion cymorth gofal iechyd i unigolion fel y byddai'n digwydd waeth beth fo'r cynllun peilot. Bydd y gronfa gyfun yn cael ei dal a'i rheoli gan Gyngor Sir Ynys Môn ar ran y partneriaid a bydd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl yn dod yn rheolwr y gronfa gyfun sy'n gyfrifol am ddefnydd effeithiol o’r gronfa gyfun yn unol â'r Cytundeb adran 33.

 

Ar ôl ei lofnodi bydd y cytundeb mewn grym am un flwyddyn galendr ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw bydd yn destun adolygiad strategol ac ariannol gan Fwrdd Rheoli Partneriaeth sydd i'w sefydlu ar gyfer y cynllun peilot.

 

Rhoddodd y Cynghorydd G O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini  Partneriaeth ac Adfywio atborth o gyfarfod y Pwyllgor ar 10 Tachwedd, 2020 a oedd wedi ystyried y cynnig a dywedodd fod y Pwyllgor wedi derbyn cyflwyniad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro ar nodau'r cynllun peilot ac amcanion cyflwyno cronfa gyfun. Esboniwyd y cefndir deddfwriaethol i'r Pwyllgor ac amlinellwyd y trefniadau llywodraethu. Nododd y Pwyllgor fod dadansoddiad risg wedi ei gynnal ar gyfer y prosiect ac y byddai'n destun proses adolygu flynyddol gan Fwrdd Rheoli Partneriaeth. Roedd y Pwyllgor wedi codi cwestiynau ynghylch y gwerth ychwanegol yn sgil ymuno â'r cynllun peilot ac wedi gofyn a fyddai'n effeithio ar y gwasanaethau a dderbynnir gan y 36 unigolyn y bydd y cynllun peilot yn berthnasol iddynt. Roedd y Pwyllgor wedi ceisio darganfod ymhellach a oedd unrhyw fentrau cyllido cyfun tebyg mewn grym ar hyn o bryd yng Nghymru a / neu Loegr ac a ydynt yn llwyddiannus. Ar ôl derbyn sicrwydd ar yr holl faterion a godwyd, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu argymell y prosiect cronfa gyfun arfaethedig i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Gan nodi sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini, roedd y Pwyllgor Gwaith yn gefnogol i’r cynllun.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn a nodi cynnwys Cynllun Peilot drafft Cyflenwi Gwasanaeth ar y Cyd (Cyllideb Gyfun) Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrAnableddau Dysgu

           Cymeradwyo treialu cronfa gyfun rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gyflwynir gam wrth gam, ar gyfer y gyllideb byw â chymorth bresennol ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu sy’n byw ar Ynys Môn ac sy’n cael eu cyllido ar y cyd ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu cytuno ar gymeradwyo cam 1 yn y lle cyntaf.

           Bod adran Gyfreithiol CSYM yn darparu barn annibynnol parthed y cytundeb Adran 33.

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo i’r Swyddog Monitro yr hawl i gwblhau’r cytundeb adran 33 ac i’r Swyddog 151 yr hawl i gytuno’r trefniadau ariannol gyda BIPBC i sicrhau fod yr arian yn cael ei rheoli’n gywir ac yn effeithiol.

Dogfennau ategol: