Eitem Rhaglen

Dogfen Gyflawni Blynyddol (Cynllun Gwella) 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol am gyfnod o ddeunaw mis o fis Hydref 2020 i fis Mawrth 2022 i’r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno. Mae’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn canolbwyntio ar y gwaith y bydd yr Awdurdod yn ei wneud i gyflawni’r dyheadau a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2017-22.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor a nododd fod y Ddogfen yn cwmpasu cyfnod estynedig o ddeunaw mis a chyfeiriodd at yr her o lunio’r ddogfen mewn cyfnod o ansicrwydd oherwydd y pandemig Covid-19. Yr amcan wrth saernïo’r Cynllun, fydd yn cael ei adolygu wrth i amgylchiadau esblygu a newid, oedd bod yn uchelgeisiol ond yn realistig ac i gydnabod yr effaith bellgyrhaeddol y mae’r argyfwng Covid-19 wedi’i gael ar y Cyngor, trigolion yr Ynys, y gymdeithas a’r economi drwy gynnwys pedair rhaglen adfer thematig. Bydd y pedair rhaglen yn canolbwyntio ar adfer yr economi, adfer cyrchfan, adfer cymdeithasol a chymunedol ac adfer sefydliadol.

 

Cytunodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ei bod yn bwysig fod y rhaglen waith a grynhoir yn y Ddogfen Gyflawni yn ogystal â bod yn uchelgeisiol, yn un y gellir ei chyflawni er gwaetha’r pandemig presennol. Bydd y Ddogfen yn cael ei rhoi ar waith drwy gynlluniau busnes y gwasanaethau sy’n tystio bod y mesurau’n rhai y gellir eu cyflawni. Mae’r cyfnod amser hirach nag arfer yn cydnabod y sefyllfa bresennol ac yn caniatáu’r amser a’r cyfle i ddod allan o’r argyfwng ac i gyflawni’r Cynllun.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cwestiynau sgriwtini allweddol. Roedd y cwestiwn cyntaf yn ymwneud ag effaith pwysau ariannol posib a diffyg adnoddau ar allu’r Cyngor i gyflawni’r Cynllun arfaethedig o ystyried y bydd angen parhau i ddelio â’r pandemig. Gwahoddwyd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid i gyflwyno ei safbwynt ar y sefyllfa ariannol yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, y byddai’r Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiad ar sefyllfa’r gyllideb refeniw a chyfalaf yn Chwarter 2 2020/21 yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd. Ar hyn o bryd, dengys y data bod tanwariant yn y gyllideb refeniw ac o dan amgylchiadau arferol byddai hynny’n cael ei groesawu. Fodd bynnag, oherwydd yr ansicrwydd cyffredinol yn sgil yr argyfwng parhaus oherwydd y pandemig a pha mor gyflym y gall y sefyllfa newid, mae’n rhaid bod yn ofalus wrth wneud penderfyniadau a bydd angen i’r Cyngor adolygu’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pan fydd mewn sefyllfa well i asesu’r sefyllfa ariannol ac i gynllunio ar y sail hynny. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i ddarparu cymorth ariannol i awdurdodau lleol.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 fod ansicrwydd sylweddol yn parhau ynglŷn â beth fydd yn digwydd yn ystod y tri mis nesaf, er bod y data ariannol yn ymddangos yn addawol ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yn 2021/22 ym mis Rhagfyr yn rhoi mwy o eglurder, ynghyd â chanlyniadau Chwarter 3 wedi hynny. Yn hanesyddol, gwelir pwysau ychwanegol yn ystod y gaeaf, yn arbennig yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, ond y gobaith yw y bydd y sefyllfa ariannol yn gliriach erbyn dechrau’r gwanwyn ac y gellir cyflwyno’r data hwn i’r Pwyllgor Gwaith i lywio ei benderfyniadau mewn perthynas â chyllideb 2021/22.

 

Wrth ymateb i gwestiynau am fforddiadwyedd y Cynllun, o ystyried y cyd-destun Covid-19 a’r effaith ar berfformiad y Cyngor, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod capasiti’r sefydliad i ddatblygu’r gwaith yn ystyriaeth bwysig. Er bod Swyddogion yn hyderus fod modd cyflawni’r rhaglen a amlinellir yn y Ddogfen Gyflawni a bod gweithlu’r Cyngor yn meddu ar y galluoedd a’r arbenigedd i’w chyflawni, dylid nodi y bydd gweithgareddau a gweithredoedd yn cael eu gyrru gan drywydd Covid-19 ar ddechrau’r flwyddyn newydd – os yw’r sefyllfa’n gwella bydd modd rhoi’r cynlluniau adfer ar waith ond os bydd y sefyllfa’n gwaethygu yna efallai y bydd rhaid adleoli staff i helpu gyda’r ymateb i’r argyfwng.

 

Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch gweithredu’r pedair rhaglen adfer ar yr un pryd â’r Ddogfen Gyflawni, eglurodd y Prif Weithredwr fod adfer yn broses dros gyfnod o amser ac y bydd natur gwaith y Cyngor yn addasu ac yn newid yn ystod y cyfnod hwn. Er y bydd cyfrifoldebau craidd y Cyngor yn parhau i gael eu cyflawni bydd unrhyw ymyraethau ychwanegol yn ddibynnol ar raglenni cenedlaethol ac argaeledd arian a chapasiti er mwyn i awdurdodau lleol ymgymryd â gwaith adfer pellach. Lluniwyd cynlluniau adfer drafft ond os na fyddant yn cael eu rhoi ar waith cyn y gwanwyn, yna gall nifer o bethau newid yn y cyfamser e.e. y penderfyniad diweddar i ymestyn y cynllun seibiant swyddi (ffyrlo) ac oblygiadau hynny o ran cyflogaeth leol. Oherwydd bod y Ddogfen Gyflawni’n gynllun deunaw mis, mae’n debygol yr ailymwelir â hi i sicrhau ei bod yn adlewyrchu cynnydd y broses adfer a blaenoriaethau adfer yr Awdurdod yn fwy effeithiol a bod y cynlluniau a gyflwynwyd yn derbyn mewnbwn wleidyddol, a bod cyfle i ddylanwadu arnynt a’u herio. Bydd blaenoriaethau’n cael eu harwain gan yr angen, boed hynny fesul cymuned neu fesul sector, heb anghofio hefyd am Brexit, fydd yn cael ei weithredu yn y dyfodol agos ac sy’n cymhlethu’r sefyllfa ymhellach o ran yr economi ac yn ychwanegu at y gymysgedd o ffactorau sydd oll angen sylw. Fodd bynnag, wrth i’r Awdurdod symud ymlaen a theimlo’n hyderus ei fod yn symud i’r cyfnod adfer bydd yn rhoi ystyriaeth, dan arweiniad y Prif Weithredwr, i’w waith dydd i ddydd, i waith adfer ychwanegol yn ogystal â gwaith argyfwng, gyda’r bwriad o gyfuno’r elfennau hyn mewn Cynllun Gweithredu newydd fydd yn diwallu anghenion cymunedau’r ynys, ei busnesau a’i heconomi.

Wrth ymateb i gwestiwn am bwysigrwydd gwaith partneriaeth i gyflawni’r ddogfen, rhoes yr Arweinydd enghreifftiau o ble mae cyfraniad partneriaid yn ffurfio rhan bwysig o’r ddogfen gan ychwanegu fod yr awdurdod wedi sefydlu cysylltiadau gwaith cynhyrchiol dros nifer o flynyddoedd gydag amrywiaeth o bartneriaid allweddol a bod yr argyfwng wedi cryfhau’r cysylltiadau hynny. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i gydweithio effeithiol rhwng gwasanaethau a phortffolios a bod yr argyfwng wedi rhoi amlygrwydd i’r agwedd hon. Bydd yr Awdurdod yn parhau i gydweithio ac i weithio mewn partneriaeth lle bydd hynny’n caniatáu iddo ddylanwadu a chael effaith a lle bydd hynny’n ychwanegu gwerth.

 

Derbyniwyd sylwadau a chwestiynau ychwanegol fel a ganlyn –

 

           A yw ymrwymiad yr Awdurdod i ddefnyddio Premiwm y Dreth Gyngor i sicrhau fod tai addas ar gael i bobl leol yn eu cymunedau lleol drwy ddatblygu 3 tŷ gwag a rhoi cynnig i brynwyr tro cyntaf lleol eu prynu yn ddigon uchelgeisiol ac oni ddylid gosod targed mwy uchelgeisiol ar gyfer menter yr oedd y Pwyllgor yn ystyried yn un clodwiw. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai’r broses ble mae’r Cyngor yn gweithio gyda pherchnogion eiddo gwag sy’n dewis gwerthu eu heiddo i’r Cyngor yn hytrach nac ar y farchnad agored; mae’r Cyngor yn adnewyddu’r eiddo ac yna’n eu gwerthu i brynwyr tro cyntaf lleol ac yn cadw cyfran o’r ecwiti i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fforddiadwy. Eglurodd y Swyddog fod gan y Gwasanaeth Tai 3 eiddo o’r fath ar gyfer cyfnod y Cynllun sy’n cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd, er y cwblhawyd gwaith ar 7 eiddo yn barod.

           Cyfeiriwyd ymhellach at yr amwysedd sy’n bodoli mewn perthynas â’r dreth ar ail gartrefi ble mae ail gartrefi’n cael eu hail-ddynodi’n eiddo busnes (ar ôl i Asiantaeth y Swyddfa Brisio dystio eu bod yn bodloni’r meini prawf) gan olygu nad ydynt yn talu premiwm ail gartrefi'r Dreth Gyngor na’r Dreth Gyngor ond yn hytrach yn talu trethi busnes, er bod nifer o eiddo o’r fath yn gymwys i dderbyn rhyddhad trethi busnesau bach. Cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod pryder a fynegwyd gan y Pwyllgor Gwaith ynglŷn â cholli incwm wrth i nifer gynyddol o ail gartrefi drosglwyddo allan o’r system dreth gyngor i drethi busnes wedi cael ei gyfleu mewn llythyr at Lywodraeth Cymru yr oedd y Prif Weinidog wedi ymateb iddo. Darllenodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid ymateb y Prif Weinidog a oedd yn cyfeirio at y ffaith mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Gyfunol ble rhoddwyd pwerau dewisol i awdurdodau lleol godi premiwm Treth Gyngor o hyd at 100% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ac yn nodi hefyd y cyflwynwyd y darpariaethau hynny i gynorthwyo cynghorau i reoli problemau’n ymwneud â chyflenwad tai yn lleol yn hytrach nac fel mesur i gynhyrchu refeniw. Er bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod y broblem a grëir mewn cymunedau yn y Gogledd wrth i ail gartrefi gael eu trosglwyddo o drethi domestig i drethi busnes, a’r angen i ganfod atebion priodol i’r cymunedau hynny er mwyn sicrhau nad yw pobl leol yn cael eu prisio allan o’r cymunedau lle cawsant eu geni, mae’n datgan nad oes atebion cyflym a bod 4 trywydd posib yn cael eu hystyried fel syniadau ar gyfer y weinyddiaeth nesaf, sef amrywio lefel uwch y dreth trafodion tir ar gyfer ail gartrefi ar lefel ranbarthol; cynyddu’r cyfnod y mae’n rhaid gosod eiddo cyn y bydd yn gymwys ar gyfer trethi busnes; cyflwyno pwerau i awdurdodau lleol godi treth twristiaeth a chreu manteision i brynwyr tro cyntaf lleol. Daeth yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid i’r casgliad yr ymddengys na fydd Gweinyddiaeth bresennol Llywodraeth Cymru, sydd ddim yn ystyried fod amwysedd yn bodoli, yn mynd i’r afael â’r mater; mae hyn yn siomedig o ystyried ei bod yn broblem yn Ynys Môn ac yn effeithio ar nifer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru hefyd.

           Gan gydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i greu tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol, gan gynnwys dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, gwnaed pwynt ynghylch angen sydd yr un mor ddybryd i gynyddu nifer y tai rhent gan nad yw pob tŷ a ddynodir yn dŷ fforddiadwy o fewn cyrraedd pawb yn ariannol. Eglurodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai fod cynllun prynu hen dai cyngor yr Awdurdod 30% yn uwch na’r targed a bod tai cyngor newydd yn parhau i gael eu datblygu (er yn is na’r targed eleni oherwydd y pandemig), gyda nifer o unedau ar y gweill a nifer yn barod i’w gosod fel rhan o’r nod o ddarparu stoc dai fforddiadwy.

 

Ar ôl ystyried y Ddogfen Gyflawni Flynyddol am gyfnod o ddeunaw mis o fis Hydref 2020 i fis Mawrth 2022, a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Swyddogion ac Aelodau Porffolio yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell y Ddogfen Gyflawni Flynyddol 2020-2022 i’r Pwyllgor Gwaith (Bu i’r Cynghorwyr Aled Morris Jones a Bryan Owen atal eu pleidlais)

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: