Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2020/21 i’r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor yr adroddiad a chadarnhaodd fod y pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar yr adroddiadau chwarterol ar gyfer Ch4 2019/20 a Ch1 2020/21 ac y cytunwyd i beidio â’u cyhoeddi a’u trafod yn y pwyllgorau perthnasol. Mae delio â’r pandemig wedi bod yn her sylweddol i’r Cyngor – nid yn unig o ran cynnal gwasanaethau rheng flaen a chynnal busnes arferol lle bo hynny’n bosib, ond hefyd o ran sicrhau fod trefniadau iechyd a diogelwch mewn lle i ddiogelu staff yr Awdurdod wrth iddynt ddarparu gwasanaethau. Bu’n rhaid i’r Cyngor ymateb i amgylchiadau sy’n newid yn gyflym ac addasu iddynt. Fodd bynnag, mae’n galonogol nodi fod y mwyafrif (88%) o’r dangosyddion sy’n cael eu monitro yn parhau i berfformio’n dda yn erbyn y targedau (statws CAG Gwyrdd neu Felyn) gyda phresenoldeb yn y gweithle (2.66 diwrnod o absenoldeb fesul ALlC yn ystod y cyfnod yn erbyn targed o 4.48 diwrnod) a’r dangosyddion o dan symud i wasanaethau digidol ymysg yr uchafbwyntiau ar gyfer y cyfnod adrodd.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i’r pwyntiau a’r cwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor –

 

           Mewn perthynas â phwysigrwydd gwydnwch a llesiant staff o ran parhau i gynnal perfformiad da, cytunodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod llwyddiant y Cyngor wrth ymateb i’r argyfwng i’w briodoli i raddau helaeth i gydweithrediad ei weithlu a’i barodrwydd i addasu. Yn ei dro, mae’r Cyngor wedi ceisio cyfathrebu, ymgysylltu a darparu cymorth i’w staff mewn perthynas â’u lles a’u hanghenion wrth weithio o bell ac mae’r ymateb positif i’r Arolwg Staff Interim ar Weithio Gartref a ddosbarthwyd yn gynharach yn ystod y pandemig yn tystio i hynny. Yn ogystal, mae lefelau straen yn cael eu monitro fel rhan o’r broses o fonitro presenoldeb yn y gwaith ac mae’n galonogol nodi na chafwyd cynnydd yn lefelau straen staff o gymharu â’r un chwarter yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae rheoli straen yn bwysig ac mae staff yn cael eu hannog i gymryd egwyl o’u gwaith yn rheolaidd ac mae hynny’n cael ei danlinellu gan y Prif Weithredwr yn ei negeseuon wythnosol i staff ac mae rheolwyr y gwasanaeth yn cynorthwyo gyda hynny hefyd. Cydnabyddir y gall delio gyda’r pandemig dros fisoedd lawer achosi blinder, yn arbennig wrth i fisoedd y gaeaf ddynesu.

 

           Mewn perthynas â’r posibilrwydd fod gweithio gartref yn ffactor o ran y gwelliant mewn lefelau presenoldeb yn y gwaith, esboniodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod y gweithlu wedi dod ynghyd ar ddechrau’r pandemig ac wedi ymrwymo fel tîm i ymateb i’r argyfwng. Mae dadansoddiad o’r data o gymharu â’r llynedd a’r rhesymau am absenoldebau salwch yn dangos, er na fu newid yn y  mathau o salwch, bu llai o achosion a rhaid cofio hefyd fod Chwarter 2 yn cyd-fynd â chyfnod o dywydd braf sy’n cael ei gysylltu ag iechyd gwell ni waeth a yw staff yn gweithio gartref neu yn y swyddfa. Yn draddodiadol, misoedd y gaeaf yw’r mwyaf heriol o ran presenoldeb yn y gwaith a rhagwelir y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau ar gyfer Ch3 a Ch4. Serch hynny, mae Swyddogion yn hyderus y bydd y cychwyn cadarn i 2020/21 yn golygu y bydd y targed ar gyfer presenoldeb yn y gwaith yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y flwyddyn, neu y rhagorir arno o bosib. Gellir priodoli’r gwelliant yn y ffigyrau i nifer o ffactorau mewn blwyddyn eithriadol.

 

           Mewn perthynas â’r diffyg a ragwelir yn y Dreth Gyngor a’r gorwariant ragamcanedig o £234k a'r goblygiadau i wasanaethau’r Cyngor mewn perthynas â chyflawni eu targedau, esboniodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid bod y posibilrwydd y byddai mwy o bobl yn methu talu eu Treth Gyngor ac yn gwneud cais i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor o ganlyniad i broblemau ariannol yn deillio o’r pandemig. Er y bydd ymestyn y cynllun seibiant swyddi (ffyrlo) i ddiwedd mis Mawrth 2021 heb amheuaeth yn helpu’r sefyllfa ariannol, mae’n rhy gynnar o hyd i ragweld sut fydd y sefyllfa’n datblygu hyd at ddiwedd y flwyddyn a beth fydd sefyllfa’r Cyngor bryd hynny.

 

           Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y sefyllfa mewn perthynas â’r effaith ar incwm y Dreth Gyngor gan amlinellu sut y cyfrifir sylfaen y Dreth Gyngor ar sail yr eiddo y codir y Dreth Gyngor safonol arnynt, a’r eiddo y mae’n rhaid talu premiwm y Dreth Gyngor arnynt (premiwm o 100% yn achos eiddo gwag tymor hir a phremiwm o 35% yn achos ail gartrefi). At ddibenion cyfrifo sail y dreth, defnyddir ffigwr o 80% o’r eiddo y gellir codi premiwm arnynt er mwyn adlewyrchu newidiadau yn ystod y flwyddyn yn nifer yr eiddo y mae’r premiwm yn daladwy arnynt a hefyd i sicrhau nad yw’r targed incwm o bremiwm y Dreth Gyngor yn cael ei osod ar lefel rhy uchel. Yn ystod y flwyddyn, mae nifer o ail gartrefi wedi trosglwyddo o drethi domestig i drethi busnes gan arwain at golli incwm dreth gyngor yn ogystal ag incwm o’r premiwm. Yn ogystal, gellir ôl-ddyddio ceisiadau i gofrestru ail gartrefi ar gyfer trethi busnes sy’n golygu fod rhaid i’r Cyngor ad-dalu’r dreth gyngor o ddyddiad y cofrestriad. Tra bod nifer yr ail gartrefi sy’n ailgofrestru fel busnesau wedi cynyddu, nid yw nifer y cartrefi yn y categori premiwm ail gartrefi wedi newid yn sylweddol, yn bennaf oherwydd bod pobl yn prynu eiddo sy’n talu’r Dreth Gyngor safonol fel ail gartrefi, sy’n cael eu nodi fel cartrefi o’r fath gan yr Awdurdod ac y codir y premiwm arnynt wedyn. Canlyniad y symudiadau hyn yw gostyngiad yn nifer yr eiddo y codir y Dreth Gyngor safonol arnynt ac mae hynny’n cael effaith ar refeniw’r Dreth Gyngor. Tra bod incwm y premiwm yn uwch na’r targed oherwydd mai dim ond 80% o’r eiddo cymwys a ddefnyddir ar gyfer cyfrifo sail y Dreth Gyngor a bod hynny’n creu gwarged yn y gyllideb, mae incwm o’r Dreth Gyngor safonol yn is am y rhesymau canlynol - mae tai yn cael eu trosglwyddo i’r categori premiwm; mae eiddo’n symud allan o’r system dreth gyngor yn gyfan gwbl; mae perchnogion ail gartrefi yn derbyn ad-daliad ar y dreth gyngor a dalwyd ganddynt ar ôl cofrestru fel busnesau. O ran casglu’r Dreth Gyngor, er bod y gyfradd casglu yn is na’r llynedd, mae’r sefyllfa’n well na’r disgwyl yn rhannol oherwydd y cynllun seibiant swyddi (ffyrlo) sydd wedi caniatáu i bobl barhau i dalu’r dreth gyngor heb orfod troi at Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, ni wyddys beth fydd effaith tymor hir y pandemig ar y rhai sydd â dyledion Treth Gyngor a ni ddaw hynny’n glir hyd nes y bydd y broses casglu dyledion wedi’i gwblhau. Rhagwelir y bydd angen cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg fydd yn ei dro’n cael effaith ar y gyllideb refeniw.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach am refeniw’r premiwm ac a oes angen adolygu’r polisi oherwydd y man gwan yn y ddeddfwriaeth, cadarnhaodd y Swyddog fod y premiymau ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir yn cynhyrchu incwm o thua £1m a £500k y flwyddyn yn y drefn honno a bod cyfran sylweddol o’r incwm hwnnw’n cael ei ddyrannu i’r Gwasanaeth Tai i gefnogi tai yn lleol. Nid mater o ddewis yw newid tŷ o fod yn ail gartref i fod yn eiddo busnes – mae’n rhaid i Asiantaeth y Swyddfa Brisio gadarnhau fod y meini prawf angenrheidiol wedi cael ei bodloni; y broblem yw a oes gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddigon o gapasiti i fonitro cydymffurfiaeth â’r meini prawf yn dilyn cofrestru’r eiddo fel eiddo busnes. Cyflwynir adroddiad ar weithrediad y Premiwm ers iddo gael ei gyflwyno ar Ynys Môn i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr, 2020.

 

           Mewn perthynas â Dangosydd 43 (Canran o apeliadau cynllunio a wrthodwyd) a ddangosir yn Goch ar y cerdyn sgorio, gyda pherfformiad o 50% yn erbyn targed o 65, gofynnwyd ai’r Pwyllgor oedd wedi gwneud penderfyniadau yn groes i argymhelliad y swyddog yn achos y 3 apêl (allan o 6) a gadarnhawyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Eglurodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio fod y 3 apêl yn ymwneud â cheisiadau am anheddau newydd i gymryd lle hen eiddo ac mai Swyddogion oedd wedi penderfynu ar y ceisiadau. Mewn ymateb i sylwadau pellach ynghylch ymweliadau safle gan y Pwyllgor – maent wedi cael eu hatal ar hyn o bryd oherwydd Covid-19 – gan ddweud eu bod yn elfen bwysig o’r broses gwneud penderfyniadau, cadarnhaodd yr Aelod Portffolio fod ymweliadau safle wedi cael eu hailgyflwyno ar ffurf rhithwir. Awgrymodd y Cadeirydd y gellid trafod y mater ymhellach yng nghyfarfodydd yr Arweinyddion Grwpiau.

 

           Mewn perthynas â Dangosydd 27 (Canran yr atgyfeiriadau plant sy’n ailgyfeiriadau o fewn 12 mis) sy’n Goch ar y cerdyn sgorio gyda pherfformiad o 38.89% yn erbyn taged o 10%, gofynnwyd beth oedd y rhesymau am y tanberfformiad. Eglurodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol mai dangosydd lleol yw hwn a gyflwynwyd er mwyn rhoi sylw i fater penodol a godwyd gan AGC. Nid yw ailgyfeiriad o angenrheidrwydd yn golygu fod y plentyn dan sylw’n cwrdd â’r trothwy ar gyfer asesiad neu ymyrraeth a bydd y dangosydd yn cael ei adolygu i benderfynu a yw’n addas i bwrpas. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod y dangosydd yn cyfeirio at nifer gymharol fechan o achosion yng nghyd-destun nifer y teuluoedd y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgysylltu â nhw a bod eu hanghenion yn newid ac yn esblygu gan olygu y gallant gael eu hailgyfeirio am gymorth sy’n diwallu’r anghenion newydd hynny. Canfu adolygiad o ffeiliau achosion a ailgyfeiriwyd fod pob un ohonynt wedi cael eu hailgyfeirio’n briodol i’r gwasanaeth am resymau a sefyllfaoedd newydd nad oedd modd eu rhagweld neu eu hatal.

 

           Mewn perthynas â Dangosydd 35 (nifer y dyddiau calendr a gymerir ar gyfartaledd i osod unedau llety y mae modd eu gosod, ac eithrio Unedau Anodd eu Gosod) sydd yn Goch ar y cerdyn sgorio gyda pherfformiad o 78 diwrnod yn erbyn targed o 26 diwrnod, cwestiynwyd y tanberfformiad. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai fod sefyllfa’r pandemig wedi cael effaith ar berfformiad ac nad oedd yn bosib gosod tai ar yr un raddfa oherwydd bod rhaid cydymffurfio â deddfwriaeth coronafeirws a gofynion cadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, bydd y Gwasanaeth yn dadansoddi’r dangosydd hwn yn fanylach er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r rhesymau am y tanberfformiad. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y broses gosod tai wedi parhau yn ystod y pandemig, ond bod y broses yn arafach e.e. cafodd 131 uned eu gosod eleni, o gymharu â 206 uned yn ystod yr un cyfnod y llynedd. Er bod hyn yn gyflawniad o hyd o ystyried yr amgylchiadau heriol, bydd y Gwasanaeth yn ceisio dod â pherfformiad yn agosach at y targed yn ystod y misoedd nesaf.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r diweddariadau a roddwyd gan Swyddogion yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i argymell y mesurau lliniaru a amlinellwyd i’r Pwyllgor Gwaith.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: