Eitem Rhaglen

Cynllun Peilot Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Anableddau Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion.  

 

Dywedodd  yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cynllun peilot ar gyfer anableddau dysgu yn amlinellu’r flaenoriaeth i'r Cyngor Sir a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y cyfnod cychwynnol o 12 mis i  sefydlu prosiect mewn model arbrofol o gyllidebau cyfun. Nod y cynllun peilot yw sicrhau y gwneir y defnydd gorau o arian ar draws yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd er mwyn gwneud penderfyniadau amserol ar ofal a chymorth o ddydd i ddydd ar gyfer cleientiaid Anableddau Dysgu. Bydd y cynllun peilot o fudd ychwanegol hefyd gan y bydd yn cynorthwyo i gyflawni Cytundeb Integreiddio Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion ei bod yn her barhaus i gydbwyso anghenion dinasyddion o fewn y dyraniad ariannol sydd ar gael, ond mae’r cynllun peilot, gyda chefnogaeth Cytundeb Adran 33, yn amlygu cynllunio integredig clir. Nododd fod 36 o becynnau gofal a ariennir ar y cyd ar gyfer unogolion sy’n byw mewn llety â chymorth sydd wedi'u cynnwys yng Ngham 1 y cynllun peilot. Nododd fod hyn yn cysylltu â'r broses dendro ynghylch byw â chymorth. Cytunwyd y bydd y swm llawn ar gyfer y gyllideb gyfun yn cael ei drosglwyddo erbyn Ebrill 2021 ac mai’r Awdurdod fydd  yn rheoli a gweinyddu'r gyllideb fel y sefydliad cynnal. Cynhelir gwerthusiad annibynnol o'r cynllun peilot gan yr IPC er mwyn pwyso a mesur a fu'n llwyddiant ai peidio. Cyfanswm gwariant cyfredol y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol yw: -

 

·      Bwrdd Iechyd                   -           £1,346,723.81

·      Yr Awdurdod Lleol          -           £1,819,478.06

 

Adroddodd ymhellach mai cynllun peilot Cam 1 yw hwn am 12 mis ac y cynhelir gwerthusiad allanol ohono er mwyn penderfynu sut i symud ymlaen wedyn ar ôl y 12 mis. Bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gwerthuso cynnydd y cynllun ac yn cyflwyno adroddiadau chwarterol  i'r Bwrdd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn: -

 

·           Gofynnwyd sut y bydd llofnodi'r Cytundeb Adran 33 yn rheoli unrhyw risgiau posib i'r Cyngor yn sgil cyflwyno cyllideb gyfun. Ymatebodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion na fydd y cyllid a roddir gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd yn cynyddu ac mae’r Cytundeb Adran 33 yn nodi na all y naill sefydliad na’r llall dynnu ymrwymiad ariannol yn ôl yn ystod cyfnod Cam 1 y cytundeb;

·           Gofynnwyd a oes cynllun tebyg wedi ei gynnal yn  unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru neu Loegr ac a ellir dysgu gwersi o gynlluniau o'r fath. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl bod ymweliad wedi'i drefnu i Fanceinion i wrando ar eu bwrdd partneriaeth pan ystyriwyd dechrau trafodaeth am gyllidebau cyfun. Nododd fod y bartneriaeth menter cyllideb gyfun yn ardaloedd Manceinion yn un sylweddol, gyda 10 awdurdod lleol, y bwrdd iechyd a’r CCG sy'n comisiynu'r awdurdod iechyd yn Lloegr oll yn rhan o'r  cynllun cyllideb gyfun ac roedd yn amlwg bod angen gwerthuso cynnydd y cynllun fesul cam;

·           Holwyd beth oedd gwerth ychwanegol cymryd rhan yn y cynllun peilot ar gyfer cyllideb gyfun. Ymatebodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion y bydd y cynllun cyllideb gyfun yn rhoi sicrwydd bod yr adnoddau mewn lle ac y gellir rheoli sut y bydd y cyllid yn cael ei wario. Nododd y bydd yn caniatáu i Swyddogion fesur a chael trosolwg o agwedd gwerth am arian y cynllun a phwyso a mesur a yw'r gwasanaethau a roddir yn ddigonol ar gyfer y cleientiaid;

·           Holwyd a fydd yn cael effaith ar y gwasanaethau i'r 36 unigolyn sy'n derbyn y gefnogaeth trwy'r cynllun byw â chymorth ac a yw eu teuluoedd yn ymwybodol o'r cynllun peilot. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl na fydd y 36 unigolyn yn gweld unrhyw newid i'r gwasanaethau a ddarperir iddynt ond y gobaith yw y gellir gwneud penderfyniadau ar fyrder ynglŷn â'r gwasanaethau y byddir eu hangen a hysbysu’r defnyddwyr gwasanaeth yn brydlon. Nododd ymhellach fod teuluoedd yr unigolion yn ymwybodol o'r cynllun.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo gweithredu cynllun peilot ar gyfer cronfa gyfun rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan weithredu  fesul cam, mewn perthynas â'r gyllideb byw â chymorth ar gyfer trigolion ag anableddau dysgu yn Ynys Môn sy'n cael eu hariannu ar y cyd ar hyn o bryd.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.

 

Dogfennau ategol: