Eitem Rhaglen

Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa ganol blwyddyn mewn perthynas â Rheoli Trysorlys 2020/21.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 grynodeb o’r prif bwyntiau mewn perthynas â gweithgareddau benthyca a buddsoddi ar ganol blwyddyn gan gyfeirio’n benodol at effaith Covid-19 a chadarnhaodd y cydymffurfiwyd â’r dangosyddion trysorlys a darbodus a nodir yn Natganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor 2020/21.

 

Roedd y pwyntiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol

 

           Bod y Cyngor yn parhau i roi blaenoriaeth i sicrhau diogelwch cyfalaf a hylifedd ac i dderbyn lefel briodol o enillion sy’n gyson ag archwaeth risg y Cyngor. Lle bo’n bosib, mae’r Cyngor yn defnyddio ei gronfeydd arian ei hun i ariannu gwariant cyfalaf ac nid yw’n benthyca mwy nag sydd ei angen nac yn benthyca cyn i’r angen godi. Fodd bynnag, mae’r gallu i fenthyca’n allanol i ad-dalu’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau os oes angen yn bwysig.

           Roedd gan y Cyngor £42.244m o fuddsoddiadau ar 30 Medi 2020 (£20.208m ar 31 Mawrth 2020). Oherwydd y grantiau mawr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddelio ag argyfwng Covid a’r ffaith bod cyfrifon galw ar gael i’r Cyngor, mae hyn wedi golygu bod y balansau yn y cyfrifon galw yn uwch na’r terfynau a gymeradwywyd yn y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol sydd wedi ei chynnwys yn y DSRhT am 2020/21. Er nad oedd modd rhagweld hyn, bydd terfynau gwrth bartïon yn cael eu hasesu a’u hadolygu wrth gynhyrchu’r DSRhT ar gyfer 2021/22.

           Oherwydd mai diogelwch yr arian yw dangosydd allweddol y Cyngor, ystyrir mai buddsoddiadau gydag awdurdodau lleol eraill yw’r ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian ac mae hyn yn rhoi enillion uwch na’r mwyafrif o gyfrifon galw gyda banciau. Mae’r tabl ym mharagraff 5.9 yr adroddiad yn dangos rhestr o fuddsoddiadau gydag awdurdodau eraill yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol.

           Er na fenthycwyd arian yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, rhagwelir y bydd angen benthyca yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Bydd angen benthyca i gyllido rhan o raglen cyfalaf 2020/21 a gwneir hynny trwy fenthyca mewnol a benthyca allanol. Mae’r benthyca allanol mewn perthynas â chyllido cost cyfalaf o £4.449m ar gyfer cerbydau newydd yn unol ag amodau’r contract gwastraff a ddyfarnwyd i Biffa. Mae’r Cyngor wedi rhagweld y bydd wedi cael benthyg £128.9m ar ddiwedd y flwyddyn a bydd wedi defnyddio £11.7m o gronfeydd llif arian yn lle benthyca.

           Nid oes unrhyw ddyledion wedi cael eu haildrefnu yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol hyd yma.

           Mae rhai newidiadau i sut y cyllidir y rhaglen gyfalaf oherwydd y disgwylir tanwariant sylweddol yn 2020/21 mewn cynlluniau cyfalaf, yn bennaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Cyfrif Refeniw Tai. Fel ar 30 Medi 2020, cafwyd gwariant cyfalaf o £11.471m yn erbyn cyllideb wreiddiol o £49.466m a rhagwelir gwariant o £33.755m ar y gyllideb gyfalaf erbyn diwedd y flwyddyn. Gwelir manylion o sut mae’r tanwariant a ragwelir yn effeithio ar y trefniadau ariannu cyfalaf yn y tabl yn 3.3.2 sy’n arwain at y rhagolwg Gofyniad Cyllido Cyfalaf a welir ym mharagraff 7.4.3.1 yr adroddiad.

 

Wrth ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn

 

                       A yw’r gwariant o £33?755m a ragwelir ar y gyllideb gyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn yn realistig o ystyried mai dim ond £11.471m o wariant a gafwyd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ac o ystyried hefyd fod gan yr Awdurdod hanes o danwario ar ei raglen gyfalaf bob blwyddyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog 151 fod y pandemig Covid-19 a chyfyngiadau cysylltiedig wedi cael effaith sylweddol ar gynnydd cynlluniau cyfalaf ac o’r herwydd ar wariant cyfalaf yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol a bod y gwariant cyfalaf gwirioneddol o £11m ar ganol y flwyddyn yn anarferol o isel. Felly, bydd elfen o ddal i fyny yn ystod ail hanner y flwyddyn; yn ogystal mae gwariant ar nifer o gynlluniau cyfalaf yr Awdurdod wedi’i gynllunio ar gyfer ail hanner y flwyddyn ariannol. Tra bod yr Awdurdod yn tueddu i fod yn or-optomistaidd wrth ragamcanu gwariant cyfalaf, mae gweithgareddau ar gynlluniau yn tueddu i gynyddu tuag at ddiwedd y flwyddyn. Mae’r tywydd yn ffactor ychwanegol sy’n gallu llesteirio cynnydd ar gynlluniau. Mae’r Cyfrif Refeniw Tai, sy’n cynrychioli swm sylweddol o wariant, yn gyllideb y gellir ei chario drosodd i’r flwyddyn nesaf. Mae’r rhaglen gyfalaf yn cael ei monitro’n rheolaidd a bydd yn cael ei hadolygu nesaf ar ddiwedd Chwarter 3. Mae’r Awdurdod yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw arian yn cael ei golli oherwydd oedi ar brosiectau cyfalaf.

           Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng y llog y mae’r Awdurdod yn ei dalu ar ei fenthyciadau, gan gyfeirio’n benodol at gyfraddau’r Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus (BBGC), a’r llog y mae’n ei dderbyn ar fuddsoddiadau ac o’r herwydd, a ddylid ystyried adolygu a lleihau benthyciadau allanol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod nifer o fenthyciadau’r Awdurdod yn fenthyciadau hirdymor a’u bod yn cael eu hadolygu’n gyson. Er bod cyfradd y BBGC wedi gostwng, ystyrir na fyddai ad-dalu’r benthyciad yn gynnar yn gost effeithiol gan fod dirwyon llym ynghlwm â gwneud hynny. Yn ogystal, strategaeth yr Awdurdod ers nifer o flynyddoedd yw defnyddio’r arian parod sydd ganddo ar gyfer gwariant cyfalaf a thrwy hynny osgoi taliadau llog.

           Oherwydd bod balansau arian parod yr Awdurdod mor uchel, a fyddai’n bosib darparu cymorth i sectorau busnes/cyflogaeth yr Ynys. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad yw’r arian sydd gan yr Awdurdod ar gael i’w wario o reidrwydd a bod llawer o’r arian wedi’i glustnodi ar gyfer dibenion penodol, gan gynnwys cwrdd â chostau refeniw'r rhaglen gyfalaf. Yn ogystal, mae’r Awdurdod yn gallu cadw cronfeydd wrth gefn i ddarparu rhwyd diogelwch ar gyfer argyfwng annisgwyl, megis y pandemig presennol. Er bod yr economi yn un o blith ystod o ddyletswyddau statudol yr awdurdod lleol, swyddogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yw hyrwyddo’r economi. Mater i’r Cyngor llawn yw penderfynu wrth osod ei gyllideb flynyddol a yw’n dymuno cynyddu’r gyllideb refeniw i helpu i gwrdd ag anghenion yr economi leol ar hyn o bryd. Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn gosod terfynau ynghylch yr hyn yr awdurdodir swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith ei wneud o ran ymrwymo gwariant refeniw.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad adolygiad canol blwyddyn ar Reoli Trysorlys ar gyfer 2020/21 heb unrhyw sylw pellach.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL.

Dogfennau ategol: