Eitem Rhaglen

Llythyr Archwilio : Cronfeydd Cyfun Rhanbarthol mewn perthynas â Lleoedd i Bobl Hyn mewn Cartrefi Gofal

Cyflwyno adroddiad gan Archwilio Allanol. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad Archwilio Allanol ynghylch cronfeydd cyfun rhanbarthol mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad ar ffurf dau lythyr, sef y llythyr at Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn a’r llall at y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn codi materion ynghylch gwerth am arian mewn perthynas â’r trefniadau cyllidebau cyfun presennol yng Ngogledd Cymru yn ymwneud â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal.

 

Adroddodd Mr Jeremy Evans, Archwilio Cymru, fod Archwilio Cymru wedi cwblhau dau adolygiad yn ddiweddar yn edrych ar ofal preswyl a gofal nyrsio yng Ngogledd Cymru, yn benodol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Wrecsam. Er bod yr adolygiadau’n edrych yn bennaf ar drefniadau lleol, roeddent yn ogystal wedi codi rhai pryderon penodol ynglŷn â chronfa gyfun ranbarthol Gogledd Cymru mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal sydd yn bartneriaeth rhwng pob un o’r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Daeth yr adolygiad i’r casgliad nad yw’r trefniant presennol lle mae arian gan y sefydliadau perthnasol yn cael ei drosglwyddo i gronfa gyfun a weinyddir gan Gyngor Sir Ddinbych a’i ddychwelyd i bob cyfrannwr 24 awr yn ddiweddarach, er ei fod yn bodloni’r gofynion sylfaenol o ran cydymffurfio â safonau Llywodraeth Cymru, yn cynnig gwerth am arian nac yn sicrhau unrhyw un o’r manteision a fwriadwyd drwy gronfa gyfun. Er nad yw Archwilio Cymru wedi profi’r trefniadau mewn rhanbarthau eraill, mae’n deall fod trefniadau cyffelyb ar waith. Mae’r wybodaeth a’r cynigion ar gyfer gwella trefniadau’r gronfa gyfunol wedi cael eu rhannu â Chyngor Môn fel un o bartneriaid y gronfa. Hysbyswyd Llywodraeth Cymru am y pryderon hyn a gofynnwyd am sicrwydd ganddynt ynghylch y camau y bwriadant eu cymryd i gefnogi cyflawniad cronfeydd cyfun yng Nghymru’n well.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud cytundeb cronfa gyfun ar gyfer llety cartref gofal i bobl hŷn. O ystyried gwerth cronfa gyfun ranbarthol Gogledd Cymru (oddeutu £100m), mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i wneud cytundeb o’r fath ac mae angen asesu’r risgiau a chytuno ar weithdrefnau ymlaen llaw. Gan na chynhaliwyd ymgynghoriad ymlaen llaw â’r cynghorau, ac oherwydd bod diffyg eglurder ynghylch amcanion y gronfa gyfun mewn perthynas â gwasanaethau llety cartref gofal ar gyfer pobl hŷn, trafododd y chwe awdurdod lleol a BIPBC eu hoblygiadau o ran cwrdd â’r gofynion technegol sylfaenol o dan y Ddeddf ac, yn seiliedig ar fodel a weithredwyd gan ranbarth Caerdydd, daethpwyd i’r trefniant a ddisgrifir yn Llythyr yr Archwiliwr lle mae cyfraniadau’n cael eu trosglwyddo i gronfa gyfun a’u dychwelyd ar yr un diwrnod. Er bod yr awdurdod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, fel rhan o drafodaethau sydd ar y gweill mae’r awdurdodau lleol yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru drwy BIPBC i adolygu’r Ddeddf ac i egluro beth y disgwylir i’r gronfa gyfun ei gyflawni. Byddai cyfrannu at gronfa gyfun a chymryd rhan mewn ymarfer caffael ar y cyd â BIPBC a’r pum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru heb sefydlu a chytuno ar brosesau ffurfiol ynghylch defnyddio’r cronfeydd cyfun yn creu risgiau i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro bod rhinweddau i rai o’r trefniadau cronfeydd cyfun ac yn ddiweddar cymeradwyodd yr Awdurdod gynllun peilot cronfeydd cyfun gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas â’r gyllideb byw â chymorth ar gyfer oedolion ag anghenion dysgu sy’n byw ar Ynys Môn ond bod maint yn gallu effeithio ar effeithiolrwydd trefniadau o’r fath. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y prosiect peilot cronfa gyfun Anableddau Dysgu yn seiliedig ar gytundeb rhwng y ddau bartner sy’n golygu ei fod yn haws ei reoli. Mae cronfeydd cyfun yn gweithio orau pan fyddant ar raddfa fach gan eu bod yn haws eu rheoli ac yn cynhyrchu canlyniadau gwell sydd wedi eu diffinio’n gliriach.

Wrth dynnu sylw at raddfa cronfa gyfun ranbarthol Gogledd Cymru, dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod cost flynyddol gyfunol i'r cynghorau weinyddu'r trefniant y gellid ei wario'n fwy cynhyrchiol mewn mannau eraill yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’n risg gwneud cyfraniadau i gronfa gyfun Gogledd Cymru heb sicrwydd ynghylch y manteision i’r gwasanaeth a’r defnyddwyr. Er bod yr Awdurdod ond yn cydymffurfio â gofynion sylfaenol y Ddeddf, yn y cyfamser mae o wedi nodi maes mewn perthynas a’r Gwasanaethau Anableddau Dysgu lle mae cronfa gyfun gyda BIPBC yn debygol o fod o fantais i’r gwasanaeth a’i ddefnyddwyr.

 

Nododd y Pwyllgor y sefyllfa ynglŷn â Chronfa Gyfun Gogledd Cymru mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal fel yr amlinellir yn y Llythyrau Archwilio ac, o fyfyrio ar sylwadau’r Swyddogion a’r Aelod Portffolio a’r amheuon a fynegwyd ynghylch agweddau ymarferol a llywodraethiant Cronfa Gyfun Gogledd Cymru, cadarnhaodd ei fod yn fodlon â safbwynt yr Awdurdod a’i fod yn fodlon ei gefnogi.

 

Penderfynwyd nodi’r Llythyrau Archwilio a’u cynnwys ac i gefnogi safbwynt yr Awdurdod ynglŷn â Chronfa Gyfun Gogledd Cymru mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL.

Dogfennau ategol: