Eitem Rhaglen

Cofnodion y Cyfarfod

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar:-

 

   17 Medi 2019

   11 Mawrth 2020

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn gywir, yn amodol ar y canlynol-

 

• 17 Medi 2019

• 11 Mawrth 2020 (Arbennig)

 

Adroddodd y Cadeirydd, oherwydd nad oedd cworwm yn y cyfarfod diwethaf, fod cofnodion 17 Medi 2019 wedi’u cyflwyno i gyfarfod heddiw i’w cymeradwyo.  Nodwyd bod y Cadeirydd wedi derbyn y cofnodion yn flaenorol, a chadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas fod y cofnodion yn gywir

 

Materion yn codi o’r cofnodion

 

  Eitem 2 - Cadarnhaodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod gohebiaeth wedi’i hanfon at yr Adain TGCh yn dilyn cais ynghylch a ellid newid presenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd ipresennol”. Nodwyd na dderbyniwyd ymateb gan yr Adain TGCh hyd yma.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn ysgrifennu at yr Adain TGCh yn gofyn am ymateb i gais y  Pwyllgor Safonau.

 

  Eitem 3 - Cadarnhawyd, oherwydd Covid-19, nad yw’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi gallu mynychu cyfarfodydd Arweinwyr Grŵp i drafod Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau a materion perthnasol eraill.  Adroddodd y Cadeirydd eu bod wedi cyfarfod ag un Grŵp, ac wedi gohebu ag un arall. Nodwyd unwaith y bydd cyfyngiadau'r cyfnod clo wedi eu llacio, bydd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn ceisio cwrdd ag Arweinwyr Grŵp.

 

Gofynnodd yr Is-Gadeirydd a ddylai'r Pwyllgor gymryd agwedd fwy rhagweithiol, a gofyn am gyfarfod gydag Arweinwyr Grŵp trwy Zoom neu Teams, ac fe gytunodd y Pwyllgor. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod Arweinwyr Grŵp yn aml yn cwrdd trwy Teams ac felly byddai’n gwneud trefniadau i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd fynychu cyfarfod rhithwir o'r Arweinwyr Grŵp.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Arweinwyr Grŵp i ofyn am wahoddiad i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau fynychu cyfarfod Arweinwyr Grŵp maes o law.

 

  Eitem 4 - Cyfeiriwyd at baragraff ar Dudalen 4 yr adroddiad a oedd yn dweud  Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD y byddai'n edrych i mewn i'r mater o gofnodi presenoldeb ar gyrsiau hyfforddi yn ganolog ar y system AD, ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law”.  Nodwyd nad oes diweddariad wedi'i ddarparu ar gofnodi presenoldeb hyd yma.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) yn codi'r mater gyda'r Rheolwr Hyfforddiant AD ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Safonau.

  Eitem 5 - Canslwyd Sesiwn Gadeirio ar y cyd a oedd wedi'i threfnu gydag awdurdodau lleol Gwynedd a Conwy oherwydd y pandemig. Mae'r hyfforddiant Cadeirio  bellach ar gael ar borth E-Ddysgu'r Cyngor.

 

  Eitem 11 - Adroddodd y Swyddog Monitro fod angen adolygu a chryfhau Protocol Datrysiad Lleol y Pwyllgor Safonau. Argymhellodd y dylai'r Pwyllgor adolygu'r Protocol ymhellach, ac ymgymryd â hyfforddiant cyfryngu yng nghyd-destun y Protocol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Adolygu Protocol Datrysiad Lleol y Pwyllgor Safonau;

  Bod y Pwyllgor Safonau yn ymgymryd â hyfforddiant cyfryngu yng nghyd-destun y Protocol Datrysiad Lleol.

 

Eitem 12 - Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro y wybodaeth ddiweddaraf am y Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  Cadarnhaodd fod y Mesur wedi cael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cymru, ac y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2021.  Bydd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir maes o law, i drafod y prif bwyntiau, a bydd hyn yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor Safonau, fel rhan o'r Pwyllgor.

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor am greu log gweithredu er mwyn i swyddogion ddiweddaru pwyntiau gweithredu sydd angen sylw, neu sydd wedi'u cwblhau.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig uchod.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniadau uchod.

 

Dogfennau ategol: