Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

Cofnodion:

12.1  FPL/2020/166 – Cais llawn i droi'r adeiladau allanol yn 4 uned wyliau yn Cymunod, Bryngwran

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan yr ymgeiswyr i gefnogi eu cais.

 

Carem roi gwybodaeth ychwanegol ger eich bron er mwyn cryfhau ein cais ac egluro'r rhesymau arbennig ar gyfer ein cynlluniau i drosi adeiladau allanol yng Nghymunod, Caergeiliog yn unedau gwyliau sy'n darparu ar gyfer pobl a phlant anabl. Cawsom ein geni a’n magu yma ym Môn. Fel teulu, rydym wedi rhedeg sawl busnes ar yr ynys dros yr 80 mlynedd ddiwethaf; Bysiau OR Jones, Llanfaethlu; Moduron Maethlu, ac yn fwy diweddar Holyhead Truck Services ym Mharc Diwydiannol Mona. Mae’r busnesau hyn yn cyflogi bron i 50 o bobl yr ynys ac mae’r ddau ohonom yn gyfarwyddwyr ar y busnesau hyn.

 

Hen ffermdy ydy Cymunod sy’n cynnwys nifer o adeiladau allanol sydd wedi dirywio dros y blynyddoedd yn sgil esgeulustod y perchnogion blaenorol. Rydym yn y broses o adnewyddu’r tŷ ac erbyn hyn yn teimlo bod angen i ni ystyried y defnydd o'r adeiladau allanol gan eu bod yn dirywio’n sydyn iawn. Creda’r ddau ohonom y byddai’n siom enfawr eu gweld nhw’n dirywio i’r graddau ble fydd yr adeiladau wedi diflannu’n gyfan gwbl. Yn seiliedig ar hyn a’n profiadau blaenorol o redeg busnesau a magu mab anabl, cawsom y syniad o geisio darparu cyfleusterau gwyliau ar gyfer pobl a phlant anabl. Mae’r syniad wedi deillio o brofiadau personol o fynd â’n mab anabl ar wyliau dros y blynyddoedd. Cafodd ein mab ei ddiagnosio gyda'r cyflwr Freidreich’s Ataxia pan oedd yn 10 oed. Mae’r anabledd yma yn gyflwr genynnol prin iawn sy'n amharu ar holl gyhyrau'r corff ac yn ddirywiol. Erbyn heddiw, mae’n 28 oed ac nid yw’n gallu gwneud dim drosto’i hun. Dros y 7 mlynedd diwethaf, mae wedi byw yn annibynnol yn ei gartref yng Nghemaes sydd wedi cael ei addasu i’w anghenion gyda gofal llawn amser.

 

Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn mynd a’n mab ar wyliau ac wrth i’w gyflwr waethygu, mae cael hyd i lety ar ei gyfer yn profi’n broses anodd iawn. Nid yw rhan fwyaf o’r gwestai rydym wedi eu defnyddio dros y blynyddoedd yn addas i’w anghenion nac yn darparu digon ar gyfer anghenion unrhyw berson gydag anabledd corfforol difrifol.

 

Yn sgil y profiadau hyn, penderfynom ein bod eisiau darparu cyfleusterau gwyliau i bobl ag anabledd difrifol. Ar ol ymchwilio sylweddolom fod gap yn y farchnad am gyfleusterau angenrheidiol hyn ar yr ynys. Bydd addasu'r fath yma o lety gwyliau yn gost ychwanegol i'r arfer oherwydd yr angen am offer arbennig, ond rydym yn fodlon buddsoddi er mwyn gallu darparu pobl anabl a’u teuluoedd gyda gwyliau braf yn y wlad a fydd yn rhoi cyfle iddynt ymlacio a mwynhau mewn lleoliad gwledig a diogel. Ein bwriad ydy creu llety gwyliau gyda adeiladau sy’n cynnwys cyfleusterau anabl gwych, gan gynnwys hoist a fydd yn hongian o’r to, a thoiled sy’n golchi a sychu. Byddem hefyd yn gallu darparu unrhyw offer ychwanegol yn ôl anghenion personol y gwesteion.

 

Bydd defnydd cyfyngedig o geir oherwydd, o'n profiadau personol, mae pobl sydd ag anableddau difrifol yn blino’n hawdd wrth fod allan trwy’r dydd. Y bwriad ydy bod y teuluoedd hyn yn gallu ymlacio a mwynhau’r ardd a’r tir o gwmpas Cymunod heb orfod ymweld ag ardaloedd prysur, megis traethau, neu fynd i gerdded i lefydd anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn.

 

Gobeithiem fod cynnwys y llythyr hwn yn cefnogi ein cynnig a byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn rhoi ystyriaeth ddwys i'r cais hwn.’

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais i drosi adeiladau allanol yn 4 uned wyliau wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar gais aelod lleol i sicrhau bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol. Nododd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cais yn lleol na gan ymgyngoreion statudol. Fodd bynnag, nid ystyrir bod safle'r cais  mewn lleoliad cynaliadwy ac ystyrir y byddai'n groes i Bolisi Strategol PS4 a Pholisi PS5 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol 18, Polisi Cynllunio Cymru. Yr argymhelliad oedd un o wrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes, wrth siarad fel Aelod Lleol, ei bod yn amlwg o'r ohebiaeth a ddarllenwyd yn y cyfarfod y byddai'r 4 uned wyliau yn darparu ar gyfer pobl anabl ag anghenion cymhleth. Nododd fod yr ymgeiswyr wedi nodi bwlch yn y farchnad ar gyfer cyfleusterau o'r fath oherwydd profiadau personol. Mynegodd y Cynghorydd Hughes ei fod yn anghytuno nad ystyrir bod safle'r cais mewn lleoliad cynaliadwy a dywedodd ei fod yn cydymffurfio â pholisi cynllunio PS5 (Datblygu Cynaliadwy) a darllenodd allan o adroddiad y Swyddog Cynllunio: 'mewn ardaloedd gwledig dylai'r rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd gael eu lleoli mewn aneddiadau sydd â hygyrchedd cymharol dda trwy ddulliau heblaw ceir o'u cymharu â'r ardal wledig gyfan '. Dywedodd fod yna nifer o bentrefi ar yr Ynys sy'n llawer pellach o drafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau; mae safle bws ger safle'r cais hwn sy'n wahanol i lawer o bentrefi.  Gellir cael danfoniadau bwyd o archfarchnadoedd heb yr angen i deithio o'r safle. Dywedodd y Cynghorydd Hughes ymhellach na fyddai'r cais hwn yn gwrthdaro â'r stoc dai gyfredol. Ni fyddai'r datblygiad yn effeithio ar fwynderau trigolion lleol ac ni fyddai'n cynyddu'r ddarpariaeth o unedau gwyliau o'r fath yn yr ardal. Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd wrthwynebiad i'r cais a bydd datblygu'r safle yn creu cyflogaeth y mae ei wir hangen ar ôl ei gwblhau. Mynegodd fod hwn yn gais o'r galon a bod yr ymgeiswyr yn dymuno gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anableddau cymhleth i fedru  mwynhau gwyliau ar yr Ynys.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos M Huws, aelod lleol, ei bod yn ystyried bod polisïau cynllunio yn adroddiad y Swyddog Cynllunio yn llawer mwy o blaid nag yn erbyn y cais hwn. Dywedodd y bydd yr unedau gwyliau hyn ar gyfer seibiant i blant a phobl ag anableddau cymhleth a'u teuluoedd; nid oes cyfleuster o'r fath yn bodoli ar yr Ynys ar hyn o bryd. Roedd y Cynghorydd Huws o'r farn na fyddent yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus na siopau lleol. Nododd nad yw Fferm Cymunod yng nghefn gwlad gan fod lleoliad yr eiddo i'w weld o'r A55. Ni fu unrhyw wrthwynebiadau gan ddeiliaid eiddo cyfagos nac  i ddyluniad y cynnig a nododd bod strwythur yr adeiladau presennol yn addas ar gyfer eu haddasu. 

 

Ailddatganodd y Cynghorydd John Griffith, aelod lleol, y sylwadau a wnaed gan ei gyd-aelodau lleol a dywedodd fod twristiaeth yn hanfodol i economi Ynys Môn ac i gynnal cyflogaeth. Nododd y byddai'r cyfleusterau ar gyfer pobl ag anableddau difrifol ac mae adroddiad y Swyddog yn gefnogol i'r cais yn bennaf ond mae'r argymhelliad o wrthod oherwydd diffyg cyfleusterau lleol gerllaw.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric W Jones fod trosi adeiladau o'r fath yn dderbyniol o fewn polisïau cynllunio. Roedd o'r farn bod y datblygiad hwn yn unigryw ac y byddai'n cynnig llety addas ar gyfer darpariaeth gwyliau i blant a phobl ag anableddau cymhleth a difrifol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams nad yw wedi cael ei gwneud yn glir yn adroddiad y Swyddog fod y cynnig ar gyfer pobl anabl. Mynegodd y bydd angen i bobl ag anableddau ddefnyddio'u ceir i deithio yn ôl ac ymlaen i'r safle yn ystod eu harhosiad yn y cyfleusterau a ddarperir. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais. Eiliodd y Cynghorydd Eric W Jones y cynnig.

 

Yn y bleidlais ddilynol, gwnaed cynnig i gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac fe gafodd ei gario.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan y bernid ei fod yn cydymffurfio â Pholisi TWR2.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rheswm a roddwyd dros gymeradwyo’r cais).

 

 

12.2  FPL/2019/322 – Cais llawn i drosi eglwys yn annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau  yn Eglwys Crist, Rhosybol

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer trosi'r hen eglwys yn annedd, ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau. Yn ogystal, cynigir man parcio trofwrdd o flaen yr eglwys. Ers cyflwyno’r cais gwreiddiol,  gwnaed newidiadau i'r cynnig mewn ymateb i bryderon lleol o ran ffenestri gwydrog aneglur. Cyfeiriwyd y cais i'r Pwyllgor gan aelod lleol oherwydd pryderon lleol ynghylch diogelwch priffyrdd a phriodoldeb troi’r eglwys yn annedd. Mae'r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â'r datblygiad arfaethedig gan y byddai'n welliant i'r cyfleusterau mynediad a pharcio presennol ar y safle. Gellid defnyddio'r hen eglwys ar gyfer nifer o gyfleusterau heb ganiatâd cynllunio a fyddai'n golygu mwy o broblemau traffig. Dywedodd ymhellach fod pryderon lleol ynghylch y fynwent o amgylch yr Eglwys. Mae aelodau’r cyhoedd wedi dweud y byddai rhoi caniatâd ar gyfer y defnydd arfaethedig yn atal y cyhoedd rhag ymweld â cherrig beddi eu teuluoedd. Mae'r ymgeisydd wedi nodi na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn atal ymwelwyr rhag ymweld â'r cerrig beddi ac na fyddai gwelliannau i'r fynedfa yn rhwystro ymwelwyr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol, fod ganddo bryderon ynghylch y cyfleusterau parcio ar y datblygiad arfaethedig ac a fyddai man parcio trofwrdd yn datrys y problemau parcio. Roedd o'r farn bod y cais yn groes i bolisïau cynllunio datblygu cynaliadwy ac ISA2 - Cyfleusterau Cymunedol; Polisi PCYFF2 - Dylunio a Thirlunio a TRA 2 - Safonau Parcio. Dywedodd ymhellach fod Cyngor Cymuned Rhosybol a’i gyd-aelod lleol, y Cynghorydd Richard Griffiths yn erbyn y cynnig. Gofynnodd y Cynghorydd Jones am i ymweliad rhithwir gael ei drefnu fel y gall y Pwyllgor gael golwg ar y safle a gweld pa mor agos yw'r cerrig beddi i'r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad rhithwir â’r safle. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.

 

Dogfennau ategol: