Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn adolygu gweithrediad Premiwm y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir .
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid y gwnaed penderfyniad i gynyddu swm uwch y dreth gyngor (a elwir yn bremiwm Treth Gyngor) a fyddai’n dod i rym o 1 Ebrill 2019. O'r dyddiad hwn, cytunodd y Cyngor llawn i osod premiwm Treth Gyngor a oedd yn cyfateb i 100% o gyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir, a 35% ar gyfer anheddau y mae pobl yn byw ynddynt o bryd i'w gilydd, a elwir fel arfer yn ail gartrefi. Nododd fod nifer o berchenogion eiddo yn ystod y flwyddyn hon wedi 'symud' eu tai o'r rhestr treth gyngor i'r rhestr trethi busnes, sy’n golygu na fydd y perchnogion yn gorfod talu unrhyw drethi. Mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi adolygu'r rheoliadau trethiant er mwyn gostwng nifer y cartrefi sy'n cael eu cofrestru ar gyfer trethi busnes ond mae LlC wedi anwybyddu'r cais gan ei bod o'r farn nad yw hon yn broblem. Galwodd yr Aelod Portffolio Cyllid ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau a diwygio'r dreth trafodion tir i sicrhau bod y lefel yn uwch ar gyfer ail gartrefi ac i ystyried treth twristiaeth fel sydd ar waith mewn rhannau eraill o'r byd er mwyn denu cyllid i fedru lleihau pwysau ar wasanaethau o fewn awdurdodau lleol sy'n gweld eu poblogaethau’n cynyddu, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Nododd ymhellach gan fod cyfleusterau hunanarlwyo'n gymwys i gael Cymorth Ardrethi Busnesau Bach mae hynny’n golygu’n aml nad oes dim cyfraniad o gwbl i goffrau’r awdurdodau lleol.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid mai penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yw peidio cynyddu Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir yn y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2021/2022, ond ei fod yn bwriadu cynyddu'r premiwm ar gyfer ail gartrefi i 50% o Ebrill 2022. Dywedodd fod angen parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r rheoliadau cyfredol ac i gyflwyno dulliau trethiant newydd er mwyn gostwng nifer yr ail gartrefi ar yr Ynys ac i ddarparu cyllid ychwanegol i helpu i gefnogi prosiectau lleol sydd â’r nod o helpu pobl ifanc Ynys Môn i allu prynu neu rentu eu cartref eu hunain ar yr Ynys.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai pwrpas yr adroddiad oedd adolygu premiwm y Dreth Gyngor ers penderfyniad diwethaf y Cyngor llawn ar 27 Chwefror, 2019 a hefyd ystyried effaith pandemig Covid-19 ar sylfaen Treth Gyngor y Cyngor a'r symudiadau o'r Rhestr Dreth Gyngor i'r Rhestr Trethi Busnes ac yn benodol ar gyfer ail gartrefi / llety gwyliau sy'n cael eu gosod. Dywedodd y bu cynnydd yn nifer y cartrefi gwag yn ystod y pandemig ond mae hyn o ganlyniad i bobl yn methu atgyweirio / gwerthu eu heiddo. Mae nifer yr ail gartrefi ar yr Ynys wedi aros yr un fath ac ar lefel gyson er gwaethaf y ffaith bod 221 eiddo wedi trosglwyddo i'r rhestr trethi busnes ac wedi cael eu tynnu oddi ar y Rhestr Treth Gyngor rhwng Ebrill - Hydref eleni. Dywedodd hefyd fod nifer yr eiddo sy'n talu'r Dreth Gyngor safonol wedi gostwng. Roedd eiddo ym Mand C ac uwch yn dod yn ail gartrefi ond roedd y gostyngiad hwn yn y niferoedd yn cael ei wrthbwyso'n rhannol gan y ffaith bod yr Awdurdod yn adeiladu tai cymdeithasol. Fodd bynnag, roedd yr eiddo newydd yn tueddu i fod ym Mandiau A a B ac mae hyn wedi arwain at erydiad yn sylfaen y dreth gyngor safonol. Mae symud eiddo o'r Rhestr Treth Gyngor i'r Rhestr Trethi Busnes wedi arwain at ostyngiad tybiedig o £700,000 mewn refeniw o'r Dreth Gyngor, er bod rhan o'r swm hwn yn cynnwys ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr am unrhyw Dreth Gyngor a dalwyd ganddynt a oedd yn ymwneud â'r cyfnod ar ôl trosglwyddo'r eiddo i’r rhestr trethi busnes. Dywedwyd hefyd nad oedd y cynnydd o 25% i 35% yn y premiwm ar gyfer ail gartrefi wedi arwain at nifer fawr o bobl yn gwrthod talu ac mai dim ond ychydig o apeliadau a gafwyd ac nid oedd wedi arwain at gynnydd mewn ôl-ddyledion. Yn ystod pandemig Covid-19 bu cynnydd yn nifer y perchnogion ail gartrefi sydd wedi cyflwyno apêl gan na allant ddod i'w hail gartrefi ac sydd wedi gofyn felly i gael eu heithrio rhag talu'r premiwm dros y cyfnod clo. Barn y Cyngor oedd nad oedd methu â theithio i'w heiddo yn rheswm dilys i ganiatáu eithriad a gwrthodwyd pob apêl. Derbyniwyd hyn gan y mwyafrif helaeth ac maent wedi parhau i dalu'r premiwm a godwyd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ymhellach fod y Cyngor wedi cymeradwyo polisi ar gyfer gweithredu dau gynllun i gynorthwyo prynwyr tro cyntaf i gael troed ar yr ysgol dai, gyda’r cynlluniau’n cael eu hariannu o gyfran o'r Premiwm Treth Gyngor a godir ar dai sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir ac ail gartrefi.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Tai fod y ddau gynllun y cyfeirir atynt yn grant i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu ac adnewyddu cartref gwag a benthyciad ecwiti i helpu prynwyr tro cyntaf i fforddio eiddo. Mae'n amlwg bod y cynlluniau wedi bod yn llwyddiannus oherwydd bod y galw wedi bod yn uwch na'r cyllid a ddyrannwyd gan y Cyngor a gwelwyd pobl ifanc yn gallu prynu cartref yn eu cymunedau lleol.
Ailadroddodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith bod angen rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r rheoliadau presennol a chyflwyno dulliau trethiant newydd i ostwng nifer yr ail gartrefi ar yr Ynys sy’n achosi i bobl ifanc Ynys Môn fethu â fforddio cartref yn eu cymunedau eu hunain.
· Nodi cynnwys yr adroddiad sy'n adolygu gweithrediad Premiwm y Dreth Gyngor ers penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn ar 27 Chwefror 2019 i gynyddu premiymau Treth Gyngor o 1 Ebrill, 2019 i 100% ar gyfer eiddo gwag tymor hir a 35% ar gyfer ail gartrefi;
· Nodi effaith pandemig Covid-19 ar sylfaen y Dreth Gyngor a phremiymau Treth Gyngor;
· Parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r rheoliadau presennol ac i gyflwyno dulliau trethiant newydd er mwyn lleihau nifer yr ail gartrefi ar yr Ynys ac i ddarparu cyllid ychwanegol i helpu i gefnogi prosiectau lleol sydd â'r nod o helpu pobl ifanc Ynys Môn i allu prynu neu rentu eu cartref eu hunain ar yr Ynys;
· Cyhoeddi'r bwriad i gynyddu'r premiwm ar ail gartrefi i o leiaf 50% o Ebrill 2022;
· Y bydd adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i'r Swyddogaeth Adnoddau er mwyn sicrhau bod yr holl berchenogion eiddo a ddylai dalu'r premiwm yn cael eu nodi a'u gwneud i dalu'r dreth yn llawn;
· Y bydd balans yr arian ychwanegol a gynhyrchir o gynyddu'r premiwm yn cael ei gyfeirio tuag at gynlluniau a fydd yn helpu pobl leol i allu fforddio prynu neu rentu eiddo ar yr Ynys;
· Y bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad llawn ar ei fwriad i gynyddu'r premiwm ar ail gartrefi i 50% a'i gynlluniau ychwanegol i helpu pobl leol, gyda thrigolion Ynys Môn, perchnogion ail gartrefi ar yr Ynys a gweithredwyr llety hunanarlwyo , rhwng Ebrill a Mehefin 2021, gyda'r penderfyniad terfynol ar lefel y premiwm i'w wneud gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi 2021.
Dogfennau ategol: