Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni : Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ynglŷn â’r rhaglen moderneiddio ysgolion mewn perthynas ag ardal Llangefni i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r ymatebion i’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ym mis Chwefror/Mawrth 2020 ar Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig ac yn ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar yr argymhelliad mai’r ffordd fwyaf priodol ymlaen, wedi ystyried yr holl ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a’r asesiadau effaith oedd bwrw ymlaen â’r cynnig gwreiddiol sef cynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn”.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant yr adroddiad gan wneud sylwadau cyffredinol am y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion sydd, yn yr achos hwn, yn golygu pwyso a mesur ac asesu dyfodol Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a’r effaith y byddai hynny’n ei gael ar yr holl randdeiliaid, ac yn arbennig plant y ddwy ysgol. Pwysleisiodd y dylai buddiannau’r disgyblion fod ar flaen meddyliau’r holl gyfranwyr wrth iddynt ystyried y mater. Gall moderneiddio ysgolion fod yn fater cynhennus ac mae’n un o agweddau mwyaf heriol gwaith y Cyngor; gellir deall a gwerthfawrogi pryder rhieni ynglŷn â’r mater hwn. Mae’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol ysgolion dros y 50 mlynedd nesaf ar adeg pan maent yn wynebu pwysau oherwydd toriadau cyllidebol, costau cynnal a chadw beichus a chydymffurfio â gofynion y Cwricwlwm Newydd ac mae effaith Covid yn ffactor ychwanegol erbyn hyn. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried sut y gellir gwneud y gyfundrefn ysgolion yn fwy effeithiol o ran creu’r amodau i athrawon a disgyblion ffynnu a hefyd sut y gellir ei gwneud yn fwy effeithiol o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau fod pob ysgol yn derbyn cyfran deg o’r gyllideb. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at strategaethau’r Awdurdod sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, fel y cânt eu nodi yn adran 2 yr adroddiad rhagarweiniol. Adroddodd fod swyddogion y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad statudol ar ddyfodol y ddwy ysgol dan sylw rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth 2020. Awdurdodwyd swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad ar ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar y diwrnod ysgol olaf cyn y cyfnod clo cyntaf, o ganlyniad i’r pandemig byd eang a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysg am gyfnod. Dywedodd fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Gangen Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi estyniad i’r Cyngor tan Fawrth 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae’r Cyngor wedi gweithredu’n unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 drwy gydol cyfnod y pandemig.

 

Mae’r gyrwyr newid allweddol, fel y cânt eu nodi yn y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 yn cynnwys gwella safonau addysgol; gwella arweinyddiaeth a rheolaeth; sicrhau bod adeiladau ysgol yn addas i’r diben; lleihau nifer y lleoedd gweigion; lleihau cost addysg yn gyffredinol a’r amrywiaeth yn y gost fesul disgybl; cynnal a gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynyddu defnydd cymunedol o adeiladau ysgolion. Ystyrir hefyd y byddai’r cynnig sy’n cael ei gyflwyno yn sicrhau digon o leoedd yn yr ysgol i’r dyfodol.

 

Roedd yr Aelod Portffolio Addysg yn cydnabod rôl yr aelodau etholedig o fewn y broses a’u bod, yn ogystal â bod yn atebol i’w cymunedau, yn ysgwyddo nifer o gyfrifoldebau rheoli strategol a chorfforaethol fel y rhai sy’n llunio polisïau’r Cyngor, gan gynnwys llywodraethu eu meysydd yn dda a chymryd rhan yn y gwaith o reoli a llywodraethu’r Cyngor, sydd hefyd yn cynnwys sgrwtini.

 

Gorffennodd yr Aelod Portffolio ei gyflwyniad drwy ddiolch i’r rheiny a oedd wedi cyfrannu i’r broses.

 

Wrth dywys y Pwyllgor drwy’r adroddiad ysgrifenedig, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mai’r cynnig gwreiddiol, sef cynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn oedd yr opsiwn a oedd yn cael ei argymell ac ychwanegodd bod nifer o opsiynau amgen eraill wedi cael eu hystyried fel rhan o’r broses ymgynghori a bod adran 6 yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad ohonynt. Derbyniodd y Cyngor 57 o ymatebion ar-lein a 10 ymateb ar ffurf llythyrau a negeseuon e-bost i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd a chafwyd ymatebion gan unigolion a sefydliadau cymunedol (darparwyd crynodeb yn adran 5 yr adroddiad). Cyflwynwyd modelau addysgol eraill ac fe’u haseswyd gan swyddogion yn erbyn meini prawf a gyrwyr y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion cyfredol (adran 6.4 yr adroddiad), ac yn dilyn dadansoddiad cynhwysfawr o’u gwendidau a’u cryfderau, ystyriwyd mai’r cynnig gwreiddiol yw’r ffordd fwyaf priodol ymlaen gan ei fod yn cwrdd â’r heriau a wynebir gan Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a’i fod yn cwrdd â gofynion y gyrwyr newid allweddol a nodir yn y Strategaeth fel a ganlyn –

 

           Mae angen i safonau ar draws pob ysgol fod o leiaf yn dda neu’r rhagorol a byddai disgwyl iddynt fod yn y categori gwyrdd, sef y categori cefnogaeth isaf. Byddai’r ysgol ehangedig newydd mewn sefyllfa i gynnal y radd Estyn ac i gadw’r categori gwyrdd yn y tymor canolig i dymor hir.

           Mae’n rhaid i arweinyddiaeth a rheolaeth fod yn dda neu’n well ym mhob ysgol. Mae Penaethiaid angen digon o amser digyswllt i gydbwyso heriau arweinyddiaeth a rheolaeth ag ymrwymiadau dysgu. Yn yr Ysgol y Graig ehangedig newydd, rhagwelir na fyddai gan y Pennaeth unrhyw ymrwymiad addysgu. Byddai’n bosib adeiladu a datblygu uwch dîm rheoli a allai wella arweinyddiaeth a rheolaeth.

           Mae angen i’r adeilad ysgol ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a fydd yn annog pob disgybl i gyflawni eu potensial ym mhob maes dysgu ac mae’n rhaid iddo gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran hygyrchedd. Bydd adeilad yr 21ain ganrif newydd a chanddo gostau cynnal a chadw isel yn cael ei ddylunio i fanyleb BREEAM a bydd yn cydymffurfio’n llwyr â Deddf Cydraddoldeb 2010. Byddai costau cynnal a chadw cyfredol a rhagamcanol o £408,500 ar gyfer y ddwy ysgol yn cael eu dileu.

           Mae angen i leoedd ysgol digonol fod ar gael yn yr ardal er mwyn cwrdd â galw presennol, rhagolygon niferoedd yn y dyfodol yn ogystal â lleihau lleoedd gweigion. Mae angen lleihau symudiad disgyblion o’r tu mewn ac o du allan y dalgylch. Mae’r cynnig yn mynd i’r afael â’r angen i ddarparu lleoedd digonol yn Ysgol y Graig yn ogystal â chaniatáu i ddisgyblion Ysgol Talwrn gael eu haddysgu mewn dosbarthiadau lle mae’r ystod oedran yn llai. Bydd llai o ddisgyblion yn symud rhwng dalgylchoedd.

           Mae’n rhaid i unrhyw ddarpariaeth ysgol ddiwygiedig yn yr ardal fod yn gost effeithlon a rhaid iddi hefyd leihau’r amrywiad yn y gost fesul disgybl ar draws ysgolion unigol. Byddai’r gost rhagamcanol fesul disgybl yn yr ysgol ehangedig newydd, sef £3,436 (ar sail cyllideb 2019/20) yn dileu’r amrywiaeth yng nghost y disgybl rhwng Ysgol Talwrn (£4,553) ac Ysgol y Graig (£3,429) ac mae’n is na’r cyfartaledd ar gyfer ysgolion cynradd Ynys Môn (£3,988). Mae’r cynnig yn creu cost refeniw ychwanegol o tua £33k y flwyddyn (mae adran 7 yn cynnwys  rhagor o wybodaeth), fodd bynnag mae’n dileu costau cynnal a chadw cyfredol a rhagamcanol o £408,500 a fyddai’n costio £32,000 y flwyddyn i’r Cyngor i’w gyllido trwy fenthyciad digymorth dros gyfnod o 20 mlynedd. Gellir dod i’r casgliad felly bod y cynnig yn agos at fod yn gost niwtral.

           Byddai’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dda bresennol yn cael ei gynnal fan leiaf.

           Byddai’r gymuned ehangach yn parhau i gael budd trwy gael defnyddio’r adeilad ysgol newydd ehangedig.

 

Cynhaliwyd asesiadau effaith mewn perthynas â’r Ddeddf Cydraddoldeb, Iaith, Cymuned a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maent wedi’u cynnwys fel un Asesiad Effaith cyfansawdd dan Atodiad 1 yr adroddiad ymgynghori. Roedd cyfanswm o 40 o ymatebwyr (70% ohonynt ar-lein) wedi gwneud sylwadau ar yr asesiad effaith a cheir dadansoddiad yn adran 6 yr adroddiad rhagarweiniol. Mae nifer yr ymatebion i’r cwestiwn ar yr asesiad effaith yn rhoi sicrwydd o 95% bod yr ymateb yn gywir ac yn cyfateb i deimladau gweddill y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Mae lefel hyder o 95% yn golygu, pe cynhelir yr arolwg 100 o weithiau, y byddech yn cael yr un canlyniadau 95% o’r amser. Mae’r Asesiad Effaith yn parhau i fod yn ddogfen fyw ac fe’i diweddarwyd i gynnwys sylwadau rhanddeiliaid a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol; bydd y ddogfen yn parhau i gael ei diweddaru’n rheolaidd drwy gydol y cyfnod datblygu fel y gall y Cyngor roi mesurau lliniaru ar waith os bydd risg arall yn codi, er mwyn goresgyn y risg neu’r mater sy’n codi, mewn partneriaeth â’r gymuned leol. Bydd y trefniant hwn yn weithredol trwy gydol y cyfnod datblygu a bydd yn atebol i’r Bwrdd Rhaglen Gorfforaethol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau.

 

Rhagwelir y bydd y ddarpariaeth newydd arfaethedig yn costio tua £6m. Os bydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo, bydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cyfrannu 65% drwy raglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif, a Chyngor Sir Ynys Môn yn cyfrannu 35%.

 

Wrth ystyried yr achos am newid a gyflwynwyd gan yr Aelod Portffolio Addysg a’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor –

           Gan y cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn union cyn i’r pandemig Covid-19 ddechrau, a chyn i’r cyfnod clo cyntaf gychwyn, a oedd nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn uwch neu’n is na’r ymatebion i ymgynghoriadau blaenorol a gynhaliwyd ers 2017. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y derbyniwyd 57 o ymatebion i’r ymgynghoriad diweddaraf o gymharu â 50 o ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2018 a 29 o ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2019.

           Byddai’n ddefnyddiol derbyn ffigyrau ar wahân ar gyfer y costau cynnal a chadw cyfredol a rhagamcanol oherwydd bod y Cadeirydd o’r farn y gellid gwahaniaethu rhwng y ddau ffigwr gan fod y costau cynnal a chadw cyfredol yn adlewyrchu gwaith sy’n hysbys ac y gellir ei fesur, tra bod y costau cynnal a chadw rhagamcanol yn amcangyfrif o waith posib yn y dyfodol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y swm o £408k yn cynrychioli cost rhagamcanol y gwaith fyddai angen ei wneud ar y ddwy ysgol pe byddai’r Cyngor yn parhau i gynnal y ddwy ysgol yn y dyfodol. Cadarnhawyd fod adeilad presennol Ysgol y Graig wedi agor yn 2009.

           Pe byddai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, a fyddai oedi yng ngham nesaf y broses petai cyfnod clo pellach yn cael ei gyflwyno ar ôl y Nadolig? Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru, yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 pan oedd yr ysgolion ar gau, wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol a oedd yn mynd drwy’r broses moderneiddio ysgolion a oedd yn cyflwyno mân newidiadau i’r disgwyliadau o ran ymgynghori. Gan nad oedd y canllawiau ychwanegol (a oedd yn weithredol hyd at 25 Gorffennaf 2020) yn cynnwys unrhyw beth a oedd yn gwahardd awdurdodau rhag symud ymlaen â’r broses, gall yr Awdurdod symud ymlaen â’r cynnig ar yr amod ei fod yn cael ei gymeradwyo, ac yn amodol hefyd ar unrhyw ganllawiau newydd y gallai Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi.

           Er bod hawl gan yr Awdurdod i symud ymlaen, a yw’n briodol i’r Awdurdod wneud hynny o ystyried y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r pandemig ac a yw’r Awdurdod yn gallu bod yn siŵr y bydd rhanddeiliaid yn ymateb os ceir cyfnod clo arall, gan y nodwyd yn sgil sylwadau y dywedodd Aelod Lleol iddo’u derbyn, fod rhieni yn anhapus fod yr Awdurdod yn brysio i symud ymlaen â’r rhaglen foderneiddio yng nghanol pandemig. Dywedwyd wrth y pwyllgor bod rhanddeiliaid angen cael gwybod yn derfynol beth yw’r sefyllfa o ran trefniadaeth ysgolion a bod Archwilio Cymru, yn ei asesiad o ymateb yr Awdurdod i’r argyfwng Covid-19 a’i ymagwedd o ran adfer dyddiedig 4 Tachwedd 2020 yn datgan “Efallai bydd y Cyngor hefyd yn gallu nodi cyfleoedd i barhau i gyflawni elfennau blaenoriaeth o’r rhaglen drawsnewid a ffurfioli cynlluniau adfer, a fydd yn cyfrannu at gydnerthedd gwasanaethau’r Cyngor”. Gan nad yw’n hysbys am ba hyd y pery’r pandemig, mae’n rhaid i’r Awdurdod, er mwyn sicrhau gwytnwch ei wasanaethau i’r dyfodol symud ymlaen, serch mewn ffyrdd gwahanol a drwy fabwysiadu gwahanol ddulliau ymgysylltu. Yn ogystal, mae’r cyfyngiad amser mewn perthynas â chyllid Band B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ffactor pwysig wrth amserlennu’r cynnig a’r broses gysylltiedig.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch y ffigwr diweddaraf ar gyfer lleoedd gweigion yn Ysgol Talwrn gan y nodwyd bod lleihau lleoedd gweigion yn un o yrwyr allweddol y rhaglen foderneiddio. Yn ogystal, ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch faint o ddisgyblion o du allan i ddalgylch yr ysgol sy’n mynychu Ysgol Talwrn, yn ogystal â faint o blant sy’n byw yn Nhalwrn sy’n mynychu ysgolion eraill. Dywedwyd wrth y Pwyllgor, ar sail y data diweddaraf ar y system rheoli gwybodaeth ysgolion SIMS, fod nifer disgyblion Ysgol Talwrn wedi gostwng ers yr ymgynghoriad a bod 36 o ddisgyblion ddechrau mis Rhagfyr, gan olygu fod nifer y lleoedd gweigion wedi cynyddu i 13, neu 27%. Yn ogystal, mae 33% o ddisgyblion Ysgol Talwrn yn byw ym mhentref Talwrn, mae 13% o ddisgyblion yr ysgol yn dod o ddalgylch Ysgol Goronwy Owen, mae 37% o ddisgyblion yr ysgol yn dod o ddalgylch Ysgol y Graig ac 17% o’r disgyblion yn dod o ddalgylchoedd eraill yn cynnwys Henblas, Bodffordd, Pentraeth, Llanfairpwll a Chorn Hir.

           A ddatblygwyd unrhyw fesurau lliniaru i leihau unrhyw effaith bosib ar yr iaith Gymraeg o ganlyniad i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Talwrn i Ysgol y Graig lle nad yw’r defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn anffurfiol tu allan i’r dosbarth mor gyffredin o bosib. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth allweddol ar gyfer holl ysgolion yr Awdurdod a bod 72% o ddisgyblion Ysgol y Graig yn siarad Cymraeg gartref a’r ffigwr ar gyfer Ysgol Talwrn yw 40%. Pe byddai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, bydd diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac addysg ddwyieithog yn flaenoriaeth i’r ysgol newydd, fel y mae ym mhob un o ysgolion yr Awdurdod, a byddai’r ysgol newydd estynedig arfaethedig yn ysgol gymunedol cyfrwng Cymraeg. Mae gan yr Awdurdod nifer o gynlluniau ar gyfer canolfannau iaith ledled yr Ynys ac mae’n gweithio i ddatblygu gwytnwch ym mhob ysgol o ran datblygu’r iaith Gymraeg.

           A yw’r cynnig ar gyfer ysgol estynedig newydd yn fforddiadwy ac yn rhesymol o ystyried effaith y pandemig Covid-19 ar economi’r Ynys a’i oblygiadau parhaus mewn perthynas â chyllid awdurdodau lleol, a chyllidebau addysg yn benodol. Hysbyswyd y Pwyllgor, er bod nifer o gynlluniau dan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion wedi cynhyrchu arbedion refeniw parhaus, y flaenoriaeth ar gyfer cynlluniau yn ardal Llangefni yw creu capasiti ychwanegol gan fod diffyg capasiti wedi cael ei nodi fel ffactor sy’n creu pwysau yn yr ardal y mae angen rhoi sylw iddo. Er bod costau benthyca i weithredu’r cynllun dan ystyriaeth yn uwch na’r arbedion refeniw a ragwelir, byddai peidio â symud ymlaen yn awr yn golygu bod perygl o golli arian grant o 65% gan Lywodraeth Cymru gan olygu y byddai’n rhaid i’r Cyngor ysgwyddo costau llawn unrhyw fuddsoddiad yn gysylltiedig â’r ddwy ysgol yn y dyfodol. Oherwydd oedran adeilad yr ysgol, mae risg pellach y gallai costau eraill na chawsant eu rhagweld ac nad oes cyllideb ar eu cyfer o’r herwydd, ymddangos yn y dyfodol pe byddai Ysgol Talwrn yn aros ar agor. Mae’r cynnig yn dileu’r risg hwn.

           Mewn perthynas â phryderon a fynegwyd gan rieni y gallai fod yn anodd i ddisgyblion o Ysgol Talwrn ymgartrefu mewn ysgol mor fawr â’r Ysgol y Graig estynedig arfaethedig ac y byddai symud yn tarfu arnynt, pa gynlluniau sydd gan yr Awdurdod i roi sicrwydd i rieni a’u plant bod dyfodol hapus a llewyrchus iddynt yn Ysgol y Graig? Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod yr Awdurdod yn cydnabod y gallai’r newid fod yn anodd i rai disgyblion, yn arbennig o Ysgol Talwrn, byddai’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y trosglwyddiad mor llyfn â phosib ac i roi croeso cynnes i ddisgyblion o Ysgol Talwrn. Er bod gweithgareddau ar y cyd wedi cael eu cynnal rhwng ysgolion a oedd yn cael eu huno yn y gorffennol er mwyn i ddisgyblion ddod i adnabod ei gilydd, mae cyfyngiadau yn gysylltiedig â Covid-19 yn golygu bod hyn yn fwy heriol. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn defnyddio’r profiad a gafwyd wrth i ddisgyblion Blwyddyn 6 drosglwyddo i Flwyddyn 7, lle trefnwyd gweithgareddau rhithwir ar ffurf teithiau rhithwir, fideos a phodlediadau, er mwyn llunio cynllun priodol. Yn ogystal, dywedwyd wrth y Pwyllgor na fydd y newid yn digwydd ar unwaith, gan na fyddai’r Ysgol y Graig estynedig arfaethedig yn barod tan haf 2023, a’r gobaith yw y bydd yr amgylchiadau’n wahanol erbyn hynny a’r heriau a grëwyd gan y pandemig wedi cilio.

 

            Rhoddwyd cyfle i Mr Robat Idris Davies gyflwyno sylwadau ar y cynnig o safbwynt Ysgol Talwrn a’r gymuned. Nododd y Pwyllgor mai Mr Davies oedd yr unig berson i ofyn am gael siarad yn y cyfarfod dan Brotocol y Cyngor ar gyfer Siarad Cyhoeddus mewn cyfarfodydd rhithwir o’r Pwyllgor Sgriwtini.

 

Dywedodd Mr Davies ei bod yn fraint fod y gymuned wedi gofyn iddo siarad ar ran ei rhan, a chododd y pryderon a ganlyn:

 

           Roedd yn dristwch fod rhaid iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod o gwbl i amddiffyn Ysgol Talwrn rhag cael ei chau gan mai hon yw’r trydydd ymgynghoriad mewn 3 blynedd, a dywedodd y bu sawl ymgais i gau’r ysgol cyn hynny hefyd. Mae hyn yn annheg ac yn sigo ysbryd ac mae’n sicr o fod wedi dylanwadu ar benderfyniad rhieni i fynd â’u plant i ysgolion tu allan i’r dalgylch, gan fod yr ansicrwydd parhaus yn boen iddynt.

           Mewn cyfnod pan mae cymunedau dan warchae am nifer o resymau, mae colli ysgol yn ergyd greulon; efallai na fydd yr effaith yn amlwg ar unwaith ond dros amser mae calon y gymuned yn cael ei cholli ac mae’r bobl ifanc yn symud allan. Mae ysgol yn fwy nag adeilad i addysgu plant yn ffurfiol; mae angen pentref i fagu plentyn.

           Mae’r papur ymateb i’r ymgynghoriad yn gatalog sy’n gwrthod pob dadl o blaid cadw Ysgol Talwrn ar agor ac yn gwrthwynebu pob dadl resymegol o blaid datrysiadau amgen i’r broblem wirioneddol o drefnu darpariaeth addysg dda ar gyfer plant yn ardal Llangefni. Nid dadl rhwng Talwrn a Llangefni yw hon.

           Wythnos yn unig a gafwyd i ddarllen ac ystyried dogfen mor hirfaith. A yw’n deg disgwyl i’r Pwyllgor wneud penderfyniad mor bellgyrhaeddol os nad yw wedi cael amser i ystyried y papur yn llawn ac yn rhesymol? Ydi’n rhesymol hefyd rhoi blaenoriaeth i’r mater hwn yng nghanol pandemig pan fu’n anodd i rieni drafod yn ystyrlon? Oni ddylid gohirio’r mater? Gan fod y mater wedi bod dan ystyriaeth am gyfnod mor hir, ni all fod gymaint â hynny o frys yn ei gylch ac eithrio am resymau’n ymwneud â chael arian gan Lywodraeth Cymru.

           Ymddengys mai ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad yw hyn – mae’r rhan fwyaf o bobl yn anghytuno â’n cynnig ond byddwn yn bwrw ymlaen beth bynnag; cyhyd â’n bod yn dilyn y broses yn gywir, byddwn yn cau’r ysgol. Y safbwyntiau yn yr adroddiad ymateb i’r ymgynghoriad yw safbwyntiau Swyddogion y Cyngor – nid yw’n dod yn safbwynt y Cyngor nes bod y Pwyllgor Gwaith wedi mabwysiadu’r papur a nodwyd bod y gwahaniaeth yn bwysig.

           Mae’n ofynnol dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion bod y gwaith yn cael ei wneud â meddwl agored. Fodd bynnag, cyn belled ar yr oedd yn ymwybodol, ar ôl i’r cynllun gael ei dynnu’n ôl y llynedd nid yw Swyddogion y Cyngor wedi cysylltu â’r ddwy ysgol i geisio dod i gytundeb ar y ffordd ymlaen. Mae’r penderfyniad i beidio â derbyn barn groes yn amlwg yn yr adroddiad, ac er nad yw’n anghyffredin i rieni Ysgol Talwrn wrthwynebu cau’r ysgol dylai dyfnder gwrthwynebiad rhieni, staff, llywodraethwyr a grwpiau cymunedol fod yn rhywbeth i fyfyrio arno. Cynigiodd Mr Davies enghraifft o unochredd yr adroddiad drwy gyfeirio at adran 5.2.1 y ddogfen lle ceir dyfyniad gan un rhiant o Ysgol Talwrn sy’n cytuno â’r cynnig, ond ni ddyfynnir unrhyw sylw a wnaed gan y 91% o ymatebwyr oedd yn anghytuno.

           Er y cydnabyddir y dylid cymryd y cam rhesymegol i gynyddu capasiti yn Llangefni, nid oes angen cau Ysgol Talwrn er mwyn gwneud hynny. Mae safonau addysgol yn yr ysgol yn dda ac er bod yr adeilad yn hen, nid yw ar fin dymchwel. Mae’r sylw na ellir gwarantu safonau yn yr ysgol yn y dyfodol yn berthnasol i unrhyw ysgol; mae dadleuon y Cyngor o ran cost fesul disgybl, amser digyswllt ar gyfer y pennaeth a dosbarthiadau aml-oedran yn osodiadau cyffredinol y gellir eu defnyddio i gau dwsinau o ysgolion gwledig yng Nghymru ac nid ydynt yn benodol i Ysgol Talwrn. Nid yw’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i gau ysgolion gwledig ac er y derbynnir ar lefel fathemategol bod y gost y pen o ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledydd yn uwch nag mewn ardaloedd trefol lle mae’r boblogaeth yn uwch, mae llai o wasanaethau’n cael eu darparu mewn ardaloedd gwledig sy’n golygu bod cyfanswm gwariant y pen yn is mewn ardaloedd gwledig.

           Teimlir bod y datganiadau ynghylch yr effaith ar yr iaith a’r gymuned yn ddiffygiol ac nad ydynt wedi cael eu diweddaru i ystyried y newidiadau radical a achoswyd gan y pandemig. Mae ofn y bydd cau’r ysgol yn cael effaith ddinistriol ar y gymuned sy’n siarad Cymraeg – bydd teuluoedd â phlant yn llai tebygol o brynu tai mewn cymuned lle nad oes ysgol gan arwain at boblogaeth hŷn a chymuned lle mae nifer yr ail gartrefi yn debygol o gynyddu. I bobl sy’n symud i mewn, mae presenoldeb ysgol yn cryfhau’r cysylltiad â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ac o ganlyniad mae’n gwella gobaith y gymuned o oroesi.

           Gellid defnyddio’r materion a godwyd gan yr ymgynghoriad i lunio casgliad gwahanol a’r ffordd resymegol ymlaen fyddai gwneud cais am arian o gronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif i ymestyn a gwella Ysgol y Graig, ac mae rhanddeiliaid Ysgol Talwrn yn cytuno fod angen gwneud hynny, ac ar yr un pryd, cynnwys swm cymedrol ar gyfer gwelliannau strwythurol yn Ysgol Talwrn, ac ar ôl gwneud hynny gellir ystyried modelau addysgol gwahanol ar gyfer yr holl ysgolion yn ardal Llangefni. O’i wneud yn gywir, gallai hyn ehangu gorwelion addysgol a chymdeithasol yr holl ddisgyblion.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod sylwadau Mr Davies ac mewn ymateb ail-bwysleisiodd nad yw’r broses yn cael ei brysio a bod angen canfod atebion. Gyda’r amrywiaeth yn y gost fesul disgybl wedi cyrraedd uchafbwynt, mae’n hynod o bwysig sicrhau tegwch a chysondeb ar draws pob cymuned. Er yr ystyriwyd ffedereiddio Ysgol Talwrn ag ysgol arall, dangosodd y dadansoddiad y byddai’n cwrdd yn rhannol yn unig â’r heriau a wynebir gan yr ysgol. Cydnabyddir bod safonau yn dda yn Ysgol Talwrn ar hyn o bryd, ond y gall safonau newid yn gyflym mewn unrhyw ysgol ac mae risg y byddai’r perfformiad hwn yn anodd ei gynnal yn y tymor hir. Er bod cymunedau â’u hunaniaeth eu hunain, mae Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig ddigon agos i fod yn rhan o’r un gymuned estynedig. Mae ysgolion cynradd mwy yn dod dan bwysau cynyddol hefyd sy’n golygu nad oes digon o gynaliadwyedd yn y system addysg bresennol. Mae’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnig cyfle heb ei debyg i drawsnewid ysgolion ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg na fydd oedi pellach yn gwella’r sefyllfa a bod rhaid ystyried y darlun ar draws yr Ynys. Mae cyllid ac adnoddau yn ystyriaethau ymhlith nifer o resymau dros fod eisiau symud ymlaen ac, gan ei bod yn amhosibl bodloni anghenion a dewisiadau pob rhiant, mae ffactorau cyffredinol yn rhan o’r trafodaethau. Fodd bynnag, y prif amcan yw sicrhau tegwch cyffredinol ar draws yr Ynys.

 

            Siaradodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Dylan Rees yn eu capasiti fel Aelodau Lleol yn ogystal ag aelodau o’r Pwyllgor. Roedd y ddau yn cydnabod safon uchel yr addysg yn Ysgol Talwrn a bod hynny, yn ogystal ag ethos gofalgar yr ysgol, yn esbonio pam ei bod yn ysgol o ddewis i lawer o rieni sy’n cofrestru eu plant yn yr ysgol. Mae’r ystyriaethau hyn yn golygu ei bod yn anodd iawn gwneud penderfyniad ynghylch dyfodol Ysgol Talwrn. Roedd y ddau aelod yn cydnabod hefyd bod dyletswydd ar yr Awdurdod i sicrhau fod holl ddisgyblion yn Ynys yn cael eu haddysgu yn yr ysgolion gorau posib sy’n gallu darparu’r adnoddau addysgol diweddaraf a’r rhai gorau, ond wrth wneud hynny ceisiwyd sicrwydd ganddynt ynghylch y materion canlynol -

 

           Ei bod yn briodol gwneud penderfyniad mor arwyddocaol yn ystod pandemig. Mae cyfyngiadau’n gysylltiedig â Covid wedi atal cymuned Talwrn rhag dod ynghyd fel cymuned i dafod ac i lunio ymateb i’r cynnig ac o ganlyniad maent yn teimlo’n ddifreintiedig. Canfyddiad y cyhoedd yw bod yn cynnig yn cael ei gyflwyno drwy’r drws cefn.

           Bod y cynnig, pe byddai’n cael ei gymeradwyo, yn rhoi sylw gwirioneddol i ddiffyg capasiti yn y rhan hon o Langefni yn y tymor hir. Mae ysgolion yr ardal, ac Ysgol Talwrn a’i chymuned yn arbennig, wedi dioddef ansicrwydd a’r pryder sy’n cyd-fynd â hynny am ormod o amser i’r broses hon gael ei hailadrodd eto.

           Y byddai modd goresgyn yr heriau o uno dwy ysgol mewn sefyllfa o bandemig heb gael effaith niweidiol ar y plant.

                       Y rhesymau pam na ellir defnyddio’r model sy’n cael ei gynnig yn awr ar gyfer yr ysgolion yn y rhan arall o Langefni, lle mae Ysgol Bodffordd yn cael ei chadw yn awr ac ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar gyfer Ysgol Corn Hir, yn achos Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig.

                       Bod ystyriaeth ddigonol wedi cael ei roi i’r datblygiadau tai a gymeradwywyd ac a gynlluniwyd ar gyfer ardal Llangefni a bod eu goblygiadau o ran lleoedd ysgol wedi cael eu cynnwys yng nghynlluniau’r Awdurdod.

                       Effaith bosib gweithredu’r cynnig ar y gymuned. Heriwyd casgliad yr Asesiad Effaith, sef y byddai’n cael effaith niwtral.

                       Y bygythiad i weithgareddau cymunedol a gynhelir yn Nhalwrn o ganlyniad i gau’r ysgol a chyfeiriwyd yn benodol at y Clwb Cinio Pensiynwyr, sy’n weithgaredd sy’n pontio’r cenedlaethau gan ei fod wedi’i leoli yn yr ysgol; Cylch Meithrin Talwrn a’r Eisteddfod Leol y mae’r ysgol yn gonglfaen iddi. Gofynnwyd am sicrwydd y bydd yr Awdurdod yn ceisio darparu cymorth er mwyn caniatáu i’r gweithgareddau cymunedol hyn barhau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr ymgynghoriad hwn wedi denu mwy o ymatebion sy’n dangos fod y gymuned wedi ymgysylltu fwy â’r broses. Byddai oedi pellach yn peryglu arian grant Llywodraeth Cymru a byddai oblygiadau i Ysgol y Graig. Er nad yw’r Awdurdod yn gallu darparu cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau cymunedol, rhoddodd sicrwydd y byddai’n gwneud pob ymdrech i hyrwyddo’r fath weithgareddau, fel y mae’n ei wneud ym mhob cymuned ar yr Ynys. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg nad oedd yn credu fod rhaid cael ysgol i gael gweithgareddau cymunedol a rhoddodd enghreifftiau o bentrefi lle mae gweithgareddau o’r fath, yn cynnwys eisteddfodau lleol mewn rhai achosion, wedi parhau a ffynnu er nad oes ganddynt ysgol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai’r Awdurdod yn defnyddio dulliau rhithwir eraill i ymgysylltu â disgyblion o Ysgol Talwrn a’u croesawu i’w hysgol newydd pe byddai cyfyngiadau Covid-19 yn parhau i fod mewn grym, ac yn eu cynorthwyo i ymgyfarwyddo â’r trefniadau newydd. Fodd bynnag, ni ragwelir y bydd y newid yn digwydd dros nos ac y bydd yn cymryd amser i gwblhau’r estyniad arfaethedig i Ysgol y Graig er mwyn derbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, ac y gallai’r sefyllfa fod yn wahanol bryd hynny. Cadarnhaodd y Swyddog bod yr Awdurdod wedi ystyried y datblygiadau tai newydd yn yr ardal (cyfeirir at hynny yn adran 5.4.8 yr adroddiad) ac roedd yn credu y byddai’r cynnig a gyflwynwyd yn darparu digon o leoedd ar gyfer y nifer uchaf o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf. Pe byddai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, byddai’r Awdurdod yn trafod y posibiliadau o ran cynnal y Cylch Meithrin. Mae’r Awdurdod yn trin pob achos moderneiddio ysgolion ar sail unigol ac yn gwerthuso pob achos yn erbyn set o feini prawf penodol e.e. gwariant ar atgyweirio a chynnal a chadw, cyflwr a lleoliad yr adeilad, costau cludiant, cost fesul disgybl a dyraniad cyllideb cyn gwneud argymhelliad.

 

Ategodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod o’r Pwyllgor Gwaith ac Aelod Lleol, nad yw’r Awdurdod yn brysio i wneud penderfyniad a bod trefniadaeth ysgolion yn y dyfodol yn y rhan hon o Langefni wedi bod dan ystyriaeth ers cyfnod hir. Roedd wedi synnu fod cyn lleied o ddisgybion Ysgol Talwrn yn dod o’r pentref ei hun (roedd yr Aelod Portffolio Addysg wedi cadarnhau yn gynharach yn ystod y cyfarfod mai 14 oedd y ffigwr pan wnaeth o ymholiad beth amser yn ôl) a gofynnodd am ddadansoddiad, cyn cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 17 Rhagfyr, o aelwydydd yr 14 disgybl h.y. a oeddent yn aelwydydd unigol neu’n aelwydydd gyda mwy nag un plentyn. Roedd yn cydnabod ei bod yn naturiol ac yn ddealladwy bod rhieni yn pryderu am newid yn nhrefniadau addysg eu plant a dywedodd bod pryderon tebyg yn bodoli cyn i ysgolion eraill gael eu huno dan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn. Mae Penaethiaid Ysgol Cybi, Ysgol Rhyd y Llan ac Ysgol Santes Dwynwen wedi cadarnhau bod disgyblion wedi ymgartrefu’n dda dan y trefniadau newydd yn eu profiad hwy.

 

Er bod Mrs Anest Frazer, Aelod Cyfetholedig a chynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru, yn cytuno fod y penderfyniad yn un anodd ei wneud, roedd o’r farn mai ei chyfrifoldeb hi fel aelod o’r Pwyllgor oedd ystyried anghenion holl ddisgyblion y Sir ac i sicrhau eu bod yn derbyn darpariaeth sy’n cwrdd ag anghenion y cwricwlwm newydd ac yn derbyn adnoddau ysgolion yr 21ain ganrif. Roedd yn cydnabod pwysigrwydd cadw cymunedau a’r iaith Gymraeg yn hyfyw, ond roedd yn teimlo nad tasg i ysgolion yn unig yw hynny ond ei fod yn gyfrifoldeb i bawb. Dyletswydd yr Awdurdod yw sicrhau bod gan ysgolion y gofod a’r adnoddau priodol i alluogi disgyblion i gyflawni hyd orau eu gallu.

 

Wrth gydnabod bod y broses yn un anodd, roedd Mr Dyfed Wyn Jones, cynrychiolydd Rhieni Lywodraethwyr y sector Cynradd, yn cytuno mai rôl y Pwyllgor yw ystyried y camau mwyaf priodol i’w cymryd yng nghyd-destun darparu’r amodau i blant fydd yn caniatáu iddynt ddatblygu a ffynnu yn addysgol. Cyfeiriodd at Ysgol Llanfairpwll fel enghraifft dda o ysgol gynradd fawr sy’n cynnal cymdeithas Gymraeg yn llwyddiannus ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu ar iard yr ysgol hefyd. Nid yw ysgolion cynradd mawr o reidrwydd yn negyddol a gallant fod yn gyfrwng i’r iaith Gymraeg ffynnu yng nghyd-destun siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Amlygodd Mr Jones yr angen i symud ymlaen â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion er budd cymunedau eraill ar Ynys Môn sy’n disgwyl am eu tro i elwa ar y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bryan Owen nifer o bryderon ynglŷn â’r cynnig o ran gwerth am arian ac amlygodd y byddai 10% o’r £2.1m (cyfraniad yr Awdurdod o 35%), y mae’r Awdurdod yn bwriadu ei fenthyca dros gyfnod o 50 mlynedd i adeiladu’r ysgol estynedig newydd, yn ddigon i ddod ag Ysgol Talwrn i’r safon ofynnol. Mewn perthynas â’r anghysondeb wrth drin ardaloedd, dywedodd y barnwyd bod ffederasiwn yn ddatrysiad addas ar gyfer ysgolion yn Llanbedrgoch, Moelfre a Benllech, ond nid ar gyfer ysgolion yn ardal Cefni, ac mewn perthynas â lleoliad yr estyniad arfaethedig i Ysgol y Graig, gyferbyn â phrif adeilad yr ysgol ar ran o’r lôn brysur sy’n amgylchynu Llangefni, byddai’n rhaid i blant groesi’r ffordd i gyrraedd yr estyniad newydd. Yn ogystal, roedd y Cynghorydd Owen yn credu y byddai cau Ysgol Talwrn yn newid cymeriad y gymuned yn yr hirdymor wrth i eiddo gael ei brynu gan fewnfudwyr sydd eisiau prynu ail gartrefi yn yr ardal.

 

Eglurodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad mai nod y gwaith sy’n cael ei wneud yn y rhan hon o Langefni yw cynyddu capasiti er mwyn sicrhau bod digon o leoedd i gwrdd ag anghenion presennol ac anghenion yn y dyfodol; mae darpariaeth tai yn yr ardal yn cynyddu a dengys y gwaith a wnaed gyda’r Gwasanaethau Tai a Chynllunio y bydd hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y plant oedran cynradd. Byddai’n rhaid i’r Awdurdod gyllido unrhyw fuddsoddiad cyfalaf yn Ysgol Talwrn yn llawn gan mai prif bwrpas y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yw darparu adeiladau ysgol ar gyfer y 50 i 60 mlynedd nesaf; er enghraifft, ni fyddai cynnig i brynu a gosod dosbarth symudol newydd yn Ysgol Talwrn yn cydymffurfio ag amcanion y Rhaglen. Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae Swyddogion wedi edrych ar safleoedd posib ar gyfer yr estyniad i Ysgol y Graig; mae’r safle a ffafrir ar yr un ochr o’r ffordd â phrif adeilad Ysgol y Graig.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod lleoliad arfaethedig yr estyniad i Ysgol y Graig i’r chwith o’r briffordd ar yr un ochr â phrif adeilad yr ysgol sy’n golygu na fydd rhaid i blant groesi ffordd gyswllt Llangefni i fynd o un adeilad i’r llall. O ran diogelwch priffyrdd ac ystyriaethau cysylltiedig, dywedodd fod rhaid i’r estyniad arfaethedig newydd gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith a derbyn caniatâd drwy’r broses gynllunio, ac fel rhan o’r broses gynllunio byddai asesiad o effaith trafnidiaeth yn cael ei gynnal a byddai’r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â swyddogion o’r Gwasanaeth Priffyrdd cyn cyflwyno’r cais. Yn ogystal, byddai’r cynllun arfaethedig yn cynnig cyfle i ddatrys y problemau parcio presennol yn Ysgol y Graig, yn arbennig ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol. Er bod Ysgol y Graig wedi ei chynllunio fel ysgol werdd ac y darparwyd llwybrau cerdded a beicio ardderchog i’r ysgol, nid yw rhieni’n gwneud defnydd llawn ohonynt wrth fynd â’u plant i’r ysgol. Wrth adeiladu Ysgol y Graig, dilynodd yr Awdurdod ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran darparu nifer sylfaenol o leoedd parcio er mwyn annog rhieni a phlant i gerdded a beicio, ond gyda’r datblygiad newydd byddai’r Awdurdod yn ceisio darparu'r nifer uchaf o leoedd parcio er mwyn cydnabod y ffaith nad yw’n ymarferol i blant o Dalwrn gerdded neu feicio i Ysgol y Graig. Yn ogystal, bydd cludiant ar fws yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i blant o Dalwrn fyddai’n trosglwyddo i Ysgol y Graig. Dylid nodi hefyd bod llif y traffig heibio Ysgol y Graig wedi gostwng yn sylweddol ers i ffordd gyswllt newydd Llangefni agor yn 2017.

 

Wrth ymateb i’r mater o ffedereiddio, ategodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr opsiwn wedi cael ei ystyried a’i werthuso yn y ddogfen ymgynghori ond canfuwyd nad oedd yn cwrdd â’r gofynion nac yn mynd i’r afael â’r heriau yn yr achos hwn.

 

I gloi, rhoddodd y Cadeirydd grynodeb byr o’r prif faterion a godwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod Ysgol Talwrn yn cael ei ffedereiddio ag Ysgol y Graig neu’r Ysgol Corn Hir newydd.

 

Yn dilyn hynny cafwyd trafodaeth bellach ynghylch addasrwydd y cynnig (gan nad oedd Ysgol Corn Hir yn cael ei hystyried fel rhan o fusnes y cyfarfod hwn) a gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts gwestiynau ynghylch sut fyddai’r cynnig yn gweithio ar lefel ymarferol o ystyried bod Penaethiaid Ysgol y Graig ac Ysgol Corn Hir yn wynebu pwysau llwyth gwaith llawn amser yn barod heb ofyn iddynt reoli endid mwy, a chan ystyried hefyd bod y Swyddogion o’r farn nad yw ffedereiddio’n ymarferol yn yr achos hwn. Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd, darparodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro gyngor ynghylch materion gweithdrefnol a chadarnhaodd y gellid gwneud y cynnig, ac ymhellach y gallai unrhyw aelod o’r Pwyllgor ofyn am eglurhad gan y cynigydd er mwyn deall y cynnig yn well a’r cyfiawnhad drosto. Cadarnhaodd y Cyngorydd Bryan Owen ei fod yn cynnig, er mwyn sicrhau hyfywedd parhaus cymuned Talwrn, bod Ysgol Talwrn yn cael ei ffedereiddio ag Ysgol y Graig neu’r Ysgol Corn Hir newydd. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

Gofynnwyd i swyddogion roi ei barn ar y cynnig a chadarnhawyd nad ffedereiddio oedd yr ateb mwyaf addas yn yr achos hwn yn eu barn hwy.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, trechwyd y cynnig o 8 pleidlais i 2.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Richard Griffiths, mai’r ffordd fwyaf priodol ymlaen yw cynyddu capasiti Ysgol y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. (h.y. yr argymhelliad yn adroddiad y Swyddog).

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, cariwyd y cynnig o 8 pleidlais i 2.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd a’r sylwadau a wnaed, PENDERFYNODD y Pwyllgor argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylai barhau â’r cynnig gwreiddiol fel y ffordd fwyaf priodol ymlaen, sef cynyddu capasiti Ysgol y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

Dogfennau ategol: