Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni: Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r rhaglen moderneiddio ysgolion ar gyfer ardal Llangefni i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ym mis Chwefror / mis Mawrth 2020 ar Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd ac yn gofyn am farn y Pwyllgor ar yr argymhelliad mai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen yn dilyn yr ymgynghoriad statudol yw'r dewis arall rhesymol sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc a gwnaeth sylwadau cyffredinol am y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion sydd, yn yr achos hwn, yn cynnwys pwyso a mesur dyfodol Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd a'r effaith ar yr holl randdeiliaid o ganlyniad, ac yn arbennig ar blant y ddwy ysgol y dylai eu buddiannau a’u llesiant fod y brif ystyriaeth yn y mater hwn. Gall moderneiddio ysgolion fod yn fater dadleuol ac mae ymhlith agweddau mwyaf heriol ar waith y Cyngor a dywedodd ei fod yn deall ac yn sylweddoli pryderon rhieni ac eraill mewn perthynas â'r mater hwn yn llawn. Mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf ar adeg pan maent dan bwysau oherwydd toriadau cyllidebol, costau cynnal a chadw beichus, cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Newydd yn ogystal ag effaith Covid erbyn hyn. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried sut y gellir gwneud y system ysgolion yn fwy effeithiol yn yr ystyr o greu'r amodau lle gall athrawon a disgyblion ffynnu a hefyd sut y gellir ei gwneud yn fwy effeithlon o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau bod pob ysgol yn derbyn ei chyfran deg o'r gyllideb. Mae cyswllt rhwng y  Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, a ddiweddarwyd ym mis Hydref 2018, â phrif strategaethau a blaenoriaethau'r Cyngor fel y nodir yn adran 2 yr adroddiad rhagarweiniol ac mae'r cynnig hwn yn rhychwantu Band A a Band B yn amserlen y Strategaeth.

 

Rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar ddyfodol y ddwy ysgol dan sylw. Awdurdodwyd swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad ar ôl i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr, 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar y diwrnod ysgol olaf cyn y cyfnod clo cyntaf o ganlyniad i'r pandemig byd-eang a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysg am gyfnod. Dywedodd yr Aelod Poertffolio y dylid nodi bod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Gangen Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi estyniad i'r Cyngor tan fis Mawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae'r Cyngor wedi gweithredu yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 trwy gydol cyfnod y pandemig.

 

Roedd y gyrwyr allweddol ar gyfer newid sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 yn cynnwys gwella safonau addysgol; gwella arweinyddiaeth a rheolaeth; sicrhau bod adeiladau ysgol yn addas at i’r pwrpas; lleihau nifer y lleoedd gweigion (yn achos ardal Llangefni sicrhau bod digon o gapasiti) lleihau cost gyffredinol addysg a'r amrywiad mewn cost fesul disgybl; cynnal a gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynyddu'r defnydd cymunedol o adeiladau ysgol.

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio dros Addysg at rôl aelodau etholedig yn y broses ac yn ogystal â bod yn atebol i'w cymunedau unigol, dywedodd fod ganddynt, fel llunwyr polisîau'r Cyngor, nifer o gyfrifoldebau rheoli  strategol a chorfforaethol gan gynnwys llywodraethu eu hardaloedd yn dda a chymryd rhan yn y gwaith o reoli a llywodraethu'r Cyngor sydd hefyd yn cynnwys sgriwtini.

 

Daeth yr Aelod Portffolio â'i gyflwyniad i ben trwy ddiolch i bawb a oedd wedi cyfrannu at y broses.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc â’r Pwyllgor trwy’r adroddiad ysgrifenedig ac amlygodd y prif bwyntiau, Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 a oedd yn ystyried nifer o gynigion gan gynnwys cynnig gwreiddiol y Cyngor ar gyfer y ddwy ysgol, sef ail-leoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle gwahanol i gymryd disgyblion o Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir. Yn dilyn yr ymgynghoriad statudol, y cynnig sy'n cael ei argymell i'r Pwyllgor Gwaith yw'r dewis arall rhesymol, sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae.

 

Cafwyd 823 o ymatebion ar-lein ac ar bapur i'r ymgynghoriad. Derbyniwyd ymatebion gan staff, rhieni, llywodraethwyr a phlant mewn perthynas â'r ddwy ysgol yn ogystal â chan unigolion a sefydliadau (darperir crynodeb yn adran 5 yr adroddiad). Cadarnhaodd yr atborth sylweddol gan fwyafrif y rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â'r ddwy ysgol eu bod yn derbyn y cynnig gwreiddiol mewn perthynas â'r angen am ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir ond roeddent yn cwestiynu pam y dylai hyn fod ar draul Ysgol Bodffordd. Fel rhan o’r broses, cyflwynwyd modelau addysgol eraill ac fe’u haseswyd gan swyddogion yn erbyn meini prawf a gyrwyr y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion gyfredol (dadansoddiad yn adran 6.4 o’r adroddiad). Ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau amgen ac yn dilyn dadansoddiad cynhwysfawr o'u cryfderau a'u gwendidau yn erbyn gyrwyr y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, ystyrir mai'r dewis arall rhesymol a gynigiwyd gan randdeiliaid yw'r ffordd fwyaf priodol ymlaen oherwydd ei fod yn cwrdd â'r rhan fwyaf o'r heriau allweddol a wynebir gan Ysgol Bodffordd. Byddai hyn yn cyfateb i weithredu'r cynnig gwreiddiol yn rhannol h.y. byddai adeilad newydd yn cael ei ddarparu ar gyfer Ysgol Corn Hir, ond ni fyddai Ysgol Bodffordd yn cau ac ni fyddai ei disgyblion yn cael eu symud i adeilad yr ysgol newydd. Mae'r cynnig wedi newid am y rhesymau canlynol –

 

           Safonau yn Ysgol Bodffordd - mae Ysgol Bodffordd wedi gwella o ran ei chategori gan iddi symud i fyny o Ambr yn 2015 i Felyn (B) yn 2019.

           Cyflawni'r Cwricwlwm - mae Ysgol Bodffordd mewn sefyllfa gref i gydweithio ag ysgolion eraill yn yr ardal leol i gyflawni'r cwricwlwm.

           Y Gymraeg - gyda 60 o ddisgyblion yn Ysgol Bodffordd (85%) a 138 o ddisgyblion yn Ysgol Corn Hir (61%) yn siarad Cymraeg gartref (PLASC 2019) mae gan Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir y potensial i gynnal a datblygu ymhellach y Ddarpariaeth Gymraeg gyfredol.

           Capasiti - mae'r dewis arall rhesymol yn cwrdd â'r anghenion capasiti dan sylw fel rhan o'r cynnig gwreiddiol ac felly'n cwrdd â'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y disgyblion yn y dyfodol.

           Trefniadau teithio - mae’r dewis arall rhesymol yn annhebygol o newid trefniadau teithio cyfredol disgyblion. Mae disgyblion o Fodffordd, sydd ar hyn o bryd yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol yn debygol o allu parhau i wneud hynny heb newidiadau tebygol i'r ôl- troed carbon.

           Canolfan Gymunedol Bodffordd - ni fydd unrhyw newidiadau. O ganlyniad, gellir parhau i ddefnyddio'r ganolfan gymunedol yn Ysgol Bodffordd fel y gwneir ar hyn o bryd.

           Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 - mae Ysgol Bodffordd wedi'i dynodi yn y Côd fel Ysgol Wledig, ac o ganlyniad mae'r Cyngor wedi dilyn set fanylach o weithdrefnau a gofynion wrth lunio'r dewis arall rhesymol. (Fodd bynnag, mae'r Côd yn nodi nad yw rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau).

 

Cynhaliwyd asesiadau effaith mewn perthynas â'r Ddeddf Cydraddoldeb, Iaith, y Gymuned a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maent wedi eu cynnwys fel un Asesiad Effaith cyfansawdd dan Atodiad 1 i’r adroddiad ymgynghori. Cafwyd 338 o ymatebion i’r Asesiad Effaith ac mae dadansoddiad ohonynt yn rhan 6 o’r adroddiad rhagarweiniol. Mae nifer yr ymatebion i'r cwestiwn asesiad effaith yn rhoi sicrwydd o 95% bod yr ymateb yn gywir ac yn cyd-fynd â theimladau gweddill yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad. Mae lefel hyder o 95% yn golygu pe bai'r arolwg yn cael ei gynnal 100 gwaith, byddai'r un canlyniadau'n cael eu darparu 95% o'r amser. Mae'r Asesiad Effaith yn parhau i fod yn ddogfen fyw ac fe'i diweddarwyd i gynnwys sylwadau rhanddeiliaid a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol; mae'r asesiad cyfredol yn cynnwys asesiad sy'n ymwneud â'r cynnig newydd a argymhellir i'w weithredu. Bydd yr Asesiad Effaith yn parhau i gael ei ddiweddaru'n rheolaidd trwy gydol y cyfnod datblygu ac felly pe bai risg / mater arall yn codi, gall y Cyngor, mewn partneriaeth â'r gymuned leol, roi mesurau lliniaru ar waith i oresgyn y risg neu'r mater sy'n codi. Bydd y trefniant hwn mewn grym trwy gydol y cyfnod datblygu a bydd yn atebol i'r Bwrdd Rhaglen Corfforaethol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau.

 

Amcangyfrifir bod y gost o adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir oddeutu £9m i £10m. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cael ei ariannu gan gyfraniad o 50% gan Lywodraeth Cymru trwy Raglen Band A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn cyfrannu’r 50% arall.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y Pwyllgor ar hyn o bryd yn y cyfarfod ynghylch  yr achos dros newid a gyflwynwyd gan yr Aelod Portffolio ar gyfer  Addysg a'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahaoddiad i Mr Dafydd Jones, sef Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Corn Hir, gyflwyno persbectif Ysgol Corn Hir mewn perthynas â'r cynnig.

 

Yn ogystal â diolch i'r Cadeirydd am y cyfle i siarad yn y cyfarfod hwn, diolchodd Mr Jones i'r Swyddogion am eu gwaith yn coladu a dadansoddi'r llu o ymatebion i'r ymgynghoriad. Cadarnhaodd fod y cynnig a argymhellir i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir ac i adael Ysgol Bodffordd fel y mae, yn dod fel rhyddhad i bawb yn Ysgol Corn Hir ac mai hwn yw'r tro cyntaf mewn 5 mlynedd i gynnig ynghylch dyfodol Ysgol Corn Hir beidio â bod yn ddarostyngedig i ddyfodol ysgol arall. Hyd y gwyddai nid oedd neb erioed wedi dadlau yn erbyn ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir - mae'r gwrthwynebiadau sydd wedi rhwystro cynigion blaenorol i gyd wedi bod yn gysylltiedig â'r bwriad i gau ysgolion eraill. Roedd o'r farn ei bod yn bwysig atgoffa'r Aelodau pam mae Ysgol Corn Hir angen eu cefnogaeth i'r cynnig hwn a chyfeiriodd at yr amodau presennol yn yr ysgol sy'n ei chael hi'n anodd oherwydd diffyg lle. Mae'r ysgol yn orlawn ac mae'r adeilad bellach yn gwbl annigonol ar gyfer anghenion addysgol heddiw heb sôn am ofynion y cwricwlwm newydd. Pan anerchodd y Pwyllgor hwn ddiwethaf ym mis Ionawr, 2020 roedd Ysgol Corn Hir 13% dros y capasiti o 203 disgybl; erbyn hyn mae ganddi 236 o ddisgyblion ac mae 17% dros gapasiti ac wedi gorfod gwrthod mynediad i 5 disgybl o ysgolion eraill ers mis Medi, 2020. Disgrifiodd Mr Jones wrth y Pwyllgor sut mae'r diffyg lle ynghyd â'r angen i gydymffurfio â chyfyngiadau Covid-19 yn effeithio ar fywyd yn yr ysgol sy'n golygu mai dim ond 4 disgybl ac athro (o ddosbarth o 24) y gall rhai o'r ystafelloedd dosbarth eu lletya gyda phellter cymdeithasol ac oherwydd bod y neuadd gymunedol yn rhy fach, bu'n rhaid cynnal 3 yn lle 2 eisteddiad cinio dyddiol ers Medi. Oherwydd  y diffyg lle mae goblygiadau i iechyd a diogelwch a phreifatrwydd personol - mae'n rhaid cynnal sesiynau cwnsela mewn coridorau fel y gwneir gyda gwersi a roddir gan athrawon peripatetig; nid oes lle i gotiau a bagiau disgyblion sy'n creu perygl pan fydd disgyblion yn symud o un dosbarth i'r llall; ni all y neuadd ddal mwy na 30 o ddisgyblion ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol ac nid oes yno le i gynnal gwasanaethau ysgol gyfan. Mae’r cyfleusterau toiled hefyd yn annigonol. Mae’r toeau'n gollwng mewn rhai ystafelloedd dosbarth oherwydd y gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni a heb gael ei wneud. Er gwaethaf yr anfanteision hyn ac anfanteision eraill sy'n ei gwneud hi'n anodd i'r ysgol ffynnu, mae Ysgol Corn Hir serch hynny wedi llwyddo i gynnal safonau trwy gydol y flwyddyn ac mae'n parhau i fod yn ysgol categori Gwyrdd (ysgol sy'n perfformio'n dda ac sydd angen y lefel isaf o gefnogaeth). Cyfeiriodd Mr Jones ymhellach at y ffyrdd y mae Ysgol Corn Hir wedi cyfrannu'n amlwg at fentrau lleol a chenedlaethol gan gynnwys mewn perthynas â datblygu polisïau, datblygu cwrs hyfforddi athrawon yn y Brifysgol Agored, arwain ar baratoi ar gyfer deddfwriaeth ADY newydd a hunanarfarnu ysgolion. Roedd yn gobeithio ei fod wedi dangos pa mor galed y mae pawb yn Ysgol Corn Hir wedi gweithio i sicrhau'r safonau addysg uchaf posib, ond hyd yn oed gyda'r ymdrechion gorau ni fydd yr ysgol yn gallu cynnal y safonau hynny yn y blynyddoedd i ddod heb y buddsoddiad angenrheidiol, a dyna pam yr oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gefnogi'r cynnig.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y Pwyllgor i Mr Dafydd Jones ond mewn ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod 3 ymgynghoriad (gan gynnwys ymgynghoriad anstatudol) wedi'u cynnal mewn perthynas ag Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd.

 

Wrth siarad ar ran Ysgol Bodffordd, diolchodd Mr Gareth Parry i'r Pwyllgor am y cyfle i siarad ac am y gwaith caled a wnaed gan Swyddogion dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Gan gyfeirio at y cynnig, pwysleisiodd nad oedd rhanddeiliaid yn Ysgol Bodfordd erioed wedi bod yn erbyn adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a’u bod yn cydnabod bod angen amdani ond eu bod wedi dadlau yn erbyn gwneud hynny ar draul Ysgol Bodffordd. Mae Ysgol Bodffordd yn ysgol sydd wedi ei dynodi'n ysgol wledig ac mae'n ysgol gymunedol ym mhob ystyr o'r gair; mae'n ysgol Gymraeg ei hiaith ac yn rhan annatod o ganolfan gymunedol brysur sydd wedi profi'n arbennig o werthfawr fel hyb cymunedol yn ystod y pandemig presennol. Mae hefyd yn ysgol sy'n llawn.  Cadarnhaodd Mr Parry fod y cynnig a argymhellir am  ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a chadw Ysgol Bodffordd yn cael ei groesawu gan Ysgol Bodffordd a phawb sy'n ymwneud â'r ysgol, ac yn amodol ar i'r cynnig gael ei gymeradwyo, dymunodd yn dda i Ysgol Corn Hir.

 

Dywedodd y Cynghorydd R G Parry, OBE, FRAgS, Aelod o'r Pwyllgor Gwaith ac Aelod Lleol ei fod yn falch o’r cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir gan fod gwir angen amdani oherwydd bod yr ysgol yn orlawn. Ailbwysleisiodd fod moderneiddio ysgolion yn cael ei wneud er budd y plant ac y bydd y plant yn Ysgol Corn Hir yn gallu mwynhau cyfleusterau modern mewn adeilad sy'n addas i’r diben, os caiff y cynnig ei gymeradwyo. Roedd yn gobeithio y byddai'r Pwyllgor yn cefnogi'r cynnig.

 

Esboniodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol ac aelod o'r Pwyllgor, gan amlygu ei fod wedi bod yn gyson o'r cychwyn nad oedd eisiau gweld Ysgol Bodffordd yn cau, pam fod ei bersbectif yn yr achos hwn yn wahanol i'w safbwynt ynghylch Ysgol Talwrn ac fe grybwyllodd y rhesymau canlynol -

 

           Bod angen ystyried ac asesu pob achos yn unigol

           Bod Ysgol Bodffordd yn llawn tra bod gan Ysgol Talwrn leoedd gweigion

           Bod y ganolfan gymunedol yn rhan hanfodol o Ysgol Bodffordd gan nad oes gan y pentref unrhyw gyfleuster arall i gynnal  gweithgareddau cymunedol gan gynnwys y 18 sefydliad sy'n defnyddio'r ganolfan. Mae gan Talwrn neuadd bentref sydd ar wahân i'r ysgol.

           Bod costau atgyweirio a chynnal a chadw yn Ysgol Bodffordd yn cyfateb i draean o'r costau sy'n gysylltiedig ag Ysgol Talwrn.

           Mae Ysgol Bodffordd wedi ei dynodi'n ysgol wledig  dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 tra nad yw Ysgol Talwrn.

 

Nododd yr atborth sylweddol o'r ymgynghoriad a diolchodd i'r Swyddogion am wrando ar y sylwadau a wnaed ac yng ngoleuni'r rheini, am ddod i gasgliad gwahanol. Ychwanegodd ei fod wedi cynnal arolwg dros y ffôn gyda rhieni, ac y gallai gadarnhau bod 42 (89%) o'r 47 o rieni  y cysylltwyd â nhw (yn cynrychioli 64 o blant sy'n mynychu Ysgol Bodffordd) wedi nodi eu bod yn anghytuno â'r cynnig gwreiddiol a oedd yn cynnwys cau Ysgol Bodffordd. Roedd yn cydnabod yr  angen dybryd am ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gofynnodd am eglurhad ar y llinell amser ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd pe bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad ei bod yn anodd rhoi dyddiad cwblhau ar gyfer prosiect cyfalaf nad yw wedi cychwyn eto oherwydd gall nifer o bethau ddigwydd ar hyd y ffordd i achosi oedi. Fodd bynnag, yn amodol ar gymeradwyaeth, byddai'r Awdurdod yn dymuno agor yr Ysgol Corn Hir newydd ym mlwyddyn addysg 2022/23.

 

Roedd consensws ymhlith aelodau’r Pwyllgor ynghylch rhinweddau’r cynnig. Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith, wrth leisio’i gefnogaeth, am eglurhad ar oblygiadau ariannol y cyfraniad o £4.5m y byddai'r Cyngor yn ei wneud tuag at y prosiect o gofio’r sefyllfa economaidd  sydd ohoni. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ei bod yn bwysig edrych y tu hwnt i gynlluniau unigol a'r costau sy'n gysylltiedig â hwy a'u gweld yn hytrach fel rhan o raglen moderneiddio ysgolion ledled yr Ynys lle mae rhai prosiectau'n cynhyrchu arbedion o ganlyniad i gau ysgolion tra bo eraill yn golygu costau oherwydd eu bod yn creu capasiti ychwanegol. Er bod y gost o fynd i’r afael â’r prinder lleoedd yn ardal Llangefni lle mae rhai ysgolion â llawer mwy o ddisgyblion na'u capasiti, yn uwch na chost y sefyllfa bresennol, dylid gweld y costau hynny yng nghyd-destun yr arbedion a grëwyd gan brosiectau moderneiddio ysgolion a weithredwyd eisoes mewn rhannau eraill o'r Ynys. Yn ogystal, mae argaeledd cyllid gan Lywodraeth Cymru a fydd yn darparu 50% o'r arian yn yr achos hwn yn rhoi cyfle unwaith ac am byth efallai i fuddsoddi cyfalaf mewn ysgolion. Derbynnir bod angen ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a byddai'n rhaid i'r Cyngor fynd i'r afael â'r mater rywbryd yn y dyfodol yn ôl pob tebyg am gost lawer uwch na chost y prosiect a gynigir yn awr a fydd yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Bryan Owen y cynnig amgen a fydd yn gweld Ysgol Bodffordd yn parhau i fod ar agor ac ailadroddodd ei farn am rôl ganolog ysgolion o ran sicrhau hyfywedd cymunedau gwledig a'r iaith Gymraeg gan dynnu sylw at y ffaith bod y Gweinidog Addysg o’r un farn. Gyda hyn mewn golwg, awgrymodd ei bod yn parhau i fod o werth i’r Pwyllgor Gwaith ystyried a ellid arbed y gwariant o £6m a gynlluniwyd ar  ehangu Ysgol Y Graig a chau Ysgol Talwrn trwy ddylunio Ysgol Corn Hir newydd a fyddai'n ddigon mawr i gymryd y disgyblion dros ben yn Llangefni. Galwodd am bwyll wrth fynd â’r rhaglen moderneiddio’r ysgolion yn ei blaen mewn rhannau eraill o’r Ynys ac i ymgynghoriadau fod yn ystyrlon.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth ymateb, er bod Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn cynnwys rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig, mae hefyd yn cydnabod nad yw hyn yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau. Er bod cau ysgol bob amser yn gynnig anodd, mae'n ddyletswydd ar yr Awdurdod i sicrhau bod ysgolion a phlant ledled yr Ynys yn cael eu trin yn deg, bod adnoddau'n cael eu rhannu'n deg a bod cyfleoedd yn cael eu darparu'n gyfartal. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy lle mae amrywiad sylweddol yn y gost fesul disgybl a lle mae'r gost o gynnal stad yr ysgol bron yn £20m. Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhoi cyfle i fynd i'r afael â'r materion hyn lle mae'r baich cyllido’n cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru. Efallai na fydd y cyfle hwn ar gael yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried y traul ar adnoddau yn sgil  ymateb i bandemig Covid-19. Mae ysgol yn un elfen o gymuned; mae cynaliadwyedd yn dod yn fwy o her pan fydd rhieni, fel y mae eu hawl, yn dewis mynd â'u plant i ysgolion sydd mewn ardaloedd y tu allan i'w cymunedau. Mae'r Awdurdod bob amser wedi mabwysiadu agwedd gynhwysfawr tuag at ymgynghori ac yn y gorffennol - er nad yw'n ofynnol iddo wneud hynny – mae wedi cynnal ymgynghoriadau anstatudol er parch at gymunedau. Cynhelir ymgynghoriadau yn unol â gofynion Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018.

 

Ailadroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau, a Phobl Ifanc fod nifer o opsiynau wedi cael eu hystyried o ran cyfluniad ysgolion yn ardal Llangefni ac mae eu manteision a'u hanfanteision wedi'u gwerthuso'n ofalus yn erbyn y gyrwyr yn Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018. O ran Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd, y farn broffesiynol yn dilyn ymgynghoriad, yw bod y dewis arall rhesymol fel yr amlinellwyd yn cynrychioli'r ffordd orau ymlaen ar gyfer y rhan hon o Langefni. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod amrywiaeth o opsiynau wedi cael eu hystyried ar hyd y daith gyda chymunedau yn rhoi eu barn yn ystod y broses hon. Nid yw'r awgrym o opsiwn sy'n cynnwys ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir sy'n ddigon mawr i gymryd disgyblion dros ben yn Llangefni a pheidio ag ehangu  Ysgol Y Graig wedi ffurfio rhan o'r ymateb cymunedol ac felly, fel opsiwn newydd, byddai'n rhaid ymgynghori arno a byddai' hynny'n creu mwy o ansicrwydd.

 

Siaradodd yr Aelod Portffolio dros Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc am y gwahanol elfennau sy'n ffurfio cymunedau a bod ysgol yn un ohonynt. Crybwyllodd  effaith y polisi o fedru dewis ysgol ar y cymunedau hynny lle mae rhieni'n dewis anfon eu plant i ysgolion heblaw eu hysgol gymunedol. Mae newid demograffig yn gallu digwydd ym mhob cymuned ac nid yw'n anochel bod cau ysgol yn arwain at ddirywiad cymuned. Cyfeiriodd at yr her o greu gwasanaeth addysg sy'n cwrdd ag anghenion pob rhiant ac amlygodd fod yr Awdurdod, yng ngoleuni'r ymateb i'r ymgynghoriad, wedi dod i safbwynt gwahanol yn yr achos hwn.

 

Roedd y Cynghorydd Richard Owain Jones yn dymuno cael sicrwydd nad yw'r pwyslais ar agweddau cymunedol Ysgol Bodffordd yn dod ar draul y ddarpariaeth addysgol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sicrwydd trwy egluro mai'r rhan bwysicaf o ysgol yw ei phlant a'i phobl ifanc, wedi eu cefnogi gan gorff effeithiol o staff ar lefel ystafell ddosbarth sy'n gallu gweithio gyda'r plant. Er mwyn gwireddu hyn, mae angen arweinyddiaeth, gweledigaeth a chydweithrediad cadarn. O'i brofiad blaenorol fel Pennaeth, cafodd sicrwydd bod y weledigaeth a'r awydd i barhau i wella yn gryf yn Ysgol Bodffordd, a bod gan yr ysgol a'i chorff llywodraethu gynlluniau i wneud i hynny ddigwydd. Dyna yw blaenoriaeth yr ysgol a'r Gwasanaeth Dysgu ac mae'n berthnasol i Ysgol Bodfordd fel y mae i holl ysgolion yr Awdurdod. Ar ôl ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd gan rieni, staff, llywodraethwyr ac eraill yn ystod yr ymgynghoriad, mae'r Awdurdod wedi ei ddarbwyllo  bod Ysgol Bodffordd mewn lle da ac mae'n hyderus y gall yr ysgol barhau ar ei thaith wella sydd, mewn gwirionedd, yn broses nad  yw'n dod i ben oherwydd y parhau i chwilio am ffyrdd gwell o addysgu a dysgu ar gyfer pob ysgol.

 

Dywedodd Mrs Anest Frazer, Aelod Cyfetholedig a chynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru, wrth gydnabod bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd pan ystyrir dyfodol ysgolion, mai'r bygythiad mwyaf i gyfiawnder yw anghyfiawnder ac mai rôl y Pwyllgor heddiw yw edrych ar gysoni'r ddarpariaeth addysg ledled y sir, a sicrhau bod gan bob plentyn y lle angenrheidiol i'w helpu i lwyddo. Dywedodd, fel yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf pan drafododd y Pwyllgor ddyfodol Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig, y byddai ei phenderfyniad yn seiliedig ar sicrhau darpariaeth a chyfle cyfartal i blant ysgol yr Ynys o fewn yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael a hefyd ar sicrhau bod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio i gynnal safonau addysg ar gyfer pob disgybl.

 

I gloi, cafwyd crynodeb byr gan y Cadeirydd o'r prif faterion a gododd o'r drafodaeth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen, ac eiliwyd ef  gan y Cynghorydd Dylan Rees fod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae h.y. yr opsiwn fel yr argymhellwyd gan y Swyddogion yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, derbyniwyd y cynnig yn unfrydol.

 

Yn dilyn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, PENDERFYNODD y Pwyllgor yn unfrydol i argymell i’r Pwyllgor Gwaith mai’r ffordd fwyaf priodol ymlaen yn dilyn yr ymgynghoriad statudol yw’r dewis amgen rhesymol arall sef adeiladu ysgol newydd i Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae hi.

 

Dogfennau ategol: