Eitem Rhaglen

Datblygu Aelodau

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar ddatblygu Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Rheolwr Hyfforddiant AD ar gynnydd y cyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau etholedig ers i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn ar 11 Mawrth 2020.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD fod y Cynllun Datblygu Aelodau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn gynllun ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20, a bod rhai materion ynddo heb eu cwblhau. . Dywedodd fod gwybodaeth am sesiynau hyfforddi wedi'i hamlygu yn Atodiad 1 ac wedi derbyn sgôr o ran y cynnydd a wnaed, a bod  hyfforddiant a gyflawnwyd wedi ei nodi ynghyd ag unrhyw anghenion hyfforddi i'w dwyn ymlaen i Gynllun Datblygu 2020/22. Nodwyd bod atborth wedi dod i law gan Wasanaethau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru ar lunio Cynllun diwygiedig ar gyfer y cyfnod cyfredol hyd at yr etholiadau yn 2022.

 

Er bod dulliau traddodiadol o roi hyfforddiant wedi eu gohirio am y tro,  darparwyd peth arweiniad a hyfforddiant ar gyfryngau cymdeithasol. Bu'n rhaid i aelodau a staff addasu, a defnyddio Teams a Zoom fel ffordd newydd o ddysgu. Mae hyfforddiant helaeth wedi'i ddarparu ar ddefnyddio gweminarau, ac mae aelodau'r Pwyllgor Archwilio wedi mynychu sesiynau gweminar gyda CIPFA. Nodwyd bod modiwlau E-Ddysgu ar gael, a gellir eu cyrchu ar blatfform Cronfa Ddysgu'r Cyngor. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD fod y Tîm Dysgu a Datblygu yn ystyried datblygu adranAelodau Etholedigar y platfform E-Ddysgu, fel y gall gwybodaeth am hyfforddiant / digwyddiadau fod ar gael yn rhwydd. Dywedodd fod Arweinwyr Grŵp wedi gofyn am gymorth gyda hyfforddiant TGCh ar gyfer rhai Aelodau etholedig, sydd hefyd ar gael.

 

Codwyd pryderon y byddai'r llwyth gwaith ar gyfer swyddogion ac Aelodau'n cynyddu'n sylweddol, pe bai mwy o sesiynau hyfforddi yn cael eu hychwanegu at y Cynllun. Codwyd cwestiwn a fyddai'r llwyth gwaith hyfforddi yn cael ei flaenoriaethu neu ei gywasgu i flwyddyn o waith? Ymatebodd y Rheolwr Hyfforddiant AD yr ymgynghorwyd ag Uwch Reolwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth ar feysydd blaenoriaeth ar gyfer hyfforddi a datblygu i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu ar gyfer 2020/22.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi bod trafodaethau hefyd wedi digwydd gyda Swyddog Polisi a Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sefydlu pa adnoddau sydd ar gael. Mae atborth yn awgrymu y dylai'r Cyngor ganolbwyntio ar barhau â sesiynau briffio mewn meysydd sy'n cynnwys Cynllunio, Tai, Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Ar ôl cwblhau'r Cynllun, bydd angen iddo gael ei gymeradwyo gan yr UDA a'r Arweinwyr Grŵp, ac yna'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Cyngor llawn.

 

O ran Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP) ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae'r ffocws yn debygol o fod ar sgiliau cadeirio a darparu hyfforddiant TGCh pellach. Bydd hyfforddiant yn cael ei flaenoriaethu, a bydd y Cynllun yn cael ei ddiweddaru yn dilyn atborth ym mis Chwefror 2021.

 

Cyfeiriodd aelod o’r Pwyllgor at Bwynt 3 (Cyllid) yn yr Atodiad, a thynnodd sylw at risgiau ar bob lefel yng ngwasanaethau’r Cyngor. Dywedodd, er bod y Pwyllgor Archwilio yn edrych ar risg yn fanwl, y dylai'r Cyngor gael proses ar gyfer rheoli ei risgiau ar lefel strategol, ac o fewn gwasanaethau'r Cyngor. Ailadroddodd ei bod yn bwysig nad yw rheoli risg yn cael ei ystyried yn fater ariannol yn unig, ond fel proses y dylai pob Aelod ei deall, ac y dylent ymgorffori'r broses honno yn eu gweithredoedd o ddydd i ddydd.

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ei bod yn codi'r mater rheoli risg gyda'r Cyfarwyddwr Adnoddau Swyddogaeth) / Swyddog Adran 151 a'r  Pennaeth Archwilio Mewnol, i nodi'r math o hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer y maes risg. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi'r wybodaeth a gyflwynir yn yr adroddiad.

  Bod yr holl anghenion hyfforddi yn deillio o Adolygiadau Datblygiad Personol yn cael eu hanfon ymlaen at y Rheolwr Hyfforddiant AD erbyn 28 Chwefror 2021, fel y gellir diwygio'r Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau a blaenoriaethu hyfforddiant penodol.

  Bod y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau ar gyfer 2020/2022 yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor llawn yn 2021.

  Bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro  yn codi'r mater rheoli risg gyda'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau/Swyddog Adran 151 a'r Pennaeth Archwilio Mewnol.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod.

Dogfennau ategol: