Eitem Rhaglen

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, mai £142.146m oedd y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21 h.y. y flwyddyn ariannol gyfredol. Ar gyfer 2021/22 mae nifer o newidiadau hysbys yr ymrwymwyd iddynt yn debygol o effeithio ar y gyllideb. Manylir ar y rhain yn adran 3 o'r adroddiad ysgrifenedig ac maent yn cynnwys amrywiadau yn niferoedd disgyblion, taliadau i Gais Twf Gogledd Cymru, costau Pensiwn hanesyddol a buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth. Y newid mwyaf arwyddocaol yw cost gynyddol y Contract Casglu Sbwriel a Glanhau Strydoedd newydd gyda Biffa, sydd £909k yn uwch na’r gyllideb gyfredol. Gan ystyried yr holl addasiadau a thybiaethau fel y'u nodir yn Adran 3, cyfanswm y gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2021/22 yw £147.076m, cynnydd o £4.930m ar gyllideb derfynol 2020/21. Bydd setliad dros dro uwch gan Lywodraeth Cymru yn talu £3.821m o'r costau uwch gan adael diffyg cyllid o tua £1m i'w ariannu drwy Dreth y Cyngor.

 

Byddai'r gyllideb ddigyfnewid o £147.076m yn caniatáu i'r Cyngor gynnal ei wasanaethau presennol; fodd bynnag, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cyllidebol newydd a gofynion newydd am wasanaethau na chaniatawyd ar eu cyfer yn y gyllideb. Mae'r pwysau a'r gofynion hyn - rhai ohonynt mewn gwasanaethau sydd wedi dioddef gostyngiadau yn ystod y cyfnod o lymder - wedi dod yn fwy amlwg wrth i'r Cyngor ymateb i bandemig Covid. Manylir ar y meysydd blaenoriaeth y nodwyd bod angen cyllid ychwanegol arnynt yn adran 10.6 o'r adroddiad ac maent yn cynnwys adfer y rhaglen hyfforddeion broffesiynol; cryfhau capasiti Gwarchod y Cyhoedd; Cynhwysiant Addysg; Cymorth TG i ysgolion; rheoli twristiaeth a newid yn yr hinsawdd. Ar ôl ystyried y gyllideb ddigyfnewid ac yng ngoleuni'r ffaith bod angen cynnydd o 2.55% yn bennaf i ariannu'r cynnydd yng nghost y contract casglu sbwriel newydd, ystyriwyd cynnydd ychwanegol o 1.2% yn y Dreth Gyngor fel ffordd o ariannu'r pwysau a’r gofynion ychwanegol ar y gyllideb. Byddai cynnydd ychwanegol o 1.2% yn uwch na'r lefel sy'n ofynnol i ariannu'r gyllideb ddigyfnewid (tabl 4 ym mharagraff 9.2) yn cynhyrchu £494k ychwanegol o gyllid. Cynigir felly y dylid cynyddu lefel y Dreth Gyngor o 3.75% sy'n cyfateb i gynnydd wythnosol o 94c ar gyfer eiddo Band D.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at y risgiau canlynol i'r gyllideb

 

           Ansicrwydd o ran y dyfarniadau cyflog posibl ar gyfer y ddau brif grŵp o weithwyr llywodraeth leolathrawon a staff NJC. Er bod cyhoeddiad wedi’i wneud ym mis Tachwedd, 2020 y byddai cyflogau holl weithwyr y sector cyhoeddus (ac eithrio'r GIG) sy'n ennill dros £24,000 yn cael ei rewi, ac y byddai’r dyfarniad tâl i'r rhai sy'n ennill llai na £24,000 o leiaf yn £250, nid Llywodraeth y DU sy'n pennu'r dyfarniad cyflog ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol, ond y corff sy'n cynrychioli cyflogwyr llywodraeth leol. Yn ogystal â hyn, mae pennu'r dyfarniad cyflog athrawon blynyddol wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Caniatawyd cynnydd o 1% yn y gyllideb ddigyfnewid ar gyfer chwyddiant cyflog ar gyfer cyflogau athrawon ac ar gyfer cyflogau staff NJC.

           Mae darpariaeth wedi'i chynnwys yn y gyllideb ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor sy'n cyfateb i'r cynnydd arfaethedig o 3.75% yn y Dreth Gyngor. Fodd bynnag, nid oes arian ar gael yn y gyllideb pe bai nifer yr hawlwyr yn cynyddu'n sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth ychwanegol eleni i dalu cost y cynnydd yn y galw ar y cynllun oherwydd effaith Covid 19 a deellir y bydd y cymorth hwn ar gael y flwyddyn nesaf os bydd ceisiadau o dan y cynllun yn cynyddu'n sylweddol.

           Nid oedd darpariaeth wedi'i gwneud yn y gyllideb ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â Covid. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi talu'r costau uwch a wynebir gan y Cyngor o ganlyniad i'r pandemig yn ogystal â darparu ad-daliad am golli incwm. Bydd y trefniant hwn yn parhau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Wrth nodi y bydd yn cyhoeddi'r trefniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir y bydd cyllid ychwanegol ar gael i'r Cyngor ond ni wyddom ar ba lefel y bydd y cyllid hwnnw. Rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu costau ychwanegol parhaus a ysgwyddir o ganlyniad i Covid ac y bydd yn gwneud iawn am unrhyw incwm a gollir gan y Cyngor yn sgil gorfod cau ei gyfleusterau o fis Ebrill ymlaen.

 

Wrth ddiolch i'r Gwasanaeth Cyllid am yr wybodaeth a'r adroddiad a luniwyd o fewn amserlen dynn ers cyhoeddi'r setliad Llywodraeth Leol dros dro ar 22 Rhagfyr 2020, roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r ffaith bod rôl allweddol Diogelu'r Cyhoedd yn y pandemig wedi’i chydnabod yn y gyllideb ddrafft yn ogystal â'r buddsoddiad mewn rhaglen hyfforddeion i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes llywodraeth leol. Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Carwyn Jones, darparodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)./Swyddog Adran 151 grynodeb o Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor o ran sut mae'r cynllun yn gweithio, ar gyfer pwy y mae’r cynllun a'r broses ymgeisio.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r canlynol

 

·        Yr addasiadau i'r Gyllideb sydd wedi’u cynnwys yn y Gyllideb Ddigyfnewid fel y nodir ym Mharagraffau 4 i 7 o'r adroddiad.

·        Y gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2021/22 o £147.076m. Dylai hon fod yn sail i gyllideb refeniw 2021/22.

·        Cynnydd arfaethedig o £3.75% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

·        Diwygiadau arfaethedig ychwanegol i'r gyllideb fel y nodir yn Nhabl 5 yr adroddiad.

·        Cyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2021/22 o £147.531m

·        Y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio barn y cyhoedd ar y gyllideb arfaethedig a'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22.

 

Dogfennau ategol: