I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys y Cynllun Bioamrywiaeth.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Richard Dew, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a nododd mai hwn yw Cynllun Bioamrywiaeth cyntaf Cyngor Sir Ynys Môn a'i fod wedi'i baratoi yn unol ag adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn unol â'r gofynion yn Adran 6 mae'n nodi sut mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal a gwella bioamrywiaeth ac wrth wneud hynny, hyrwyddo gwytnwch ecosystemau a gwreiddio materion bioamrywiaeth yn ei benderfyniadau, ei gynlluniau a'i bolisïau o ddydd i ddydd. Mae'r Cynllun hefyd wedi ei baratoi i alinio ag amcanion Cynllun y Cyngor, yn benodol Amcan 3 (Gweithio mewn partneriaeth â'n cymunedau i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi'n effeithiol â newid a datblygiadau tra'n amddiffyn ein hamgylchedd naturiol). Mae'n dilyn canllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn ystyried amcanion y Cynllun Adfer Natur ar gyfer Cymru sy'n nodi gweithredoedd y gellir eu cyflawni yn y tymor byr ac sy'n gosod trywydd i gyflawni ymrwymiadau tymor hwy y tu hwnt i 2020. Mae amcanion y Cynllun Bioamrywiaeth wedi eu hysgrifennu i fod yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn fesuradwy o fewn yr amserlenni ac adroddir ar ei allbynnau i'r Pwyllgor Gwaith bob blwyddyn.
Amlygodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro, er bod y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd wedi arwain ar ddatblygu’r Cynllun, disgwylir y bydd holl wasanaethau’r Cyngor yn cyfrannu at wireddu ei amcanion. Hefyd, disgwylir ymgeisio am gyllid allanol er mwyn cyflawni rhai o'r prosiectau unigol yn y Cynllun sy'n ystyriaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio (Amgylchedd Adeiledig a Naturiol) at y Cynllun Gweithredu fel elfen arbennig o bwysig o'r Cynllun ehangach gan nodi bod angen i'r Cyngor cyfan weithredu’n gorfforaethol er mwyn cyflawni’r camau a amlinellir ynddo.
Croesawodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith y Cynllun gan gydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth ac integreiddio bioamrywiaeth trwy holl waith y Cyngor. Roedd gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas bryderon ynghylch dirywiad coed ynn oherwydd y clefyd gwywiad yr onnen a goblygiadau hynny i goed ynn ar yr Ynys ynghyd â’r posibilrwydd y gallai gael effeithiau ecolegol ehangach.
Wrth gydnabod bod hon yn broblem genedlaethol sylweddol, cadarnhaodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod Cydlynydd y Cyngor ar gyfer y clefyd Gwywiad yr Onnen yn edrych ar y mater o safbwynt yr Ynys a bod panel sy'n cynnwys yr Aelodau Portffolio perthnasol a Swyddogion hefyd wedi'i sefydlu i'r un pwrpas. Mae gweithio gyda pherchnogion tir a chynghorau cymuned yr un mor bwysig hefyd, a hynny er mwyn nodi'r ardaloedd hynny lle mae coed heintiedig, ac i ddatblygu cynlluniau ailblannu lle collwyd coed.
Gofynnodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc am eglurhad ar yr ochr ariannol a phwysleisiodd yr angen i gadw llygad ar gynnydd.
Eglurodd y Rheolwr Cynllunio (Amgylchedd Adeiledig a Naturiol) fod Llywodraeth Cymru yn rhedeg cyfres o gynlluniau o dan Bartneriaethau Natur Lleol yng Nghymru; mae'r rhain yn cynnwys ystod o sefydliadau gan gynnwys yr awdurdod lleol ac mae'r Partneriaethau'n derbyn cyllid ar gyfer prosiectau lleol sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd. Mae oddeutu £80k ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf i brosiectau o'r fath a bydd cais yn cael ei gyflwyno cyn bo hir - mae elfen o'r cyllid hwn ar gyfer gwneud stad y Cyngor yn wyrddach ac mae rhai prosiectau eisoes wedi cychwyn gan ddefnyddio cyllid y llynedd at y diben hwn gyda thua £30k ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf.
O ran monitro, cadarnhaodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith fel rhan o'r broses fonitro.
Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-Gadeirydd, wrth fynegi ei gefnogaeth i'r Cynllun, ei fod yn credu bod angen cryfhau'r polisïau diogelu'r amgylchedd yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC); cyfeiriodd at enghraifft yn ei ardal etholiadol ei hun lle gellid colli rhan o safle bywyd gwyllt lleol dynodedig os caniateir cynnig i ddatblygu tai fforddiadwy o dan bolisi safle eithriad yn y CDLlC sy'n caniatáu datblygu y tu allan i ffiniau diffiniedig a oedd, yn ei farn ef, yn gwrthdaro â chyfrifoldebau a dyheadau’r Awdurdod dan y Cynllun Bioamrywiaeth. Ar ôl edrych yn sydyn trwy Gynlluniau Datblygu Lleol awdurdodau eraill, roedd wedi darganfod bod Adran 5 o'r CDLl a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnwys darpariaeth polisi mewn perthynas â safleoedd eithriad ar gyfer tai fforddiadwy yn y cefn gwlad sy'n nodi na fydd cynigion datblygu ond yn cael eu caniatau lle dangosir “nad yw'r datblygiad arfaethedig o fewn Lletem Werdd, Ardal Tirwedd Arbennig nac o fewn, yn agos at neu wrth ymyl Safle Cadwraeth Natur a ddynodwyd yn rhyngwladol, yn genedlaethol neu'n lleol. ” Gofynnodd am ystyried ymgorffori darpariaeth debyg yn y CDLlC ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd pan fydd y Cynllun yn cael ei adolygu, a hynny er mwyn ymestyn diogelwch i safleoedd o'r fath yn Ynys Môn a Gwynedd.
Nododd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Ieuan Williams a chadarnhaodd y byddai'n mynd â'r mater yn ôl i Bwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd Môn a Gwynedd.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a mabwysiadu’r Cynllun Bioamrywiaeth yn ffurfiol.
Dogfennau ategol: