I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn perthynas â'r Cynllun Brys ar gyfer Bysus. Roedd yr adroddiad yn nodi'r cyd-destun ehangach, y cefndir a'r Cynllun Brys ar gyfer Bysus (CBB) a'r rhesymau drosto, ac yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gytuno i i ymuno â chynllun CBB2.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd R G Parry, OBE, FRAgS, yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a rhoddodd wybodaeth gefndir bod Llywodraeth Cymru (LlC) ac awdurdodau lleol wedi bod yn darparu cymorth ariannol i'r sector gwasanaethau bws i helpu i ddelio â llai o refeniw a chostau uwch oherwydd effaith Covid-19. Cyn y pandemig roedd LlC wedi ymgynghori ar ystod o newidiadau arfaethedig i'r ffordd y mae gwasanaethau bws yn cael eu darparu yng Nghymru ac wedi nodi ei bod am weld y sector cyhoeddus yn cael mwy o ddylanwad dros rwydweithiau gwasanaeth, tocynnau ac integreiddio â gwasanaethau rheilffyrdd; mae LlC hefyd yn bwriadu cysylltu goroesiad tymor byr y gweithredwyr â diwygio'r sector ar gyfer y tymor hir. Yn y tymor byr, felly, darperir cyllid i gadw gweithredwyr i fynd ac mae nifer o amodau gyda'r cyllid hwnnw. Nod y rhain yw cymell gweithredwyr i ymgysylltu â'r newidiadau y bwriedir eu gwneud ac sy'n unol â'r uchelgeisiau tymor hwy ar gyfer diwygio'r sector. Rhyddhaodd LlC £29m o Gronfa Caledi a oedd yn gweithredu o Ebrill, 2020 am dri mis, ac ar ôl hynny cyflwynwyd y Cynllun Brys ar gyfer Bysus ym mis Gorffennaf er mwyn parhau i ddarparu cymorth (CBB1) gyda disgwyl y byddai gweithredwyr yn cyfrannu at ail-lunio gwasanaethau bws yng Nghymru. Cyflwynwyd CBB 1.5 ym mis Awst, 2020 a weinyddir gan Awdurdodau arweiniol (Sir y Fflint yn achos Gogledd Cymru) a darparodd hyn £10m o gyllid i gefnogi ailagor ysgolion a gweithgaredd economaidd. Yna estynnwyd CBB 1.5 hyd at ddiwedd mis Mawrth, 2021 yn dilyn cyhoeddi pecyn cymorth pellach ym mis Medi, 2020, a gofynnwyd i weithredwyr gytuno i ystod o delerau ac amodau ar gyfer manteisio ar y cyllid.
Mae LlC, yn gweithio ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru, bellach yn cynnig gwneud cytundeb CBB2 tymor hwy gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau. Bydd y cytundeb yn rhedeg yn y lle cyntaf am ddim mwy na 2 flynedd o'r dyddiad y cychwynnodd CBB 1.5 h.y. hyd at Orffennaf 2022 oni bai bod amodau'r farchnad yn gwella digon i weithredwr beidio â bod angen cymorth CBB mwyach, boed ar gyfer gwasanaethau masnachol neu wasanaethau dan gontract. Bydd LlC yn gyd-lofnodwr cytundeb CBB2 gyda gweithredwyr bysus ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru. Mae Awdurdodau Lleol yn cadw cyfrifoldebau cyfreithiol am wasanaethau bws ac felly'n parhau i fod â rôl ganolog o ran penderfynu pa wasanaethau lleol sy'n derbyn y cymorth hwn. Mae angen iddynt ymrwymo i egwyddor y cytundeb a'r berthynas â'u hawdurdod arweiniol wrth sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn cwrdd â'u blaenoriaethau ac yn cael ei ddarparu ar eu rhan. Bydd hyn yn darparu'r sylfaen gyfreithiol i LlC wneud taliad i'r gweithredwyr. Mae nodweddion allweddol CBB2 wedi'u crynhoi yn yr adroddiad ac mae'r Cytundeb arfaethedig llawn wedi'i nodi yn Atodiad 2 i'r adroddiad.
Amlygodd Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bwysigrwydd cefnogi'r sector er budd gweithwyr allweddol yr Awdurdod ac ar gyfer yr adferiad ôl-Covid a dywedodd, er nad yw'r cyllid yn cynnwys trafnidiaeth addysg yn benodol, mae'n hanfodol o ran helpu gweithredwyr bysus i oroesi'r argyfwng presennol a pharhau i fod yn ddiddyled, gan sicrhau eu bod ar gael ar gyfer trafnidiaeth addysg yn y dyfodol. Dywedodd na fydd ymrwymo i CBB2 yn clymu'r Awdurdod i unrhyw fodel rheoli yn y dyfodol gan y bydd hynny'n destun trafodaethau pellach; nid yw ychwaith yn golygu cyllid ychwanegol i gael mwy o fysus - arian ydyw yn hytrach i helpu gweithredwyr ddal i fynd yn ystod yr argyfwng presennol a chyda hyn mewn golwg gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro'r trefniadau ar gyfer monitro.
Croesawyd y cynllun gan y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr, a thynnodd sylw at y ffaith bod gwasanaethau bws yn achubiaeth i ardaloedd gwledig ac felly mae'n hanfodol cefnogi'r gwasanaethau hynny. Cyfeiriodd at Gynghrair Seiriol sy'n rhedeg gwasanaeth bws mini llwyddiannus ac sy'n awyddus i ddarparu gwasanaeth cymunedol ar gyfer pentrefi mwy gwledig yr ardal; gofynnodd am eglurder ynghylch sut y gellid cynorthwyo gwasanaeth o'r fath yn y dyfodol ac yn benodol ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod cytundeb CBB2 wedi'i anelu'n benodol at gefnogi gweithredwyr cyfredol trwy gyfnod y pandemig. Fodd bynnag, fel rhan o ddiwygiadau arfaethedig pellach i'r modd y rheolir gwasanaethau bws yng Nghymru y cyfeirir atynt yn yr adroddiad, mae'r Awdurdod eisoes wedi mynegi diddordeb mewn treialu cynllun Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw yng Nghaergybi ac yn ardal Seiriol. Er bod y cynllun prawf yng Nghaergybi yn fwy tebygol o fynd yn ei flaen gyntaf oherwydd y ffordd y mae contractau masnachol gyda gweithredwyr yn gweithio, mae'r Awdurdod yn parhau i gadw mewn cof yr opsiynau yn ward Seiriol yn enwedig mewn ardaloedd y tu hwnt i Fiwmares.
Penderfynwyd –
· Cytuno i egwyddorion Cytundeb CBB2 (Atodiad 2) i sicrhau cymorth ariannol (amodol) ar gyfer y sector bysiau ac i sefydlu perthynas â’r awdurdod arweiniol rhanbarthol a’r llofnodwr, sy’n sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn diwallu blaenoriaethau’r awdurdodau ac yn cael ei ddarparu ar ei ran.
· Galw am adroddiad arall ar gynigion diwygio bysiau mewn perthynas â rheoli gwasanaethau bws yng Nghymru yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: