Eitem Rhaglen

Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Ail-strwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth

I gyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr o ran ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i'r Cyngor ei dderbyn.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol yr adroddiad fel un sy'n rhoi sylw i ailstrwythuro arfaethedig yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r newidiadau yn sgil hynny i’r cyfansoddiad.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2020 i adlewyrchu ailstrwythuro mewnol yr uwch dîm rheoli gan y cyn Brif Weithredwr yn 2019. Yn dilyn ymadawiad y Prif Weithredwr, penodwyd y Dirprwy Brif Weithredwr yn Brif Weithredwr a penodwyd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol yn Ddirprwy Brif Weithredwr. Ers mis Tachwedd, 2019 mae rôl Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol wedi bod yn wag er bod y swydd wedi’i hysbysebu’n allanol ddwywaith. Yn dilyn yr ymgyrch hysbysebu aflwyddiannus gyntaf, mae dyletswyddau swydd y Cyfarwyddwr wedi'u cyflawni gan ymgeisydd mewnol a benodwyd yn Bennaeth Gwasanaeth Dros Dro – Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a swyddog a benodwyd yn arweinydd ar lunio lleoedd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ymhellach fod argyfwng y pandemig wedi dangos bod yn rhaid i'r Cyngor gael swyddogion â chymwysterau addas mewn meysydd penodol ar gyfer y dyfodol; mae ymateb y coronafeirws hefyd wedi dangos yn glir bwysigrwydd cymwyseddau priodol ar gyfer swyddi ar y lefel hon. Yn ogystal â hyn, mae cyfnod y pandemig hefyd wedi profi mor hanfodol bwysig yw gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i feithrin cydnerthedd cymunedol i ddelio â heriau gwahanol y mae angen amser digonol a rhesymol ar swyddogion gwaith i’w gwneud. Mae angen digon o gapasiti cytbwys ar draws yr holl wasanaethau i sicrhau gwydnwch y Cyngor yn y dyfodol o fewn haen uwch o reoli ac arweinyddiaeth. Er bod trefniadau dros dro wedi gweithio'n dda, nid ydynt yn effeithiol yn y tymor hir. Mae'n ofynnol gwneud penderfyniad mewn perthynas â rôl y Cyfarwyddwr a'r swyddi dros dro a grëwyd o ganlyniad i fethu â recriwtio i'r swydd honno.

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Penodiadau ar 18 Rhagfyr 2020 yn gofyn am ei argymhelliad ar gyfer y ffordd orau ymlaen i lenwi'r bwlch yn uwch dîm rheoli'r Cyngor. Yn yr adroddiad hwnnw, mynegodd y Prif Weithredwr ei barn broffesiynol mai'r opsiwn gorau fyddai dileu swydd y Cyfarwyddwr a phenodi un Pennaeth Gwasanaeth rheoleiddio a Datblygu Economaidd a thrwy hynny ddileu'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â'r uwch Dîm; byddai'r Dirprwy Brif Weithredwr yn arwain yn ymarferol ar yr agwedd hon ar y swydd yn yr Uwch Dîm. Felly, byddai angen ystyried cefnogi rhai o ddyletswyddau'r Dirprwy ac, o dan ei oruchwyliaeth, eu cysylltu â'r agwedd Llunio Lle o rôl y Cyfarwyddwr. Yr opsiwn symlaf fyddai creu swydd ychwanegol ar Raddfa 9 i ddarparu capasiti a gwydnwch ar gyfer y strwythur a chefnogi'r Dirprwy Brif Weithredwr a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd newydd. Cymeradwyodd y Pwyllgor Penodiadau'r dull hwn a nodir ei benderfyniadau ffurfiol i'r perwyl hwnnw yn yr adroddiad.  Mae adrannau 5 a 6 o'r adroddiad yn nodi'r goblygiadau o safbwynt cyfansoddiadol a'r newidiadau sydd i'w gwneud i adlewyrchu'r strwythur UDA/Penaethiaid Gwasanaeth diwygiedig arfaethedig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd A M Jones a oedd y swydd ychwanegol arfaethedig Graddfa 9 un lefel yn is na swydd Pennaeth Gwasanaeth. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fod amodau cyflogaeth Penaethiaid Gwasanaeth yn wahanol o gymharu â Swyddogion eraill y Cyngor. Mae graddfeydd cyflog Cynigion eraill y Cyngor yn cael eu graddio o Raddfa 1 i 10.  Roedd y Cynghorydd Jones o'r farn bod y swydd Graddfa 9 yn debyg i’r swydd Pennaeth Polisi a grewyd yn flaenorol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y profiad o ddelio â'r pandemig wedi dangos y bydd angen i'r gofynion ar gyfer gwydnwch a chapasiti o fewn gwasanaethau a newid yn yr hinsawdd fod yn uchel ar yr agenda o fewn y Cyngor.  Bydd angen mynd i'r afael â Llunio Lle hefyd ac y bydd yn rhan o ddyletswyddau'r swydd Gradd 9. 

Dywedodd y Cynghorydd Jones ymhellach nad yw rhan o'r adroddiad i'r Pwyllgor Penodi wedi'i chyflwyno i'r Cyngor sy'n darllen fel a ganlyn:-

Bydd y profiad hwnnw o'r Pwyllgor Penodi yn gallu tystio mai prin yw'r ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swyddi uwch ar y lefel hon beth bynnag fo'r maes gwasanaeth, oherwydd cyfuniad o ffactorau megis lleoliad y Cyngor, maint y Cyngor, gofynion ieithyddol y swydd ac ati.’

Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod wedi mynegi yn y Pwyllgor Penodi nad yw'r datganiad uchod yn yr adroddiad yn mynd i'r afael â'r sefyllfa a wynebir wrth recriwtio i swyddi uwch a dywedodd y byddai'n pleidleisio yn erbyn yr argymhellion sydd gerbron y Cyngor. 

Dywedodd yr Arweinydd fod y rhan o'r adroddiad i'r Pwyllgor Penodi a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2020 mewn adroddiad cyfrinachol ac mai dyna pam nad yw wedi'i gynnwys yn yr adroddiad i'r Cyngor.  Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd A M Jones ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol gan y Swyddog Monitro i godi'r mater gan ei fod o'r farn ei fod wedi'i dynnu allan yn anghywir o'r adroddiad i'r Cyngor.  Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd o'r farn bod y datganiad yn gyfrinachol.

Holodd y Cynghorydd R Ll Jones a fydd y disgrifiad swydd ar gyfer swydd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn cael ei roi i'r Aelodau Etholedig.  Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fod yr holl ddisgrifiadau swydd ar gyfer swyddi a hysbysebir ar wefan y Cyngor i'r cyheodd eu gweld.

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a chadarnhau:

 

·         Dileu swydd Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol (swydd sydd hefyd wedi ei hadnabod fel Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn ystod y broses recriwtio ddiweddar) o Gyfansoddiad y Cyngor;

·         Creu rôl barhaol Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ac i'r rôl hon gael ei hysbysebu'n allanol;

·         Sefydlu a hysbysebu'n allanol swydd newydd, sef Swyddog Strategaeth Gorfforaethol.

 

·           Cadarnhau cynnwys Atodiad 2, sy'n adlewyrchu'r diwygiadau uchod i strwythur y Cyngor, yng Nghyfansoddiad y Cyngor;

 

·           Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo bod y Prif Weithredwr (yn dilyn ymgynghoriad), yn unol â'r awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn rhan 3.5.2.11 o'r Cyfansoddiad, ac o ganlyniad i'r newid strwythurol uchod, yn rhannu'r meysydd cyfrifoldeb perthnasol ymhlith yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth, fel bo'r angen.

 

·           Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo bod y Swyddog Monitro, yn unol â'r awdurdod sydd wedi ei gynnwys yn rhan 3.5.3.6.6 o'r Cyfansoddiad, yn diwygio'r Cyfansoddiad (gan gynnwys y cynllun dirprwyo i swyddogion) i adlewyrchu'r penderfyniadau a wnaed gan y Cyngor mewn perthynas â’r newid strwythurol uchod a dosbarthiad y cyfrifoldebau ymhlith yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth fel y gwnaed gan y Prif Weithredwr dan 7.1.3 uchod;

 

·           Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo bod y Swyddog Monitro yn gwneud unrhyw newidiadau canlyniadol eraill i'r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r argymhellion uchod.

 

Bu i’r Cynghorydd A M Jones ymatal rhag pleidleisio. 

 

 

 

Dogfennau ategol: