Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 TPO/2020/13 – Cae Isaf, Llansadwrn

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H0

0000NABPvUAP/tpo202013?language=cy

 

12.2 FPL/2020/150 – Lôn Newydd, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H0

0000MiHp3UAF/fpl2020150?language=cy

 

12.3 MAO/2020/22 – Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H0

0000Mij75UAB/mao202022?language=cy

Cofnodion:

12.1 TPO/2020/13 – Cais i dorri coed a ddiogelir gan Orchymyn Cadw Coed yng Nghae Isaf, Llansadwrn

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Awdurdod Priffyrdd y Cyngor Sir yw'r ymgeisydd.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cael ei wneud gan y Cyngor er mwyn hwyluso mân waith lliniaru llifogydd arfaethedig a fydd yn newid y cwlfert cerrig presennol yn y lôn am beipen blastig yn ogystal â chlirio'r ffos ddraenio gerllaw'r lôn. Mae'r coed dan sylw’n dangos nodweddion dirywio a chynefinoedd sy'n gymesur â choed aeddfed; mae cynllun ailblannu i fynd i'r afael â cholli amwynder wedi'i gyflwyno a bydd yn amod caniatâd. Ystyrir felly bod y cyfiawnhad dros dorri’r coed yn glir, bod yr effeithiau andwyol ar amwynder yn dderbyniol ac y gellir eu lleihau drwy blannu coed yn eu lle ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eric Jones, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amod cynllunio sydd ynddo.

 

12.2 FPL/2020/150 – Cais Llawn i godi 9 annedd ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir yn Stryd y Bont, Llangefni

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn rhannol ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Galwyd y cais i mewn gan Aelod Lleol i’r Pwyllgor benderfynu arno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts, a oedd hefyd yn Aelod Lleol yn yr achos hwn, y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir oherwydd pryderon lleol ynghylch materion traffig a draenio. Cafodd y cynnig ei secondio gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Wrth egluro nad oedd wedi gallu bod yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle rhithwir a gynhaliwyd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2020, tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at ba mor ddefnyddiol y bu’r recordiad o’r cyfarfod iddo a chynigiodd fod pob ymweliad safle rhithwir a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn cael eu recordio fel mater o arfer/drefn. Cafodd y cynnig ei secondio gan y Cynghorydd Nicola Roberts ac fe'i cefnogwyd gan y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd

 

           Cynnal ymweliad safle rhithwir gan y Pwyllgor yn achos y cais.

           Bod pob ymweliad safle rhithwir a gynhelir gan y Pwyllgor yn cael eu recordio fel mater o arfer/drefn.

 

12.3 MAO/2020/22 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 19LPA1025E/CC/VAR er mwyn ychwanegu amod i sicrhau bod y datblygiad yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd ynghyd â diwygio dyluniad, lleoliad a deunydd adeiladu’r storfa finiau a’r standiau beics yn Neuadd y Farchnad, Stanley Street, a Chaergybi

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a'r perchennog tir.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer diwygiadau ansylweddol i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol er mwyn ychwanegu amod i'r datblygiad fod yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd a diwygio dyluniad, lleoliad a deunydd adeiladu’r storfa finiau a'r standiau beiciau fel bod lle i 3 bin yn lle 2 yn y cyntaf lle i 6 yn lle 3 beic yn yr olaf.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

Dogfennau ategol: