Eitem Rhaglen

Cwrs Golff Llangefni

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Dros Dro Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys yr adroddiad ymgynghori ar y bwriad i werthu Cwrs Golff Llangefni i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd gyd-destun y bwriad i werthu cwrs Golff Llangefni a chyfeiriodd at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ym mis Mai 2018 i gefnogi mewn egwyddor y bwriad i werthu tir y cwrs Golff ac aelwyd Ffridd ac ail-fuddsoddi’r elw i wella Canolfan Hamdden Plas Arthur. Cynhaliwyd proses dendro agored i reoli a gweithredu'r llain ymarfer, gyda Golf Môn yn sicrhau'r cytundeb tenantiaeth gyda'r Cyngor. Mae'r llain ymarfer, a ail-agorodd ym mis Ionawr 2019, wedi bod yn boblogaidd a llwyddiannus iawn a bydd yn parhau ar agor. Gan ei fod yn cynnwys cae chwarae, bu'n rhaid cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y cwrs golff o dan broses a ragnodir gan Reoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 a diolch i'r Swyddogion am eu holl waith mewn cysylltiad â rheoli'r broses.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) fod y Gwasanaeth, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn 2018 i gymeradwyo mewn egwyddor y bwriad i werthu'r cwrs Golff, wedi bod yn ystyried opsiynau ar gyfer ei ddyfodol. Roedd ffigurau defnyddwyr y cwrs wedi gostwng ac roedd y costau rhedeg wedi dod yn anghynaliadwy i'r Gwasanaeth. Wrth gynnal yr ymgynghoriad mae'r Cyngor wedi cadw at ofynion Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 ac mae'n hyderus bod y broses a ddilynwyd yn gadarn, bod yr opsiynau'n realistig a bod modd eu cyflawni. Dywedodd y Swyddog fod y gwaith wedi cynnwys nifer o swyddogion o wasanaethau eraill a’i fod yn gwerthfawrogi ac yn ddiolchgar am eu mewnbwn i wneud y broses mor dryloyw ac agored â phosibl. Gan gyfeirio at Ganolfan Hamdden Plas Arthur, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaeth fod y Gwasanaeth wedi nodi rhaglen fuddsoddi amlinellol yr hoffai ei gweld yn cael ei gweithredu ar gyfer iechyd a lles y gymuned leol a bod unrhyw oedi o ran bwrw ymlaen yn risg.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus o dan Reoliadau Caeau Chwarae 2015 yn brofiad newydd ac yn her. Aeth ymgynghoriad ffurfiol cynharach ar y bwriad i werthu Cwrs Golff Llangefni yn fyw ar 9 Mawrth, 2020 a’r bwriad oedd ei gynnal tan 26 Ebrill, 2020 pe na bai'r pandemig wedi digwydd. Er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus, comisiynwyd cyfreithwyr allanol i roi cyngor, arweiniad a chymorth i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r Rheoliadau. Nid ydynt wedi codi unrhyw faterion ac mae hynny’n rhoi sicrwydd ynghylch cadernid y broses. Y penderfyniad sydd i'w wneud yw p’un ai y dylid gwerthu'r Cwrs Golff ai peidio gan ystyried nifer yr asesiadau effaith y bu'n rhaid eu cynnal o dan y Rheoliadau a gyflwynir fel dogfennau ategol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, fod consensws yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 8 Mawrth 2021 lle cyflwynwyd y mater, ar ôl ystyried yr amgylchiadau a'r ffactorau perthnasol, mai gwerthu'r cwrs Golff oedd yr opsiwn mwyaf priodol gyda ffocws y drafodaeth wedyn ar sut y gellid gwneud hynny i sicrhau'r pris gorau posibl. Daeth y Pwyllgor Sgriwtini i'r farn y gellid gwerthu Ffridd ar unwaith a defnyddio'r elw a geir o’i werthu i wella Canolfan Hamdden Plas Arthur ond y byddai gwerth tir y Cwrs Golff yn codi’n sylweddol pe bai'n cael ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fel tir datblygu pan adolygir y Cynllun nesaf. Felly, yr argymhelliad oedd y dylid gohirio'r gwerthiant er mwyn caniatáu i opsiynau ar gyfer gwneud hynny gael eu hystyried.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd drwy ddweud ei fod, yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini, wedi ymgynghori â'r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a'r Prif Swyddog Cynllunio ynghylch y posibilrwydd o gynnwys tir y Cwrs Golff yn y CDLl ar y Cyd a'i fod yn gallu adrodd y byddai'r broses yn golygu cyflwyno tystiolaeth gadarn i ddangos pam fod angen datblygu yn yr ardal yn ogystal â dangos pam fod y safle'n addas i'w ddatblygu o ran amwynderau, traffig a seilwaith. Yn ogystal â hynny, byddai'n rhaid i berchennog y tir gynnig y safle fel safle posibl. Gall y broses fod yn hir heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant, yn enwedig gan fod tir y cwrs Golff wedi'i leoli yng nghefn gwlad ac nad yw'n gyfagos i'r ffin ddatblygu. Byddai dilyn llwybr y CDLl ar y Cyd hefyd yn gwneud yr ymgynghoriad cyhoeddus yn annilys gan fod diben y gwerthiant yn wahanol i'r hyn yr ymgynghorwyd arno, sy'n golygu y byddai'n rhaid ail-gynnal yr ymgynghoriad. Er y cydnabyddir nod y pwyllgor Sgriwtini i gael y gwerth gorau am yr ased, mae ffyrdd eraill o gyflawni hyn a gellid ystyried opsiynau eraill gyda mewnbwn proffesiynol Swyddogion o'r Gwasanaeth Eiddo. Er ei fod yn cydnabod yr angen i sicrhau'r pris gorau posibl am y tir, gallai ceisio ei gynnwys yn y CDLl ar y Cyd olygu na fydd ei werth efallai’‘n cael ei wireddu am nifer o flynyddoedd tra bod bwrw ymlaen â'r gwerthiant yn golygu y gellir buddsoddi'r enillion yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur er budd uniongyrchol i iechyd a lles cymuned Llangefni. Ar ôl ystyried hyn oll, cynigiodd yr Aelod Portffolio fod y geiriad yn cael ei ddiwygio ar gyfer argymhelliad 1 yr adroddiad i'r perwyl y dylai’r broses o werthu Ffridd a’r Cwrs Golff fynd rhagddi mewn ymgynghoriad â'r Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a'r Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac y dylid marchnata'r safle i gael yr incwm mwyaf posibl ar y farchnad agored wrth ei werthu.

 

Cytunodd y Cynghorydd R.G.Parry OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod angen dybryd i fuddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur ac y byddai gwerthu'r Cwrs Golff yn gwneud hyn yn bosibl. Gallai unrhyw fath o ddatblygiad ar y tir fod yn broblem i'r gymuned a byddai gosod y tir ar gyfer pori hefyd yn golygu costau i'r Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at y drafodaeth yn y Pwyllgor Sgriwtini ynghylch gosod amodau ar werthu'r tir er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gallu elwa o unrhyw elw a geir yn y dyfodol o ganlyniad i ddatblygiad er enghraifft a gofynnodd am eglurder ynghylch dichonoldeb trefniant o'r fath.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Prisio y byddai'n bosibl rhoi cymal gorswm ar werthu tir y Cwrs Golff a'r unig amod fyddai y gallai unrhyw rwystr o'r fath a osodir ar werthu tir effeithio ar yr incwm a dderbynnir ar ei gyfer ar y diwrnod cyntaf. Byddai manteision, anfanteision ac effaith ymrwymo i gytundeb gorswm yn destun trafodaeth a chyngor proffesiynol gyda'r asiant yn ystod y broses werthu.

 

Penderfynwyd

 

           Symud ymlaen gyda gwerthiant cartref Ffridd gyda rhywfaint o dir a’r 42 erw sy’n weddill mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac i farchnata’r safle i sicrhau’r incwm mwyaf posibl ar y farchnad agored i’w werthu.

           Ymgymryd ag isafswm o 6 wythnos o hysbysiad yn y wasg leol am Hysbysiad Penderfyniad yn nodi penderfyniad y Cyngor i waredu’r safle, ac

           Ail-fuddsoddi unrhyw dderbyniadau cyfalaf a dderbynnir o waredu’r safle yng nghyfleuster hamdden Plas Arthur.

 

Dogfennau ategol: