Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Cyfalaf – Chwarter 3, 2020/21

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio Cyllid, fod pandemig Covid-19 hefyd wedi cael effaith ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y gyllideb gyfalaf o £55.984m ar gyfer 2020/21 yn sgil oedi gyda nifer o brosiectau oherwydd y cyfyngiadau, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo cychwynnol. Mae gweithgaredd wedi ailddechrau ers hynny a gwariwyd 93% o gyllideb broffiliedig y gronfa gyffredinol hyd ddiwedd y trydydd chwarter, ond dim ond 30% o'r gyllideb flynyddol a wariwyd hyd yma a'r prif reswm yw bod llawer o'r gwaith ar nifer o'r cynlluniau cyfalaf yn digwydd yn rhan olaf y flwyddyn ariannol. Mae'r Cyfrif Refeniw Tai wedi gwario 95% o'i gyllideb broffiliedig a 39% o'r gyllideb flynyddol. Yn yr un modd, mae'r pandemig wedi effeithio ar weithgaredd yn erbyn y CRT oherwydd yr oedi o ran gwaith dan y rhaglen gynnal a phrosiectau adeiladu newydd a phrosiectau prynu eiddo. Wrth gyfeirio at y cynlluniau grant cyfalaf, dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod wedi cael sicrwydd na fyddai unrhyw gyllid grant yn cael ei golli o ganlyniad i lithriad ar y cynlluniau hynny y mae'r cyllid yn eu cefnogi.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai'r tanwariant a ragwelir ar raglen gyfalaf 2020/21 yw £22.186m, a gallai hyn lithro i raglen gyfalaf 2021/22. Cadarnhaodd y bydd y cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2021/22 ac y bydd yn cael ei gymryd I ystyraeth wrth gynhyrchu'r Strategaeth a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/22 a’r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys. Rhoddodd ddiweddariad i'r Pwyllgor Gwaith ar statws rhai o'r cynlluniau a oedd yn tanwario / cynlluniau lle bu oedi, gan gynnwys safle aros dros dro i Sipsiwn a Theithwyr, a Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain ar gyfer ysgol newydd yn Llangefni a chadarnhaodd y bu oedi o ran derbyn y cerbydau newydd o dan y contract Casglu Gwastraff newydd. Mae'r Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys nifer o gynlluniau grant cyfalaf ac  mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi cychwyn ac yn symud yn eu blaenau. Rhoddir diweddariad ar y rhain yn adran 3.1 o'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel wedi craffu ar yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd cyllideb gyfalaf Ch3 a bod pryder am y gostyngiad yn y derbyniadau cyfalaf oherwydd bod llai o asedau'r Cyngor yn dod ar gael i'w gwerthu a bod hynny, yn ei dro, yn lleihau'r sgôp ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y tu hwnt i'r hyn a gefnogir gan arian o du Llywodraeth Cymru. Roedd y Panel wedi nodi ymhellach bod gwariant yn digwydd yn rhan olaf y flwyddyn mewn nifer o'r cynlluniau a gofynnodd y Panel am i'r rhaglen gyfalaf gael ei hailwampio fel bod y gwariant yn digwydd yn fwy cyfartal dros gwrs y flwyddyn gyfan yn hytrach nag ar ddiwedd y flwyddyn, gan roi gwell gwerth am arian.

 

Penderfynwyd nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2020/21 yn chwarter 3.

 

Dogfennau ategol: