Eitem Rhaglen

Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2021/22

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2021/22 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arferion gorau o ran ei weithgareddau rheoli trysorlys yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli Trysorlys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod Côd Rheoli Trysorlys CIPFA a'r Strategaeth RhT yn gosod y paramedrau ar gyfer penderfyniadau a gweithgareddau benthyca a buddsoddi'r Cyngor i sicrhau eu bod, yn achos y cyntaf, yn fforddiadwy ac yn achos yr ail, yn ddarbodus. Craffwyd ar y Datganiad gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror, 2021 a derbyniwyd ef heb wneud sylw ychwanegol. O ran diweddariadau i'r Datganiad, ni chynigir unrhyw ddiwygiadau  i egwyddorion a pholisïau craidd Datganiad 2020/21.

 

Mae’r datganiad yn nodi sefyllfa a strategaeth fenthyca'r Cyngor ac yn Nhabl 4 mae'n dangos effaith cynlluniau gwariant y Cyngor a'r tâl Darpariaeth Isafswm Refeniw ar y Gofyniad Cyllido Cyfalaf (GCC) a lefel y benthyca allanol a mewnol. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cynnal sefyllfa tanfenthyca sy'n golygu nad yw'r angen benthyca cyfalaf (GCC) wedi'i ariannu'n llawn gyda dyled benthyciadau gan fod arian parod sy'n cefnogi cronfeydd wrth gefn, balansau a llif arian y Cyngor wedi'i ddefnyddio fel cam dros dro. Er bod y dull hwn o weithredu yn ddarbodus gan fod enillion ar fuddsoddiadau'n isel ac oherwydd bod risg gwrthbartïon yn fater y mae'n rhaid parhau i'w gymryd i ystyriaeth, fel rhan o'r strategaeth mae'r gallu i fenthyca'n allanol yn bwysig er mwyn medru ad-dalu'r cronfeydd wrth gefn a'r balansau os oes angen. Mae angen dull hyblyg o ran dewis rhwng benthyca mewnol ac allanol. Ni fydd y Cyngor yn benthyca cyn bod angen dim ond i  elwa o fuddsoddi'r symiau ychwanegol a fenthycwyd; bydd unrhyw benderfyniad i fenthyca ymlaen llaw o fewn amcangyfrifon y GCC a chaiff ei ystyried yn ofalus gan ystyried y ffactorau a amlinellir yn adran 6.4 o'r Datganiad. Mae'n debygol mai prin fydd y cyfleoedd ar gyfer aildrefnu dyledion gan fod gwahaniaeth mawr o hyd rhwng cyfraddau ad-dalu cynnar a chyfraddau benthyca newydd.

 

Blaenoriaethau buddsoddi'r Cyngor fydd diogelwch ei fuddsoddiadau yn gyntaf, hylifedd yn ail ac elw o fuddsoddiadau'n drydydd, gan olygu na fydd y Cyngor ond yn buddsoddi gyda gwrthbartïon sy'n hynod o deilwng i gael credyd yn seiliedig ar wybodaeth am eu statws credyd a ddarperir gan Link Asset Services, ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor sy'n defnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth yn eu gwasanaethau teilyngdod credyd. Bydd y Cyngor, yn ei bolisi buddsoddi, yn rhoi sylw i ganllawiau CIPFA a Llywodraeth Cymru ar reoli risg.

 

Nodir y trefniadau llywodraethu ar gyfer rheoli trysorlys yn adran 8 yr adroddiad ac maent yn cynnwys rolau a chyfrifoldebau o ran gwneud penderfyniadau a threfniadau adrodd. Mae'r dangosyddion Rheoli Darbodus a Thrysorlys y bydd gweithgareddau a pherfformiad rheoli trysorlys yn cael eu mesur yn eu herbyn wedi'u nodi'n llawn yn Atodiad 11 i'r adroddiad.

 

Penderfynwyd

 

·        Derbyn y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2021/22 heb nodi unrhyw sylwadau i’w hystyried gan y Cyngor llawn.

·        Nodi’r cynnydd yn y terfynau trafodion yn Atodiad 8 (fel y nodwyd ym mhwynt 4 o’r adroddiad).

Dogfennau ategol: