Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2021/2022 (Cyllideb Refeniw)

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses gosod Cyllideb ar gyfer 2021/22 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau ar gyfer Sgriwtini wrth arfarnu cynigion cyllideb cychwynnol y Pwyllgor Gwaith gan gymryd i ystyriaeth y prif negeseuon o’r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y dogfennau a ganlyn ynghlwm i’r adroddiad –

 

3.1       Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb refeniw 2021/22 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Ionawr 2020 ac a oedd yn cynnwys datganiad ar y sefyllfa mewn perthynas â chynigion cyllidebol cychwynnol y Pwyllgor Gwaith; setliad amodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol; y sefyllfa gychwynnol ar gyfer cyllideb 2021/22; y Dreth Gyngor; cronfeydd wrth gefn a balansau’r Cyngor; cynigion ar gyfer arbedion; pwysau ar y gyllideb; risgiau a’r effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad cyllideb a’r cynigion cyllideb drwy ddweud y deuant ar ddiwedd blwyddyn o heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen. Mae’n rhaid i’r Cyngor gydbwyso ei ddyhead i gadw cynnydd yn y Dreth Gyngor mor isel â phosib gyda’r angen i ymgorffori gwydnwch yn ei gyllideb mewn parodrwydd ar gyfer heriau yn y dyfodol. Roedd yn cydnabod bod y Dreth Gyngor yn fater cynhennus gan fod disgwyl i’r dreth godi bob blwyddyn; yn bersonol roedd yn credu ei bod yn system annheg ac amhriodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ond, oherwydd i Ynys Môn dderbyn setliad amodol gwell na’r disgwyl ar gyfer 2021/22 gan Lywodraeth Cymru roedd yn bosib i’r Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar sail cynnydd arfaethedig o 3.75% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22. Fodd bynnag, mae amseriad setliad Llywodraeth Cymru yn broblem o hyd ac mae’n ffordd anfoddhaol o ariannu cynghorau lleol ac ni fydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 2 Mawrth 2021 - wythnos yn unig cyn y mae disgwyl i’r Cyngor gwblhau a gosod ei gyllideb ar gyfer 2021/22. Mae’r adroddiad cyllideb yn nodi nifer o ystyriaethau ar gyfer gosod cyllideb 2021/22 ac un o’r elfennau allweddol yw’r Contract Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd newydd fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2021. Mae cost y contract newydd yn sylweddol uwch na’r gyllideb bresennol ac ynddo’i hyn mae'n gyfystyr â chynnydd o 3% yn y Dreth Gyngor. Hefyd, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi nodi’r angen i sicrhau cyflenwad o weithwyr sydd â chymwysterau a phrofiad addas ar gyfer y dyfodol fel maes blaenoriaeth ac mae’n awyddus i ailsefydlu’r Rhaglen Hyfforddi Broffesiynol i gynorthwyo i fynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau posib y gallai’r Cyngor ei wynebu.

 

Cafwyd cyflwyniad gweledol gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 a oedd yn rhoi trosolwg a chyd-destun y gyllideb refeniw, a thynnodd sylw at y prif agweddau ac ystyriaethau a oedd yn effeithio ar lefel y Dreth Gyngor fel a ganlyn –

 

           Roedd y gyllideb gychwynnol ar gyfer 2021/22, ar sail y rhagamcan yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol, yn rhagweld cynnydd o £6.680m yn seiliedig ar wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer cost uwch y Contract Gwastraff a Glanhau Strydoedd newydd, buddsoddi yng Ngwasanaeth TG y Cyngor, newidiadau mewn niferoedd disgyblion, chwyddiant, mwy o alw am Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a phwysau ar Ofal Cymdeithasol Oedolion ac o ganlyniad, roedd cyfanswm y gyllideb ragamcanol ar gyfer 2021/22 yn £148.826m. Byddai’r cynnydd rhagamcanol o £6m yn golygu y byddai angen cynnydd o 4% yng Nghyllid Allanol Cyfun y Cyngor ac o leiaf 7% o gynnydd yn y Dreth Gyngor.

           Mae cyfanswm y Setliad Llywodraeth Leol amodol ar gyfer Ynys Môn am 2021/22 yn £104.825m (cynnydd o 3.4% o gymharu â chynnydd o 3.8% ar draws Cymru) ac mae’n cynnwys addasiad i sail y Dreth, y Grant Cyflogau Athrawon, a chyllid ychwanegol i gwrdd â chostau uwch. Diweddarwyd yr ystadegau poblogaeth a ddefnyddir yn y fformiwla cyllido ac o ganlyniad mae Ynys Môn wedi gweld gostyngiad yn y Cyllid Allanol Cyfun oherwydd bod y ffigyrau poblogaeth diwygiedig ar gyfer Ynys Môn yn is na’r rhagolwg blaenorol. Fodd bynnag, pe byddai’r Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu yn unol â chwyddiant ers 2013/14, yna byddai Ynys Môn yn derbyn £115m o Gyllid Allanol Cyfun yn 2021/22 yn hytrach na’r £105m y mae wedi ei dderbyn. Oherwydd hynny, bu’n rhaid i’r Cyngor dorri gwasanaethau a chynnyddu’r Dreth Gyngor i gwrdd â’r diffyg yn ystod y cyfnod hwn.

           Mae’r cynnig cyllideb terfynol ar gyfer 2021/22 (fel y nodir yn fanwl yn Nhabl 5 ym mharagraff 10.10 yr adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Ionawr) syn seiliedig ar y gyllideb ddisymud ar gyfer 2021/22 ac yn cymryd i ystyriaeth newidiadau ymrwymedig, costau staffio (yn amodol ar gadarnhau dyfarniadau cyflog sydd wedi cael ei nodi fel maes risg) a phwysau ychwanegol a nodwyd ar ffurf cyllido Rhaglen Hyfforddeion Proffesiynol; capasiti ychwanegol yn yr adran Gwarchod y Cyhoedd; Cynhwysiant Addysg; Cefnogaeth TG i Ysgolion, Rheoli Twristiaeth a Thaclo Newid Hinsawdd yn dod i gyfanswm o £147.706m. Mae addasiadau ar gyfer incwm ychwanegol drwy gynyddu ffioedd meysydd parcio, peidio â chodi prisiau cinio ysgol, cyllideb y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a balans y Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol yn dod â chyfanswm Cyllideb arfaethedig y Cyngor i £147.531 gyda £104.825m yn cael ei gyllido gan y Cyllid Allanol Cyfun sydd yn gadael £42.706m i gael ei gyllido gan y Dreth Gyngor. Daw cyfanswm Cyllideb Dreth Gyngor 2020/21 wedi ei addasu ar gyfer newid yn sail y dreth i £41.162m sy’n golygu bod y bwlch cyllido (cyn cynyddu’r Dreth Gyngor) yn £1.544m.

           Mae cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor yn cwrdd â’r diffyg ac yn rhoi cyllideb gytbwys.

           Yn 2020/21 roedd gan y Cyngor Gronfeydd wrth Gefn Cyffredinol o £7.060m sy’n cyfateb i 4.97% o’i Gyllideb Refeniw net (£142.146m) - roedd hyn yn uwch na’r swm yn 2019/20 (£5.912m) ond yn is na’r uchafswm o £8.886m yn 2016/17. Mae Cronfeydd wrth Gefn cyffredinol yn darparu rhwyd diogelwch ar gyfer digwyddiadau annisgwyl neu argyfyngau. Pe na fyddai Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer Covid-19 yna byddai’r Cyngor wedi gorfod defnyddio ei gronfeydd wrth gefn i gwrdd â chostau delio gyda’r pandemig. Er na phennwyd swm penodol fel isafswm ar gyfer cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol, y meincnod answyddogol cyffredinol yw 5% o’r gyllideb refeniw net, ond mae hyn hefyd yn ddibynnol ar sefyllfa ariannol pob Cyngor a’r risgiau a wynebant. O gymryd i ystyriaeth y defnydd gwirioneddol o gronfeydd wrth gefn, a’r defnydd a gynlluniwyd ar eu cyfer (gan gynnwys ariannu cyfran o wariant cyfalaf 2021/22), a’r rhagolwg yn Ch3 y bydd y gyllideb gyfalaf yn tanwario, amcangyfrifir y bydd gan y Cyngor Gronfeydd wrth Gefn Cyffredinol o £7.526m ar 31 Mawrth 2021.

           Er nad oes unrhyw arwyddion ynghylch setliadau yn y dyfodol, tu hwnt i 2021/22, mae nifer o ffactorau a allai ddylanwadu ar gyllido yn y dyfodol e.e. effaith barhaus y Pandemig a Brexit, yn ogystal ag etholiadau’r Senedd yn 2021 a’r etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022. Yn y dyfodol, gobeithir y bydd modd i Lywodraeth Cymru ddarparu sicrwydd hirdymor er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn fwy effeithiol nac y mae’r broses gosod cyllideb flynyddol bresennol yn ei ganiatáu.

 

3.2 Adroddiad y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad a oedd yn darparu dadansoddiad o’r negeseuon o’r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gynigion Cyllideb cychwynnol yr Awdurdod ar gyfer 2021/22, fel y’u cymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith, ac a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod rhwng 19 Ionawr a 2 Chwefror 2021 (Atodiad 2)

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol bod yr ymarfer ymgynghori eleni wedi dilyn patrwm tebyg i ddigwyddiadau ymgynghori blaenorol a gynhaliwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond eleni rhoddwyd mwy o bwyslais ar dderbyn ymatebion electronig oherwydd yr amserlen fyrrach a orfodwyd ar y Cyngor gan Lywodraeth Cymru ac effaith y pandemig a oedd yn golygu nad oedd modd cynnal cyfarfodydd cyhoeddus. Derbyniodd y Cyngor 600 o ymatebion electronig yn ogystal â gohebiaeth trwy e-bost. O ystyried bod yr ymgynghoriad eleni ar agor am bythefnos yn unig, mae hwn yn ymateb priodol gan drigolion Ynys Môn, ac yn un a groesewir, ac mae’n cymharu’n dda â nifer yr ymatebion i brosesau gosod cyllideb flynyddol blaenorol a ddenodd oddeutu 500 o ymatebion ar gyfartaledd, ac eithrio 2019/20 pan dderbyniwyd dros 5,000 o ymatebion i’r broses gosod cyllideb.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad grynodeb o brif ganfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus fel a ganlyn –

 

           Nid oedd y mwyafrif (bron i 9 o bob 10 o bobl) a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn cytuno â’r cynnig i gynnydd ychwanegol o 1.1% yn y Dreth Gyngor (ar ben y 2.65% a glustnodwyd eisoes fel cynnydd blynyddol) er mwyn ariannu’r gweithgareddau a nodwyd yn yr ymgynghoriad.

           O ran blaenoriaethu’r gweithgareddau a/neu Wasanaethau hynny, roedd y mwyafrif o’r rheiny nad oeddent yn dymuno gweld cynnydd ychwanegol o 1.1% yn y Dreth Gyngor (244 neu 45.69%) yn credu na ddylid gwneud unrhyw fuddsoddiad ac y dylai’r Cyngor barhau fel y mae a pheidio a gwneud buddsoddiad ychwanegol.

           Mewn perthynas â’r cynigion yn ymwneud â chynhyrchu incwm, roedd rhaniad o 60:40 yn erbyn cynnig i gynyddu ffioedd parcio mewn lleoliadau arfordirol. Derbyniwyd gohebiaeth gan Glwb Hwylio a Chwaraeon Dŵr lleol a oedd mynegi pryder y gallai cynyddu ffioedd parcio effeithio ar y nifer sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Clwb yn ogystal â gostwng ffynhonnell o incwm tymhorol i’r Cyngor. Os cyflwynir peiriannau tocynnau newydd mwy modern yn ôl y bwriad, yna mae’r Clwb yn awgrymu y dylid cyflwyno cynllun disgownt teyrngarwch ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio’r maes parcio yn rheolaidd.

           Roedd mwyafrif bychan (51.55%) o blaid y cynigion ar gyfer cyllid cyfalaf dros y 12 mis nesaf.

           Mewn perthynas â’r cwestiwn ynghylch ymhle ac ar beth y dylai’r Cyngor fuddsoddi dros y 12 mis nesaf, roedd yr ymateb mwyaf (69) yn ymwneud â chynnydd yn y Dreth Gyngor 

a nodwyd bod y cynnydd yn anheg gan ystyried y tâl newydd ar gyfer casglu gwastraff gardd a gwnaed awgrymiadau ynghylch cynyddu’r dreth ar gartrefi gwyliau.

           Roedd yr ymateb i ddarparu Chromebooks i ysgolion yn gadarnhaol a chafwyd ymateb cadarnhaol i wneud gwaith ychwanegol ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd. Roedd nifer o ymatebwyr eisiau gweld gwelliannau i’r ffyrdd ar Ynys Môn ac roedd sawl un arall yn awyddus i weld cynnydd yn nifer y llwybrau beicio a cherdded. I raddau llai, gwnaed pwyntiau ynghylch argaeledd cartrefi fforddiadwy ar gyfer prynwyr tro cyntaf, darparu biniau baw ci ar draethau, gwella trefi yn arbennig mewn perthynas â Chaergybi; darparu cymorth i fusnesau bach, gweithgareddau twristiaeth, buddsoddi mewn mwy o gyfleoedd swyddi a chyllido gwelliannau amgylcheddol.

           Roedd y Fforwm Cyllid Ysgolion, a gyfarfu'r dydd Mercher blaenorol, yn gyffredinol fodlon â’r cynigion cyllideb ond nododd y byddai’n dymuno gweld cynnydd yn y gyllideb ddatganoledig i ysgolion yn 2022/23 a thu hwnt.

Canolbwyntiodd y drafodaeth lawn a ddilynodd ar y prif bwyntiau canlynol -

           Roedd y Cynghorydd Alun Roberts yn pryderu am broblemau cudd Covid-19 a amlygwyd gan waith ymchwil, yn arbennig effaith cyfyngiadau’r cyfnod clo ar les plant a’u teuluoedd. Wrth ddyrannu adnoddau i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gofynnodd a roddwyd ystyriaeth i gynnydd posib mewn atgyfeiriadau i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol plant wrth i ysgolion a’r gymdeithas ailagor ac a oedd y gyllideb arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn ddigonol i ddelio â chynnydd yn y galw a’r llwyth gwaith. Wrth gydnabod y pwynt, eglurodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol, bod y mater yn destun trafodaeth genedlaethol ac yn faes blaenoriaeth i Aelodau Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol cynghorau ledled Cymru sydd yn galw ar y cyd am ddull cenedlaethol ar gyfer adfer yn y maes Plant a Theuluoedd. Mewn perthynas â digonolrwydd cyllideb y gwasanaeth ni ellir meintioli’r broblem o ran faint o blant a theuluoedd y mae cyfyngiadau Covid wedi effeithio arnynt ac mae’n anodd rhagweld yr effaith ar y gyllideb. Fodd bynnag, mae gan yr Awdurdod gronfeydd wrth gefn i’w gynorthwyo i gwrdd â chynnydd yn y galw am wasanaethau pe byddai angen.

           Cyfeiriodd nifer o aelodau at y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd parcio mewn lleoliadau arfordirol. Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y cyfiawnhad am y cynnydd sylweddol yn y ffi am barcio car a threlar am hyd at 12 awr (i fyny o £6 i £20); manteision cyflwyno system dymhorol lle codir ffioedd is, neu ddim ffioedd o gwbl, yn ystod y gaeaf, cysoni ffioedd ar draws yr holl feysydd parcio arfordirol fel bod pob un ohonynt yn cynnig yr opsiwn i barcio am awr neu ddwy awr, a’r trefniadau gorfodi.

 

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, nad oes unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig i ffioedd parcio canol tref ac y byddai costau tocynnau parcio blynyddol yn aros yr un fath. Roedd o’r farn bod y cynnydd arfaethedig yn y ffioedd parcio mewn ardaloedd arfordirol yn rhesymol, yn enwedig o gymharu ag awdurdodau eraill a chan fod yr Awdurdod yn cynnig opsiwn i barcio am awr hefyd, yn wahanol i nifer o awdurdodau eraill. Er bod cynnydd uwch yn cael ei argymell ar gyfer parcio car a threlar, rhaid ystyried bod rhai treleri, oherwydd eu maint, yn defnyddio 2 neu 3 lle parcio.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ychydig o gyd-destun i’r cynigion ac eglurodd fod y Panel Herio Cyllideb wedi canfod nad oedd yn bosib gweithredu arbedion yn y cyllidebau priffyrdd a chynnal a chadw adeiladau.  Felly, oherwydd rhai o’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth, ac yn benodol mewn perthynas â’r contract casglu gwastraff newydd, roedd yr opsiwn mwyaf ymarferol yn ymwneud ag edrych ar ffyrdd o gynhyrchu incwm parcio ceir ychwanegol a fyddai’n cael ei arwain, i’r perwyl hwnnw, gan Grŵp Llywio. Ystyriodd y grŵp nifer o opsiynau gwahanol ac yn y diwedd roedd y dewis rhwng dau opsiwn, sef cynhyrchu £50k o incwm ychwanegol drwy gynyddu ffioedd parcio yn y meysydd parcio canol tref neu gynhyrchu £100k o incwm ychwanegol drwy gynyddu ffioedd parcio yn y meysydd parcio arfordirol; roedd cefnogaeth gref gan y grŵp i’r ail opsiwn. Bwriadwyd rhoi rhai o’r cynigion ar waith yn ystod haf 2020 ond roedd yn anodd addasu peiriannau tocynnau parcio ar y pryd oherwydd Covid-19. Erbyn hyn mae’n bosib talu dros y ffôn. Mewn perthynas â gorfodaeth, mae gan y gwasanaeth 4 Swyddog Gorfodi gyda thri ohonynt yn swyddi llawn amser ac mae un swydd wag. Bydd y swydd wag yn cael ei llenwi gan ddau swyddog tymhorol yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i’r gwasanaeth a chaniatáu iddo ymateb yn well i alwadau gyda’r nos ac ar y penwythnos.

 

Er y defnyddiwyd ffioedd parcio tymhorol yn y gorffennol, ar hyn o bryd codir yr un ffioedd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o feysydd parcio arfordirol ar gau yn ystod y flwyddyn ac mae’r peiriannau tocynnau naill ai’n cael eu gorchuddio neu eu tynnu gan na fyddent yn gwrthsefyll tywydd gaeafol ac ni wneir digon o ddefnydd ohonynt iddynt dalu am eu hunain. Mae gorchmynion parcio mewn rhai lleoliadau arfordirol yn caniatáu parcio ar y stryd gan leihau’r galw am feysydd parcio. Fodd bynnag, mae cyflwyno ffioedd parcio tymhorol yn opsiwn os yw’r Cyngor yn dymuno. Mewn perthynas â’r ffioedd, mae ffioedd parcio awr a dwy awr ar waith yn y meysydd parcio mewn lleoliadau arfordirol lle mae yna siopau a chyfleusterau eraill sy’n golygu bod mwy o alw am barcio am gyfnod byr. Byddai modd cyflwyno ystod ehangach o ffioedd mewn lleoliadau eraill pe byddai’r galw’n codi.

 

           Er i nifer o aelodau’r Pwyllgor gydnabod a chroesawu’r bwriad i beidio â chodi prisiau cinio ysgol, roedd y Cynghorydd Dylan Rees yn dymuno gwybod sut fyddai’r gyllideb arfaethedig yn helpu trigolion difreintiedig a llai ffyniannus yr Ynys yn fwy cyffredinol. Yn ogystal, nododd y Cynghorydd Rees nad yw’r dadansoddiad o’r ymgynghoriad cyhoeddus yn dweud unrhyw beth am ddemograffeg y cyfranogwyr ac y byddai hynny wedi bod yn ddefnyddiol, ac awgrymodd y dylid darparu gwybodaeth am oedran a/neu ardal côd post y rhai sy’n ymateb yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, at Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor sy’n rhoi cymorth i bobl ar incwm isel i dalu eu Treth Gyngor a dyna pam ei bod yn bwysig bod y Cyngor a sefydliadau eraill yn codi ymwybyddiaeth am y cymorth sydd ar gael drwy’r cynllun. Mae’r Cyngor yn darparu cymorth mewn ffyrdd eraill i’r bobl fwyaf bregus drwy fuddsoddi yn y gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt fel bod y gwasanaethau hynny yn parhau i fod yn hyfyw a’u bod ar gael i’r rheiny sydd eu hangen yn y dyfodol.

 

           Cyfeiriodd y Cynghorydd Bryan Owen at wrthwynebiad y cyhoedd i’r cynnydd arfaethedig o 3.75% yn y Dreth Gyngor (1.1% yn ychwanegol ar ben y codiad blynyddol o 2.65% a glustnodwyd) a gofynnodd a oes lle i ostwng y cynnydd i 2.5% oherwydd bod cynifer o bobl yn wynebu sefyllfa ariannol anodd oherwydd y pandemig ac am fod cynnydd yn y Dreth Gyngor a weithredwyd gan y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod gryn dipyn yn uwch na chwyddiant; ac os nad oedd hynny’n bosib, oni ellid rhewi taliadau Band D. Er ei fod yn cefnogi cynyddu ffioedd parcio gan fod hynny’n deg, gofynnodd y Cynghorydd Owen am eglurhad ynghylch y buddsoddiad arfaethedig mewn TG.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, bod lefel y Dreth Gyngor ar Ynys Môn yn parhau i fod yr ail isaf yng Ngogledd Cymru a’i fod ymysg yr isaf yng Nghymru. Fodd bynnag, os bydd cyllid ychwanegol ar gael ac os bydd y setliad terfynol yn caniatáu hynny, byddai’n barod i edrych ar gynnydd o 2.5% gan gadw mewn cof hefyd ei bod yn anodd sicrhau cydbwysedd rhwng diogelu gwasanaethau a chynyddu’r Dreth Gyngor.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y buddsoddiad arfaethedig yn swyddogaeth TG y Cyngor yn ymateb i’r cynnydd yn y galw i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a’i fod yn cynnwys buddsoddiad refeniw mewn adnoddau staffio ychwanegol i ddarparu’r lefel angenrheidiol o gymorth technegol i gynnal seilwaith a meddalwedd y Cyngor, a buddsoddiad cyfalaf i ddiweddaru systemau’r Cyngor er mwyn diogelu’r Cyngor rhag ymosodiadau meddalwedd wystlo. Mae’r bwriad i ddarparu Chromebooks i ysgolion yn gydnabyddiaeth o’r cynnydd yn y defnydd o TGCh fel dull addysgu mewn ysgolion sy’n golygu bod rhaid sicrhau fod disgyblion yn meddu ar yr offer er mwyn elwa ar hynny.

 

Mewn perthynas â’r Dreth Gyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai cyfyngu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor i 2.5% yn golygu gostyngiad o thua £500k yn incwm y Dreth Gyngor a byddai’n rhaid ei ariannu naill ai drwy ostwng y gyllideb yn ôl yr un swm neu ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i lenwi’r bwlch. Pe dewiswyd yr opsiwn olaf, dim ond fel gweithred untro y gellid gwneud hynny a byddai’r Cyngor yn wynebu diffyg o £500k ar unwaith yn y gyllideb ar gyfer 2022/23, a byddai’n rhaid cyllido’r diffyg hwnnw drwy ostwng y gyllideb neu drwy gynnydd hyd yn oed yn uwch yn y Dreth Gyngor. Gan fod nifer o bethau ynghylch y gyllideb ar gyfer 2022/23 a thu hwnt yn anhysbys, byddai hyn yn cynyddu’r risg ariannol i’r Cyngor. Byddai rhewi’r gyfradd Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D yn arwain at fwlch ariannu hyd yn oed yn fwy, ac yn ogystal, oherwydd y ffordd y cyfrifir y Dreth Gyngor, byddai’n anodd gwneud hynny gan fod y bandiau eraill yn cael eu cyfrifo yn ôl cyfran o Fand D.

 

           Cyfeiriodd y Cynghorydd Alun Roberts at y pwysau ar Ganolfan Addysg y Bont ac roedd eisiau gwybod a oedd lle i fuddsoddi yn y ganolfan er mwyn cwrdd â chynnydd yn y galw. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts am eglurhad hefyd ynghylch argaeledd cyllid ychwanegol ar gyfer cymorth addysgu / dosbarth i gynorthwyo gydag adfer ym maes Addysg a dal i fyny yn dilyn y pandemig.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod cyllideb arfaethedig 2021/22 yn cyllido 120 o leoedd yng Nghanolfan Addysg y Bont (i fyny o 115 yn 2020/21). Gan fod Pennaeth Canolfan Addysg y Bont wedi cadarnhau mai dyma’r nifer mwyaf o ddisgyblion y gall y ganolfan eu derbyn byddai’n rhaid diwallu unrhyw alw ychwanegol drwy edrych ar ysgolion prif lif neu ddarpariaeth allsirol. Gan fod y galw am leoliadau allsirol gan y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd wedi gostwng, wrth i fwy o blant sy’n derbyn gofal dderbyn gofal yn lleol gan ofalwyr maeth y Gwasanaeth, mae mwy o sgôp o fewn y gyllideb hon, er bod lleoliadau allsirol yn parhau i fod yn opsiwn drud. Bu Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i helpu’r Cyngor gwrdd â chostau delio gyda Covid-19 ac i ddigolledu am incwm a gollwyd; er y deallir y bydd y gefnogaeth hon yn parhau, ni dderbyniwyd cadarnhad ynghylch swm a ffurf y cymorth ac ni dderbyniwyd unrhyw arwydd hyd yma y byddai dyraniad penodol ar gael ar gyfer Addysg. Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn ag addasu ysgolion prif lif i gwrdd ag anghenion ychwanegol disgyblion, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gyllideb gyfalaf yn cynnwys cynllun gwerth £1.5m dros 5 mlynedd, ers 2017/18, i wneud addasiadau i ysgolion uwchradd er mwyn caniatáu i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol barhau mewn addysg prif lif.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, a oedd yn adrodd yn dilyn cyfarfod y Panel ar 12 Chwefror, 2021, fod y Panel yn cefnogi’r Gyllideb Refeniw arfaethedig ar gyfer 2021/22 a barnwyd bod y ffigyrau yn gadarn, bod y rhagdybiaethau a wnaed yn gadarn a bod yr ymateb i’r pwysau ychwanegol yn rhesymol. Wrth nodi negeseuon yr ymgynghoriad cyhoeddus, roedd y Panel wedi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno ffi barcio ostyngol i bobl leol mewn meysydd parcio arfordirol. Mewn perthynas â’r Dreth Gyngor, mae’r Panel yn argymell bod sgôp i edrych ar gynnydd o lai na 3.5% yn y Dreth Gyngor drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn. Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd am eglurhad pellach ynglŷn â’r manylion, dywedodd y Cynghorydd Roberts nad oedd y Panel yn teimlo y gallai fanylu ar ffigwr nes bod y tanwariant a ragwelir yng nghyllideb 2020/21 wedi cael ei gadarnhau.

 

Ar sail yr uchod, cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen bod cynnydd o 2.5% yn y Dreth Gyngor yn cael ei argymell i’r Pwyllgor Gwaith ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Aled Morris Jones.

 

Yn sgil y drafodaeth, a chan gydnabod y posibilrwydd y bydd rhywfaint o hyblygrwydd yn hwyrach ymlaen i ystyried opsiynau amgen, cynigiodd y Cynghorydd John Arwel Roberts y dylai’r Pwyllgor gefnogi cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor a fyddai’n cydbwyso’r gyllideb. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor o blaid y cynnig am gynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor.

 

Yn dilyn ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, ac yn dilyn ystyried y negeseuon gan y cyhoedd i’r ymgynghoriad cyhoeddus ac adborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith gynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 er mwyn creu cyllideb gytbwys.

 

Torrodd y Pwyllgor am egwyl fer am 11:50yb gan ailgynnull am 12:00yp.

Dogfennau ategol: