Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2020/21, cyfnod a oedd yn cyd-daro â’r cyfnod atal byr o bythefnos ym mis Hydref, 2020 a chyfnod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Rhagfyr, 2020. Yn gyffredinol, mae 79% o Ddangosyddion Perfformiad yn cael eu hamlygu rhai Gwyrdd neu Felyn gyda pherfformiad arbennig o dda o ran rheoli absenoldeb staff a’r is-bennawd ‘symud i wasanaethau digidol’ lle mae'r holl ddangosyddion wedi gweld perfformiadau sydd wedi rhagori ar ganlyniadau blynyddol blaenorol yn ystod y pandemig. Dywedodd yr Aelod Portffolio na ellir tanbrisio pwysigrwydd cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth a dylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiadau er mwyn sicrhau mwy o gydymffurfiaeth leol â rheolau cyfyngiadau symud cenedlaethol Covid-19. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor wedi gweld cynnydd o 8.5k o ddilynwyr ers diwedd Chwarter 3 2019/20 ac yn y cyd-destun hwn dylid cyfeirio at Dîm Cyfathrebu'r Cyngor sydd wedi rhannu negeseuon clir a chyson i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd drwy gydol cyfnod y pandemig. Mae'r Cyngor hefyd yn ymwybodol o aelodau’r gymdeithas sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol a bydd yn parhau i ddarparu ar gyfer eu hanghenion drwy ddulliau eraill. Ar gyfer yr ychydig feysydd hynny y nodwyd nad ydynt yn perfformio’n unol â'r targed, mae'r adroddiad yn esbonio pam ac yn cynnig mesurau lliniaru er mwyn ceisio gwella perfformiad wrth symud ymlaen i Chwarter 4 a thu hwnt.
Wrth gyfeirio at effaith y pandemig ar agweddau ar berfformiad y Gwasanaeth Cynllunio tynnodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd sylw at adborth diweddar gan asiantau cynllunio lleol a nododd mai Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Ynys Môn yw'r unig un yn y rhanbarth sy'n parhau i ddarparu gwasanaeth mor agos i'r arfer â phosibl ar hyn o bryd.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, er bod rhai Dangosyddion Perfformiad yn cael eu hamlygu’n Goch ac yn tanberfformio, bod y duedd sylfaenol ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad hynny ar i fyny sy'n galonogol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor ar 8 Mawrth 2021 lle craffwyd ar Gerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3. Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar am yr adroddiad a'r diweddariadau a ddarparwyd gan Aelodau Portffolio a Swyddogion yn y cyfarfod ac ar ôl ystyried y rheini ac esboniadau eraill, ac ar ôl gofyn am gael data digartrefedd ar gyfer ei gyfarfod nesaf, roedd y Pwyllgor yn hapus i dderbyn yr adroddiad gan nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol a'r mesurau lliniaru a amlinellwyd, ac i argymell hynny i’r Pwyllgor Gwaith.
Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad cadarnhaol a'r gwaith da parhaus y mae'n ei adlewyrchu. Roedd yr Aelodau'n teimlo ei fod yn arbennig o galonogol o ystyried y gofynion ychwanegol ar holl staff y Cyngor dros y cyfnod hwn wrth ddelio â'r pandemig.
Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer
Chwarter 3, 2020/21 a nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu
rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i dderbyn y mesurau lliniaru a
amlinellir yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: