Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2019/20 fel y nodir yn Atodiad A i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon. Dywedodd ei fod yn falch iawn o allu adrodd am y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn y mae'r adroddiad yn cyfeirio ato i sicrhau bod y Gronfa'n cael ei defnyddio'n fwy at y dibenion elusennol y'i bwriadwyd sy'n dilyn cais a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Ebrill, 2019 i adolygu strwythur yr Ymddiriedolaeth i'r perwyl hwn. O ganlyniad, cymeradwywyd dyraniad untro o £55k ar gyfer pob ysgol uwchradd (o Gronfa Addysg Bellach 1/3 Ynys Môn) gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2019 i ariannu cost Anogwyr Dysgu i ddarparu cymorth i uwch ddisgyblion sy'n dilyn cyrsiau TGAU a Safon Uwch sy'n arbennig o berthnasol o ystyried yr effaith y mae Covid-19 wedi’i chael ar ysgolion ac ar ddysgu. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith hefyd ddyrannu £8,000 ychwanegol i bob ysgol uwchradd (o Gronfa Addysg Bellach 2/3 Ynys Môn) i ddarparu grantiau i gynorthwyo myfyrwyr dan anfantais ariannol i gael lleoedd mewn colegau a phrifysgolion a/neu gymorth i brynu llyfrau ac offer angenrheidiol i ddilyn cyrsiau yn y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, nid oedd ysgolion mewn sefyllfa i wahodd ceisiadau yn ystod tymor yr haf 2019/20 ac o ganlyniad, ni ddyfarnwyd unrhyw grantiau. Gofynnir felly i ysgolion atgoffa disgyblion ar ôl iddynt ddychwelyd fod y grant ar gael ac annog ceisiadau. Yn ogystal â hyn, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn gweinyddu cynllun ysgoloriaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd dan anfantais ariannol i ddilyn cyrsiau Prifysgol a Choleg drwy gyfrwng y Gymraeg.  Dywedodd Aelod Portffolio Cyllid, er bod angen gwneud rhagor o waith, y gwnaed dechrau cadarn o ran defnyddio'r gronfa a rhoi cymorth ariannol i'r rhai y'i bwriadwyd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at yr hyn y mae'r cyfrifon yn ei gynrychioli o ran cyfansoddiad Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn, ffynhonnell ei hincwm a diben y tair cronfa sy’n rhan o’r ymddiriedolaeth. Cadarnhaodd fod cynllun wedi'i roi ar waith gyda'r ysgolion uwchradd i weinyddu’r broses o ddyfarnu'r grantiau i ddisgyblion ond bod y pandemig wedi amharu ar y broses hon. Gobeithio yn awr, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, y bydd ysgolion yn gallu dosbarthu a defnyddio mwy o'r cyllid yn nhymor yr haf nesaf. Ychwanegodd Swyddog Adran 151 ei fod yn gallu adrodd bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cadarnhau y bydd 4 myfyriwr yn derbyn grant o £500 ym mis Medi, 2021 ac y bydd y gwariant hwn yn cael ei adlewyrchu yng nghyfrifon 2020/21. Mae'r adroddiad yn amlinellu perfformiad ariannol yr Ymddiriedolaeth am y flwyddyn - cyfanswm yr arian ar 31 Mawrth, 2020 oedd £3,152,966 gyda thua £2.5m wedi'i fuddsoddi yn yr ystâd amaethyddol a'r gweddill mewn buddsoddiadau a/neu adneuon arian parod.

 

Diolchodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid am y gwaith a'r amser a dreuliwyd ar ailstrwythuro'r Gronfa er mwyn gallu cyflawni ei dibenion elusennol yn well a thrwy hynny wireddu'r manteision addysgol i ddisgyblion, ac am y cynnydd a wnaed wedi hynny. Roedd yn arbennig o ddiolchgar ar ran ysgolion Ynys Môn a'u disgyblion a gofynnodd i'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc atgoffa ysgolion fod y grant ar gael. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr mai dyna'r bwriad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ategol: