· AdroddiadCynnydd GwE 2020/21: cefnogaeth i ysgolion yn ystod pandemig Covid 19; ;
· Adroddiad cylch gorchwyl Estyn parthed gwaith yr Awdurdod i gefnogi cymunedau dysgu mewn ysgolion ers Mawrth 2020
Cofnodion:
· Adroddiad Cynnydd GwE 2020/21: cefnogaeth i ysgolion yn ystod pandemig Covid 19
Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd - GwE 2020/21: cefnogaeth i ysgolion yn ystod pandemig Covid 19.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc fod yr adroddiad yn cyfeirio at y gwaith sydd wedi'i wneud rhwng GwE a'r awdurdod lleol er mwyn cefnogi ysgolion yn ystod y pandemig. Dywedodd y bu parodrwydd rhwng y sefydliadau i drafod, i rannu syniadau ac i addasu i wireddu gweledigaeth y gefnogaeth i ysgolion a disgyblion. Dywedodd ei fod, fel Aelod Portffolio, yn dymuno mynegi ei werthfawrogiad i staff yr Adran Addysg (Tîm Môn), GwE ac Estyn am eu gwaith mewn perthynas â’r pandemig a'i effaith ar ysgolion.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod GwE a'r awdurdod lleol wedi addasu eu ffyrdd o weithio er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth effeithiol i'w holl gymunedau ysgol yn ystod y pandemig. Bu angen sicrhau bod lles arweinwyr ysgolion, eu staff a'u dysgwyr o'r pwys mwyaf i'r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu darparu’r lefel gywir o gefnogaeth weithredol neu broffesiynol. Croesawyd y cyswllt rheolaidd ag arweinwyr ysgol ac mae wedi cyfrannu at Brifathrawon yn teimlo y gallent droi at gydweithiwr proffesiynol i rannu materion heriol ac i ddod o hyd i ddatrysiadau i fynd i'r afael â materion dydd i ddydd. Dywedodd ymhellach, er nad yw addysg rithwir mor effeithiol â dysgu plant yn yr ysgolion, gwnaed pob ymdrech i ddarparu'r addysg orau bosib i'r disgyblion.
Dywedodd Mrs Sharon Vaughan, GwE fod yr adroddiad a gyflwynwyd i'r cyfarfod hwn yn dangos sut mae'r consortiwm rhanbarthol, mewn partneriaeth â'r Awdurdodau Lleol, wedi esblygu ac addasu i gefnogi ysgolion yn ystod y pandemig. Trwy gydol y pandemig, mae'r cydweithredu rhwng yr Adran Addysg, GwE ac ysgolion wedi bod yn effeithiol, yn agored, yn dryloyw ac yn adeiladol. Roedd crynodeb o'r gwaith a wnaed ynghlwm wrth yr adroddiad fel a ganlyn: -
· Cam 1 - Cyn y cyfnod clo
· Cam 2 - Cefnogi ysgolion ar ddechrau'r cyfnod clo
· Cam 3 - Dysgu o Bell
· Cam 4 - Cefnogi ysgolion i ailagor
· Cam 5 - Dysgu Cyfunol
· Cam 6 - Cyflymu Dysgu / Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau
· Cam 7 - Dyfnhau cydweithredu a datblygu rhwydweithiau cadarn
Rhoddodd Mrs Sharon Vaughan grynodeb byr o Atodiadau 2 i 5 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad i'r Pwyllgor.
Dywedodd Mr Rhys Williams o GwE fod lles a llesiant wedi bod yn hollbwysig yn y gweithio ar y cyd rhwng yr awdurdod lleol a GwE dros gyfnod anodd y pandemig. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, cefnogodd GwE yr awdurdod lleol trwy gyflwyno a chefnogi gweithdrefnau Asesu Risg a chynhyrchu arweiniad ar gyfer defnyddio Ffrydio Byw mewn dosbarthiadau. Mae egwyddor gwaith Tîm Ynys Môn yn hollbwysig i'r dull o weithredu a'r llinellau cyfathrebu clir rhwng pawb. O ganlyniad, mae cefnogaeth benodol wedi'i theilwra i gwrdd ag anghenion pob ysgol ac mae'r camau gweithredu dilynol yn gadarn iawn. Mae Ymgynghorwyr GwE wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Phrifathrawon unigol i gynnig cefnogaeth fel y bydd angen. Adroddodd ymhellach fod GwE wedi bod ar flaen y gad o ran ceisio sicrhau nad yw'r Gymraeg yn colli tir yn ystod y cyfnod hwn, ac mae GwE a'r Gwasanaeth Dysgu wedi ymdrechu i gefnogi ysgolion. Mae yna nifer o enghreifftiau o ysgolion yn cefnogi rhieni nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg er mwyn sicrhau bod disgyblion yn parhau i fod yn agored i'r iaith dros y cyfnod. Mae'r enghreifftiau hyn yn cynnwys rhannu arfer da trwy fideos pwrpasol gyda staff ysgolion yn darllen straeon a rhannu fideos i gefnogi datblygiad Cymraeg llafar trwy Google Classroom.
Adroddodd Mr Williams ymhellach ar y Sector Cynradd a nododd fod strwythurau cydweithredu ymhlith bron pob un o ysgolion yr Ynys wedi cael eu datblygu’n llwyddiannus dros gyfnod y pandemig. Mewn cydweithrediad â GwE, mae grwpiau o Benaethiaid Cynradd a thimau rheoli ysgolion mewn sawl dalgylch yn Ynys Môn wedi bod yn cydweithredu ar ysgrifennu a gyrru blaenoriaeth frys a blaenoriaethau tymor hir mewn meysydd fel Llesiant, Cymraeg llafar a pharatoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru. Nid yn unig y mae hyn yn sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu ymhlith ysgolion, mae hefyd yn sicrhau bod y system addysg yn parhau i ddatblygu capasiti i wella ei hun. Mae ysgolion cynradd mewn un dalgylch yn rhan ogleddol yr Ynys wedi bod yn treialu technegau ‘Ffrydio Byw’ yn ystod y cyfnod clo. Gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Dysgu a GwE, aethant ymlaen i gynhyrchu protocol canllawiau ar gyfer pob ysgol. Ystyrir bod hyn yn ymarfer llwyddiannus y dylid ei rannu ledled y Rhanbarth ac ers hynny maent wedi creu Gweminar i ddarparu arweiniad i bob ysgol yng Ngogledd Cymru. Mae ysgolion cynradd wedi bod yn gwneud defnydd effeithiol o’r adnoddau ‘Dysgu Carlam’ er mwyn datblygu eu sgiliau sylfaenol ar ôl cyfnod o fethu â chael mynediad at addysg ffurfiol reolaidd. Mae pob ysgol ar Ynys Môn wedi bod yn datblygu eu staff yn llwyddiannus i ddefnyddio technoleg i barhau â'r dysgu.
Adroddodd Mrs Sharon Vaughan ar y Sector Uwchradd lle bu ffocws dwys ar draws pob ysgol uwchradd ar uwchsgilio staff fel bod ganddynt y sgiliau priodol i gael disgyblion i ymgysylltu â sesiynau dysgu digidol effeithiol. Gwnaethpwyd hyn yn ffurfiol trwy ddiwrnodau hyfforddi a hyfforddiant anffurfiol a gwirfoddol. Bu gwelliant syfrdanol yn sgiliau digidol staff ar draws y pum ysgol uwchradd ar yr Ynys, a gwnaed cryn dipyn o waith mewn cyfnod cymharol fyr. Mae rhai ysgolion yn dewis ffrydio rhai gwersi yn fyw i grwpiau o ddisgyblion ac mae eraill wedi defnyddio dull mwy cyfunol gyda rhai gwersi byw, a rhywfaint o ddysgu trwy fideos wedi'u recordio ymlaen llaw neu gyflwyniadau a thasgau PowerPoint trwy'r ystafell ddosbarth rithwir. Mae presenoldeb mewn gwersi wedi cael ei fonitro yn y pum ysgol uwchradd trwy SIMS neu Siartiau Dosbarth a chysylltwyd â rhieni os nad yw disgyblion yn mynychu.
Adroddodd Mr Rhys Williams ar y Gwasanaeth Addysgol Arbennig ar Ynys Môn a dywedodd fod yr Awdurdod wedi ymateb yn llwyddiannus i anghenion amrywiol y plant a'r bobl ifanc sydd yn ei ofal. Yn seiliedig ar asesiadau risg gofalus a chynhwysfawr, mae lles dysgwyr, eu teuluoedd, staff a chymuned ehangach yr ysgol wedi bod yn brif flaenoriaeth a gweithredwyd yn llwyddiannus i'w cefnogi. Mae'r ymrwymiad ychwanegol a ddangoswyd dros y penwythnosau a gwyliau ysgol wedi bod yn nodwedd o'r gefnogaeth hon ac mae'n ymarfer gorau yn y sector ADY. Mae diwygiadau i'r cwricwlwm a diwygiadau eraill wedi parhau ar gyflymder synhwyrol yn ystod y cyfnod, ac mae'r cynlluniau gwella cyfredol yn adlewyrchu set o ddyheadau gonest a chyraeddadwy yng nghyd-destun y pandemig.
Adroddodd Mrs Catrin Roberts, GwE ar ddatblygiad y Gymraeg. Dywedodd fod pryder o fewn ysgolion ynghylch effaith y pandemig ar y Gymraeg hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae'r iaith yn gryf a hefyd yr effaith ar yr iaith oherwydd nad yw disgyblion o fewn amgylchedd yr ysgol. Mae angen cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Mae athrawon yn cynllunio ac yn paratoi cyfarwyddiadau dwyieithog ar gyfer disgyblion hefo trosleisiadau fel y gall disgyblion glywed y Gymraeg, gwrando ar gyfarwyddiadau ynddi a'u dilyn. Mae'n bwysig sicrhau bod gan athrawon yr adnoddau gorau ar gyfer hyrwyddo dysgu o bell a dysgu cyfunol ac i sicrhau cyfleoedd i ddisgyblion glywed a siarad y Gymraeg. Rhennir canllawiau digidol a rhoddir hyfforddiant i athrawon ar sut i ddefnyddio meddalwedd Hwb, fel Google Classroom, Screencastify, Adobe Spark, Flipgrid a gweminarau ar gyfer eu datblygiad proffesiynol. Nododd ymhellach fod tasgau dwyieithog wedi'u amlinellu i rieni gynorthwyo plant i ddysgu a deall anghenion y tasgau.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn: -
· Gofynnwyd sut y gwnaeth y Gwasanaeth Dysgu a GwE addasu eu ffyrdd o weithio o ganlyniad i'r pandemig, a hynny er mwyn ymateb i anghenion plant a phobl ifanc Ynys Môn, ac i ddarparu'r addysg orau bosib iddynt. Mynegwyd bod pwysau ar rieni sy'n gorfod gweithio gartref a chanddynt fwy nag un plentyn y mae angen eu hannog i fynychu gwersi rhithwir a chwblhau gwaith ar-lein; bu pryderon bod rhai o'r darpariaethau digidol wedi bod yn well mewn rhai ysgolion nag eraill. Ymatebodd Mrs Sharon Vaughan, GwE fod rhai anghysondebau yn genedlaethol o fewn ysgolion oherwydd y pandemig. Mae GwE wedi bod yn rhoi canllawiau i gefnogi ysgolion yn lleol ac ers y cyfnod clo. Yn Ynys Môn mae cysylltiadau cryf â'r Ymgynghorwyr GwE wrth gefnogi ysgolion ac yn enwedig yr ysgolion hynny sydd wedi gofyn am gefnogaeth. Rhannwyd arferion da rhwng ysgolion yn Ynys Môn trwy gyfarfodydd yn y sectorau Cynradd ac Uwchradd ac er bod y rhaglen ddysgu broffesiynol wedi'i lleihau eleni mae'n dal i fod yn gynhwysfawr ac mae'n cwrdd ag anghenion y sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu oherwydd y pandemig;
· Cyfeiriwyd at y ffaith y gall ysgolion, gyda gobaith, ailagor yn raddol yn y dyfodol agos. Gofynnwyd sut y bydd y Gwasanaeth Dysgu a GwE yn parhau i fonitro a gwerthuso ansawdd y ddarpariaeth ddysgu ar yr Ynys. Ymatebodd Mr Rhys Williams, GwE, y rhagwelir, mewn perthynas â monitro'r ddarpariaeth ddysgu, y bydd dysgu cyfunol yn parhau ac mae ysgolion eisoes wedi mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae wedi bod yn sefyllfa heriol gyda GwE yn methu ymweld ag ysgolion a chysylltir â Phrifathrawon a staff i'w cefnogi a'u harwain ar faterion sydd wedi bod yn gweithio'n dda a materion nad ydynt wedi gweithio cystal, ynghyd â'r prosesau mewnol sydd gan yr ysgolion ar waith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod fforymau strategol mewn ysgolion sy’n trafod a monitro materion sy'n wynebu'r ysgolion. Ar hyn o bryd mae Bwrdd Ansawdd yn weithredol hefyd i drafod materion heriol rhwng Aelodau Portffolio, y Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a GwE;
· Codwyd pryderon ynghylch y gefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion arbennig a disgyblion sydd angen cymorth addysgol ychwanegol. Gofynnwyd pa gefnogaeth a roddwyd gan GwE i safoni'r cymorth i'r disgyblion hyn. Ymatebodd yr Uwch Reolwr - Anghenion Addysgol Arbennig a Chynhwysiant fod gan aelod o staff ym mhob ysgol rôl i godi unrhyw bryderon mewn perthynas ag unrhyw ddisgyblion sydd angen cefnogaeth. Mae'r Tîm yn yr ysgolion yn cefnogi disgyblion a rhieni o ran dysgu o bell. Rhoddir cefnogaeth hefyd o ran iechyd a lles meddyliol a darpariaethau lleferydd ac iaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bu cynnydd yn nifer y disgyblion sydd bellach ag anghenion addysg arbennig na fyddent efallai wedi bod angen cefnogaeth cyn y pandemig a bod rhai plant yn cael ei chael yn anodd ymdopi â'r sefyllfa. Nododd fod gwaith wedi ei wneud gan wasanaethau'r Awdurdod ynghyd â busnesau lleol i roi caledwedd TG i blant i'w galluogi i ymgysylltu â dysgu o bell. Fodd bynnag, os ydynt yn cael anawsterau o ran ymgysylltu â dysgu o bell rhoddir cymorth iddynt, ynghyd â'u rhieni, i ddefnyddio'r dechnoleg a ddarperir. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Cynradd fod 130 o liniaduron a 120 o unedau Wi-Fi wedi eu rhoi i ddisgyblion ac mae'r gwasanaeth TG yn parhau i adnewyddu'r dechnoleg sydd ar gael a bod dros 2,000 o 'chromebooks' wedi eu derbyn trwy'r grant Hwb i gefnogi disgyblion;
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhai plant yn medru derbyn gwybodaeth yn well nag eraill ac y byddant yn ffynnu gyda dysgu rhithwir. Gofynnwyd sut y bydd y Gwasanaeth Dysgu a GwE yn gallu monitro a chefnogi disgyblion nad ydynt wedi gallu ffynnu trwy ddysgu o bell fel y gall y disgyblion hyn i ddal i fyny â disgyblion eraill. Ymatebodd Mr Rhys Williams o GwE fod system carlam yn edrych ar sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd a rhifedd a rôl GwE yw cefnogi ysgolion i nodi disgyblion a fydd angen darpariaeth addysgol ychwanegol pan fyddant yn dychwelyd i’r ysgol yn y dyfodol;
· Cyfeiriwyd at yr ansicrwydd i ddisgyblion a fydd yn sefyll arholiadau TGAU ac UG a Safon Uwch ac mae'n ymddangos bod y disgyblion hyn wedi colli ffydd yn y prosesau addysgol. Gofynnwyd pa gefnogaeth y gellir ei rhoi gan GwE a'r Gwasanaethau Dysgu i'r disgyblion hyn. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod Tîm Ynys Môn eisiau gweld y disgyblion yn ôl yn yr ysgol pan fydd yn ddiogel iddynt ddychwelyd a bod system olrhain ar waith i fonitro a yw'r disgyblion yn cymryd rhan mewn dysgu rhithwir ac yn gallu dysgu a datblygu gyda'r adnoddau a roddir iddynt. Dywedodd Mrs Sharon Vaughan, GwE fod lefelau presenoldeb disgyblion mewn sesiynau dysgu rhithwir yn cael eu monitro gan yr ysgolion. Nawr bydd yn rhaid i Ysgolion Uwchradd gasglu tystiolaeth ar gyfer byrddau arholi mewn perthynas â phob disgybl ond, serch hynny, nid oes arweiniad gan CBAC na Chymwysterau Cymru. Dywedodd yr Uwch Reolwr Lles fod yr Awdurdod yn ymgysylltu â gweithgareddau y tu allan i'r sbectrwm addysgol ac nad yw pobl ifanc yn gallu mynychu clybiau a chyfleusterau chwaraeon ar hyn o bryd.
· Adroddiad cylch gorchwyl Estyn ynghylch gwaith yr Awdurdod yn cefnogi cymunedau dysgu mewn ysgolion ers mis Mawrth
Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr adroddiad hwn yn cyfeirio at arweinyddiaeth a chydweithio ac mae'n nodi bod yr Awdurdod yn effeithiol o ran cyfathrebu â rhanddeiliaid a chefnogi llesiant staff a disgyblion yn Ysgolion Ynys Môn. Nododd fod Estyn wedi cyfeirio at ‘Tim Môn’ a nododd fod y tîm yn rhannu gweledigaeth gref sy’n cefnogi ymreolaeth a chydweithio mewn ysgolion i gyflawni’r gorau ar gyfer y disgyblion.
Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE ei fod o'r farn y dylid trefnu datganiad i'r wasg i dynnu sylw at y gwaith da a wnaed gan y Gwasanaethau Dysgu gyda chefnogaeth GwE ac Estyn i roi'r addysg orau bosib i ddisgyblion ysgolion Ynys Môn.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod hi a’r Aelod Portffolio ar gyfer Addysg wedi bod yn pwyso ar y byrddau arholi am eglurder o ran arholiadau i ddisgyblion eleni a’r flwyddyn nesaf. Roedd o'r farn y byddai'n fuddiol anfon llythyr yn mynegi'r pryderon hyn at Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD cymeradwyo:-
· Adroddiad cynnydd GwE ar gyfer 2020/21;
· Adroddiad cylch gorchwyl Estyn ynghylch gwaith yr Awdurdod yn cefnogi ei gymunedau dysgu mewn ysgolion ers mis Mawrth 2020.
· Bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru yn mynegi siom a phryderon nad oes cynllun ar waith o ran arholiadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer Haf 2022.
Dogfennau ategol: