Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd Tîm Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn mewn perthynas ar uchod. |
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Arweinydd Tîm, Gwasanaeth Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, yn absenoldeb yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, mai rôl y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yw rhoi cyngor manwl ar bolisïau arbennig sy'n gysylltiedig â thwristiaeth er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol ac yn gyson ar draws ardal y Cynllun ac i gefnogi Swyddogion Cynllunio pan gyflwynir ceisiadau. Yn dilyn y broses ymgynghori wreiddiol yn 2018 ac o ganlyniad i'r sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd ei bod yn briodol gwneud diwygiadau pellach i'r Canllawiau. Cymeradwywyd fersiwn ddrafft o'r CCA hyn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio ar 4 Medi, 2020. Wedi hynny bu'r CCA yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Hydref, a 27 Tachwedd, 2020. Nododd fod cydnabyddiaeth bod twristiaeth yn bwysig i'r Ynys a gellir gweld o fewn y CCA bod cydbwysedd rhwng cefnogaeth i'r sector twristiaeth a'r angen i ddiogelu cymunedau lleol i'r dyfodol.
Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro fod y sector twristiaeth yn bwysig i economi'r Ynys. Y gobaith yw y bydd llacio'r cyfyngiadau'n raddol yn gweld y sector twristiaeth yn ailagor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny ac mewn modd cynaliadwy. Mae'r CCA yn rhoi polisïau clir i'r awdurdod cynllunio ar ansawdd, yr amgylchedd a'r Gymraeg wrth ddelio â cheisiadau cynllunio.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod twristiaeth yn bwysig i'r Ynys a bod y polisïau cynllunio yn gyffredinol yn hyrwyddo datblygiad y fath weithgareddau twristiaeth ar yr amod eu bod yn gynaliadwy ac o safon uchel.
Dywedodd Arweinydd Tîm Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn fod y CCA wedi'u cynhyrchu i gefnogi'r polisïau yn y CDLlC. Yn ystod cyfarfod y Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2019 cyflwynwyd yr Adroddiad Ymgynghori ar yr ymgynghoriad pellach hwn, a oedd yn nodi nad oedd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau pellach i'r Canllawiau o ganlyniad i'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, a gofynnwyd am i'r Canllawiau gael eu cyflwyno i gyfarfod o'r Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio i'w mabwysiadu. Ers y cyfarfod cyflwynwyd y canllawiau i Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd ar 4 Ebrill, 2019. O ganlyniad i'r drafodaeth yn y cyfarfod hwnnw, ystyriwyd y byddai'n briodol gwneud mân newid i weithrediad y Canllawiau. At hynny, mae penderfyniad apêl diweddar mewn perthynas ag ystyriaethau sy’n gysylltiedig ag asesu ‘gorddarpariaeth' o lety gwyliau wedi tynnu sylw at yr angen i ddiwygio’r Canllawiau ymhellach. Cymeradwywyd fersiwn ddrafft o'r CCA ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio ar 4 Medi, 2020. Paratowyd y drafft hwn mewn ymgynghoriad â Swyddogion perthnasol y ddau Awdurdod. Ymgynghorwyd gyda’r cyhoedd ar y CCA o 16 Hydref hyd at 27 Tachwedd 2020. Nodwyd bod y prif newid i'r Canllawiau a arweiniodd at y trydydd cyfnod ymgynghori yn ymwneud â gwneud newid pellach i'r diffiniad sy’n gysylltiedig â gorddarparu llety gwyliau. Erbyn hyn, mae'r diffiniad fel y gwelir yn adran 4.6 o'r Canllawiau yn Atodiad 2 sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, yn cynnwys trothwy penodol o ran pryd y mae gorddarpariaeth o lety gwyliau hunanarlwyo mewn ardal benodol. Yn unol â'r cyfarwyddyd diwygiedig yn y Canllawiau, ni roddir ystyriaeth ffafriol i geisiadau am lety gwyliau hunanarlwyo pan fydd cyfuniad o lety gwyliau ac ail gartrefi eisoes wedi cyrraedd y trothwy o 15% o'r holl stoc dai. Ystyrir y bydd gosod trothwy pendant yn ei gwneud yn haws i Swyddogion asesu ‘gorddarpariaeth' yng nghyd-destun y gofyniad a nodir ym Mholisi TWR 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Dywedodd Arweinydd Tîm Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn ymhellach fod y Canllawiau yn darparu cyfarwyddyd ar ystyriaeth berthnasol sy'n gysylltiedig ag asesu twristiaeth gynaliadwy o'r ansawdd uchaf a'r effaith ar y Gymraeg a'r amgylchedd naturiol. Dywedodd mai un mater dadleuol a ddaeth i'r amlwg wrth baratoi'r CCA oedd sut i ddiffinio pa lefel o lety twristiaeth sy'n dderbyniol yn unol â pholisi cynllunio penodol TWR 2 y CDLlC. Ar ôl derbyn apeliadau a sylwadau mewn perthynas â'r diffyg cyfarwyddyd yn y Canllawiau, roedd yn briodol gosod trothwy ar gyfer llety hunanarlwyo pan ystyrir cais cynllunio. Er bod y canllawiau'n dweud na roddir ystyriaeth ffafriol i gais cynllunio am lety hunanarlwyo pan fo'r fath ddarpariaeth eisoes yn cyfateb i 15% o'r holl stoc dai mewn cymunedau lleol, mae Cyngor Gwynedd wedi gosod trothwy o 10%.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i'r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn: -
· Cyfeiriwyd at y cynnig datblygu ar Draeth y Newry yng Nghaergybi ar gyfer 350 o anheddau fel rhan o safle Marina yr oedd y sector economaidd o blaid datblygiad o'r fath. Cyflwynwyd apêl ac mae'r datblygwr bellach wedi cyflwyno cais am 250 o anheddau ar y safle ar gyfer cartrefi gwyliau. Gofynnwyd a fydd y CCA - Cyfleusterau a Llety yn gadarn o ran cyfyngu ar ddatblygiadau o'r fath a gynigir ar Draeth y Newry. Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio nad yw'n briodol nac yn amserol trafod ceisiadau cynllunio penodol. Nododd, os mabwysiedir y CCA y byddant yn ystyriaeth pan gynhelir trafodaeth ar unrhyw gais cynllunio yn y dyfodol fel rhan o gyd-destun ehangach o ystyriaethau cynllunio;
· Cyfeiriwyd at orddarpariaeth o lety gwyliau, yn enwedig yn ardal yr arfordir. Gofynnwyd a yw'r CCA yn gadarn o ran cyfyngu ar orddarpariaeth o'r fath a all effeithio ar gymunedau lleol. Ymatebodd Arweinydd Tîm Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn y gobeithir y bydd mabwysiadu'r CCA o gymorth pan gyflwynir ceisiadau cynllunio am lety gwyliau. Nododd fod pryderon ynghylch gorddarparu llety gwyliau mewn ardaloedd arfordirol a bod capasiti cyfyngedig ar gyfer darpariaeth o'r fath. Y gobaith yw y bydd gosod cyfyngiad o 15% o gymorth i'r broses gynllunio. Nododd ymhellach fod sylw manwl wedi'i roi wrth baratoi'r CCA i'r effaith ar brisiau tai oherwydd bod cartrefi wedi'u trosi'n llety gwyliau ac mae gwaith hefyd wedi'i wneud i edrych ar awdurdodau lleol eraill fel Ardal y Llynnoedd sy'n dangos enghreifftiau o gyfyngu ar faint o'r stoc dai a addasir i fod yn llety twristiaeth;
· Cyfeiriwyd at y ffaith mai dim ond ychydig o ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar y CCA - Cyfleusterau a Llety. Gofynnwyd a oes angen ystyried sut yr ymgynghorir yn y dyfodol. Ymatebodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro fod y pandemig wedi codi'r angen i ystyried ymgynghori'n ddigidol a bod angen annog pobl i fanteisio ar dechnoleg yn y dyfodol. Dywedodd Arweinydd Tîm Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn fod gohebiaeth wedi'i chynnal gyda Chynghorau Tref a Chymuned a chydag Aelodau Etholedig a bod tudalen ar wefan yr awdurdodau lleol. Mae'r cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi bod yn gyfrwng ar gyfer annog y cyhoedd i gyflwyno sylwadau ynghylch y CCA yn gyffredinol;
· Codwyd pryderon bod eiddo yn cael eu troi'n llety Air B + B a chyfeiriwyd at drosi garejis. Ymatebodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro y rhoddir ystyriaeth lawn i'r holl bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol pan gyflwynir ceisiadau cynllunio er mwyn dod i benderfyniad arnynt.
· Gwnaed sylw bod y polisïau cynllunio yn fwy perthnasol na chanllawiau cynllunio atodol fel y dangoswyd yn ystod apeliadau cynllunio. Ymatebodd Arweinydd Tîm Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn bod y canllawiau cynllunio yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth wneud penderfyniadau cynllunio ac mewn apeliadau cynllunio a'u bod yn cefnogi'r polisïau cynllunio yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad mewn perthynas â'r Canllawiau Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety Twristiaeth a'r adroddiad ymgynghori cysylltiedig.
Dogfennau ategol: