Eitem Rhaglen

Cyflawni â Llai - Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.  

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y gwasanaeth Archwilio Allanol oedd yn nodi canfyddiadau adolygiad dilynol i adroddiad cenedlaethol yr Archwilydd Cyffredinol yn 2015 – Cyflawni â Llai – Gwasanaethau Hamdden i'w ystyried gan y Pwyllgor. Mae'r adroddiad yn ystyried effaith gostyngiadau yng nghyllid llywodraeth leol ar wasanaethau hamdden y Cyngor ac effeithiolrwydd trefniadau'r Cyngor ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny.

 

Cyfeiriodd Mr Alan Hughes, Archwilio Cymru at gyd-destun yr adroddiad ac eglurodd fod y gwaith maes wedi'i gwblhau a bod cynnwys yr adroddiad wedi'i gwblhau cyn dechrau Covid-19 felly ni chyfeirir at effaith y pandemig ar y gwasanaeth hamdden; gyda hyn mewn golwg cytunwyd y dylid rhyddhau'r adroddiad gyda'r cafeat hwn. Yn gyffredinol, mae neges yr adroddiad yn gadarnhaol ac yn dod i'r casgliad bod y Cyngor wedi parhau i ddarparu gwasanaeth yn ei ganolfannau hamdden gyda llai o adnoddau a bod ganddo weledigaeth glir ar gyfer dyfodol y gwasanaeth, ond bod cyfleusterau mewn cyflwr gwael yn her ariannol. Yn fanwl, mae'r adroddiad yn canfod bod –

 

           Gostyngiad wedi bod yn adnoddau gwasanaeth hamdden y Cyngor ers 2014-15 ac mae cost net y gwasanaeth wedi gostwng. Bu gostyngiad o 77% yng nghyllideb y gwasanaeth hamdden yn ystod y pedair blynedd diwethaf wedi'i gwrthbwyso'n rhannol gan gynnydd mewn incwm o 31% a gostyngiad mewn gwariant o 11%.

           Mae gan y Cyngor weledigaeth glir ar gyfer ei wasanaeth hamdden ac mae'n ystyried cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod y canolfannau hamdden sydd mewn cyflwr gwael yn risg. Mae'r Cyngor wedi ystyried gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth bennu blaenoriaethau a datblygu ei strategaeth newydd ar gyfer gwasanaethau hamdden ac mae'n gallu dangos enghreifftiau o wella lles drwy hamdden. Fel rhan o'r strategaeth honno mae'r Cyngor wedi canolbwyntio ar gymryd agwedd fwy masnachol at hamdden drwy fuddsoddi yn ei gyfleusterau a chynyddu aelodaeth ac incwm i wneud y gwasanaeth yn fwy hunangynhaliol; mae hyn yn dechrau cael effaith gydag incwm yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur yn Llangefni yn fwy na gwariant o 9% yn 2018/19. Mae'r Cyngor hefyd wedi adolygu a chymharu opsiynau darparu posibl ar gyfer ei wasanaeth hamdden.

           Mae gan y Cyngor drefniadau monitro perfformiad a llywodraethu cadarn ond mae'n cydnabod y gallai wella ei ddealltwriaeth o'r canlyniadau a gyflawnwyd. Mae gan y Cyngor strwythur atebolrwydd clir ar gyfer ei wasanaeth hamdden a system dangosfwrdd gwybodaeth reoli sy'n caniatáu i swyddogion fonitro perfformiad. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn cydnabod y gallai wneud defnydd pellach o'i ddata a'i dechnoleg i wella dealltwriaeth o effeithiau ei wasanaeth e.e. nodi rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr a thargedu eu gwasanaethau'n fwy effeithiol a thrwy ddadansoddi data ymhellach er mwyn dod i well dealltwriaeth o ganlyniadau gwahanol weithgareddau.

           Mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaeth yn fodlon â'r gwasanaeth hamdden ac mae'r Cyngor yn defnyddio adborth cwsmeriaid i lywio'r gwaith o gynllunio a darparu'r gwasanaeth. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r arolwg gan Archwilio Allanol yn hapus gyda gwasanaeth hamdden y Cyngor. Roedd 50% o'r farn bod ansawdd y gwasanaeth wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac 83% o'r farn bod y gwasanaeth yn rhoi gwerth da am arian.

Ychwanegodd Mr Alan Hughes fod y Cyngor, ers drafftio'r adroddiad, ym mis Mawrth, 2020 wedi penderfynu gwneud buddsoddiad cyfalaf mewn hamdden. Mae hyn yn lleddfu rhai o'r pryderon a godwyd gan yr archwiliad ynglŷn â chyflwr adeiladau hamdden.

 

Wrth groesawu ysbryd cyffredinol yr adroddiad a oedd yn galonogol iawn, cododd y Pwyllgor y materion canlynol –

 

           P’un ai a yw Archwiliad Allanol o’r farn bod y Cyngor wedi gwneud y penderfyniad cywir i barhau i ddarparu ei wasanaeth hamdden yn fewnol. Dywedodd Mr Alan Hughes fod y broses a gynhaliwyd yn fewnol gan y Cyngor yn dangos bod y Cyngor wedi gwerthuso'r opsiynau ar gael ar gyfer darparu ei wasanaeth hamdden yn y dyfodol ac nad oedd rhai o'r ffactorau a allai fod wedi arwain awdurdodau eraill i ddilyn llwybrau darparu eraill e.e. ar gyfer manteision treth annomestig, mor amlwg yn lleol. Daeth y Cyngor i gasgliad rhesymol o ystyried yr amodau lleol.

           Bod y pandemig wedi dangos pwysigrwydd gweithgareddau hamdden a chorfforol wrth gefnogi lles meddyliol a chorfforol pobl ac y dylai hon fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer y dyfodol. Yng ngoleuni hyn a'r straen tebygol ar gyllideb y Cyngor ar ôl y pandemig oni ddylai'r Cyngor fod yn gwneud mwy gyda Chwrs Golff Llangefni nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Er enghraifft, gallai ddefnyddio'r ased a thrwy hynny ryddhau arian y mae mawr ei angen i gefnogi'r Gwasanaeth Ieuenctid.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Hamdden Masnachol fod gwaith yn mynd rhagddo i asesu'r opsiynau ar gyfer Cwrs Golff Llangefni gyda'r gobaith, pe bai'n cael ei werthu, y gellir ail-fuddsoddi’r elw mewn gwasanaethau ieuenctid a hamdden. Yn fwy cyffredinol, mae'r adroddiad i'w groesawu gan fod y galw ar wasanaethau hamdden, yn enwedig ar dîm y cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff, yn debygol o gynyddu'n sylweddol yn dilyn y pandemig wrth i'r Bwrdd Iechyd barhau i ddefnyddio'r cynllun i ymdrin â materion iechyd cymunedol ymhlith y boblogaeth hŷn ac yn gynyddol ymhlith pobl iau; yn ogystal â hyn, mae Covid 19 hefyd wedi dangos gwerth cydweithio ac wedi cynnig cyfleoedd i gryfhau'r bartneriaeth gyda'r Bwrdd Iechyd. Mae'r pandemig wedi dangos ymhellach y graddau y mae canolfannau hamdden yn cael eu gwerthfawrogi gan eu defnyddwyr ac fel y mae adborth yn dangos, cymaint yr oedd pobl yn gweld eu heisiau pan fu'n rhaid iddynt gau. Yn ystod cyfnodau cau gorfodol, mae staff y Gwasanaeth Hamdden wedi bod yn rhan o'r amrywiaeth o waith cymorth cymunedol sydd wedi digwydd drwy gydol yr argyfwng. Dywedodd y Rheolwr Hamdden Masnachol ei fod yn hyderus y bydd y Gwasanaeth Hamdden yn addasu ac yn dod yn ôl yn gryfach yn ystod y cyfnod adfer.

 

           Wrth nodi bod yr adroddiad yn cydnabod bod adeiladau hamdden y Cyngor mewn cyflwr gwael a bod angen eu huwchraddio, gofynnodd y Pwyllgor am eglurder o ran y posibilrwydd y gallai'r Cyngor foderneiddio a diweddaru ei ganolfannau hamdden.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cyngor yn ymwybodol bod angen gwario arian ar ei ganolfannau hamdden a'i fod wedi comisiynu cwmni allanol i adolygu'r gwasanaeth ac i asesu'r ffordd orau o sicrhau bod y cyfleusterau'n cyrraedd y safon. Ychwanegir at y broblem gan y ffaith fod cyfleusterau’n dangos eu hoed a bod tair o'r pedair canolfan hamdden wedi'u hadeiladu tua'r un adeg a'u bod i gyd bellach yn dod i ddiwedd eu hoes. Mae Canolfan Hamdden Caergybi mewn cyflwr ychydig yn waeth na'r canolfannau yn Amlwch a Llangefni ond byddai’n costio tua £15m i £20m i godi un newydd, sef buddsoddiad cyfalaf ar lefel sy'n anodd iawn ei gwneud o dan yr amgylchiadau presennol. Pe bai cynllun Wylfa Newydd wedi mynd rhagddo yna gallai arian ar gyfer canolfan newydd yn Amlwch, a Chaergybi o bosibl, fod wedi dod ar gael drwy'r broses honno gan ganiatáu i'r Cyngor wedyn fynd i'r afael â materion ym Mhlas Arthur yn Llangefni. Fel y mae, y strategaeth yw cynnal a lle y bo'n bosibl, uwchraddio’r canolfannau hamdden i ymestyn eu hoes am ddeng mlynedd arall yn y gobaith y bydd y sefyllfa ariannol wedi gwella erbyn hynny. Os gwerthir Cwrs Golff Llangefni, yna mae penderfyniad mewn egwyddor wedi'i wneud i ddefnyddio'r arian ar gyfer Canolfan Hamdden Plas Arthur ac mae opsiynau ar gyfer Amlwch a Chaergybi yn cael eu hystyried. Fodd bynnag, mae asedau eiddo'r Cyngor hefyd yn cynnwys ysgolion a phencadlys y Cyngor y mae angen eu cynnal a'u huwchraddio;  bydd yn rhaid datblygu a chytuno ar strategaeth hirdymor ar gyfer y rhain ac adeiladau eraill y Cyngor.

 

           Yn dilyn yr uchod, gofynnodd y Pwyllgor a fyddai'n ymarferol cysylltu uwchraddio'r canolfannau hamdden â'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai un ffordd o barhau i ariannu'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno yw'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). O dan MIM, mae partneriaid y sector preifat yn adeiladu ac yn cynnal asedau cyhoeddus gyda'r Cyngor, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru yn talu ffi flynyddol i'r partner preifat dros gyfnod penodol i dalu am gost adeiladu, cynnal a chadw ac ariannu'r prosiect. Ar ddiwedd y cyfnod, mae'r ased yn trosglwyddo i'r Cyngor. Mae'r MIM yn cael ei ystyried ar gyfer prosiectau gwerth £15m neu fwy a allai olygu ei fod yn briodol ar gyfer cynllun sy'n cynnwys Ysgol Uwchradd Amlwch er y byddai'n rhaid trafod cynnwys y ganolfan hamdden yn y cynllun hwnnw gyda Llywodraeth Cymru gan mai dim ond ar gyfer cyfleusterau addysgol y mae'r model yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gytundeb â'r corff a fydd yn cyflwyno prosiectau MIM sy'n rhoi cyfle iddo gymryd rhan mewn prosiect MIM yn y dyfodol os dymunir.

 

Wrth ymateb i gwestiwn ynghylch uwchraddio cyfleusterau yng nghyd-destun Gemau'r Ynysoedd y mae Ynys Môn wedi ennill yr hawl i'w cynnal, dywedodd y Rheolwr Hamdden Masnachol fod y cais am Gemau'r Ynys wedi'i wneud a'i gymeradwyo ar sail y cyfleusterau presennol ac na ddylid disgwyl unrhyw arian ychwanegol yn sgil y ffaith bod y Gemau’n dod yma.  Er bod rhai o'r Ynysoedd sydd wedi cynnal y Gemau o'r blaen wedi gwario swm sylweddol o arian ar uwchraddio eu cyfleusterau, mae hyn wedi dibynnu ar y sefyllfa ariannol leol.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r cynnwys.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: