Eitem Rhaglen

Cyflwyniad ar waith y Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG

I gyflwyno Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer y cyfnod 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG fersiwn derfynol CYSAG am 2019/20 i’w chymeradwyo, a rhoddodd ddarlun o’r pwyntiau a drafodwyd, fel yr amlinellir isod:-

 

·      Cyflwynwyd adroddiadau hunanarfarnu pum ysgol yn ystod y cyfnod cyn y cyfnod clo rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020.  Roedd yr adroddiadau a gyflwynwyd yn onest ac yn effeithiol ac ni chodwyd unrhyw bryderon.

·      Roedd gwaith CYSAG y Panel Gweithredol ar gyfer Ysgolion yn parhau i

ddatblygu ac roedd angen ei gryfhau ymhellach oherwydd y bu cyfyngu ar y cynnydd yn sgil y pandemig.

·      Codwyd pryderon bod nifer y disgyblion sy'n dilyn AG fel pwnc yn parhau i ostwng. Nodwyd bod 83 o ddisgyblion yn dilyn y cwrs TGAU AG yn 2019/20, 11 yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, enillodd y disgyblion a wnaeth asesiadau TGAU a Safon Uwch yn ystod haf 2020 raddau da yn y pwnc.

·      Canmolodd Estyn addysgu AG yn eu harolygiadau o ysgolion Ynys Môn yn

ystod 2019/20, ac ni chodwyd unrhyw bryderon.

·      Aeth tri aelod o CYSAG i sesiynau addoli ar y cyd mewn ysgolion a bu’n

rhaid gohirio ymweliadau pellach a drefnwyd oherwydd Covid-19. Awgrymwyd cynnal sesiynau addoli ar y cyd trwy Microsoft Teams yn y dyfodol.

·      Byddai dogfennau canllaw Llywodraeth Cymru i gefnogi AG yn newid gyda’r cwricwlwm newydd yn 2022. Nodwyd y byddai disgwyliadau Estyn yn dod yn gliriach i ysgolion o fis Medi ymlaen.

·      O ganlyniad i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fynediad i'r cwricwlwm i bob dysgwr ym mis Hydref 2019, byddai gan bob plentyn bellach fynediad llawn i'r cwricwlwm a byddai’n cymryd gwersi AG.

·      Byddai AG yn newid i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

·      Codwyd pryderon ynghylch cydymffurfio â GDPR a ph’run a fyddai’n briodol cyflwyno lluniau a fideos o blant yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr ysgol yn gyffredinol, yng nghyfarfodydd CYSAG.

·      Mynegodd CYSAG bryder nad oedd unrhyw ddisgyblion wedi dewis astudio AG mewn rhai ysgolion uwchradd. Cadarnhawyd bod darpariaeth yn ei lle i ddisgyblion deithio i ysgolion eraill ar gyfer gwersi AG y tu allan i'w dalgylchoedd. Roedd y system hon yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd ac roedd yn gweithio'n dda.

·      Roedd angen darparu ar gyfer disgyblion oedd wedi dysgu AG trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd iddynt gael parhau i gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector uwchradd.

·      Cytunwyd y dylid monitro aelodaeth CYSAG a phresenoldeb yn y

cyfarfodydd.

 

Cyfeiriwyd at Gynllun Gweithredu CYSAG a restrai flaenoriaethau, nodau ac amcanion y Pwyllgor hyd at 2022. Byddai gwaith yn parhau i godi proffil CYSAG mewn ysgolion, a chynyddu ymwybyddiaeth y byddai AG yn rhan o Gwricwlwm Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Byddai CYSAG a'r Panel Gweithredol yn canolbwyntio ar y cwricwlwm newydd, yn enwedig ar sut oedd ysgolion yn addasu ac yn gweithio'n thematig yn ystod y cyfnod pontio o Flwyddyn 6 i 7. Nodwyd bod yr amcan i greu llwyfan i rannu adnoddau ac arfer da o fewn AG wedi ei gyflawni gan Mr Owen Davies.

 

Dangosodd aelodau o CYSAG eu gwerthfawrogiad gan ddiolch i'r Ymgynghorydd AG am ei gwaith rhagorol yn paratoi'r Adroddiad Blynyddol ac i’r Cadeirydd am ei Grynodeb rhagorol fel Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Derbyn adroddiad blynyddol 2019/20 CYSAG.

·      Monitro presenoldeb mewn cyfarfodydd CYSAG yn ystod y flwyddyn 

i ddod.

·      Cytuno mai dim ond unigolion sydd wedi paratoi cyflwyniad /

adroddiad hunanarfarnu ddylai gael caniatâd i ddangos lluniau a fideos o blant yn eu hysgolion, ac mewn cyfarfod CYSAG yn unig.

Dogfennau ategol: