Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynnig yn Unol  Rheol 4.1.13 .1 Y Cyfansoddiad

I dderbyn y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

 “Mae dyletswydd ar ein Cyngor i gadw at Ddatganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Oedran Gyfeillgar yn Ewrop 2013 er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o bobl hŷn yn y gymuned ac i sicrhau bod eu pryderon yn cael eu gweithredu arnynt a’u bod yn cael cyfle i rywun wrando arnynt. Mae gan Ynys Môn un o’r poblogaethau hŷn mwyaf yng Nghymru ac mae eu cyfraniad i economi Ynys Môn yn bwysig iawn. 

 

Mae gennym Fforwm Pobl Hŷn ar Ynys Môn ac nid ydynt erioed wedi derbyn cyflwyniad gan yr Adran Economaidd na’r Adran Gynllunio ar ddatblygiadau mawr megis Wylfa, Coedwig Penrhos, y datblygiad mawr ym Marina Caergybi na datblygiad Tŷ Mawr yn Llanfair PG.

 

Rwy’n gofyn bod hyn yn cael ei wneud yn rhywbeth gorfodol a bod cyflwyniad yn cael ei roi ar bob datblygiad mawr er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed pan ddaw hi at benderfyniadau am fannau agored a’r posibilrwydd o ddinistr amgylcheddol.

 

Mae mannau agored a mannau cerdded yn ein trefi a chefn gwlad mor bwysig i ni gyd ond yn enwedig i’n trigolion oedrannus ac anabl”.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd - y Rhybudd o Gynnig isod gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

Mae dyletswydd ar ein Cyngor i gadw at Ddatganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Ystyrio o Oedran yn Ewrop 2013 er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o bobl hŷn yn y gymuned ac i sicrhau bod eu pryderon yn cael sylw a’u bod yn cael cyfle i rywun wrando arnynt. Mae gan Ynys Môn un o’r poblogaethau hŷn mwyaf yng Nghymru ac mae eu cyfraniad i economi Ynys Môn yn bwysig iawn.

 

 Mae gennym Fforwm Pobl Hŷn ar Ynys Môn ac nid ydynt erioed wedi derbyn cyflwyniad gan yr Adran Economaidd na’r Adran Gynllunio ar ddatblygiadau mawr megis Wylfa, Coedwig Penrhos, y datblygiad mawr ym Marina Caergybi na datblygiad Tŷ Mawr yn Llanfairpwll.

 

 Rwy’n gofyn i hyn gael ei wneud yn rhywbeth gorfodol a bod cyflwyniad yn cael ei roi ar bob datblygiad mawr er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed pan ddaw hi at benderfyniadau am fannau agored a’r posibilrwydd o ddinistr amgylcheddol.

 

 Mae mannau agored a mannau cerdded yn ein trefi a chefn gwlad mor bwysig i ni gyd ond yn enwedig i’n trigolion oedrannus ac anabl.

 

Mewn ymateb, dywedodd Deilydd Portffolio Cynllunio fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflawni ei ddyletswyddau datblygu cynaliadwy sy'n gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r system gynllunio'n cyfrannu drwy gyflawni ei dyletswyddau o ran y 'pum ffordd o weithio' a geir yn y Ddeddf. Mae angen ystyried y rhain: cynnwys; cydweithio; integreiddio; atal; a ffactorau hirdymor. Mae'r ystyriaethau hyn yn rhan annatod o'r system gynllunio ac mae ymgysylltu, cynnwys ac ymgynghori â holl aelodau'r gymuned yn elfen allweddol a chanolog o arferion a gweithdrefnau cynllunio, ar y lefel strategol wrth lunio polisi cynllunio a'r lefel leol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio unigol, beth bynnag fo'u graddfa. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw grŵp neu aelodau penodol o gymdeithas naill ai'n cael eu ffafrio ac na wahaniaethir yn eu herbyn fel bod datblygiadau newydd yn creu cymunedau cydlynol, teg a gwydn sy'n diwallu anghenion pawb, beth bynnag fo'u hoedran.

 

Llywodraeth Cymru sy'n gwneud gofynion statudol ar gyfer cyhoeddusrwydd ac ymgynghori ar faterion cynllunio ac nid oes gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol unrhyw bwerau i orfodi fel arall. Neilltuir cryn amser, ymdrech ac adnoddau eisoes nid yn unig i fodloni, ond i ragori ar y gofynion statudol gofynnol hyn. Er gwaethaf yr uchod, nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr henoed yn cael eu heithrio mewn unrhyw ffordd gan y trefniadau presennol, yn wir gellid dadlau y byddai canolbwyntio'n benodol ar un grŵp o gymdeithas yn dangos ffafriaeth ar draul eraill.  Mae anawsterau ymarferol hefyd wrth ddiffinio'r hyn a fyddai'n gyfystyr â 'datblygiad mawr' ar draws y cymunedau amrywiol ar Ynys Môn e.e. gellid dehongli 'datblygiad bach' yn un o'r prif drefi fel 'datblygiad mawr' gan gymunedau llai yr ynys. Mae hyn yn anochel yn arwain at bryderon ynghylch cysondeb a thegwch.  Dywedodd Deilydd Portffolio Cynllunio na allai gefnogi'r cynnig. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R Ll Jones at ohebiaeth a dderbyniodd gan Arweinydd Heneiddio'n Dda Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a ofynnodd i Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr gyfarfod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i drafod y dull sy'n ystyriol o oedran gan ei bod yn ymwybodol o'r ffocws ataliol y mae'r Cyngor yn gweithio tuag ato. Dywedodd mai ei Hysbysiad o Gynnig yw tynnu sylw at anghenion poblogaeth oedrannus yr Ynys a dangos i awdurdodau lleol eraill benderfyniad y Cyngor i gryfhau deddfwriaeth ar Ddatganiad Dulyn er mwyn sicrhau bod pob penderfyniad cynllunio sy'n effeithio ar yr amgylchedd yn ystyriol o oedran a’n bod yn ymgynghori â’r henoed ac yn gwrando arnynt. 

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn cyfarfod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn rheolaidd a nododd y gall pob person ar yr Ynys ymateb i wasanaethau a gynigir gan y Cyngor. 

 

Yn y bleidlais a ddilynodd PENDERFYNWYD na ddylid cadarnhau’r cynnig.