Eitem Rhaglen

Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai 2021/22

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys y Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Rhaglen grant ymyrraeth gynnar yw Grant Cymorth Tai i gefnogi gweithgaredd, sy'n atal pobl rhag bod yn ddigartref, yn sefydlogi eu sefyllfa dai, neu'n helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw. Nid yw'r Grant Cymorth Tai yn ariannu'r ddyletswydd statudol sydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Mae gwasanaethau a ariennir gan y Grant Cymorth Tai, yn hytrach, yn ymestyn y gwasanaeth statudol, yn

ei ategu ac yn ei gynorthwyo i sicrhau bod y cynnig cyffredinol a roddir gan

awdurdodau yn helpu pobl i gael y cartrefi priodol gyda'r cymorth priodol i lwyddo.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr adroddiad drwy ddiolch i Brif Swyddog Datblygu'r Gwasanaethau Tai am ei waith yn datblygu'r cynlluniau, yn enwedig gan mai dim ond dyddiau cyn y Nadolig y derbyniwyd yr hysbysiad gan Lywodraeth Cymru o'r dyraniad uwch. Er bod y cynnydd yn y grant i'w groesawu'n fawr, mae rhywfaint o bryder ynghylch ei barhad ar ôl 2021/22 a thu hwnt o gofio y bydd wedi'i ymrwymo at y dibenion a ddisgrifir yn yr adroddiad, er y deellir yn answyddogol y caiff ei gynnal ar y lefel hon o leiaf. Bydd dyraniad dangosol Ynys Môn ar gyfer 2021/22 yn cynyddu o fis Ebrill, 2021 £856,722.50 sef y cynnydd cyntaf yn y grant am 5 mlynedd gyda'r dyfarniad dangosol newydd yn £3,571,720.50. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r dyraniad wedi'i bennu ar £2,714,998, a dyrannwyd £2,643,866 ohono i'r elfen Cymorth Tai; £64, 923 ar gyfer Atal Digartrefedd (anstatudol) a £6,209 ar gyfer gorfodi Rhentu Doeth Cymru.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith bod trafodaethau gyda darparwyr a rhanddeiliaid eraill a data a ddadansoddwyd wedi dangos dros y 18 mis i ddwy flynedd diwethaf bod newid wedi bod yn nifer yr atgyfeiriadau i'r Rhaglen Cymorth Tai ac yn nifer yr achosion cymhleth y mae angen cymorth ac ymyriadau wedi'u targedu arnynt. Cafwyd dros 1,000 o atgyfeiriadau yn 2019/20 a disgwylir gweld nifer cyfatebol os nad uwch o atgyfeiriadau yn 2020/21. Mae achosion sy'n ymwneud â cham-drin domestig, materion iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, unigolion sydd â hanes o droseddu a phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn destun pryder yn enwedig wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi pan ddisgwylir i lefelau digartrefedd, anghenion iechyd meddwl a cham-drin domestig gynyddu a dod yn fwy amlwg. O ganlyniad, rhagwelir cynnydd yn y galw am Wasanaethau Cymorth Tai. Ar hyn o bryd, mae unedau cymorth a gomisiynwyd gan y Gwasanaeth yr wythnos tua 700 gydag un uned yn cyfateb i un unigolyn neu deulu; mae'r niferoedd sy'n aros am gyswllt neu sy’n cale eu gosod ar restrau aros yn amrywio rhwng 45 a 90 o unedau a'r gobaith yw y gall yr arian ychwanegol gyfrannu rhywfaint at leddfu'r galw.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Portffolio ar y defnydd arfaethedig o'r arian ychwanegol fel y nodir yn fanwl yn adran 4 yr adroddiad a chyfeiriodd at yr her o sicrhau bod y budd mwyaf posibl yn cael ei wireddu'n gyflym, yn enwedig gan y bydd angen recriwtio staff tra bo'r galw'n parhau i fod ar lefel uchel na welwyd ei debyg o'r blaen. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, roedd 99.3% wedi'i ymrwymo i'w wario gyda balans o £19,775.21 yn weddill ac ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer unrhyw un o dair elfen y Grant Cymorth Tai. Yn yr un modd, gellir defnyddio’n hyblyg unrhyw lithriad a geir oherwydd problemau gyda recriwtio neu unrhyw ffactor arall a nodwyd.

 

Cydnabu Prif Swyddog Datblygu'r Gwasanaethau Tai fod llunio cynlluniau ar gyfer y dyraniad ychwanegol o fewn amserlen mor dynn wedi bod yn her; mae'r cyllid ychwanegol i'w groesawu a'r gobaith yw y bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r lefel uchel o alw er bod pryderon am rai o'r grwpiau y mae'r cyllid yn eu cefnogi hyd yn oed pan fydd y pandemig wedi dod i ben.

 

Wrth groesawu'r cymorth cynyddol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22, nododd y Pwyllgor Gwaith bod lefel y cyllid Grant Cymorth Tai yn y dyfodol, yn benodol p’un ai a fydd yn cael ei gynnal ar y lefel uwch hon, yn dal heb ei chadarnhau. O’r herwydd, roedd y Pwyllgor Gwaith o'r farn y dylid annog Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd tymor hir ynghylch ariannu'r Grant Cymorth Tai yn y dyfodol, yn enwedig yng ngoleuni'r pwysau ychwanegol y mae Covid 19 yn debygol o'u creu er mwyn i'r Awdurdod allu gwneud darpariaeth briodol i ateb y galw ond hefyd i'w helpu i gynllunio ei gyllideb yn unol â hynny.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo argymhellion Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021-22, a thrwy hynny, sicrhau y byddir yn cydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r Grant;

           Rhoi sêl bendith parthed y cyllid a ddyrennir i bob maes Gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl ac a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Grŵp Cynllunio Cymorth Tai aml-asiantaethol

           Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru, ar ran yr Aelod Portffolio Cyllid a’r Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, i gydnabod y cynnydd yn y dyraniad grant a hefyd i bwysleisio pwysigrwydd derbyn sicrwydd hirdymor ynghylch parhad y grant ar y lefel yma fel y gellir gwneud darpariaeth briodol ar gyfer y bobl hynny y mae’r cyllid yn eu cynorthwyo ac er mwyn hwyluso gwaith cynllunio cyllidebol ac ariannol.

Dogfennau ategol: