Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Gwelliannau Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a'r

Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion ar y cynnydd a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cadeirydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod Panel Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd yn ystod y chwe mis diwethaf ac yn parhau i dderbyn tystiolaeth o ddatblygiadau ar draws Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd. Mae'r adroddiad yn darparu crynodeb o'r prosiectau/mentrau sydd wedi'u datblygu yn ystod y cyfnod. Mae hefyd yn galonogol nodi bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio o fewn y gyllideb ar hyn o bryd a bod Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd ar y trywydd iawn i gau'r flwyddyn ariannol ar sail hyn.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, er gwaethaf heriau dyddiol Covid-19 a'r galwadau digynsail ar staff, fod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi llwyddo i barhau i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn ogystal â datblygu prosiectau datblygiadol ac arloesol ar draws y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd. Lansiwyd Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc yn ystod y cyfnod i dynnu sylw at statws person ifanc fel gofalwr ac mae fformat digidol hefyd wedi'i ddatblygu gan fod gofalwyr ifanc yn ffafrio cardiau adnabod digidol. Mae cynllun Cartrefi Clyd yn parhau i ehangu gyda'r trydydd Cartref Grŵp Bychan bellach yn mynd rhagddo a chynnig wedi'i wneud ar bedwerydd eiddo i Ogledd yr Ynys. Mae'r Gwasanaeth wedi sicrhau cyllid ICF i brynu byngalo ar wahân er mwyn cynnig gwell darpariaeth gofal dydd i blant ag anghenion cymhleth ac mae eiddo wedi'i nodi ac mae wrthi'n cael ei brynu. Mae'r Gwasanaeth hefyd wedi cydnabod yr angen i symud yn gyflym i ddull Dim Drws Anghywir wrth ymateb i les emosiynol ac anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc a fydd yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant yn gofyn amdano ac na fyddant yn cael gwybod eu bod yn curo ar y drws anghywir ac y dylent fynd i rywle arall.

 

Diweddarodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Oedolion y Pwyllgor Gwaith ar gynnydd yn y Gwasanaethau i Oedolion a chydnabu fod y cyfnod wedi bod yn heriol yn enwedig i ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, ac i ofalwyr a phartneriaid y Gwasanaeth ar draws y sector. Yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg fodd bynnag yw bod pawb wedi dod at ei gilydd i ddod o hyd i atebion creadigol i sicrhau bod cymorth wedi parhau i gael ei ddarparu i'r rhai sydd ei angen ac o ganlyniad, mae gwell cydweithredu. O ran ffrydiau gwaith penodol, comisiynwyd archwiliad annibynnol o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y bwriad yw darparu trosolwg o faes gwasanaeth sy’n gymhleth, a llunio argymhellion clir y cytunir arnynt ar feysydd penodol y mae angen canolbwyntio arnynt er mwyn gwella'r canlyniad i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae tri Thîm Adnoddau Cymunedol bellach ar waith ac yn cyfarfod yn rhithwir. Mewn rhannau eraill o’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, mae'r pandemig wedi achosi i rai agweddau gael eu gohiriomae agweddau ar y gwaith ar y Strategaeth Cyfleoedd Dydd ar gyfer Oedolion ag Anabledd Dysgu wedi'u gohirio ar hyn o bryd ac mae’r gwaith o ddatblygu'r Rhaglen Rhannu Bywydau wedi cael ei effeithio’n sylweddolpenderfynwyd y bydd y prosiect hwn yn parhau ond y bydd yn cael ei ehangu i gefnogi pobl hŷn. Gohiriwyd y gwaith o ehangu'r Hybiau Cymunedol yn yr un modd, er hynny, mae’r gwaith wedi parhau drwy gyfrwng rhithwir, er enghraifft, ar ddatblygu hybiau digidol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones adborth o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 8 Mawrth, 2021 lle trafodwyd yr adroddiad a darparwyd diweddariadau mewn ymateb i gwestiynau a godwyd. Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar y gwelliannau a wnaed a chyflymder y cynnydd ac argymhellodd fod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r adroddiad.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd.

Dogfennau ategol: